Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Platform One

Platfform Un oedd Gorsaf ofod Dosbarth Alffa, cynllunwyd fel bwrdd arsylwi ar gyfer nifer o ddigwyddiadau.

Gweithrediad a defnydd[]

Rheolwyd yr orsaf ofod gan gyfrifriadur, Control, a reolwyd gan y "Corporation". Symudwyd i niferoedd o ddigwyddiadau artistig gwahanol.

Roedd gan Platfform Un digon o le i gartrefi sawl gwennol ofod. Defnyddiodd hidlwyr haul er mwyn gwarchod rhag gwres yr haul a maes grym i'w warchod rhag grymoedd allanol. Cludiwyd dŵr poeth gan siafftiau, a roedd modd iddynt cael eu rhwystro a - yn dibynnu ar faint y rhwystrad - gall suite cael ei adael heb ddŵr poeth.

Roedd ganddo suitiau gwahanol, megis y "Manchester Suite", suitiau gwesteion, dwythellau cynnal a chadw, parth lletygarwch mwyaf, a Swyddfa'r stiward. Roedd suitiau'r gwesteion yn ystafellowdd preifat, wedi'u gwarchod gan waliau côd.

Sylwodd y Nawfed Doctor ar aerdymheru'r orsaf, yn nodi ei fod yn "eithaf neis a hen-ffasiwn", gan fynnu eu bod yn galw'r system yn "retro". (TV: The End of the World)

Cyfraith[]

Roedd defnydd telegludiadau wedi'i wahardd ar yr orsaf o dan Cytundeb Heddwch 5.4/cwpan/16. Roedd arfau a chrefydd hefyd wedi'u gwahardd. (TV: The End of the World)

Staff[]

Staffiwyd y Platfform gan y Stiward a nifer mawr o staff cynnal. Cynhwysodd hyn plymeriaid i ofalu am bibelli aer yr orsaf, gan gynnwys Raffalo. (TV: The End of the World)

Hanes[]

Yn y flwyddyn 5,000,000,000, pan nad oedd rhagor o gyllid i'r lloerennau ddisgyrchiant a oedd yn atal ehangiad yr haul, cynhalwyd ddigwddiad, noddwyd gan y Gwyneb Boe, i caniatáu i'r pobl cyfoethocaf arsylwi dinistiriad y Ddaear.

Yn ystod y digwyddiad, rhodd y Foneddiges Cassandra Corrynod metel i bawb trwy Ymlynwyr y Meme Ailadroddus er mwyn ymdreiddio Platfform Un a gwneud elw iawndal trwy greu argyfwng gwystlon ffug. Rhwystrodd y Nawfed Doctor a Jabe cynllun Cassandra, ac felly trodd Cassandra i'w chynllun eilaidd: telegludo i ffwrdd a di-gychwyn y gorchuddion amddiffynol ar Platfform Un trwy ei chorynnod, gan elwa wrth gyfranddaliadau gelynion y gwesteion diobaith. Llwyddodd y Doctor a Jabe i ail-ddechrau'r maes grym er bu marw Jabe. Pan wrthdrodd y Doctor telegludiad Cassandra, bu marw Cassandra hefyd pan rwygodd ei himpiad croen achos nid oedd llawfeddygion hi yna i gadw'i chroen wedi'i lleithio. (TV: The End of the World) Er hyn, bu fyw ei hymennydd. (TV: New Earth)

Roedd gwesteion y platfform yn rhy brysur yn achub eu hunain i nodi nag arsylwi marwolaeth y Ddaear. (TV: The End of the World)