Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Prisoner of the Judoon oedd stori gyntaf Cyfres 3 The Sarah Jane Adventures. Cafodd y stori ei hysgrifennu gan Phil Ford, a'i chyfarwyddo gan Joss Agnew.

Dyma ymddangosodiad cyntaf y Jydŵn mewn sioe deilleidg, a chyflwyniad Androvax.

Crynodeb[]

Rhaid Sarah Jane a'r criw ymuno â Chapten Tybo o'r rywogaeth rinoseros, y Jydŵn, sy'n chwilio am ffoadur peryglus, Androvax. Cael a chael ydy o fel y llynges Jydŵn yn nesáu'r Ddaear.

Plot[]

Rhan 1[]

I'w hychwanegu.

Rhan 2[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Luke Smith - Tommy Knight
  • Clyde Langer - Daniel Anthony
  • Rani Chandra - Anjli Mohindra
  • Llais Mr Smith - Alexander Armstrong
  • Gita Chandra - Mina Anwar
  • Haresh Chandra - Ace Bhatti
  • Capten Tybo - Paul Kasey
  • Androvax - Mark Goldthorp
  • Madison Yorke - Terence Maynard
  • Gwarchodwr - Robert Curtis
  • Julie - Scarlett Murphy
  • Llais y Jydŵn - Nicholas Briggs

Cyfeiriadau[]

Cyfundrefnau a sefydliadau[]

  • Mae Sarah Jane yn adnabod y Jydŵn a'r Cyhoeddiad Cysgod.
  • Cyfundref ymchwil gwyddonol yw Genetec Systems.

Cyfeiriadau diwylliannol o'r byd go iawn[]

  • Mae Clyde yn sôn am ALbert Einstein, Star Wars, a'r Triffids.
  • Yn ôl Sarah Jane, nid yw dulliau'r Jydŵn yn "Softly, Softly".
  • Mae Gita yn dweud wrth Haresh ei fod yn "fwy debyg i Jamie Oliver na James Bond".
  • Wrth i Tybo dwyn SUV heddlu ond cadw at y terfyn cyflymder, mae Rani yn gofyn iddo, "Oes ailadroddiadau Starsky & Hutch yn Judoonland?".

Rhywogaethau[]

  • Mae dogfen am y Slitheen yn ymddangos wrth i Mr Smith peidio'r cowntdown hunan-dinistriad.
  • Mae Androvax yn ail-raglenni'r Nanofformau.
  • Planed gartrefol y Veil yw Veil World.

Gwrthrychion[]

  • Bar ymasiad ïonig yw craidd pŵer y long estronaidd llwyd. Mae tu mewn i'r injan ymasiad pwls ïonig.
  • Codau bywyd Jydŵn yw codau gofod bach.

Arall[]

  • Garddio Guerrilla yw math o arddio, er nad yw'n uninongyrchiol gyfreithlon.

Nodiadau[]

  • Gan ddechrau gyda'r stori hon, mae storïau'r Sarah Jane Adventures yn dechrau gyda monolog fer gyda Clyde yn torri'r perwerydd wal er mwyn esbonio'r cymeriadau a chysyniad y gyfres i wylwyr. Cafodd y monolog hon ei ddefnyddio hefyd am trelar sinemâu y gyfres.
  • Gyda pherfformiad llais y Jydŵn yn y stori hon, derbyniodd Nicholas Briggs credyd ar gyfer y dair gyfres wrth fasnachfraint Doctor Who yng nghyfnod Russell T Davies gan BBC Cymru. Dyma unig ymddangosiad Briggs yn The Sarah Jane Adventures.
  • Mae Mr Smith yn crybwyllio crash llong ofod yn Roswell, New Mecsico yn 1947 a'r sefydliad Dreamland yn Arizona. Dyma'r tro gyntaf i blot episôd y dyfodol cael ei gyn-gyfeirio ato, gan mae Roswell a Dreamland yn rhan o'r animeiddiad Dreamland nad oedd wedi'i ddarlledu eto.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Rhan 1 - 0.73 miliwn[1]
  • Rhan 2 - 0.82 miliwn[1]

Cysylltiadau[]

  • Mae Rani yn pryderu am UNIT, gan nad ydynt ar y termau goreuaf gyda Sarah Jane ar ôl iddi torri i mewn i'r Archif Du. (TV: Enemy of the Bane)
  • Mae Rani yn cofio Gita yn cael ei herwgipio gan Mrs Wormwood. (TV: Enemy of the Bane)
  • Mae Mr Smith yn atgoffa'r Sarah Jane wedi'i meddianu gan Veil ei fod yn Xylok, awgrym bod ganddo ryw wybodaeth o'i hunaniaeth yn dilyn ei ddileuad cof, ond nid oes elfen ymosodol ar ôl. (TV: The Lost Boy)
  • Pan mae cowntdown Mr Smith yn cyrraedd 22 eiliad, mae'n dechrau dangos ddadansoddiadau diweddar, gan gynnwys yr Alaeth Metasaran, y blaned Sontar, awyrdwll probig Sontaran, (TV: The Last Sontaran) tocyn am 'Spellman's Magical Museum of the Circus', (TV: The Day of the Clown) ac aelod y teulu Slitheen. (TV: Revenge of the Slitheen)
  • Mae Mr Smith yn honni mai ei bwrpas yw i warchod y Ddaear. (TV: The Lost Boy)
  • Mae'r llong estronaidd llwyd gorfododd Androvax y Nanofformau i greu wedi'i seilio ar long yn y sefydliad Dreamland. Crasiodd y llong gwreiddiol yn Roswell, Mecsico Newydd yn 1947. (TV: Dreamland)
  • Mae Androvax yn deall o gof Sarah Jane tyfwyd Luke o DNA wedi'i syntheseiddio i greu person perffaith yn rhan o ymosodiad estronaidd. O ganlyniad i ymyrraeth Sarah Jane, mae Luke nawr yn fabwys iddi hi. (TV: Invasion of the Bane)
  • Bydd gorfodaeth Clyde a Rani i aros ar y Ddaear wrth Tybo yn arwain at Sarah Jane i beidio adael iddynt mynd i blaned arall gyda'r Doctor, (TV: The Wedding of Sarah Jane Smith) ac hefyd byddai'r dau yn tybio mai am y rheswm hon cafon nhw eu gadael ar y ddaear yn TV: The Empty Planet.

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd y stori hon ynghyd â gweddill Cyfres 3 ar DVD ar 1 Tachwedd 2010.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd y stori ar y set bocs The Complete Collection Series 1-5 ar 6 Chwefror 2012.

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 DWMSE 28