Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Prologue oedd rhaghanes cyntaf nawfed gyfres Doctor Who, fe'i rhyddhawyd ar 11 Medi 2015 ar wefan Doctor a BBC iPlayer.

Cyflwynodd y rhaghanes y confession dial, rhywbeth oedd yn ymwneud â hanes cyfrinachol y Doctor, a fyddai'n chwarae rôl mewn digwyddiadau Cyfres 9. Cynhwysodd dychwelyd cyntaf Ohila a Chwaeroliaeth Karn ers The Night of the Doctor, a'u hymddangosiad cyntaf mewn gosodiad ôl-Rhyfel Amser.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast[]

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn honni bod gelyn yn "ffrind dwyt ti ddim yn nabod eto".

Nodiadau[]

  • Hwn yw'r rhaghanes neu episôd-mini cyntaf i gynnwys y Deuddegfed Doctor.
  • Cynhwyswyd y prologue yn y sgript ar gyfer The Magician's Apprentice rhyddhawyd gan BBC Writersroom, ac o ganlyniad, fe ddaeth yn amlwg taw'r bwriad gwreiddiol oedd i cynnwys yr olygfa hon fel rhan o'r episôd llawn cyn cael ei dorri yn ystod y broses golygu. Yn y sgript hon, mae'r olygfa yn digwydd yn syth ar ôl i Colony Sarff siarad â Ohila.
  • Y stori hon yw ymddangosiad cyntaf Ohila yn gyfoes â naratif presennol y sioe, yn lle wrth hanes y Doctor.
  • Mae llinell y Doctor i Ohila, "Look after the universe for me, I've put a lot of work into it" (Cy: "Cymer ofal o'r bydysawd, rydw i wedi rhoi llawer o waith i mewn iddo") yn unfath â llinell defnyddiwyd yn y parodi Doctor Who Comic Relief yn 1999, The Curse of Fatal Death, ysgrifennodd Steven Moffat hefyd. FEl cyd-ddigwyddiad, cafodd y linell ei ddweud gan Deuddegfed Doctor y bydysawd hwnnw wrth iddo marw.

Cyfraddau[]

  • Cafodd y fideo ei weld dros can mil o wiethiau ar YouTube o fewn wythnos o gael ei rhyddhau.

Lleoliadau ffilmio[]

Cysylltiadau[]

  • Cyfarfodd y Pedwerydd Doctor Chwaeroliaeth Karn, lle fe'u helpodd wrth i eu fflam yn cilio a roedd Morbius ar eu planed. (TV: The Brain of Morbius) Yn hwyrach methon nhw atal atgyfodiad Morbius, cyn achub yr Wythfed Doctor ar ôl iddo taflu ei hun a Morbius i mewn i graidd Karn. (SAIN: Sisters of the Flame / The Vengenace of Morbius) Wnaeth yr Wythfed Doctor cyfarfod ag Ohila cyn ei adfywiad, gyda hi yn rhoi iddo modd i adfywio i mewn i'w ymgorfforiad rhyfel. (TV: The Night of the Doctor)
  • Datgelwyd wedyn bod y Doctor yn ceisio osgoi Davros. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Datgelwyd yn hwyrach taw'r bwriad oedd i ddanfon y Ddeial Cyffes i Missy. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Dywedodd y Doctor byddai'n "cynhemlu ar graig" yn dilyn gadael Karn. (TV: The Doctor's Meditation) Unwaith, myfyriodd ar y TARDIS. (TV: Listen)
  • Mae Ohila yn ymwybodol o dueddiad y Doctor am ddweud celwydd. (TV: The Big Bang, Let's Kill Hitler, The Wedding of River Song)