Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Yn ifanc o ran agwedd, ymddygiad, ac ymddangosiad, mynegodd y Pumed Doctor diddordeb mewn ym mhopeth Fictoriaidd ac Edwardiaidd: cricked, , chwarae teg, moesau tosturiol, a chwilfrydedd am wyddoniaeth ac antur.

Roedd y Doctor yma hefyd yn gydymdeimladol iawn, yn ymgorfforiad hynod o ddynol o'r Doctor, nad oedd yr ymgorfforiad yma yn hoff o boeni pobl, ac roedd well ganddo ddweud y gwir a bod yn urddasol. Ond, roedd modd i'r Doctor gwneud pethau roedd ef yn eu hystyried yn anfoesol, gan ddadlau'n aml gyda'u hun am ba rai o'i ddewisiadau oedd y rhai cywir i wneud mewn argyfwng. Roedd ei betruster yn achos i gredu roedd ef yn llai dibynadwy na sawl ymgorfforiad arall, ac felly bu sawl un yn amau ei abl i ddatrys sefyllfaoedd peryglus. Serch hynny, roedd y Doctor yma'n un o ymgorfforiadau mwyaf anghrynedig y Doctor, gan ffeindio ei hun ar sawl adeg yng nghanol y frwydr.

Yn debyg i'w ddau ymgorfforiad gyntaf, bu'r Doctor yma'n dueddol o deithio gyda sawl cydymaith. Ond, nad oedd ei TARDIS mor cydweithiol â rhai ei ragflaenydd. Yn lle, byddai'r Doctor yn gyson yn sownd rhwng pesimyddiaeth Tegan Jovanka a chamsyberwyd Adric, neu groesineb Turlough. Yn aml gydag ef yng nghanol yr anghytuno oedd Nyssa, gyda hi yn aml yn sefyll fel llais rhesymol. Hyd yn oed ar ôl iddo disgwyl fel penderfynodd y Doctor teithio gydag ond un cydymaith, gwahaoddodd y Doctor a Peri Brown gydymaith arall, pharo o'r Aifft o'r enw Erimiem, ac felly unwaith eto daeth y Pumed Doctor yn dywysydd yn aml wedi'i flino.

Yn ystod ei anturau olaf, ar ddamwain achosodd y Doctor i fe a Peri amsugno spectrox crai, sylwedd a gynhwysodd y gwenwyn spectrox toxaemia. Serch llwyddodd y Doctor cael gafael mewn gwrthwenwyn, roedd ond ganddo digon am un person; a fe'i rhodd i Peri. Heb wybod os fyddai'r gwenwyn yn gallu lladd Arglwydd Amser, gobeithiodd y Doctor bydd adfywiaeth yn achub ei fywyd; a llwyddodd y Doctor adfywio i gorff arall yn dilyn gweld rhith o'r Meistr a'i hen gymdeithion.

Bywgraffiad[]

Dyddiau'r dyfodol[]

Ar adegau, fyddai'r Doctor Cyntaf yn cael rhagargoelion am ei ymgorfforiadau dyfodol, (PRÔS: A Big Hand for the Doctor) a roedd straeon roedd modd iddo cael cipolwg ar ei saith ymgorfforiad cyntaf mewn gêm o Ddaw'r Wythfed Dyn. (PRÔS: Christmas on a Rational Planet, Lungbarrow) Unwaith, fe fynegodd byddai un ymgorfforiad yn hoff o griced. (COMIG: A Religious Experience)

Wrth ddysgu gafodd ei ddargyfeirio rhag Begwn y De gan "rymoedd y dyfodol" i'w hatal rhag ddod yr ymgorfforiad a fydd yn chwarae rôl hanfodol mewn rhyfel yn y dyfodol, dysgodd y Doctor wrth Y Chwaraewr bydd ganddo "sawl gwyneb arall" cyn adfywio i mewn i'r adfywiad honno. (SAIN: The Plague of Dreams)

Yn fuan cyn adfywiol, clywodd y Doctor Cyntaf am rai cam-ddechreuadau cyn dod i fod y Deuddegfed Doctor. (TV: Twice Upon a Time)

Pan newidodd hanes Atcia, darganfododd yr Ail Doctor byddai un o'i olynwyr wedi dedfrydu'r Atciäwyr wrth greu feddyginiaeth am syndrom renepscia trwy achosi gyflymiad metabolaeth yr Atciäwyr. (PRÔS: One Step Forward, Two Steps Back)

Pan ddechreuodd y Meistr dyfeis a wnaeth ddarlledu tonnau amser, gwelodd y Trydydd Doctor dyn iau gyda gwallt golau yn gwisgo gwisg criced, ymysg rhai o'i ymgorfforiadau eraill. (PRÔS: Freedom)

Wrth chwilio ar wisgoedd newydd yn dilyn ei drydydd ymgorfforiad, pryderodd y Pedwerydd Doctor roedd ef wedi afywio eto wrth gamgymryd sylwad Alistair Gordon Lethbridge-Stewart am ei "newidiad". (TV: Robot)

Wrth gael ei adalw i Gallifrey, a dweud wrth Sarah Jane Smith bydd rhaid iddo gadael hi ar ôl wrth fynd i'w hateb, gofynodd Sarah Jane i'r Doctor os fyddai ef yn adfywio eto, gyda'r Doctor yn mynegu amau ei hun. (TV: The Hand of Fear)

Tra'n atgyfarfod gyda Mike Yates yn yr 21ain ganrif cynnar, dysgodd y Pedwerydd Doctor roedd ef wedi "newid, a newid eto", pan sylwadodd Yates roedd y Doctor "nôl fel roedd ef yn y saithdegau", er glywodd am y Doctor yn adfywio. (SAIN: The Stuff of Nightmares)

Yn dilyn crasio'r TARDIS wrth fynd i Shada, credodd y Doctor am fach roedd ef wedi adfywio. (PRÔS: Doctor Who and the Krikkitmen)

Ar ôl gweld y Gwyliwr mewn breuddwyd, meddyliodd y Pedwerydd Doctor am ei ymgorfforiad nesaf. (PRÔS: Into the Silent Land)

ôl-adfywio[]

Yn dilyn cael ei anafu'n difrifol wrth gwmpo wrth Delesgop Radio Prosiect Pharos, unodd y Pedwerydd Doctor gyda'r Gwyliwr a fe adfywiodd i mewn i'w bumed ymgorfforiad. (TV: Logopolis) Ond, profodd yr adfywiad yn lletchwith, bron yn methu. Tywyswyd ef gan ei gymdeithion i'r Ystafell Sero i ymsefydlu. Wrth adfer (TV: Castrovalva) a gweld rhithiau, (PRÔS: The Comet's Tail) derbynodd y Doctor neges wrth Adric - ar ôl i'r Meistr Tremas ei herwgipio - yn dweud roedd y TARDIS yn hedfan at Ddigwyddiad Un. Gadawodd y Doctor cyfarwyddiadau am Nyssa a Tegan ar sut i ddianc trwy ddileu ystafelloedd wrth y TARDIS.

Cafodd llawer o'r Ystafell Sero o ganlyniad, ac felly gan angen lle tawel i barhau sefydlu aeth ef i Castrovalva. Wedi adfer, dysgodd y Doctor roedd y dinas yn artifisial, wedi'i greu trwy Cyfrifiadau troslun bloc. Creodd y Meistr, wedi'i guddio fel y Porthfaer, y ddinas gan ddefnyddio ymenydd Adric. Achubodd y Doctor Adric, a dihangodd criw'r TARDIS wrth Castrovalva tra ymgollyngodd y ddinas ar ei hun, gan adael y Meistr i cael ei ddileu gyda'r dinas. (TV: Castrovalva)

Teithiau cynnar[]

I'w hychwanegu.

Ceisiau i ddychwelyd i Heathrow[]

I'w hychwanegu.

Teithiau olaf Adric[]

I'w hychwanegu.

Teithiau unigol gyda Nyssa[]

I'w hychwanegu.

Proffeil seicolegol[]

I'w hychwanegu.

Personoliaeth[]

I'w hychwanegu.

Arferion[]

I'w hychwanegu.

Sgiliau[]

I'w hychwanegu.

Ymddangosiad[]

I'w hychwanegu.

Gwallt ac hunan-ofal[]

I'w hychwanegu.

Gwisg[]

Prif wisg[]

I'w hychwanegu.

Gwisgoedd eraill[]

I'w hychwanegu.

Yn y cefn[]

I'w hychwanegu.

Castio[]

I'w hychwanegu.

Oedran[]

I'w hychwanegu.

Gwallt gwyllt[]

I'w hychwanegu.

Sbecs glyfar[]

I'w hychwanegu.

Seleri[]

I'w hychwanegu.

Advertisement