Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Y Racsacoricoffalapatoriaid oedd rhywogaeth o'r blaned Racsacoricoffalapatoriws.

Bioleg[]

Nodweddion allanol[]

Roedd y Racsacoricoffalapatoriaid yn ddynolffurfiau enfawr, corfforog. Roedd ganddynt llygaid mawr a breichiau pwerus gyda chrafangau hir. Roedd croen y rhywogaeth yn lympiog a thrwchus, yn amrywio mewn lliw o felyn-werdd, (TV: Alien of London / World War Three, Boom Town) llwyd-werdd mwy gwelw, (PRÔS: The Monsters Inside) lliw gwyrdd tywyllach, (TV: The Nightmare Man) brown-oren, (TV: The Gift) glas, (COMIG: Doctormania) neu farŵn. (SAIN: The Taste of Death) Plygwyd y croen yn dyn yn ystod y broses cywasgu. Nid oedd croen y Slitheen mor wahanol i groen yr Absorbaloff o'r enw Victor Kennedy. (PRÔS: Creatures and Demons)

Daw Racsacoricoffalapatoriaid wrth wyau mawr gwyrdd gyda sawl amdorch. (TV: Boom Town) Erbyn deuddeg mlwydd oed, ystyriwyd Racsacoricoffalapatoriaid i ddal fod yn blant ac roeddent yn fyrrach na fod dynol o'r oedran cyferbyniol. (TV: Revenge of the Slitheen) Wrth i Racsacoricoffalapatoriaid heneiddio, collon nhw eu lleithiant wrth eu cnodwe, gan asgwrneiddio i mewn i garreg mewn modd. (PRÔS: The Slitheen Excursion)

Er eu crynswm enfawr, gallent rhedeg at gyflymderau syndodol ac roedd modd iddynt gorchfygu bod dynol. (TV: Aliens of London / World War Three) Gwelwyd un aelod benywaidd o'r rhywogaeth i ddibennu Angel Wylo carreg gyda chweip sengl. (COMIG: A Confusion of Angels)

Yn ôl rhai, roedd Racsacoricoffalapatoriaid yn anhydraiddadwy i fwledi, gyda un yn amryfu byddent yn neidio oddi ar ei chroen. (SAIN: Death on the Mile)

Roedd modd i Racsacoricoffalapatoriaid hela trwy arogli a gallent adnabod rhywogaeth, oedran, rhyw, cyflwr emosiynnol a lleoliad wrth arogl yn unig. (TV: Aliens of London / World War Three) Yn swyddogol, roedd y synnwyr yma yn synnwyr arogl gorau'r alaeth. (TV: Revenge of the Slitheen) Roedd hefyd modd iddynt synhwyro poen aelodau maent wedi perthyn yn agos i pan roeddent yn pell i ffwrth ohonynt. (TV: Aliens of London / World War Three)

Anatomi mewnol[]

Roedd y Racsacoricoffalapatoriaid yn bodau sylfaen-calsiwm, yn penodol wedi'u creu wrth calsiwm ffosffad, (TV: World War Three) er i un adroddiad eu disgrifio fel sylfaen-silicon. (PRÔS: The Slitheen Excursion) Serch hynny, pan yn cuddio fel bodau dynol, roedd modd iddynt bwyto bwyd sail-carbon, gyda rhai yn eu mwynhau. (TV: The Gift) O ganlyniad i'w biocemeg, roedd Racsacoricoffalapatoriaid yn hawddi i'w glwyfo gan asid asetig, gan ymateb yn ffrwydrol iddynt, (TV: World War Three) nodweddiad a gafodd ei manteisio ar yng nghosb eithafol y Racsacoricoffalapatoriaid. (TV: Boom Town)

Roedd metaboleg Racsacoricoffalapatoriaid mwy effeithiol na fod dynol, ac o ganlyniad roedd ond angenrheidrwydd arnynt i fwyta unwaith pob ychydig wythnosau a chynhyrchon nhw llai o wastraff hefyd. Roedd gwaed Racsacoricofallapatoriaid yn goch ac roedd eu dagrau yn llaethaidd mewn lliw a bach yn asidig. (PRÔS: The Monsters Inside) Roedd modd i aelodau benywaidd y rhywogaeth creu gwenwyn os gafon nhw eu bygwth, gan ryddhau'r gwenwyn naill ai trwy ddart o'r bysedd neu eu hanadl. (TV: Boom Town) Roedd modd i'r anadl hon syfrdanu bod dynol. (COMIG: Doctormania)

Roedd gan Racsacoricoffalapatoriaid amryw o systemau treulio yn ôl y teulu: nododd Slitheen bod gan y Hazrateen blas safonol ag hawliodd nhw i fwynhau bwydydd cyfoethog, tra roedd cynnyrch gradd is digonol ar gyfer y Blathereen. (SAIN: The Taste of Death)

Bu fyw'r Racsacoricoffalapatoriaid yn bryniau calch a choedwigoedd coed tal Racsacoricoffalapatoriws. Rhewnon nhw ac asgwrneiddion nhw ar blanedau iâ. (GÊM: Plant and Animal Habitats) Roedd o leiaf dwy gefnfor ar y blaned, gyda'r Racsacoricoffalapatoriaid yn nofio ynddynt. (WC: Alien File: Blathereen)

Technoleg[]

Roedd y Slitheen ac aelodau eraill yr un hil yn ysglyfaethwyr, wedi'u hadnabod am ddwyn technoleg safon uwch wrth rywogaethau eraill. (TV: Boom Town, Revenge of the Slitheen) Roedd eu technoleg o safon uwch na thechnoleg dynol, wedi datblygu taith cyflymach-nag-olau yn ffurf injan slipstream rhywbryd cyn 2006. Roedd modd iddynt trawsnewid fochyn i fewn i fod dynolffurf gan ddefnyddio technoleg eu hun. (TV: Aliens of London / World War Three) Roedd hefyd ganddyn nhw dyfeisiau telegludiad llaw, ond roedd gan y dyfeisiau yma tieddiad i gael cyfyngiadau ar bellter a galluoedd. (TV: Boom Town, The Gift)

Roedd rhai o dechnoleg y Racsacoricoffalapatoriaid i'w weld o natur organig, gyda Ecktosa a Dram yn defnyddio rhwydiau gludiog fel crogwelyau. Gorchuddiwyd y rhwydiau gan linos a galedodd yn gyflym i ffwrdd o wres corff. Gorchuddiwyd adeiladau Racsacoricoffalapatoriaid hefyd gan sylwedd gludiog. (PRÔS: The Monsters Inside) Yn y 347ain ganrif, roedd gan y Racsacoricoffalapatoriaid ddyfeisiau ailbwrpasu gronynnol. (PRÔS: The Slitheen Excursion)

Technoleg mwyaf adnabyddus y Racsacoricoffalapatoriaid oedd eu meysydd. Roedd modd i'r teuluoedd Slitheen (TV: Aliens of London / World War Three) a Blathereen (PRÔS: The Monsters Inside) cuddio o fewn dynolffurfiau llai eraill trwy ffitio i mewn i'w croenau. Gweithiodd y maes cywasgu wrth y colar gwisgon nhw ar eu gyddfau. Wrth arnoethi, rhyddhawyd yr ynni cronedig trwy'r sip yn ffurf golau glas yn fflachio. Rheolwyd eu maint trwy symudiad nwy, gan achosi cyflwr yn debyg i rechu, ond gydag arogl yn debyg i anadl drewllyd o ganlyniad i ddadfeiliad calsiwm. (TV: Aliens of London / World War Three) Yn gwreiddiol roedd angenrheidrwydd i gael unigolyn mawr ar gyfer troi i mewn i siwt croen, ond roedd cynyddiadau safonau technoleg yn golygu roedd modd defnyddio unigolion llai o faint. (TV: The Lost Boy; PRÔS: The Monsters Inside) Yn ôl pob sôn, roedd y siwtiau croen yn fwy gwael na rai rhywogaethau eraill. (PRÔS: The Nightmare of Black Island)

Meistrolodd y Racsacoricoffalapatoriaid gysyniad theori llinyn. (TV: Revenge of the Slitheen)

Diwylliant[]

Yn ôl Blon Fel-Fotch Passameer-Day Slitheen, "y teulu oedd popeth" o ran diwylliant Racsacoricoffalapatoriaidd. (SAIN: Sync) Adeiadwyd eu diwylliant ar sail sawl teulu mawr; gan gynwys y Slitheen, Blathereen, Slavereene, Teulu Caizeen, Lilieen, Rackateen, Chippeen, Fittereen, Hanazeen, Glizeen, Hostrozeen, ac Arlene. Roedd enwau Racsacoricoffalapatoriaidd yn hir a chymleth gan ddangos union lleoliad unigolyn yn y coeden teuluol trwy'r gwahanrwymiadau niferus. (WC: Monster File: Slitheen) Roedd hefyd sawl teulu cymysg, megis y teulu Slitheen-Blathereen (TV: The Gift) neu'r teulu Hanazeen-Blathereen. (PRÔS: A Comedy of Terrors)

Arweiniwyd y Racsacoricoffalapatoriaid gan Uwch Gyngor a Senedd. (TV: Revenge of the Slitheen) Arweinydd y Cyngor oedd yr Arglwydd Ysglyfaethwr. (PROS: The Slitheen Excursion)

Yn wahanol i'r teuluoedd Slitheen a Blathereen, roedd y rhan fwyaf o Racsacoricoffalapatoriaid yn hil heddychlon, gan ddysgu i'w plant cerddi a mathemateg. Trowd eu planed yn baradwys ar gyfer eu hun a rhywogaethau heddychlon eraill, ac roedd rhai ohonynt yn ffermwyr ardderchog. Serch hynny, roedd ganddyn nhw atgasedd cryf tuag at aelodau troseddiadol eu rhywogaeth, gan eu cosbi heb unrhyw dosturiaeth o gwbl.

Roedd gan y Racsacoricoffalapatoriaid y gosb eithaf, gan ei ddefnyddio mor hwyr â'r 2000oedd, ar gyfer troseddwyr peryglus fel y Slitheen. Cynhwysodd y gosb ellyllig yma'r troseddwyr yn cael eu gosod i mewn i grochan llawn asid asetig a fyddai'n twymo'n araf nes ferwi. Cafodd asidedd y sylwedd ei chyfrifo i fod union digon cryf i hydoddi'r croed tra gadael organnau mewnol yr unigolyn yn gyfan, gan eu hawlio i llifo i mewn i'r "cawl" tra roedd y troseddwr dal i fyw; roedd hon yn farwolaeth araf a phoenus. (TV: Boom Town) Erbyn rhyw adeg, gwaredwyd y gosb yma, gyda Slitheen troseddol yn cael eu carcharu yn lle. (SAIN: The Taste of Death)

Ar sail sylwadau Blon, ni frwsiodd Racsacoricoffalapatoriaid eu dannedd na pharatosant nhw ddim eu bwydydd mewn modd cymhleth. (TV: Boom Town)

Dau sarhad enwog y Racsacoricoffalapatoriaid oedd "Bydded i bla brownio eich bola" a "Bydded i'ch mam berwi yn y grochan iawndal". Mae'n debyg roedd y ddau'n ymglwm â sail calsiwm eu bioleg. (PRÔS: The Monsters Inside)

Hanes[]

Roedd y Racsacoricoffalapatoriaid yn rhan o'r Cynghrair Raxas pedair byd, ynghyd Absorbalofiaid Clom a phobloedd Racsacoricofarlonpatoriws a Chlics. (TV: The Gift)

Yn 102, roedd y Zygons yn rhan o'r Gynghrair yng Nghôr y Cewri. Daeth y Zygons i helpu carcharu'r Unarddegfed Doctor o fewn y Pandorica er mwyn "achub" y bydysawd. (TV: The Pandorica Opens)

Rhywbryd cyn y 21ain ganrif, llwyddodd y teulu Slitheen breibio eu ffordd i rheoli Racsacoricoffalapatoriws. Achosodd eu rheolaidd i economi'r blaned torri ac yn y pendraw gwrthryfelodd poblogaeth y blaned yn eu herbyn. (TV: The Gift) Wedi'u hamlygu, cywilyddu a'u harrestio, treialwyd y teulu cyfan lle cafon nhw eu datgelu i fod yn euog heb gais o appelio, gan dderbyn y gosb eithaf. Ffodd sawl aelod o'r teulu rhag y gyfraith, ond parhaodd y Blathereen a'r Jydŵn i hela'r aelodau oedd ar ôl. (TV: Revenge of the Slitheen)

Wedi'u gwarthnodi'n droseddwyr, ac yn ffoi wrth Racsacoricoffalapatoriws ar sail cosb eithafol ellyllig, (TV: Boom Town) parhaodd y Slitheen i gymryd rhan mewn bradgynllyniau ar ddraws y galaeth, gan gynnwys ar y Ddaear, lle cwrddon nhw'r Doctor (TV: Aliens of London, World War Three, ayyb) a Sarah Jane Smith. (TV: Revenge of the Slitheen, From Raxacoricofallapatorius with Love) Dinistriodd gweithgareddau'r Slitheen "enw tosturiol" y Racsacoricoffalapatoriaid. (TV: Revenge of the Slitheen)

Ar 19 Mai 2311, cyfeddiannodd y Racsacoricoffalapatoriaid y blaned Tivoli, gan waredu grym goresgynnol y Stenza oedd yn rheoli'r blaned ar y pryd. Cafon nhw eu harestio'n gasgliadol am y "trosedd" hon ar 14 Mehefin 2426 gan y Jydŵn, ac felly bennodd eu rheolaeth or blaned, a ddaeth o dan rheolaeth y Kraal yn lle. (PRÔS: Time Traveller's Diary)

Yn 2323, roedd dau Racsacoricoffalapatoriad ymhlith yr estronwyr niferus ag ymwelodd â'r Ddaear er mwyn gweld Cromen y Daleks - arddangosfa ar gyfer adegau pwysig yn hanes y Daleks. (COMIG: Liberation of the Daleks)

Roedd y Racsacoricoffalapatoriaid yn bresennol yn ystod Gwarchae Trenzalore; cyfrodd yr Unarddegfed Doctor y llongau'r "Slitheen" ymysg y rhai uwchben y blaned. Naill ai encilion nhw neu cawsant eu lladd yng nghanol y rhyfela a ddigwyddodd yn dilyn llwyddiant y Daleks i dorri trwy faes grym y Papal Mainframe. Cafodd grymoedd y Racsacoricoffalapatoriaid eu trechu rhywbryd cyn y frwydr olaf rhwng yr Unarddegfed Doctor a'r Daleks. (TV: The Time of the Doctor; PRÔS: A Brief History of Time Lords)

Yn y 67ain ganrif, darparodd cyfres briff-fideo o'r enw Perils of the Constant Division wybodaeth ar, ymhlith rhywogaethau eraill, Racsacoricoffalapatoriaid. (TV: The Tsuranga Conundrum)

Yn y 347ain ganrif, brwydrodd Racsacoricoffalapatoriaid (mae'n bosib y Slitheen yn unig) yn y Rhyfel Platonig, ynghyd rhywogaethau estronaidd eraill, yn erbyn bod dynol.

Yn y flwyddyn 34,600, yr Arglwydd Ysglafaethwr oedd Haralto Wong Bopz Wim-Waldon Arlene. Serch hynny, bu farw yn fuan wedyn hyn. (PRÔS: The Slitheen Excursion)

Llinell amser eiledol[]

Mewn llinell amser eiledol, llwyddodd y Cybermen, gan ddefynddio technoleg Borg, i oresgyn Racsacoricoffalapatorius gan drawsnewid y boblogaeth cyfan i mewn i Cybermen. (COMIG: Assimilation²)

Mewn llinell amser eiledol a gafodd ei greu gan fom gwastadrwydd lle cymerodd y Doctor i deitl y "Time Lord Victorious" gan ddod yn rheolydd gwallgof a reolodd dros y gofod ac amser, saethodd Racsacoricoffalapatoriad y Doctor yn farw gan eu hatal rhag adfywio. (COMIG: Four Doctors)

Cyfeiriau eraill[]

Nododd Rose Tyler roedd yr Abzorbaloff yn debyg i Slitheen, ond pan ofynodd y Degfed Doctor, datgelodd yr Abzorbaloff fe ddaw o Glom, planed efeilliol Racsacoricoffalapatoriws. Siaradodd yr Abzorbaloff yn farniadol am y Racsacoricoffalapatoriaid. (TV: Love & Monsters)

Yn dilyn cymryd hunaniaeth John Smith, darluniodd y Degfed Doctor llun o Slitheen yn A Journal of Impossible Things. (TV: Human Nature)

Gwelwyd Racsacoricoffalapatoriad ym Mar Zaggit Zagoo lle ymwelodd y Degfed Doctor â Jack Harkness am y tro olaf cyn ei adfywiad. (TV: The End of Time)

Yn 1903, wedi derbyn cyfoeth o wybodaeth o'r dyfodol, rhagwelodd Grigori Rasputin, ymhlith sawl peth, greuaduriaid wedi seilio ar calsiwm. (SAIN: The Wanderer)

Yn y cefn[]

  • Rhyddhaodd J. K. Woodward, rhywun a weithiodd ar y digwyddiad gyda Star Trek, Assimilation², ddarn yn darlunio Racsacoricoffalapatoriad wedi'i asimileiddio gan y Borg.
  • Yn COMIG: Four Doctors, mewn bydysawd eiledol gafodd y Degfed Doctor ei ladd gan estronwr ag edrychodd fel Racsacoricoffalapatoriad. Serch hynny, roedd gan yr unigolyn llaw gyda phump bys ac ewinedd yn lle'r tri bysedd gyda chrafangau.

Cynlluniau ymadawyd[]

  • Cyn creadigaeth yr Ŵd, cafodd y Slitheen eu hystyried i ddychwelyd gan y tîm cynhyrchu fel caethweision Gorsaf Gwarchod 6 yn The Impossible Planet / The Satan Pit, gyda'r Slitheen yn credu roedd dyw ag oedd yn barod i'w rhyddhau ar waelod y pwll. Yn y pendraw, pan ddysgodd Russell T Davies byddai modd creu 10 mwgwd unfath o estronwyr newydd am yr un pris ag ailwampio gwisgoedd y Slitheen. (TCH 53)
  • Yn nrafft gwreiddiol olygfa'r Cyhoedd Cysgod yn The Stolen Earth, roedd ymddangosiad wrth Racsacoricoffalapatoriaid ynghyd fersiwn iau o Blon. Yn rhyfeddol, roedd gan y Slitheen pedwar bys yn lle tri yn yr olygfa. (CYF: Doctor Who: The Writer's Tale)

The Visual Dictionary[]

Rhodd y ffynhonell di-naratif, Doctor Who: The Visual Dictionary wybodaeth pellach am fioleg a diwylliant Racsacoricoffalapatoriad. Nododd yr adroddiad bod y rhywogaeth wedi'u haddasu'n ardderchog ar gyfer eu planed-cartrefol, gyda llygaid enfawr er mwyn gweld trwy lluwchwyntoedd pegynnau'r blaned a breichiau pwerus i nofio yn y moroedd ac i ddod allan o'u wyau. Wrth hela, defnyddion nhw eu cryfder a'u crafangau gwenwynig i ladd eu hysgafaethau.