Revenge of the Cybermen (Cy: Ymddialiad y Cybermen) oedd pumed stori a stori olaf Hen Gyfres 12 Doctor Who. Yn gwreiddiol, nid bwriad y stori yma oedd i'w gael fel stori olaf y gyfres, yn lle Terror of the Zygons oedd fod clo'r gyfres, ond darlledodd y stori honno fel agoriad y gyfres olynol. Gwelodd y stori dychweliad y Cybermen fel y prif gelyn am y tro cyntaf ers The Invasion ar 1968, a'u hunig ymddangosiad nes Earthshock yn 1982.
Yn union fel The Ark in Space yn gynharach yn y gyfres, roedd proses sgriptio y stori yn llawn trafferthau. Doedd gan blot gwreiddiol Davis braidd tebygolrwyddau i'r episodau terfynol, gyda'r stori wedi'i gosod mewn casino gofod gwâg. Trwy ailddrafftio wrth Davis, symudodd y gosodiad i Oleufa Nerva. Yn ychwanegol, nid oedd gan y sgript unryw Vogans, gyda'r rôl gwreiddiol yn y sgript yn cael eu cyflawni gan rŵp o löwyr aur Cymraeg llwglyd. Ail-ysgrifennodd golygydd sgript Robert Holmes rhan fawr o'r episodau. Ychwanegodd Holmes y Vogans gan gael gwared o'r glöwyr yn gyfan gwbl, ac aelod benywaidd o griw Nerva Anitra. (INFO: Revenge of the Cybermen) Rhyddhawyd addasiad sain o stori gwreiddiol Revenge ym Mawrth 2021.
Ffilmiwyd rhan o'r stori yn Ogofâu Wookey Hole, lleoliad sydd yn enwog am aflwyddion. Wrth ymweld â'r ogofâu hynafol er mwyn gweld addasolrwydd y lle am ffilmio, daeth gwraig Michael E. Briant o hyd i saethbennau o'r Oes Haearn a dewisodd hi mynd â nhw gartref; heb wybod galwodd hi chynhraib hynafol ar y tîm cynhyrchu. Yn gyntaf cerddodd unigolyn mewn gwisg ogofa ar set, gyda neb yn gwybod pwy oedd ef; dechreuodd y cyfarwyddwr credu mae ysbryd ogofäwr Gwyddeleg bu farw tair mlynedd yng nghynt. Torrodd y cychod sawl gwaith, roedd rhaid i rheolydd llawr Rosemary Hester cael ei hamnewid o ganlyniad i ymosodiad clawstroffobia, a chlafychodd arfiedydd uned Jack Wells yn ddifrifol iawn. Aeth Elisabeth Sladen ac Ian Marter at Briant yn gofidio anghofion nhw ffilmio olygfa, ond nad oeddent wedyn yn gallu dod o hyd i'r olygfa yn eu sgriptiau. Ar ddydd pan na wranddodd aelod o'r criw i gyfarwyddiadau i beidio gyffwrdd â'r "Gwrach" (sef chwedl mai corff maenedig gwrach yw'r ffurfiad), bron bu farw Elisabeth Sladen - aeth ei chwch yn wallgof ac roedd rhaidd iddi hi deifio i mewn i'r pwll er mwyn osgoi chwilfriwio i mewn wal yr ogof, ac roedd rhaid i'r ddyn stỳnt Terry Walsh tynny hi o'r ddŵr er mwyn ei hachub rhag foddi, ac yn hwyrach fe aeth yn sâl. Torrodd trydanwr ei goes pan gwmpodd yr ysgol oddi tano, a nad oedd y pyrotechnegydd yn gallu cael unrywbeth i weithio nac oleuo'n gywir. Cymerodd y cyfarwyddwr y saethpennau wrth ei wraig a fe ail-gladdodd nhw; ac yn dilyn honno, rhedodd cynhyrchu'r stori yn llyfn. (DWM 297)
Mae'r stori hefyd yn nodedig am fod y stori gyntaf Doctor Who i gael ei rhyddhau ar fideo cartref, gan ddechrau llinellau VHS, Betamax a Laserdisc y fasnachfraint. Dyma'r unig stori ynghyd The Brain of Morbius i gael eu rhyddhau ar Video 2000.
O sabfwynt mewn bydysawd, esboniodd y stori absenoldeb y Cybermen wrth y sioe fel canlyniad o'r Cyber-Wars, sydd hefyd yn gyrru amgylchiadau a chyd-destun y stori. Byddai ychwanegiad hon i hanes y Cybermen yn cael effaith sylweddol ar weddill ymddangosiadau'r Cybermen ar y sioe; gyda'r stori Earthshock yn archwilio i darddiadau'r rhyfel, a'r stori Cyfres 7, Nightmare in Silver, yn arddangos grŵp o Cybermen ag oroesodd yn dilyn y rhyfelau. Yn ychwanegol, mae diweddglo dwy ran Cyfres 12, Ascention of the Cybermen a The Timeless Children, yn darlunio adwair y rhyfel gyda'r Cybermen wedi'u gwasgaru ac yn wan, ond eisiau ymddial.
Crynodeb[]
Yn cyrraedd gorffennaf pell Orsaf Gfod Nerfa, mae'r Doctor, Sarah, a Harry yn darganfod y criw wedi'u bygwth gan bla dirgelus. Gan nad yw popeth yn union fel y mae'n disgwyl yn gyntaf, maent yn dod o hyd i gynllun i gyflawni hil-laddiad, wedi'u dyfeisio gan hen gelynion y Doctor, y Cybermen.
Plot[]
Rhan one[]
I'w hychwanegu.
Rhan dau[]
I'w hychwanegu.
Rhan tri[]
I'w hychwanegu.
Rhan pedwar[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Tom Baker
- Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
- Harry Sullivan - Ian Marter
- Kellman - Jeremy Wilkin
- Cadlywydd Stephenson - Ronald Leigh-Hunt
- Lester - William Marlowe
- Warner - Alec Wallis
- Tyrum - Kevin Stoney
- Vorus - David Collings
- Magrik - Michael Wisher
- Sheprah - Brian Grellis
- Cyber-Leader - Christopher Robbie
- Cyberman Cyntaf - Melville Jones
Cast di-glod[]
|
|
Criw[]
- Awdur - Gerry Davis
- Rheolydd Uned Cynhyrchu - George Gallaccio
- Cynorthwyydd Cynhyrchu - John Bradburn
- Cerddoriaeth Teitl - Ron Grainer
- Cerddoriaeth Achlysurol - Carey Blyton
- Sain Arbennig - Dick Mills
- Dylunydd Effeithiau Gweledol - James Ward
- Gwisgoedd - Prue Handley
- Colur - Cecile Hay-Arthur
- Goleuo Stiwdio - Derek Slee
- Sain Stiwdio - Norman Bennett
- Dyn Camera Ffilm - Elmer Cossey
- Sain Ffilm - John Gatland
- Golygydd Ffilm - Sheila S Tomlinson
- Golygydd Sgript - Robert Holmes
- Dylunydd - Roger Murray-Leach
- Cynhyrchydd - Philip Hinchcliffe
- Cyfarwyddwr - Michael E Briant
Cyfeiriadau[]
Technoleg trawsgludo[]
- Mae ynni Ffobig wedi'u cysylltu gyda defnydd trawsmat diweddar.
- Heb ddreif pentaliwm, nad oes modd i drawsfat gweithio.
Arfau[]
- Yn ystod y Cyber-Wars, roedd y glittergun o ddefnydd anhygoel i ddynoliaeth.
- Gwaharddiwyd Cyberbombs yn yr Armageddon Convention; roedd modd i ddau ohonynt dinistrio Voga.
Cyfeiriau diwyllianol[]
- Mae'r Doctor yn dyfynu Macbeth.
- Mae'r Doctor yn honni dysgodd Harri Houdini iddo sut i glymu glwm "Turk's Head".
Nodiadau[]
- Trydydd rhan y stori yma yw 400fed episôd Doctor Who.
- Dyma stori cyntaf y Cybermen i beidio cynnwys ymddangosiad gan yr Ail Ddoctor.
- Allan o'r bedair stori ysgrifennodd Gerry Davis ar gyfer Doctor Who, dyma'r unig un fe ysgrifennodd ar ben ei hun, ar wahan i The Highlanders; mae Elwyn Jones yn derbyn cyd-gredyd am y stori, ond fe gyfranodd e ddim i'r stori.
- Teitlau gweithredol y stori oedd Return of the Cybermen a The Revenge of the Cybermen. Yn ychwanegol roedd gan pob un o'r pedair episôd, er atalodd yr ymarfer nôl yn 1966 gyda The Gunfighters. Y teitlau oedd "The Beacon in Space", "The Plague Carriers", "The Gold Miners" a "The Battle for the Nerva".
- Yn drafftiau cynharach Gerry Davis, mae'r Cybermen yn ymddangos llawer yn gynharach, sydd yn esbonio presenoldeb y Cybermats ar yr Oleufa. Yn y fersiwn terfynnol, nad ydynt yn ymddangos nes diwedd rhan dau, felly nid yw presenoldeb y Cybermats ar yr Oleufa byth yn cael eu hesbonio.
- Heb syniad sylweddol o sut byddai Pedwerydd Doctor Tom Baker yn ymddwyn, ysgfrifennodd Gerry Davis y cymeriad yn gwreiddiol yn ffigur tawel yn debyg i'r Ail Ddoctor, gan gynnwys defnydd elfennau megis ei ddyddiadur 500 mlynedd.
- Yn gwreiddiol roedd bwriad i ddefnyddio'r gwisgoedd Cybermen wrth The Invasion, ond dau yn unig wnaeth oroesi wrth y cynhyrchiad ac roeddent mewn cyflwr gwael iawn. Roedd rhaid adeiladu gwisgoedd newydd sbon, a wnaeth cynnwys paneli brest newydd wedi'u creu wrth setiau teledu, a thrwser nad oedd wedi'u twcio i mewn i'r esgidiau.
- Casaodd Philip Hinchliffe y cynhyrchiad, gan deimlo adlewyrchodd y stori tueddiadau yr hen fordd o greu storïau. Nid oedd yn hoff o'r Vogans, eu masgiau, na'r ffordd chwaraeodd yr actorion yr estronwyr trwy "floeddiadau Shakespeariaidd". Roedd ef enwedig yn aflawen gyda cherddoriaeth achlysurol Carey Blyton, ar ôl cael ei gomisiynnu gan gyfarwyddwr Michael E Briant (yn dilyn gweithio gyda Blyton yn gynharach ar Death to the Daleks). Wnaeth Hinchliffe sawl olygiad a newidiad i'r sgôr ar gyfer y fersiwn terfynnol, ynghyd cael gweithiwr y BBC Radiophonic Workshop, Peter Howell, i ddarparu rai ddarnau o gerddoriaeth newydd ar gyfer y stori yn ddi-glod. Yn dilyn hon, Dudley Simpson yn unig byddai'n cyfansoddi ar gyfer y sioe nes ddiwedd Hen Gyfres 17, yn eithrio dwy stori wedi'u cyfarwyddo gan Douglas Camfield, achos fe wrthodd gweithio gyda Simpson.
- Er yn ddi-glod, cafodd Peter Howell o'r BBC Radiophonic Workshop ei gyfraniad cyntaf i'r sioe ar ôl gael ei ofyn gan Philip Hinchliffe i ychwanegu at sgôr Carey Blyton; yn hwyrach, byddai Howell yn dod yn un o gyfansoddwyr rheolaidd y gyfres.
- Mae Elisabeth Sladen yn derbyn y credyd o "Sarah Jane" yn Radio Times ar gyfer rhan un i dri. Mae Ronald Leigh-Hunt (Cadlywydd Stevenson) yn cael ei gredydu fel "Commander" yn Radio Times ar gyfer rhan un.
- Ailddefnyddiodd y stori yma sawn set wrth The Ark in Space, yn dilyn cael ei ffilmio yn union cyn y stori yma.
- Cyflwynodd Revenge of the Cybermen ffurf newydd o Cybermat a'r teitl "Cyber-Leader". Dyma'r tro gyntaf i Cybermen cael ei weld gyda helmed du, a chafodd lleisiau'r Cybermen eu darparu wrth yr actorion o fewn y gwisgoedd am y tro cyntaf.
- Byddai'r symbol a welwyd yn siambr cynilleudfa Voga (a fersiwn llai ar wisgoedd y Vogans) yn cael eu hailddefnyddio yn The Deadly Assassin gan Roger Murray-Leach; yn dilyn hon, byddai'r symbol yn cael ei adnabod fel Sêl Rassilon.
- Y trosglwyddydd radio cyfrinachol wedi'u cuddio fel brwsh dillad, ddefnyddiodd Kellman, yw'r union un prop a gafodd ei ddefnyddio yn Live and Let Die. Rhodd Roger Moore y prop i'r BBC ei hun wrth ymweld y BBC yn 1973. Yn hwyrach, fe ddywedodd wrth Radio Times, heb adnabod Moore, prynodd y meistr propiau dau hòg a chwecheiniog (12½p mewn arian degol) ar gyfer yr eitem: "I'd popped into the Beeb [BBC] for a cup of tea and spotted a notice about an upcoming Doctor Who, so I thought the darlings would be so cash-strapped they'd need anything they could get their hands on. It wasn't MGM, after all. But I didn't expect to walk out with two and six!"
- Rhwng darllediad rhan un a dau, bu farw actor y Doctor Cyntaf, William Hartnell. Mewn cyd-ddigwyddiad, bu farw yn ystod darllediad stori ag ailgyflwynodd y Cybermen. Yn ei ymddangosiad olaf fel y prif Doctor, The Tenth Planet, cafodd y Cybermen eu chyflwyno.
- Yn dilyn bod yn absennol wrth y dwy stori, The Sontaran Experiment a Genesis of the Daleks, mae'r TARDIS yn ymddangos ar sgrîn am y tro cyntaf ers The Ark in Space.
- Derbynodd prif actorion y Vogans fasgiau a gafodd eu mowldio i'w gwynebau unigol, ond ar gyfer yr actorion heb linellau, roedd rhaid i'r BBC cadw costau'n uchel; yn ôl David Collings (Vorus) ar sylwebaeth sain y DVD, crëwyd masgiau'r Vogans wrth fowld gwyneb Arnold Ridley.
- Ar adeg darllediad yn 1975, ac nes ddarllediad Earthshock yn 1982, Revenge of the Cybermen oedd yr unig stori Cyberman llawn i fodoli; roedd pob stori cynt i'w cynnwys naill ai yn anghyflawn, neu yn achos The Tomb of the Cybermen, wedi cael ei threulio gan y BBC yn gyfan gwbl. Nes adferiad The Tomb of the Cybermen yn gynnar yn yr 1990au, dyma'r stori cynharach a fodolodd yn gyfan gwbl i gynnwys y Cybermen.
- Dyma ymddangosiad olaf y Cybermats yn y gyfres glasurol. Byddent yn ymddangos yn ryddhad 2010 The Adventure Games, Blood of the Cybermen, ond na fyddent yn dychwelyd ar sgrîn nes Closing Time, tri deg chwech mlynedd yn dilyn y stori yma.
- Yn A History of the Universe ac aHistory, mae'r stori yma wedi'i dyddio i 2875 dim wedi'i seilio ar unrywbeth yn y stori, gan yn flaenorol dyddiodd y Doctor technoleg mewnol y Goleufa Nerva i hwyr yn y 29ain ganrif ar y cynharaf. Er yn Earthshock, sydd wedi'i gosod yn gynnar yn y 26ain ganrif, yn cyfeirio at ddigwyddiadau'r stori yma yn y gorffennol, yn dadlau'r dyddiad honno.
- Roedd Gerry Davis yn anhapus gyda golygiadau Robert Holmes ar beth fyddai'n troi allan i fod gyfraniad olaf Davis i'r gyfres. Nid oedd yn hoff o'r teitl chwaith. Addasodd John Dorney drafft cyntaf Davis yn rhan o ystod The Lost Stories Big Finish Productions o dan y teitl gwreiddiol yn Mawrth 2021.
- Ystyriwyd sawl enw ar gyfer y planed, gan gynnwys Alanthea a Vega, cyn dewisodd Robert Holmes yr enw Voga, ar ôl ynys chwedlonol chwiliodd Christopher Columbus am.
- Ar un adeg, bu farw Kellman pan aberthodd Lester ei hun i ladd y Cybermen, ond cafodd ei farwolaeth ei symud i fod yn fwy cynnar er mwyn cymryd lle yn y tirlithriad.
- Cafodd yr olygfa agoriadol o'r Doctor, Sarah a Harry yn cyrraedd Goleufa Nerva trwy'r modrwy amser ei ailgreu yn ystod cynhyrchiad Genesis of the Daleks.
- Gwrthodd Dudley Sutton rôl Vorus.
- Chwaraeodd Alec Wallis Warner yn lle Malcolm Thompson.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Rhan un - 9.5 miliwn
- Rhan dau - 8.3 miliwn
- Rhan tri - 8.9 miliwn
- Rhan pedwar - 9.4 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor, Sarah, a Harry yn dychwelyd i Oleufa Nerva gan ddefnyddio'r Modrwy Amser, (TV: Genesis of the Daleks) yn union fel bwriadon nhw pan adawon nhw'r gorsaf yn y dyfodol trwy drawsmat i roi gymorth i'r trwsiadau (TV: The Ark in Space) ar ôl iddynt cael eu tywys i'r Ddaear. (TV: The Sontaran Experiment).
- Unwaith eto, mae'r Cybermen yn defnyddio arf biolegol. (TV: The Moonbase)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ynghyd Silver Nemesis ar DVD ar 9 Awst 2010 (DU), ar 2 Tachwedd 2010 (UDA), 7 Hydref 2010 (Awstralia).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Philip Hinchcliffe (Cynhyrchydd), Elisabeth Sladen (Sarah Jane Smith), a David Collings (Vorus)
- Cheques, Lies and Videotape - Rhaglen dogfen yn cwestiynnu beth wnaeth cefnogwyr y sioe cyn fideos a DVDs swyddogol Doctor Who?
- The Tin Men and the Witch - Cast a chriw'r stori yn adrodd hanes cynhyrchu Revenge of the Cybermen
- Location Report - Cyfweliad y BBC o'r adeg gyda Tom Baker
- Rhestriadau Radio Times
- Isdeitlau cynhyrchu
- Oriel
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori gyda gweddill Hen Gyfres 12 fel rhan o set bocs y gyfres yn The Collection ar 2 Gorffennaf 2018.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Philip Hinchcliffe (Cynhyrchydd), Elisabeth Sladen (Sarah Jane Smith), a David Collings (Vorus)
- Cheques, Lies and Videotape - Rhaglen dogfen yn cwestiynnu beth wnaeth cefnogwyr y sioe cyn fideos a DVDs swyddogol Doctor Who?
- Effeithiau arbennig opsiynnol - Gwylio'r stori gyda effeithiau arbennig wedi'u huwchraddio
- The Tin Men and the Witch - Cast a chriw'r stori yn adrodd hanes cynhyrchu Revenge of the Cybermen
- Behind the Sofa
- Location Report - Cyfweliad y BBC o'r adeg gyda Tom Baker
- Isdeitlau cynhyrchu
- Oriel
- Archif Ysgrifenedig
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori ar VHS fel Doctor Who: Revenge of the Cybermen. Dyma'r stori gyntaf i gael ei rhyddhau i'r marced fideo cartef yn:
- Hydref 1983 (DU, wedi'u golugu)
- Mai 1984 (DU, wedi'u golygu)
- Ebrill 1999 (DU, heb olygu)
- Ionawr 1987 (Awstralia, wedi'i golygu)
- Rhagfyr 1999 (Awstralia, heb olygu)
- Rhagfyr 1986 (UDA, fel ffilm)
Rhyddhadau Laserdisc[]
Dyma un o'r unig storïau Doctor Who i gael eu rhyddhau ar laserdisc.
Troednodau[]
|