Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Revenge of the Nestene oedd "Pennod 21" o'r nofeleiddiad gwreiddiol ar gyfer Rose, wedi'i ysgrifennu gan Russell T Davies, ac wedi'i adrodd gan Jacob Dudman. Rhyddhawyd yn 2020 fel dilyniant i'r stori deledu Rose ar gyfer y gyfres "watch-along" Doctor Who: Lockdown!. Wedyn, fe'i ryddhawyd fel pumed stori y flodeugerdd Adventures in Lockdown.

Crynodeb[]

Mae rhan o'r Nestene wedi goroesi o fewn ffurff clown. Mae'r clown yn mynd i mewn i San Steffan cyn cyfuno gyda chorff rhywun a fu farw yn ystod dinistriad yr adeilad - rhywun gyda uchelgais o bŵer. Mae hynny yn creu bod newydd... person sydd eisiau dial ar y Doctor.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cymeriadau[]

  • Pierrot Hanner-Pen
  • Menyw
  • Auton

Cyfeiriadau[]

Lleoliadau[]

  • Mae'r Ymwybyddiaeth yn cofio'r "dydd a gwympodd Nestenia" yn y Rhyfel Amser.
  • Cwympodd y London Eye i mewn i'r Afon Tafwys.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Ymwybyddiaeth eisiau ffurffio cynghrair, a fyddai'n cynnwys gelynion mwyaf y Doctor, gyda'r Daleks a'r Cybermen.

Nodiadau[]

  • Yn gyntaf, rhyddhawyd y stori fel sainlyfr, wedi'i adrodd gan Jacob Dudman, cyn cael ei rhyddhau fel testun ar Instagram Russell T Davies. Yn adlewyrchu Doctor Who and the Time War, mae'r rhyddhad canlynol yn portreadu hyn fel dyfyniad - Pennod 21, "Revenge of the Nestene" - wrth dudalennau fuglennol 198-203 o nofeleiddiad 2018 o Rose gan Davies.
    • Roedd clawr y rhyddhad hwn yn addasiad fach ar clawr gwreiddiol y Nofeleiddiad Target, a ddarluniwyd gan Anthony Dry. Credydodd Davies Richard Atkinson gyda darluniad y tudalennau eu hun, a oedd i'w gweld yn barhad o PRÔS: Rose
  • Yng nghredydau'r rhyddhad sain, rhodd "diolch arbennig" i Big Finish Productions.
  • Er nad yw'r dyn mae'r Auton yn troi i mewn i ar ddiwedd y stori yn cael ei adnabod yn benodol, mae wedi'i awgrymu'n gryf taw Boris Johnson, y Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar amser ysgrifennu'r stori, oedd e.

Cysylltiadau[]

  • Mae un deilchen o'r Ymwybyddiaeth Nestene wedi goroesi serch ngwrth-plastig y Nawfed Doctor. (TV: Rose)
  • Mae'r Ymwybyddiaeth Nestene yn ystyried dechrau cynghrair gyda gelynion mwyaf y Doctor, gan gynnwys y Daleks a'r Cybermen, er mwyn trechu'r Doctor. (TV: The Pandorica Opens)
  • Mwynhaodd yr Ymwybyddiaeth Nestene rhamant gydag Ymgorfforiad Gris. (TV: The Daleks' Master Plan, PRÔS: Cold Fusion, ayyb)
  • Ar ymyl y Rhyfel Amser, gwelodd y Nestene 100 Galiffrei, 1,000 Sgaro dinistriedig, a dwsin o Ddaearoedd, wedi'u cymryd o fomentau gwahanol er mwyn eu ddefnyddio fel arfau yn y Ryfel. (PRÔS: Doctor Who and the Time War)
  • Adnabyddodd y Nestene y Ddaear wrth "hen ymgyrch". (TV: Spearhead from Space, Terror of the Autons)