Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Rhaeadr Fedwsa oedd nifwl lliwgar yn y gofod a lleoliad rhwyg gofod ac amser. Ar rhyw adeg, selwiyd y rhwyg gan y Doctor.

Lleolwyd "hanner ffordd" ar ddraws y bydysawd wrth y Ddaear. (TV: The Battle of Ranskoor Av Kolos)

Ymddangosiad[]

Roedd gan y Rhaeadr edrychiad nifylaidd, gan gynnwys cymylau nwy lliwgar. (TV: The Stolen Earth) Yn ogystal â rhwyg amserol yn ei chanol, (TV: Journey's End) roedd ganddi o leiaf pymtheg "lleuad doredig". (TV: The Sontaran Stratagem)

Hanes[]

Ymwelodd Doctor ifanc â Rhaeadr Fedwsa pan oedd "ond yn plentyn" naw deg mlwydd oed. (TV: The Stolen Earth) Yn ôl rhai, dyma pryd wnaeth y Doctor selio'r rhwyg fel rhan o'i arholiad technoleg amser ymarferol. (PRÔS: Report on Term's Work)

Yn hwyrach, ymwelodd y Pedwerydd Doctor a Romana y Rhaeadr hefyd. (PRÔS: City of Death)

O fewn llinell amser dichonadwy y Rhyfel Mawr Olaf Amser, gwelodd Livia a Narvin y Rhaeadr Fedwsa llosgi o ganlyniad i'r Meistr Rhyfel yn dod crëwr y Daleks. (SAIN: The Master's Dalek Plan)

Rhaeadr Fedwsa oedd lle wnaeth Davros a'r Ymerodraeth Dalek Newydd symud dau ddeg saith planed. Nid oedd modd dod o hyd i'r planedau mewn modd arferol, gan gaethant eu cuddio un eiliad allan o amser gweddill y bydysawd. (TV: The Stolen Earth) Wrth leoli'r planedau yn y Rhaeadr Fedwsa, roedd Davros eisiau defnyddio'r rhwyg yn y Rhaeadr Fedwsa er mwyn gwasgaru effeithiau'i fom gwirionedd dros pob llinell amser a gwirionedd. (TV: Journey's End)

Dechreuodd hynny ymosodiad ar y Ddaear, un o'r dau ddeg saith planed, gan y Daleks. (TV: The Stolen Earth) Gorffennodd yr ymgais gyda chryn dinistriad cyfan y Daleks o ganlyniad i'r Doctor Meta-Crisis a (gyda chymorth y Doctor a'i gymdeithion) dychwelyd y planedau i'u lleoliadau cywir yn amser a'r gofod. (TV: Journey's End)

Cyfeiriau[]

Crybwyllodd Evelina, merch a oedd yn gallu rhagweld y dyfodol, am y Rhaeadr Fedwsa wrth arsylwi ar y Degfed Doctor, gan ddweud "your real name is hidden. It burns in the stars, in the Cascade of Medusa herself". (TV: The Fires of Pompeii)

Dywedodd y Degfed Doctor yn hwyrach roedd ef eisiau cymryd hi i ymweld â'r Pymthegfed Lleuad toredig y Rhaeadr Fedwsa. (TV: The Sontaran Stratagem)

Yn ystod antur unigol, defnyddiodd y Doctor "Rhaeadr Fedwsa" i weld os fyddai Sky Silvestry yn ei atseinio. (TV: Midnight)