Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Rhaglenwraig oedd un o dri deg chwech rhaglennwr oedd yn gweithio ar yr Orsaf Gêm. Hi oedd yn gyfrifol am rhaglennu'r Anne Droid a'r cyfri am ddechrau The Weakest Link. (TV: Bad Wolf) Pan oresgynwyd yr Orsaf Gêm gan Ddaleks, roedd hi'n rhan o'r amddiffynwyr ar lawr 499, ond ar ôl i'r tîm ddallu un Dalek, cafodd hi ei lladd. (Tv: The Parting of the Ways)

Er y nifer o bobl oedd yn marw ar y sioeau gêm, ni theimla hi chywilydd, gan ddweud taw ond gwneud ei gwaith oedd hi. Cafodd y Nawfed Doctor ei wrthyrru gan yr olwg hyn, a gwrthododd i siarad â hi wedyn. ([[TV: Bad Wolf) Yn fuan cyn y frwydr ar Lawr 499, cyfaddodd Davitch Pavale ei ddiddordeb ynddi, gan ddweud yr unig rheswm roedd ef ar yr orsaf oedd achos hi. Wnaethon nhw fflyrtio am amser fyr yn ddilyn hwn. (TV: The Parting of the Ways)

Advertisement