Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Thousand Year War

Y Rhyfel Mil Flwyddyn, neu'r Rhyfel Neutronig, oedd rhyfel rhwng y Kaleds a'r Thals ar y blaned Sgaro. Diffethwyd y blaned gyfan trwy ddefnydd arfau pelydredd ddwy ochr y rhyfel. O ganlyniad, bu rhaid i'r ymmladdwyr oedd ar ôl byw tu mewn i ddinasoedd gyda chromennau yn eu cwmpasu. Wnaeth y rhyfel creu rhywogaeth newydd, y Mwtos, a gaeth eu trin yn wael o achos eu hanffurfiadau.

Er collwyd achos y rhyfel i amser, roedd dau ochr y rhyfel yn ymroddedig at ennill - gan brin difrodi y ddau. Trodd y rhyfel y Thals yn rwpiau fach o werinwyr, a'r Kaleds yn datesblygu i mewn i'r Daleks.

Hanes[]

Cyfranogion[]

Brwydrwyd rhyfel a ddifrodwyd Sgaro rhwng y Thals a chyndeidiau'r Daleks. (TV: The Daleks) Roedd hunaniaeth y rhywogaeth olaf wedi'i ddadlau: gyda'r mwyafrif o adroddiadau yn adnabod gelynion y Thals fel y Kaleds, (TV: Genesis of the Daleks, SAIN: Davros, ayyb.) cyfeiriodd eraill i rywogaeth ddynolffurf eisioes a elwir yn "Daleks". (COMIG: Genesis of Evil, TV: The Daleks) Credodd y Thals ôl-rhyfel taw cyndeidion y Daleks, a'u gelynion, oedd y Dals. (TV: The Daleks)

Achosion[]

Tua ddiwedd y rhyfel, anghofiodd y Kaledau a'r Thals achos y rhyfel. (SAIN: Davros)

Brwydro pellach[]

Erbyn pryd cafodd y Pedwerydd Doctor ei ddanfon i Sgaro er mwyn rhywstro creadigaeth y Daleks, bu fyw y ddau rŵp mewn dinasoedd gromennog yng nghanol tir llygredig, llawn peiriannau rhyfel torredig, cyrff, a ffrwydron tir. Crëwyd rhywogaeth mwtant gan ddefnydd arfau ymbelydrol, cemegol, a biolegol, a enwyd y Mwtos gan y Kaledau a'r Thals. Cafodd y Mwtos eu gwrthod gan y ddau hil achos roeddent eisiau cadw purdeb hiliol.

Roedd y dwy ochr wedi troi mor enbyd am filwyr, byddent yn danfon bechgyn yn eu harddegau cynnar i ymladd, ac roedd prif cadlywydd y Kaleds, Cadfridog Ravon yn ei ddauddegau cynnar. (TV: Genesis of the Daleks)

Ar ddiwedd y rhyfel, bwriad y Thals oedd i ddefnyddio taflegryn niwtronig yn erbyn y Kaleds. (TV: Genesis of the Daleks)

Canlyniad[]

Gan ragweld yr unig modd i oroesi oedd cyflymu eu hesblygiad i mewn i'r peiriannau Dalek, rhodd Davros gwybodaeth i'r Thals i caniatáu toramod Cromen y Kaleds, gan achosi niferoedd o anafiadau ymhlith pobl Davros. Hawliodd hyn rheswm i'r Kaleds i ddefnyddio'r Daleks newydd yn erbyn y Thals. O'r diwedd, dinistriwyd Cromen y Kaleds gan roced Thal. Yna, ymunodd Thals, wedi'u harwain gan Bettan a Mwtos, wedi'u harwain gan Sevrin, gyda'r frwydr yn erbyn y Daleks oedd yn ymddangos o'r ddinas Kaled ddinistriedig. Gorfodwyd y Daleks nôl mewn i fyncer Davros lle carcharwyd yna am fil o flynyddoedd gan y Pedwerydd Doctor, er byddai eu harweinydd a'u haelod hynaf yn adduno am eu dianc un ddydd. (TV: Genesis of the Daleks)

Advertisement