Y sbectol haul sonig oedd dyfais defnyddiodd y Deuddegfed Doctor yn lle'r sgriwdreifar sonig. Gwisgwyd fel sbectol haul ddu arferol, heb wahaniaeth amlwg i sbectol haul arferol. Parhaodd y Doctor i ddefnyddio'r sbectol ar ôl cael model newydd o'r sgriwdreifar sonig. Hefyd, gwisgodd y sbectol haul yn barhaol pan aeth y Doctor yn ddall.
Hanes[]
Gwisgodd y Doctor y sbectol tra'nn aros yn Essex yn 1138 am dair wythnos, gan gyfeirio at y sbectol fel "technoleg gwisgadwy". (TV: The Magician's Apprentice) Defnyddiodd y Doctor nhw i alw ei TARDIS ar ôl cafodd ei wasgaru gan yr HADS. Roedd y Doctor yn bryderus y fyddai Davros wedi crafu'r sbectol tra roeddent yn ei feddiant. (TV: The Witch's Familiar)
Defnyddiodd y Doctor nhw unwaith eto yn y gorsaf danddŵr, y Drum, yn 2119 i gysylltu â Wi-Fi yr orsaf er mwyn caniatáu criw'r orsaf i weld yr ysbrydion wedi'u dal o'i safbwynt ef. Defnyddiodd hefyd wrth edrych ar farciau ar wâl long ofod estronaidd. (TV: Under the Lake) Yn hwyrach, defnyddiodd y Doctor y sbectol i greu hologram o'i hunan fel un o'r ysbrydion ac i ddileu'r marciau wrth feddyliau pawb. (TV: Before the Flood)
Ceisodd y Doctor defnyddio'r sbectol er mwyn dychryn y Llychlynwyr, ond torrwyd y sbectol haul gan eu harweinydd. Yn hwyrach, defnyddiodd Clara hanner ohonynt i dwyllo'r Mire i mewn i feddwl taw bygythiad a ddylen nhw osgoi oedd hi. Ond methodd Clara i osgoi gwrthdrawiad pan ddatganiodd Ashildr rhyfel yn eu herbyn. Yn dilyn trechiad y Mire, fe gaeth y doctor haner o'i sbectol a gadwodd Odin, ac o ganlyniad mi roedd yn gallu hacio telegludiwr y Mire er mwyn hala nhw nôl i'w llong, ac i ailraglennu Cit atgyweirio y Mire fel i achub Ashildr rhag marwolaeth. (TV: The Girl Who Died)
Yn dilyn hyn, naill ai trwsiodd neu amnewydodd y Doctor ei sbectol haul sonig, ac fe ddefnyddiodd y sbectol i oleuo Cannwyll yn Lloegr, 1651. (TV: The Woman Who Lived)