Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Scootori 'Scooti' Manista oedd swyddog cynnal dan hyfforddiant, lleolwyd ar Gorsaf Nawdd 6. Roedd Scooti hugain oed pan gyfarfododd hi'r Degfed Doctor.

Roedd hi yn yr ystafell reoli yn paratoi am ddaeargryn, pan gyrhaeddodd y Degfed Doctor a Rose Tyler. Wedyn, roedd hi yn y cyfarfod i egluro'r sefyllfa ddiweddarach ar genhadaeth y tîm. Eglurodd hi a Danny pwy oedd yr Ŵd i Rose.

Yn hwyrach, aeth Scooti i mewn i ystafell Toby Zed i rhoi ei wariant iddo, ond doedd e ddim yna. Tra'n gosod y papur ar ei ddesg, clywodd hi agoriad yr aergloi. Gofynnodd hi i'r cyfrifriadur am bwy agorodd yr aerglo pan nad oedd siwt ofod wedi'u cymryd. Gwelodd Scooti Toby cythreulig trwy ffenest yn y gwactod tu allan, yn galw amdani hi. Yn ddiymadferth, cododd scooti ei llaw tuag ato, ond, gwrthodd hi galwadau Toby yn y pendraw, gan bledio iddo fe atal. Mewn dicter at ei gwrthod i ymuno ag ef, caeodd Toby ei ddwrn gan achosi gwydr y ffenest i falu. Wrth sylweddoli hyn, ceisiodd Scooti dianc trwy ddrws. Arhosodd y drws ar lo, er i ofynion Scooti, ac yn fuan wedyn, torrodd Toby'r gwydr, gan chwalu'r pwysedd. Dechreuodd aer rhuthro allan wrth tynnu Scooti i'r gofod yn sgrechen.

Darganfododd y criw ei chorff yn arnofio yn y gwactod uwchben yr orsaf, lle yn y pendraw drifftiodd i mewn i'r twll du. (TV: The Impossible Planet)