Seigor oedd planed gartrefol y Seigonau, yn y gyfundrefn Tau Ceti. (PRÔS: The Bodysnatchers, FIDEO: When Being You Just Isn't Enough) Er, yn ôl rhai ffynhonnellau, nid oedd gan y blaned enw. (WC: Zygon Stats) Roedd y blaned yn gymharol gynhesach na'r Ddaear, ac wedi'i orchuddio gan ddŵr yn llynnoedd â chyfasoddiad gwahanol i'r rhai ar y Ddaear. Doedd dim capiau iâ ar y blaned. Roedd bywyd brodorol Seigor yn cynnwys y Skarasen a'r Seigonau. (TV: Terror of the Zygons)
At rhyw bwynt, dinistriwyd Seigor mewn ffrwydrad serol. (PRÔS: Doctor Who and the Lock Ness Monster) Yn yr 20fed ganrif, dywedodd Broton bod ei fyd wedi'i ddinistrio mewn "trychineb diweddar", (TV: Terror of the Zygons) er roedd ei gysyniad o amser yn arwahanol i'r raddfa amser dynol. (PRÔS: Doctor Who and the Lock Ness Monster) Yn ôl rhai, dinistriwyd y blaned o achos rhyfel y Seigonau gyda'r Xaranti. (PRÔS: The Bodysnatchers) Yn ôl Elisabeth I, a oedd yn peri fel Seigon yn 1562, llosgwyd Seigor yn ystod dyddiau cyntaf y Rhyfel Mawr Olaf Amser. (TV: The Day of the Doctor)
Medrodd nifer o'r Seigonau dianc distriad Seigor. Gorfodon nhw ddod yn ffoaduriaid crwydrol wrth chwilio am blaned newydd. (PRÔS: The Bodysnatchers)
Ceisiodd pedwar grŵp Seigon gwahanol troi'r Ddaear yn fwy debyg i Seigor: y rhai a gyrhaeddodd yn y 12fed ganrif, (TV: Terror of the Zygons) y rhai a gyrhaeddodd yn yr 16fed ganrif a chynlluniodd i oresgyn yn yr 21ain ganrif, (TV: The Day of the Doctor) y rhai a gyrhaeddodd yn 1909, (PRÔS: Sting of the Zygons) a'r rhai a gyrhaeddodd ar ddiwedd yr 20fed ganrif. (FIDEO: When Being You Just Isn't Enough)