Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Skarasen

Skarasen oedd creaduriaid enfawr dibynnodd y Zygons ar am eu llaeth a'u gallu dinistriol.

Bioleg[]

Roedd Skarasen yn enfawr, digon fawr fel byddai modd i un mathru person gydag ond un troed. Roedd y Zygons wedi newid nhw gyda seibrneteg er mwyn cyrraedd pwrpas y Zygons ac i wrthsefyll bron pob ymosodiad. (TV: Terror of the Zygons) Roedd eu croen yn wydn a'u sgerbydau wedi'u cyfuno ag aloi caled iawn. (PRÔS: Sting of the Zygons)

Bwydodd y Zygons ar laeth y Skarasen. Roedd y llaeth hyn, slwtsh gwyrdd tew, yn angenrheidiol i oroesiad y Zygons. (PRÔS: Sting of the Zygons)

Roedd modd i Skarasen nofio mor gloi, byddai un yn gallu nofio o amgylch y byd mewn wythnos. (SAIN: Homeland)

Hanes[]

Yn wreiddiol o'r blaned Zygor, cludodd nifer fawr o rwpiau Zygon y Skarasen, yn embryonau, i'r Ddaear yn eu llongau gofod. Yno, cafodd y Skarasen ei wella gyda seibrneteg i fod yn arfau ac fel byddei modd i'r Zygons gweld trwy eu llygaid ar sgriniau.

Yn y 12fed ganrif, wnaeth y grŵp o Zygons dod â Skarasen gydan nhw, lle byddai'r Skarsen yn ymosod ar unryw berson neu eitem oedd yn cario trawsdderbynnydd, wedi'u creu gan y Zygons, wnaeth darlledu galwad paru uwchsonig i'r Skarasen. Wnaeth presenoldeb y Skarasen yn Loch Ness tarddu chweldau'r Anghenfil Loch Ness. (TV: Terror of the Zygons)

Yn Llundain, 1894, cyfarfyddodd yr Wythfed Doctor â grŵp o Zygons a Skarasen ifanc. Wedyn lladd llawer o'r babanod ar ddamwain, helpodd y Doctor symud y babanod a'r Zygons gweddill i blaned wâg er mwyn adeiladu gwladfa newydd. (PRÔS: The Bodysnatchers)

Yn 1909, daeth grŵp arall o Zygons i'r Ddaear. Daethon nhw â dau Skarasen ond difrodwyd eu hymenydd o achos yr ymbelydredd solar yn ystod difrodiad Zygor. Mewn cais atgyweirio unrhyw difrod, bu farw un o'r Skarasen. Gwellwyd y llall gan y Degfed Doctor cyn iddo dianc. (PRÔS: Sting of the Zygons)

Yng nghanol yr 20fed ganrif, dechreuodd UNIT ymchwilio i Loch Ness. O ganlyniad, defnyddiodd y Zygonau eu Skarasen i ddychryn UNIT o'r lle. Yn dilyn y Pedwerydd Doctor, oedd â dyfas canoli yn ei bocked, teithoidd y Skarasen o Loch Ness i Lundain trwy'r Tafwys. Taflodd y Doctor y dyfais i'r Skarasen i ôl. Mae ei dynged wedi hynny yn anhysbys, er gyda marwolaeth y Zygons ar y Ddaear byddai neb i'w reoli. Yn ôl y Doctor, dychwelodd y Skarasen nôl i Loch Ness, ei unig gartref. (TV: Terror of the Zygons) Er pan orchuddiwyd y digwyddiad, honnwyd taw offeryn brotest chwyddadwy oedd yr anghenfil. (PRÔS: The Secret Lives of Monsters)

Cadwodd ymgorfforiad o'r Meistr Skarasen o'r enw Flipper mewn tanc yn eu TARDIS. Bwyddodd y Meistr y Skarasen gan ddefnyddio cynghreiriaid a gelynion pan nad oeddent yn ddefnyddiol rhagor, neu os oeddent yn eu cythruddo. Yn y pendraw, lladdwyd y Skarasen gan y Meistr cyn cael ei farbeciwo. (PRÔS: Lords and Masters)

Cyfeiriau eraill[]

Gwnaeth y Seithfed Doctor cyfeiriad anunion at ymddangos Skarasen yn Llundain fel enghraifft o ymyrraeth estrinaidd roedd gwell gan bobl anghofio neu anwybyddu. (TV: Remembrance of the Daleks)

Degawdau wedyn, mewn ffrae gyda Rose Tyler i ragori'r llall gyda'r bwystfilod roeddent wedi gweld, ennillodd Sarah Jane trwy ei datganiad ei bod hi wedi gweld Anghenfil Loch Ness. (TV: School Reunion)

Disgrifiodd y Degfed Doctor y Skarasen i Martha Jones fel un o anghenfilod Loch Ness. (COMIG: Agent Provocateur)

Advertisement