Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Sky oedd stori gyntaf Cyfres 5 The Sarah Jane Adventures. Cafodd ei hysgrifennu gan Phil Ford a'i chyfarwyddo gan Ashley Way. Yn union fel gweddill cyfres 5, cafodd ei ffilmio yn rhan o Cyfres 4 tua flwyddyn cyn darllediad. O ganlyniad i'r amserlen cynhyrchu yma, roedd modd cwblhau a darlledu'r stori yn dilyn marwolaeth Elisabeth Sladen. Yn ychwanegol, cyflwynodd y stori Sky Smith, a fyddai wedyn yn dod i fod yn merch maeth i Sarah Jane.

Er cyflwynodd y stori gymeriad rheolaidd newydd, cynhwysodd y stori ymddangosiadau olaf Gita Chandra, Proffesor Celeste Rivers a Y Maelfäwr. O ganlyniad i'r terfyn annisgwyliedig ar gynhyrchu, ni rhowd diweddglo i'w cymeriadau; Sky yw'r stori olaf maent yn ymddangos ynddi.

Crynodeb[]

Mae Sarah Jane, Clyde a Rani yn ceisio darganfod pam yw baban bach a chafodd ei gadael ar ddrws Sarah Jane yn torri popeth trydannol ac yn mwtadu'n cyflym, ac ym mha modd yw hi wedi'i chysylltu i ryfel rhwng y Metelfath a'r Cnawdfath.

Plot[]

Plot 1[]

I'w hychwanegu.

Plot 2[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Clyde Langer - Daniel Anthony
  • Rani Chandra - Anjli Mohindra
  • Sky - Sinead Michael
  • Mr Smith - Alexander Armstrong
  • Luke Smith - Tommy Knight
  • Gita Chandra - Mina Anwar
  • Haresh Chandra - Ace Bhatti
  • Miss Myers - Christine Stephen-Daly
  • Caleb - Gavin Brocker
  • Y Metelfath - Paul Kasey
  • Proffesor Rivers - Floella Benjamin
  • Hugo - Peter-Hugo Daly
  • Y Maelfäwr - Cyril Nri
  • Sky babanol - Chloe ac Ella Savage ac Amber a Scarlet Donaldson
  • Llais y Metelfath - Will McLeod

Cyfeiriadau[]

Unigolion[]

  • Mae Clyde yn gwrthod y syniad o Sky yn mynd i mewn i'r orsaf ynni, gan ddweud byddai fel "cymryd taith Senedd y Deyrnas Unedig gyda Guto Ffowc."

Lleoliadau[]

  • Mae Hugo yn byw yn Taylor and Trott Car Salvage.
  • Mae Heol Peel wedi'i leoli yn Ealing.
  • Planed yw Coulabria.
  • Mae'r Nifwl Trowynt yn nifwl gyda chysawd planed dwbl yn ei lygaid.

Sefydliadau[]

  • West London Power yw cwmni cerrynt trydanol.

Cyfeiriau diwylliannol o'r byd go iawn[]

  • Mae Clyde yn galw'r atig yn Batcave ac yn sôn am Jedward.
  • Mae Rani yn disgrifio diffodd adweithydd niwclear fel cymysgedd rhwng "James Bond a Mario".
  • Cafodd Hugo ei syniad o robotiaid wrth y gyfres ffilmiau Star Wars.
  • Mae Rani yn cymharu ei hun i Wikipedia trwy galw ei hun y "Ranipedia".

Elfennau[]

  • Mae Boron yn elfen meteloid.

Gwrthrychiau[]

  • Mae Proffesor Rivers yn defnyddio ei minliw i ddynwared minliw sonig Sarah Jane.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Clyde yn dweud wrth Sky bod Sglodion ffwrn yn gwael oherwydd ellyllion coginio.

Eraill[]

  • Nid oes gan Clyde llawer o wybodaeth am Gemeg gan wyliodd tîm pêl-rwyd yr ysgol yn ystod dosbarthiadau cemeg.

Nodiadau[]

  • Mae sawl cyfeiriad at y fasnachfraint Terminator. Mae'r ffordd mae'r Fetelfath yn hela Sky, plenntyd a fydd yn cael ei defnyddio mewn rhyfel, yn debyg i Skynet yn hela John Connor. Mae'r ffordd ymddangosodd Miss Myers yn gyntaf yn debyg i ddarluniad teithio amser yn The Terminator. Mae hi hefyd yn adlewyrchu linell enwog wrth y fasnachfraint trwy ddweud "Get in if you want the child to live", a oedd yn debyg i "come with me if you want to live".
  • Roedd bwriad cael y stori yma fel ddechreuad arc stori yn ymwneud â'r Maelfäwr a'r Capten. Yn anffodus, achosodd terfyn y gyfres gollyngiad eu stori. Yn ôl DWMSE 32, cafodd y cymeriad ei ychwanegu i'r stori y funud olaf i lenwi rôl Matt Smith, gan gynlluniwyd byddai ef yn ymddangos fel yr Unarddegfed Doctor a datgan mai ef wnaeth adael Sky ar ddrws Sarah Jane. Roedd ymrwymiad Smith i ffilmio TV: A Christmas Carol rhwystro hon ac felly ailysgrifennwyd y diweddglo er mwyn ychwanegu'r Maelfäwr a'r Capten. Ond, crybyllwyd y naratif gwreiddiol with i Rani rhestru'r Doctor fel rhywun ag efallai adawodd Sky ar ddrws Sarah Jane.

Cyfarteleddau gwylio[]

  • Rhan un - 0.53 miliwn[1]
  • Rhan dau - 0.53 miliwn[1]

Cysylltiadau[]

  • Mae Rani yn awgrymu'r Doctor fel person gall adael Sky ar ddrws Sarah Jane. (TV: The Wedding of Sarah Jane, Death of the Doctor) syniad mae Sarah Jane yn gwrthod y syniad yma, er iddo gwneud rhywbeth tebyg o'r blaen wrth adael K9 Mark III amdani. (TV: A Girl's Best Friend)
  • Mae Clyde yn dweud wrth Sky am frwydro'r Bane, a sut cafon nhw eu gorchuddio mewn gweddillion estronaidd pan ffrwydrodd y Bane. (TV: Enemy of the Bane)
  • Mae Rani yn dweud wrth Sky am sut cafodd Luke Smith ei greu gan estronwyr a gynlluniodd goresgyniad ar y Ddaear. (TV: Invasion of the Bane)
  • Mae Sarah Jane yn dweud wrth Miss Myers os ddinistria hi'r Metelfath, fe fydd hi'n waeth na nhw. Gwnaeth y Pedwerydd Doctor sylwad tebyg i Sarah Jane wrth ystyried dinistrio'r Daleks. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Mae'r Maelfäwr a'r Capten yn ymddangos, ond mae eu hunaniaeth yn parhau i fod yn anhysbys i Sarah Jane. (TV: Lost in Time)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd y stori yma gyda gweddill Cyfres 5 ar DVD a Blu-ray ar 6 Chwefror 2012.
  • Rhyddhawyd y stori ar set bocs The Complete Collection Series 1-5 ar 6 Chwefror 2012.

Troednodau[]