Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Smile (Cy: Gwena) oedd ail stori cyfres 10 Doctor Who.

Dynoda'r episôd yma'r pedwerydd amser yng nghyfres BBC Cymru mae'r Doctor yn tywys ei gydymaith i'r Dyfodol am eu taith cyntaf ôl-cyflwyniad, yn dilyn Rose Tyler, Amy Pond a Clara Oswald. Ond, dyma'r stori gyntaf i gael ei gosod ar blaned estronaidd, er gosodwyd The Rings of Akhaten ar blanedyn yn gylchdroi o gwmpas blaned.

Yn Doctor Who Extra, esboniodd Steven Moffat a Peter Capaldi nad ydynt yn deall emoji, felly roedden nhw yn trafferthu i ddarllen tecstiau wrth Jenna Coleman, gan ddefnyddiodd hi emoji yn aml wrth decstio.

Crynodeb[]

Ar ôl cael gwared o Nardole, mae'r Doctor yn gofyn i Bill Potts lle hoffi hi teithio i mewn amser. Mae'n gofyn i weld y dyfodol, felly, mae'r Doctor yn ei thywys i weld un o wladfeydd cyntaf y Ddaear, lle ddwedwyd bod y preswylwyr wedi llwyddo darganfod cyfrinach hapusrwydd parhaol. Ond, yn fuan maent yn ddarganfod bod cosb eithafol am beidio dilyn yr hapusrwydd.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Hen Fenyw:[1]
    • Maggie Baiton
  • Iwtopwyr:[1]
    • Vikas Shorley
    • Maro Aguilar
    • Francisco Antonio Gimenez
    • Vincent Sais Berli
    • Anthony Hall
    • Vikas Shorley
    • Alain Gomez Villalonga
    • Victoria Sais Berlis
    • Beatriiz Bohorques Marchori
    • Roland Kouame
    • Eva Bas Moran
    • Judith Ejome
  • Dwbl y Doctor:[1]
    • Gareth Weekley
  • Menyw:[1]
    • Usha Patel
  • Gweithwyr yn Adeiladu Llong Ofod:[1]
    • Ayaisha Griffith
    • Michael Gleeson
    • Yuan Huang
    • Benedict Hurley
    • Richard Parry
    • Ying Qin
    • David Coleman
    • Helen Whitney
  • Gweithwyr yn Chwifio:[1]
    • Murray Johnston
    • Richard Michael
    • Jan Baker
  • Rheng Uwch:[1]
    • Alex Heavyside
    • Steve Phelps
    • Karen Poolman
    • Maurice Spring
  • Dwbl Praiseworthy:[1]
    • Isaac Martinez
  • Gwladfäwyr/Llu Drylliau:[1]
    • Tito Ogedengbe
    • Ankur Sengupta
    • Thomas Austin
    • Jacob Nwogu
    • Karen Murphy
    • Sarah Brazier
    • Tabitha Taya
    • Alicia Trolley
    • Sam Davies
    • Folasade Ariyibi
    • James Corning
  • Gwladfäwyr:[1]
    • Matthew Rohman
    • Garry George
    • Daniel Griffiths
    • Helena Dennis
    • Ozzy Diakiesse
    • Jack Anderson
    • Bridie Edwards
    • Jason Clarke
  • Dwbl Steadfast:[1]
    • Enrique Cases Belena
  • Dwbl Nate:[1]
    • Moussa Sanoh
  • Dyblau'r Llu Drylliau:[1]
    • David Diaby
    • Daniel Sanchez Sarrio
    • Andres Vallejo Rojas
    • Maria Perez Piquer
    • Led Thiam
    • Alvaro Hurtado
    • Rafael Martinez
    • Rocio Juarez
  • Gofalwr yr Eliffant:[1]
    • Sunny Ghosh

Cyfeiriadau[]

Iaith[]

  • Mae'r Emojibots yn siarad gan ddefyddio emojis. Mae'r emojis yn cynnwys:
    • 😃 – gwyneb gwenu
    • 😊 – gwyneb hapus
    • 💀 – penglog, arwydd y meirw
    • 😢 – gwyneb crio, un deigryn
    • 😭 – gwyneb crio, dau ddeigryn
    • 💡 – bwlb olau, yn dynodi syniad newydd
    • 😕 – gwyneb dryslyd
    • 😮 – gwyneb syndod
    • 😯 – gwyneb diddori
    • 😰 – gwyneb pryder
    • 😦 – gwyneb penbleth
    • 🤔 – gwyneb meddwl, hefyd yn gallu cael diferyn chwys
    • 😐 – gwyneb amheugar
    • 🤗 – gwyneb gwenu gyda breichiau agored
    • 😵 – gwyneb marwolaeth
    • 🔫 – ymosodiad
    • 😡 – dicter
    • 🗝 – allwedd, yn defnyddio cloion
    • ❓ – marc cwestiwn, yn dynodi drysedd, gall hefyd fod yn gwyneb gyda marc cwestiwn uwchben
    • ❗️ – Dynodi adnabyddiaeth
    • 👍 – bodiau i fyny, yn dynodi derbyniaeth
    • 💷 – punt sterling, yn dynodi diddordeb mewn enillion cyfalaf

Diwylliant[]

  • Dyweda'r Doctor fyddai'r gwladychwyr yn disgwyl Gardd Eden.
  • Mae'r Vardy wedi camgymryd alar fel gelyn hapusrwydd.
  • Mae'r Doctor yn adrodd stori'r "Hadog Hud".
  • Mae Bill yn gofyn os oes gan y Doctor "breichiau estynnol" fel Mister Fantastic.
  • Dyweda Bill bod Gliese fel Undeb Myfyriwyr cyn cyrhaeddiad y myfyrwyr.
  • Oherwydd derbyniodd Bill ond un bloc jeli, o'i gymharu â'r dau mae'r Doctor yn derbyn, mae Bill yn gofyn os oes rhywiaeth fwyd yn y dyfodol.
  • Mae'r Doctor yn sôn am arfer y Llychynnwyr o droi eu llongau ben i waered i'w defnyddio fel tai.
  • Mae'r record yn dangos hanes cyfan dynoliaeth i Bill.

Lleoliadau[]

  • Mae Bill yn awgrymu ymweld â Swydd Wilton neu Aberdeen.
  • Enw'r long ofod mae'r Doctor a Bill yn darganfod ar y blaned yw'r Erehwon. Y cwmni a bua'r Erehwon yw United Earth.

Rhywogaethau[]

  • Gall y Vardy bwyta rhwyogaethau eraill, ac gan adael esgyrn a phenglogau.
  • Mae'r Vardy yn ffurfio waliau'r adeilad trwy gydgysylltu gyda'i gilydd, ond mae modd iddynt gwahanu eu hun os oes angen.
  • Mae'r Doctor yn dynodi'r Vardies i fod yn "gwenynau gweithiol y Trydydd Chwyldro Diwydiannol".
  • Mae'r Doctor a Bill yn gweld eliffant ar yr Afon Tafwys rhewedig yn 1814.

Pobl[]

  • Mae'r Doctor yn rhoi'r enw "Mam" i Nardole, gan cyfeirio at y ffaith bod Nardole yn awdurdodol.
  • 00125-323458 oedd y menyw gyntaf i farw yn y wladfa.
  • Roedd 00125-35468 I a 00125-35468 II yn rhan o'r rhai gyntaf i farw yn y wladfa.
  • Yn ôl y Doctor, fe adnabodd ymerawdwr a oedd wedi'i wneud o algae, a oedd wedi ei ffansïo.
  • Mae Steadfast yn "MedTech One".

Technoleg[]

  • Yr Emojibots yw rhyngwyneb y Vardy.
  • Mae'r Doctor a Bill yn derbyn impadiau sain wrth gyrraedd y gwladfa. Mae'r Doctor yn galw rhain yn "thingamabobs".
  • Rhoddir bathodynnau teimladau i pob preswyliwr ac ymwelwydd.
  • Mae'r ffôn symudol Bill hefyd yn Ffôn camera, felly, mae modd iddi cymryd llun o'r map.
  • Mae'r wladychwyr yn aros am ailddeffroad ar yr Erehwon.
  • Mae gan yr Erewhon Injan Ymasiad Oer Fleishman.
  • Mae gan yr injan galorimedr Kelvin.

Anatomi a ffisioleg[]

  • Mae'r Doctor yn crybwyll ei system fasgwlar deuol, a dweud wrth Bill fod ganddo pwysedd gwaed uchel.
  • Mae'r Doctor yn dweud bod gan gwenu effaith seicolegol ar deimladau person.

Botaneg[]

  • Mae gan yr wladfa ros mair yn yr ardd. Mae arogl rhein yn atgoffa Bill o'i chartref.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae'r Doctor yn dweud bydd gan y wladfa lwyni olewydd a gwenith.
  • Gweinwyd y Doctor a Bill sgwariau o jeli algi, ac yn ôl Bill mae'n ddrewi o bysgod.

Gwyddoniaeth[]

  • Mae'r Doctor yn egluro achos mae'r gofod yn grom, mae'r Ddaear mewn pa bynnag cyfeiriad mae rhywyn yn dewis edrych ati.

Y TARDIS[]

  • Mae Bill yn gofyn pam yw cadeiriau y TARDIS mor bell wrth y consol.
  • Mae Bill yn gofyn os oes rhaid iddi gwisgo gwregys wrth hedfan.
  • Mae Bill yn gofyn os oes olwyn gyrru.
  • Mae Bill yn chwilfrydig am olwg allanol blwch heddlu'r TARDIS.
  • Yn ôl y Doctor, mae gan y TARDIS broadband, ac mae'n awgrymu dylai Bill treulio amser yn gwylio ffilm.

Nodiadau[]

  • Mae'r Doctor yn nodi bod yr Alban yn mynnu ar annibyniaeth ar bob planed maent yn mynd iddo. Yn nigwyddiadau byd go iawn, ar adeg darlledu'r episôd, roedd yr Alban unawith eto yn gofyn am annibyniaeth wrth y Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit.
  • Erehwon wedi'i troi yw "nowhere".

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.25 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.98 miliwn[2]

Cysylltiadau[]

  • Mae'r yn siarad am daith gyntaf Bill yn y TARDIS yn teithio ar ddraws y gofod ac amser. (TV: The Pilot)
  • Mae'r Doctor yn dweud fe ddwynodd y TARDIS. (TV: Logopolis, The Name of the Doctor, SAIN: The Beginning)
  • Mae Nardole yn atgoffa'r Doctor o'i addewid i beidio gadael y Ddaear. (TV: The Pilot)
  • Wrth weld y Doctor yn rhedeg, mae Bill unwaith eto yn galw'r Doctor yn " penguin â'i ben-ôl ar dân". (TV: The Pilot)
  • Mae'r Doctor yn hawlio bod y TARDIS yn cymryd pobl i le mae angen arnynt, nid i le ydynt eisiau mynd. (TV: The Doctor's Wife)
  • Mae'r Doctor yn cyfaddef mae'n twyllo wrth chwarae wyddbwyll er mwyn osgoi colli. (TV: Nightmare in Silver)
  • Mae Bill yn gofyn pam yw'r TARDIS yn flwch heddlu. (TV: Boom Town) Mae'n dweud mae'n deall mai "dyfeis cuddio". (TV: Doctor Who, The Pilot)
  • Mae Bill yn gweithio allan bod y Doctor yn hoffi'r arwydd blwch heddlu, o achos ei neges. Cyfaddodd y Seithfed Doctor i'r ffaith yma: "I like the shape. And the Motto. Call here for help. That's what I do. I let little children sleep safely at night because I've searched through all the shadows and chased the baddies away". (PRÔS: Love and War)
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn osgoi egluriad hir wrth ddweud "ddigwyddodd rhywbeth". (TV: The Husbands of River Song)
  • Mae benddelw o Nefertiti yn y long ofod. (TV: Dinosaurs on a Spaceship)
  • Mae'r Doctor yn gorchymyn Bill i beidio ddarllen ei hanes rhyngrwyd. (TV: The Zygon Inversion)
  • Mae Bill yn sôn am ddiffyg y Doctor i'w adael hi i weini sglodion. (The Pilot)
  • Mae Bill yn dweud bod y Doctor yn diwtor anhygoel. (TV: The Pilot)
  • Mae'r Doctor yn siarad am ei gyfarfodydd eraill gyda llongau gwladfa dynol, (TV: The Ark, The Beast Below, PRÔS: The Lost Generation) ac orsafoedd gyda wladychwyr mewn daliant cryogenig. (TV: The Ark in Space)
  • Mae'r Doctor unwaith o'r blaen wedi cyfarfod â gwladfa ddynol lle cafodd y pobl anhapus eu lladd. (TV: The Happiness Patrol)
  • Mae Doctor yn sôn am eisiau'r Alban am gael annibyniaeth pobman maent yn mynd i, fel yr adeg roedden nhw eisiau llong gwahanol wrth Starship UK. (TV: The Beast Below)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd Smile gyda gweddil episodau Cyfres 10 ar DVD, Blu-ray a Steelbook ar 13 Tachwedd 2017 fel Doctor Who: The Complete Tenth Series.

Troednodau[]

Advertisement