Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Sphere of Freedom oedd y stori gyntaf yn y flodeugerdd sain Ravagers, wedi'i chynhyrchu gan Big Finish. Nicholas Briggs ysgrifennodd y stori a gynhwysodd Christopher Eccleston fel y Nawfed Doctor, Camilla Beeput fel Nova, a Jayne McKenna fel Audrey. Dynododd y stori yma dychweliad Eccleston i rôl y Nawfed Doctor mewn unryw gyfrwng ers ei ymddangosiad ar sgrîn olaf ers The Parting of the Ways bron 16 mlynedd ynghynt.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Ar y Sffêr Rhyddid, mae'r Doctor bron a chau ymerodraeth ddryglawn gemau ymgladdol (immersive). Mae wedi'i gynorthwyyo gan coginydd galonnog, Nova. Ond mae ei gynllyn enfawr yn gamp o fethiant... A phwy yn union yw Audrey?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Christopher Eccleston
  • Nova - Camilla Beeput
  • Farraday - Ben Lee
  • Audrey - Jayne McKenna
  • Halloran - Jamie Parker
  • Marcus Aurelius Gallius - Dan Starkey

Cyfeiriadau[]

  • Mae Mynedfa 429BW tua bloc i ffwrdd wrth Sqwâr Rhyddid.
  • Mae'r Doctor yn hoff o emau realiti ymgladdol.
  • Mae'r Doctor yn hoff o'r gêm Geraldo's World
  • Mae well gan Nova Fideos 2D.
  • Mae Nova yn gogydd rhyngalaethol, ffoadur ddynol wrth y wladfeydd allanol.
  • Dyweda'r Doctor "Brave new world, that has such people in it", dyfyniad wrth ddrama Shakespeare, The Tempest

Nodiadau[]

  • Cafodd y stori yma ei recordio yn anghysbell yn ystod 2020.
  • Mae fersiynnau CD a lawrlwythiad y stori yma wedi'u cyflwyno fel stori un rhan, tra mae'r fersiwn finyl wedi'i rhannu'n ddwy ran.
  • Nid yw plot y stori yma yn digwydd mewn trefn cronolegol; mae'r stori wedi'i chyflwyno fel y Doctor yn adrodd beth digwyddodd wrth Audrey.

Cysylltiadau[]

  • Mae modd i'r Doctor siarad Lladin i'r Rhufeiniaid diolch i cylchedi cyfieithu'r TARDIS. Yn hwyrach, byddai fe'n defnyddio'r abl yma i gyfathrebu â phobl Pompeii wrth dywys Donna Noble yno yn ei Degfed ymgorfforiad. (TV: The Fires of Pompeii)

Dolenni allanol[]