State of Decay oedd pedwerydd stori Hen Gyfres 18 Doctor Who. Dyma ail stori y tairawd Gofod-E. Seiliwyd y stori ar sgript gan Terrance Dicks o dair mlynedd yn gynharach.
Gwelodd cyfarwyddwr Peter Moffatt y sgript gwreiddiol am State of Decay, ac yn union fel rhagdybiodd Nathan-Turner, fe garodd y sgript. Ond, pan dderbyniodd y sgript ar ôl i Bidmead ei addasu, fe deimlodd roedd y sgript yn hollol wahanol. Diflanodd awyrgylch gothig y fersiwn gwreiddiol, rhywbeth a ddeniodd ef i'r fersiwn gwreiddiol. O ganlyniad, dywedodd Moffat wrth Nathan-Turner nad oedd ef eisiau cyfarwyddo'r stori rhagor, ac felly er mwyn cael Moffat i gwblhau'r stori defnyddiwyd y fersiwn gwreiddiol. (DOC: The Vampire Lovers)
Yn rhyfeddol, mae tair fersiwn o'r stori yma ar gael: yr un yma, addasiad sain, a nofeleiddiad Target.
Yn 2020, daeth State of Decay yn rhan o stori Time Lord Victorious.
Crynodeb[]
Dal yn sownd yn Gofod-E, mae TARDIS y Doctor yn glanio ar blaned canoloesol. Mae'r pentrefwyr yn byw yn ofni'r Tri Rheolwyr, gydan nhw yn rheoli wrth eu castell. Trwy archwilio i'r tri, mae'r Pedwerydd Doctor yn darganfod maent yn astronotiaid hynafol a ddaeth yn fampiriaid amser maith yn ôl, a mewn gwirionedd, eu castell oedd eu roced.
Pan gaiff Romana II ac Adric eu herwgipio, bydd rhaid i'r Doctor gweithio gyda grŵp o bendrefwyr anfadol er mwyn atal atgyfodiad yn o elynion gwaethaf Galiffrei: Brenin y Fampir.
Plot[]
Rhan un[]
I'w hychwanegu.
Rhan dau[]
I'w hychwanegu.
Rhan tri[]
I'w hychwanegu.
Rhan pedwar[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Tom Baker
- Romana - Lalla Ward
- Llais K9 - John Leeson
- Adric - Matthew Waterhouse
- Aukon - Emrys James
- Camilla - Rachel Davies
- Zargo - William Lindsay
- Ivo - Clinton Greyn
- Marta - Rhoda Lewis
- Tarak - Thane Bettany
- Habris - Iain Rattray
- Kalmar - Arthur Hewlett
- Veros - Stacy Davies
- Karl - Dean Allen
- Roga - Stuart Fell
- Zoldaz - Stuart Blake
Cast di-glod[]
|
|
Cast[]
- Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Lynn Richards
- Gwisgoedd - Amy Roberts
- Cynorthwyydd Cyfarwyddo - Jane Wellesley
- Dylunydd - Christine Ruscoe
- Cynhyrchydd gweithredol - Barry Letts
- Trefnydd brwydro - Stuart Fell
- Dyn camera ffilm - Fintan Sheehan
- Golygydd ffilm - John Lee
- Sain ffilm - Bryan Showell
- Cerddoriaeth achlysurol - Paddy Kingsland
- Colur - Norma Hill
- Cynhyrchydd - John Nathan-Turner
- Cynorthwyydd cynhyrchu - Rosalind Wolfes
- Rheolwr cynhyrchu uned - [[Angela Smith
- Golygydd sgript - Christopher H. Bidmead
- Hŷn dyn camera - Alec Wheal
- Sain arbennig - Dick Mills
- Goleuo stiwdio - Bert Postlewaite
- Sain stiwdio - John Howell
- Rheolydd technegol - Errol Ryan
- Trefniant thema - Peter Howell
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Effeithiau fideo - Dave Chapman
- Golygydd fideo - Rod Waldron
- Cymysgydd lluniau - Carol Johnson
- Dylunydd effeithiau gweledol - Tony Harding
- Awdur - Terrance Dicks
Cyfeiriadau[]
Anifeiliaid[]
- Mae ystlumod yn gweithio am Brenin y Fampir ac yn cnoi pobl. Meddyliodd y Doctor na fyddent yn beryglus.
- Wrth ddysgu nad yw Hydrax eisioes yn gweithio, mae'r Doctor yn nodi ei fod "mor farw â deinosor".
Cyfeiriau diwylliannol o'r byd go iawn[]
- Creda'r Doctor bod y tŵr yn debyg i steil Rococo.
- Mae'r Doctor yn siarad am y Brodyr Grimm (gyda Romana yn cyfarwydd gydan nhw), gan sôn am sut nad oeddent wedi ond ystrifennu storïau, ond darganfodon nhw deddf mudiad cytseiniaid hefyd, yn esbonio sut mae enwau yn newid dros amser (seiniau caled yn troi'n feddal, megis 'b' yn newid i 'f'...). Ac felly mae hon yn egluro sut newidodd "Sharkey" i "Zargo", "MacMillan" i "Camilla", ac "O'Connor" i "Aukon".
- Mae'r Doctor yn dyfynu Henry V i ysbrydoli'r gwrthryfelwyr: "Lack of Weapons. No Experience. Odds almost insurmountable. But! He who outlives this day and comes safe home shall stand a-tiptoe when this day is named and rouse him at the name of E-space!"
Bwydydd a diodydd[]
- Yfwyd gwin ar y blaned.
- Nid yw'r pobl lleol yn gyfarwydd â chaws. (Er mae modd gweld caws ymysg y bwydydd cynnigwyd i'r Doctor a Romana yn y castell)
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Romana, "unwaith roedd hen feudwy yn mynydoedd De Galiffrei..." ag oedd arfer dweud storïau arswyd iddo, gan gynnwyd un am Brenin y Fampir.
TARDIS[]
- Mae K9 Marc II yn gosod cyfesurennau'r TARDIS ac mae modd iddo agor y drysau o tu fewn y TARDIS.
- Mae Record Rassilon ar gerdiau magnetig yn TARDISau Math 40. Arno, mae gwybodaeth ar adeiladiad a defnydd llongau-fwa.
Galiffrei[]
- Roedd Romana arfer gweithio yn Biwrô Recordiau Hynafol, ac unwaith gwelodd hi cyfeiriad at Record Rassilon.
Unigolion[]
- Defnyddiodd Brenin y Fampir y swyddog gwyddoniaeth Anthony O'Connor i dynnu'r Hydrax trwyddo i Ofod-E.
Planedau[]
- Yn ôl egnïeg cymdeithasol, mae'r blaned yma wedi'i mesur fel lefel 2 o ganlyniad i'w chyflwr "canoloesol".
Llongau ofod[]
- Cafodd y llong Ddaearol, Hydrax, ei thynnu trwy EGG i mewn i Ofod-E gan Frenin y Fampir, tra roedd y llong ar y ffordd i Feta Dau yn y Sector Perugellis.
- Rassilon creodd llongau-fwa a saethodd saethau haearn i ladd fampiriaid.
Technoleg[]
- Ymysg technoleg pencadlys y gwrthryfelwyr, mae walkie talkies a sganiwr awyrgylch yn defnyddio'r is-goch a phelydrau-x.
Fampiriaid[]
- Mae gan gof K9 chwedlau fampir wrth 17 planed wahanol.
- Mae cyfarwyddeb (wrth Rassilon) yn dynodi bod y fampiriaid yn "gelynion ein pobl, a phopeth arall byw".
- Mae system gylchredol fampir yn gymhleth iawn; mae ond modd eu lladd trwy bwyad i'r calon.
- Lladdwyd pob fampir ond un (Brenin y Fampir) yn rhyfel Rassilon yn erbyn y Fampir.
- Hypnoteiddiodd Brenin y Fampir y Dri Rheolwr gan roi'r pŵer o reolaeth ymenydd iddynt, yn enwedig i Aukon.
Nodiadau[]
- Mae'r gwerinwyr yn y stori yma yn rhoi saliwt cymhleth i'w arglwyddi, gan guddio eu llygaid, clustiau a chegau. Mae hon yn gyfeiriad at y Tair Mwnci Doeth, "See no evil, hear no evil, speak no evil."
- Pan dderbynodd Peter Moffatt y sgript addasodd Bidmead, fe orchmynodd y sgript gwreiddiol nôl, yn honni collodd y sgript ei hawyrgylch Gothig. Rhodd Nathan-Turner y sgript gwreiddiol iddo, gyda Moffatt yn cynhyrchu honno.
- Am yr unig tro yn ei gyfnod fel y Doctor, roedd rhaid i Tom Baker cyrlio ei wallt cyn ffilmio; o ganlyniad i'w salwch collodd ei wallt ei gyrliau naturiol.
- Dyma'r stori gyntaf ffilmiodd Matthew Waterhouse.
- Roedd Terrance Dicks a Peter Moffatt yn gyferbynnu gyda Christopher H. Bidmead. Roedd y ddau eisiau pwysleisio agweddau arswydus y stori, tra gredodd y llall roedd y stori yn erbyn ei ongl ffuglen gwyddonol.
- Darganfododd Peter Moffatt roedd Tom Baker yn frwydrol iawn, gan eisiau cyfarwyddo'r cynhyrchiad ei hun. Yn y pen draw, fe aeth gyda Baker am ddiod a dywedodd wrtho tra roedd ef yn dderbyniol o awgrymiadau wrth actorion, ar ddiwedd y dydd fe oedd y cyfarwyddwr a Baker oedd yr actor a fe ddylai parchu'r ffaith hynny. Yn dilyn eu trafodaeth, ffeindiodd Moffat roedd Baker llawer mwy cydweithiol.
- Ystyriwyd Peter Arne, Colin Baker, Steven Berkoff, John Carson, David Collings, Peter Gilmore, Michael Gothard, John Hallam, Donald Houston, Martin Jarvis, Michael Jayston, Ronald Lacey, William Lucas, Ian McKellen, John Normington, Patrick Stewart, Anthony Valentine, Peter Vaughan, David Warner a Peter Wyngarde am Aukon.
- Mewn sawl drafft, disgrifiwyd y meudwy a ddywedodd wrth y Doctor am Frenin y Fampir fel hen fenyw.
- Dileuwyd is-blot wrth y sgript a fyddai'n gweld y pentrefwyr yn crwydro'r coed gyda'r nos fel sombîs a byddai pentrefwyr anfadol yn cael eu darganfod gyda marciau cnoi ar eu gyddfau.
- Enwodd Lalla Ward a Matthew Waterhouse y stori yma fel eu hoff un.
- Stryffaglodd Terrance Dicks dod o hyd i bwrpas am Adric, ac yn y pendraw fe benderfynodd chwarae ar dueddion drwgdybus y cymeriad i achosi'r gwylwyr i gredu mai cefnogi'r gelynion oedd ef. Ond, o ganlyniad i hon, penderfynodd John Nathan-Turner a Christopher H. Bidmead dad-bwysleisio efennau negyddol cymeriad Adric, ac felly cafodd elfen yma'r sgript ei gwannu.
- Roedd enw Camilla yn gwrogi'r stori Carmilla yn 1872 gan Joseph Sheridan Le Fanu; yn wir, enw gwreiddiol y cymeriad oedd Karmilla.
- Enwau gwreiddiol Aukon a Habris oedd Mikos a Harkan yn eu tro.
- Nid oedd Tom Baker na Lalla Ward yn siarad yn dilyn gwrthod Ward ceisiadau Baker i ailgynnau eu rhamant wythnosau'n gynt. Cafodd y ddau eu huno trwy eu hanhoffter am Matthew Waterhouse. Cafodd Waterhouse ei ddychryn gan y ddau, tra feddyliodd y ddau ohonynt roedd ef yn angharedig ac yn amharchus ar adegau, yn gwrthod dilyn cyfarwyddiadau aelodau'r cast a chriw gyda llawer mwy o brofiad nag ef. Yn dilyn hon, dechreuodd Ward a Baker eu rhamant cyn cyhoeddi eu dyweddïad.
- Yn ôl John Nathan-Turner, roedd salwch Tom Baker y gwaethaf yn ystof ffilmio'r stori yma a fe wrthododd mynd i weld ddoctor. Honnodd Turner mae'n clir yn gweld pa olygfeydd cafodd eu recordio yn y sesiwn gyntaf a pha rai cafodd eu recordio yn yr ail trwy ymddangosiad Baker. Dioddefodd Baker colled pwysau dramatig a llaciodd ei wallt cyrliog. Defnyddiwyd cyrlwyr ar wallt Baker, ond sythodd ei wallt mewn deg munud. Yn y pendraw, cafodd Baker triniaeth megyddol, a ddarganfuwyd roedd ganddo anhwylder metaboledd; yn dilyn ei ddiagnosis, dechreuodd Baker adfer.
- Yn ôl Lalla Ward, roedd Matthew Waterhouse yn anghwrtias i ddylunydd gwisgoedd, Amy Roberts, achos ni gadawodd hi iddo fynd i'r cantîn yn ei wisg, gan achosi Ward i ymyrru.
- Ceisiodd Matthew Waterhouse cyflwyno ei hun i Tom Baker mewn tafarn gan aros iddo dod ato. Ar ôl dwy awr, aeth Waterhouse draw iddo gan cael ei ddweud i "p*** off". Yn ôl Peter Moffatt, nid oedd gan Waterhouse unryw adnabyddiaeth am dechnegau camera o gwbl a fe wnaeth y camgymeriad eithafol o gynhori Baker ar sut i ddweud llinell. Bron bu Baker yn pwno'r actor a roedd rhaid i Moffatt rhoi stŵr i Waterhouse.
- Cofiodd Peter Moffatt gofyn i Tom Baker os fyddai modd iddo rhoi cymorth i Lalla Ward yng ngolygfa yr ystafell injan, ac ymatebodd Baker, "Pam, ai efrydd yw hi?"
- Darluniodd yn olygfa roedd gwaed las gan y Doctor. Ond, mewn storïau eraill, dangoswyd mai waed goch oedd ganddo.
- Roedd bwriad gwreiddiol o gael actor mewn gwisg fel ystlum ar gyfer Brenin y Fampir, ond pan profodd hon yn fethiant, defnyddiwyd pyped yn lle.
- Roedd ceisiadau Christine Ruscoe i bortreadu'r setiau fel cael eu creu wrth fetalau hynafol, ond edrychodd rhein fel pren ar gamera, yn gwrthgyferbynnu cais Christopher H. Bidmead i gryfhau elfennau ffuglen gwyddonol y naratif.
- Dewisodd John Nathan-Turner, Peter Moffatt i gyfarwyddo'r stori, yn dilyn gweithio gydag ef ar All Creatures Great and Small.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Rhan un - 5.8 miliwn
- Rhan dau - 5.3 miliwn
- Rhan tri - 4.4 miliwn
- Rhan pedwar - 5.4 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae rhywbeth yn digwydd yn fuan ar ôl y stori yma. (PRÔS: The Eight Doctors)
- Wedi'i hystyried fel olyniad i'r stori yma, mae PRÔS: Blood Harvest wedi'i gosod ar yr un planed sawl mlynedd yn dilyn digwyddiadau'r stori yma. Mae PRÔS: Goth Opera yn parhau'r themâu gwelwyd yn y stori yma a Blood Harvest, ynghyd PRÔS: Vampire Science.
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at feudwy. (TV: The Time Monster, Planet of the Spiders)
- Yn flaenorol, cwrddodd y Doctor a Romana â fampir arall, Zoltán Frid, yn Budapest, Hwngari yn 1980. (SAIN: The Labyrinth of Buda Castle)
- Wedyn, bydd Adric yn darllen y nofel Dracula fel byddai yn fwy parod rhag ofn iddo gwrdd mwy o fampiriaid. (SAIN: Zaltys)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd State of Decay ar set bocs ynghyf Full Circle a Warriors' Gate o dan yr enw The E-Space Trilogy ar 26 Ionawr 2009.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Matthew Waterhouse, cyfarwyddwr Peter Moffatt, ac awdur Terrence Dicks.
- The Vampire Lovers - Cynhyrchiad State of Decay yn cynnwys Lalla Ward, John Leeson, Clinton Greyn, a golygydd sgript Christopher H. Bidmead, a dylunydd Christine Ruscoe.
- Film Trimms - clipiau ffilmio effeithiau modelau.
- Leaves of Blood - hanes llenyddiaeth fampiriaid gan gynnwys awduron Ramsey Campbell, Stephen Gallagher, Kim Newman a Simon Clark.
- The Blood Show - defnydd ac ystyr gwaed yn niwylliant a chymdeithas
- The Frayling Reading - Syr Christopher Frayling yn dehongli'r stori a chyfeiriau tuag at fampiriaid yn ffuglen
- Sain achlysurol
- Oriel
- Rhestrau Radio Times
Rhyddhadau Blu-ray[]
- Rhyddhawyd State of Decay yn rhan o saith stori cynhwyswyd yn rhan o Time Lord Victorious: Road to the Dark Times.
- Rhyddhawyd y stori gyda gweddill Hen Gyfres 18 yn rhan o Doctor Who: The Collection - Season 18 ar 18 Mawrth 2019 (DU), ar 19 Mawrth 2019 (UDA), ac ar 17 Ebrill 2019.
cynnwys:
- Sylwebaeth sain newydd wrth Lalla Ward a Rachel Davies wedi'u cymedrolu gan Matthew Sweet
- Sylwebaeth sain 2009 gyda Matthew Waterhouse, Terrance Dicks, a Peter Moffatt
- Testun gwybodaeth
- Trac sain wedi'i ynysu
- Rhaglen dogfen cynhyrchu - gyda Lalla Ward, John Leeson, Terrance Dicks, Peter Moffatt, Christopher H. Bidmead, Clinton Greyn, a Christine Ruscoe
- Behind the Sofa
- Film Trims - clipiau wrth recordiadau modelau
- Adroddiad BBC - priodas Tom Baker a Lalla Ward ar 13/12/1980
- Cyhoeddiadau parhad BBC1
- Pickwick Audiobook
- Oriel
- Archif PDF
- Featurettes - Leaves of Blood, The Blood Show, a The Frayling Reading.
Rhyddhadau VHS[]
- Rhyddhawyd State of Decay ar fideo gan BBC Worldwide yn rhan o set bocs yn cynnwys Full Circle a Warriors' Gate ar 26 Ionawr 2009.
|