Cynhwysodd Torchwood Magazine cyfres gomig deilliedig Torchwood eu hun, yn debyg i gyfres gomig Doctor Who Magazine. Ysgrifennwyd storïau comig Torchwood ar gyfer grŵp oedran gyflun i'r cyfres teledu gan oeddent yn cynnwys themau oedolion.
I ddathlu ailadroddiad yr ail gyfres o Torchwood ar y sianel PrydeinigWatch, comisiynodd Torchwood Magazine comig newydd am eu gwefan.
Ym Mis Awst 2010, cychwynodd Titan Publishing GroupTorchwood The Official Comic, sy'n dilyn y gyfres gomig Rift War!
Yn nodedig i'r cyfres yw'r ffaith bod John Barrowman (Jack Harkness) a Gareth David-Lloyd (Ianto Jones) wedi cyfrannu storïau eu hun, gyda Barrowan yn cyd-ysgrifennu Captain Jack and the Selkie, a David-Lloyd yn ysgrifennu Shrouded. Yn y ddau achos mae eu cymeriadau priodol yn arwain y storïau. Yr unig achos arall o hyn yn digwydd yw Colin Baker (y Chweched Doctor) yn cyd-ysgrifennu'r nofel graffig The Age of Chaos