The Ark in Space (Cy: Arch y Gofod) oedd ail stori Hen Gyfres 12 Doctor Who. Hon oedd stori gyntaf llawn ôl-adfywiol y Pedwerydd Doctor. Cyflawnodd y stori cliffhanger gwan ar ddiwedd y stori blaenorol, Robot, gan ddangos beth ddigwyddodd ar ôl i Harry Sullivan cael mynediad i'r blwch heddu yn labordy UNIT. Yn nodedig hefyd, cyflwynodd y stori'r Gloeufa Nerva, lleoliad a fydd yn craidd i naratif y gyfres.
Roedd gan The Ark in Space proses sgriptio gwyrgam, gan fynd trwy ddau awdur cyn cael ei derbynio. Ceisiodd a methodd Christopher Langley a John Lucarotti i ysgrifennu sgript am long ofod ar gyfer hen gyfres 12. O'r dau, daeth Lucarotti yr agosaf, ond achos bu fyw Lucarotti ar gwch yng nghanol y Môr Canoldir - gyda streic yng ngwasanaeth post Corsica hefyd - nid oedd modd i'r golygydd sgript, Robert Holmes, cyfathrebu gyda fe. Talwyd John Lucarotti yn llawn am ei waith, gyda Robert Holmes yn ail-ysgrifennu'r stori llawn trwy gadw elfennau craidd y stori'n unig. (GWY: The Ark in Space)
Serch y dechreuad lletchwith, mae'r stori wedi derbyn clôd wrth staff cynhyrchu BBC Wales. Enwodd Russell T Davies The Ark in Space fel ei hoff stori o fersiwn 1963 y sioe, (DOC: Inside the World of Doctor Who) a nododd Steven Moffat y stori fel stori goreuaf y Pedwerydd Doctor, (CYF: DWM 457) tra datgelodd Barnaby Edwards roedd yn ofnus iawn o'r Wirrn fel plentyn. (CON: Do You Remeber the First Time?) Cadarnhaodd Tom Baker hefyd taw The Ark in Space oedd ei hoff stori allan o bob un ffilmiodd ef.
Roedd y stori yn boblogaidd gyda chynulleifaoedd cyfoesog hefyd. Rhan dau oedd y rhaglen gwyliwyd pumed mwyaf yr wythnos hwnnw, gan ei osod fel yr episôd i rhestri'n uchaf o fersiwn gwreiddiol y sioe. Cadwodd y stori y teitl hon nes darllediad Voyage of the Damned, a wnaeth ennill yr ail rhan ar y rhestr.
O safbwynt cynhyrchu, hon oedd y stori gyntaf i'w gynhyrchu gan Philip Hinchliffe, y cynhyrchydd newydd, ar ôl i Barry Letts gadael y sioe. Bu Hinchliffe yn sefydlu dull newydd, tywyllach mwy "Gothig" o adrodd storïau yn ystod ei cyfnod ar Doctor Who, er roedd y stori hon yn pwyso mwy i'r ochr 'opera arswyd y gofod' a ddaeth yn poblogaith yn hwyrach gyda ffilmiau fel Alien.
Crynodeb[]
Mae'r TARDIS yn glanio ar orsaf ofod sydd yn cylchdroi o gwnpas y Ddaear yn y dyfodol pell. I bob golwg, mae'n wag ond mae'r Doctor, Sarah a Harry nid ydynt ar eu pen eu hyn. Mae miloedd o bobl wedi'u rhewi'n cryogenig. Yn y gyfamser, mae'r llong ofod wedi'i drechu. Mae rhywogeth estronol o baraseitiau, y Wirrn, wedi cymryd rheolaeth, ac maent yn bygwth dyfodol dynoliaeth.
Plot[]
Rhan Un[]
I'w hychwanegu.
Rhan Dau[]
I'w hychwanegu.
Rhan Tri[]
I'w hychwanegu.
Rhan Pedwar[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Tom Baker
- Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
- Harry Sullivan - Ian Marter
- Llais yr Uwch Weinidog - Gladys Spencer
- Lleisiau - Peter Tuddenham
- Vira - Wendy Williams
- Noah - Kenton Moore
- Libri - Christopher Masters
- Lycett - John Gregg
- Rogin - Richardson Morgan
- Gweithredwyr yr Wirrn - Stuart Fell, Nick Hobbs
Cast di-glod[]
Criw[]
- Awdur - Robert Holmes
- Cynorthwyyd cynhyrchu - Marion McDougall
- Rheolwr uned cynhyrchu - George Gallaccio
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Dilyniant teitl - Bernard Lodge
- Cerddoriaeth achlysurol - Dudley Simpson
- Sain arbennig - Dick Mills
- Dylunwyr effeithiau gweledol - John Friedlander, Tony Oxley
- Gwisgoedd - Barbara Kidd
- Colur - Sylvia James
- Goleuo - Nigel Wright
- Sain - John Lloyd
- Dylunydd - Roger Murray-Leach
- Cynhyrchydd - Philip Hinchliffe
- Cyfarwyddwr - Rodney Bennett
Criw di-glod[]
- Rheolwr technegol - Tommy Dawson[2]
- Cynorthwywyr colur - Maria Livesey, Len O'Gorman[2]
- Prynwr props - Brian Read[2]
- Cynorthwyydd y cyfarwyddwr - Pauline Silcock[2]
- Dylunydd cynorthwyol - Shelagh Lawson[2]
- Ysgrifenydd cynhyrchu - Sarah Newman[2]
Cyfeiriadau[]
Unigolion[]
- Mae'r Doctor yn dweud gweuodd Madame Nostradamus ei sgarff.
- Mae Harry yn galw'r Doctor yn "boffin".
- Mae Harry yn siarad am Pompey Barracks.
- Mae'r Doctor yn dyfynu Henry IV - "Discretion being the greater part of valour"
Bwydydd a diodydd[]
- Mae'r Doctor yn cadw brandi yn ei TARDIS. Mae Sarah yn casáu brandi.
- Cyn cael ei drawsfatio i'r Ddaear, mae'r Doctor yn rhoi bag o Jelly Babies i Vira.
Rhywogaethau[]
- Mae modd i ysgyfaint Wirrn troi carbon deuocsid yn ocsigen.
- Mae'r Doctor yn sôn am y genws Eumenes o gacynod, sydd yn gallu chwistrellu eu larfa i mewn i lyndys.
Gwyddoniaeth[]
- Mae gan y Wirrn diddordeb mewn amsugno gwybodaeth ddynol gan gynnwys mecaneg cwantwm.
Nodiadau[]
- Teitl gweithredol y stori oedd Ark in Space (heb "The"). Hon hefyd oedd y teitl defnyddiodd Radio Times am yr ail-ddarllediad crynhoadol o 69 munud ar 20 Awst 1975. Defnyddiodd rhyddhad VHS Awstralia y stori yn Ionawr 1989 y teitl hon hefyd.
- Yn rhan un y stori, lliwiwyd teitlau agoriadol y stori yn binc a gwyrdd, gan ei gwneud i ymddangos yn frown yn lle'r glas arferol (mae golau top y TARDIS yn frown hefyd). Ni ddefnyddiwyd y lliwiad hyn byth eto.
- Ail-ddefnyddiwyd setiau'r stori am Revenge of the Cybermen
- Mae gan y stori gyfan cynhebygaeth i ffilm Ridley Scott, Alien a gafodd ei rhyddhau yn 1979.
- Mae Vira yn siarad am hyn ond unwaith, ond mae enw "Noah" yn jôc am ei rôl ar Nerva; ei enw go iawn yw Lazar.
- Ar wahan i'r extra, Brian Jacobs, yn rôl y technegydd Dune, a dau artist llais, Gladys Spencer a Peter Tuddenham, nid yw neb ond y cast rheolaidd yn ymddangos yn rhan un. Ni ddygwyddodd hon ers The Edge of Destruction yng nghyfres cyntaf y sioe, ac ni fydd hon yn digwydd byth eto.
- Ysgrifennwyd Vira i fod yn groenddu, ac effallai o Haiti, ond newidodd y cyfarwyddwr y ffaith hon.
- Ysgrifennodd John Lucarotti y stori, a chafodd ei dalu am ei waith. Serch hynny, bu rhaid i Robert Holmes gwneud adolygadau trwm i'r sgript ac felly derbyniodd y credyd ar sgrîn. Cynhwysodd sgript Lucarotti Arch, Daear diffeithlyd, pobl ag or-gysgodd ac estronwyr wnaeth gorescynu'r Arch yn y cyfamser. Roedd gahaniaethau yncynnwys rhywogaeth yr estronwyr a'r ffaith bwriadodd y Doctor i fynt i'r Arch. Roedd gan estronwyr Lucarotti, wedi'u henwi y Delc, yr abl i ddyblu eu hyn ar unwaith. Byddai hyn yn bedweydd sgript Lucarotti ar y sioe, a'i gyntaf ers cyfnod William Hartnell.
- Darparodd John Lucarotti teitlau unigol i'r episodau, heb sylweddoli peidiodd yr ymarfer hon gyda The Gunfighters. Enwyd yr episodau "Buttercups", "Puffball", "Camellias" a "Golfball".
- Credydwyd Elisabeth Sladen fel "Sarah Jane" yn Radio Times am Ran Dau.
- Credydwyd Gladys Spencer gyda Peter Tuddenham am "Lleisiau" yn rhan un, ac fel "Llais yr Uwch Weinidog" am Ran Tri.
- Ni dderbyniodd Christopher Masters (Libri), John Gregg (Lycett), na Peter Tuddenham (Llais) credyd yn fersiwn byrrach y stori, er dderbynion nhw credyd yn rhestriad Radio Times. Torrwyd Gladys Spencer (Llais yr Uwch Weinidog) o'r rhaglen cyfan. Cyfeiliwyd y rhestriad Radio Times gyda darlun du a gwyn gan Frank Bellamy yn darlunio'r Doctor, Llong gofod Nerva, Wirrn, ac un o baledi y siambr cryogenig, gydag is-deitl o "Dr. Who (Tom Baker) explores the intergalactic threat to the human survivors aboard the Ark in Space: 6.25".
- Hon yw'r stori olaf i gyflwyno cynhyrchydd newydd sydd ddmi yn stori agoriadol cyfres.
- Yn gwreiddiol, roedd golygfa ar rannau olaf heintiad y Wirrn lle holltwyd pen Noah yn llawn goo asidig. Gollyngwyd y stori achos roedd y golygfa yn rhy graffig. Mae adroddiadau cyferbyniol os ffilmiwyd y golygfa o gwbl, ac os ffilmiwyd y golygfa, mae ar goll.
- Ffilmiwyd olygfa lle mae Noah yn erfyn i Vira i'w ladd er mwyn gorffen ei boen, ond dewisodd Robert Holmes i'w ollwng gan roedd yr olygfa yn rhy dywyll. Mae'r olygfa yn yr episôd yn torri o olwg o'r Doctor yn edrych ymlaen i olwg o Noah yn edrych yn anghyflyrus wrth wgio mewn ystafell gwahanol, gyda'r drwas ar gau heb esboniad o sut dihangon nhw wrth Noah. Roedd KKentom Moore, actor Noah, yn gaclwm torrwyd yr olygfa gan mi roedd yn hanfodol i'r stori. Mae'r golyfa ar goll.
- Yn y sgript gwreiddiol, argaeodd rhan pedwar gyda'r Wirrn yn teithio bant i'r gofod, wedi'u arwain i ffwrdd wrth Long Ofod Nerva gan Noah - diweddglo ysgrifennodd Robert Holmes er mwyn cael secwel posib i'r stori. Ond, ofnodd y BBC byddai fföad y Wirrn yn brawychu gwylwyr ifanc, yn gorfodi Holmes i eu lladd.
- Meddyliodd Robert Holmes edrychodd y Wirrn fel "hen Muppet".
- Ail-ddarlledwyd y stori ar BBC Four, yn ran o'u cyfres "Science Fiction Britannia" yn 2006. Darlledwyd rhannau un a dau ar 27 Tachwedd, a rhannau tri a phedwar ar 4 Rhagfyr.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Rhan un - 9.4 miliwn
- Rhan dau - 13.6 miliwn
- Rhan tri - 11.2 miliwn
- Rhan pedwar - 10.2 miliwn
Lleoliadau ffilmio[]
- BBC Television Centre (Stiwdios 1 & 3), Llundain
Cysylltiadau[]
- The Ark in Space yw'r rhan gyntaf mewn cyfres fach ar y Goleufa Nerva heb y TARDIS, yn ddechrau gyda The Ark in Space, cyn parhau trwy TV: The Sontaran Experiment, TV: Genesis of the Daleks a PRÔS: A Device of Death, a wedyn gorffen yn TV: Revenge of the Cybermen, wedi'i osod ar y Goleufa Nerva yn cynharach. Bydd y Doctor yn dychwelyd i'r Goleua Nerva gyda Leela. (SAIN: Destination: Nerva)
- Mae PRÔS: Placebo Effect yn cynnwys y Wirrn ac yn arddangos eu hanes a'u seicoleg yn bellach.
- Mae SAIN: Wirrn Dawn wedi'i osod yn ystod y rhyfel rhwng Dyn a'r Wirrn.
- Mae TV: The Beast Below wedi'i osod yn ystod yr un cyfnod o ffoi'r Ddaear, gan mae'r episôd yn esbonio lawnsiodd Starship UK yn fuan cyn bwrwodd y fflêri solar. Mae'r llong wladfaol Erewhon yn TV: Smile o'r cyfnod hyn hefyd. Mae'r Deuddegfed Doctor yn sôn am cwrdd â llongau eraill o'r gwacâd, a pan mae'r gwladfawyr yn codi, Nate yw'r cyntaf i gwrdd y Doctor a Bill, gan ddisgrifio ei hun fel "MedTech".
- Yn ôl SAIN: Wirrn Dawn, dechreuodd y broses o ailwladychu yn 16087. Erbyn 16127, enw'r brif sefydliaeth oedd Nerva City. Adeiladwyd ar hen sefyllfan Dinas Efrog Newydd.
- Mae'r Doctor yn siarad am hen gred y sipsiwn bod y llygaid yn cadw'r golwg olaf cyn marwolaeth achos mae cof y Wirrn yn aros yn eu hymenydd ar ôl marwolaeth, ar gael i'w gwylio'n hwyrach. Byddai unarddegfed ymgorfforiad y Doctor yn gweld synolygfa a fyddai'n gwireddu'r goelgred. (TV: The Crimson Horror)
- Mae'r Doctor yn profi disgyrchiant yr Arch trwy chwarae gyda ioio, ac yn barnu oedran y dechnoleg wrth archwilio Osgiladur Bennett. Bydd y Deuddegfed Doctor yn gwneud yr un peth ar wennol ofod oedd yn glanio ar Leuad y Ddaear. (TV: Kill the Moon)
- Byddai'r Goleufa Nerva yn aros yn cylchdroi'r Ddaear nes o leuaf 16127. (SAIN: Wirrn Isle)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar 2 Ebrill 2002 (DU), ar 3 Mehefin 2002 (Awstralia), ac ar 6 Awst 2002 (UDA)
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Elisabeth Sladen, Philip Hinchcliffe a Tom Baker
- Dilyniant modeli CGI newydd - dewis i wylio'r stori gyda'r golygfeydd llongau ofod gwreiddiol wedi'u hamnewid gyda effeithiau wedu'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.
- Dilyniant thema na chafodd ei ddefnyddio
- Efeithiau model gwreiddiol
- Trelar am episôd 1
- Oriel
- Who's Who
- Llunwedd y goleufa
- Cyflwyniadau Howard Da Silva (Rhanbarth 1 yn unig) - Cyhoeddiadau parhad gan Howard Da Silva
- Cyfweliadau gyda Roger Murray-Leach a Tom Baker
- Isdeitlau cynhyrchu
- Easter Egg - fideo 16 eiliad o Tom Baker yn hybu'r Doctor Who Exhibition Blackpool.
- Easter Egg - golwch 30 eiliad o clapperboard am Ran Dau.
Nodiadau:
- Mae cefn y rhyddhad gwreiddiol yn cynnwys gwall teipio sydd yn dweud dechreuodd y stori ar 23 Ionawr, mewn gwirionedd dechreuodd y stori ar 25 Ionawr.
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygu am y DVD.
- Yn debyg i gweddill y DVDs rhyddhawyd cyn 2006, cafodd The Ark in Space rhyddhad ychwanegol gyda chynnwys ychwanegol:
- A New Frontier: Making the Ark in Space - rhaglen dogfennol yn adros hanes cynhyrchu'r stori
- Fersiwn ffilm teledu: crynhoad 70 munud o'r stori.
- Doctor Forever! - rhaglen dogfennol yn archwilio i hanes y llyfrau Virgin/BBC gyda Russell T Davies a Mark Gatiss.
- Scene Around Six
- Ffilm 8mm o stori gyntaf Tom Baker ar leoliad.
- Deunydd PDF - rhestrau Radio Times, deunydd hysbysiadol, llawlyfr technegol Doctor Who
Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #90.
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori gyda gweddil Hen Gyfres 12 yn rhan o Doctor Who: The Collection - Season 12 ar 2 Gorffennaf 2018 (DU), 19 Mehefin 2018 (UDA), ac ar 1 Awst 2018 (Awstralia).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gyda Tom Baker, Elisabeth Sladen & Philip Hinchcliffe.
- Sain amgylchol 5.1
- Isdeitlau gwybodaeth cynhyrchu
- Effeithiau arbennig wedi'u diweddaru
- Rhaglen dogfennol cynhyrchu: A New Frontier - yn cynnwys Wendy Williams (Vira) a Kenton Moore (Noah) ynghyd ag aelodau'r criw Philip Hinchcliffe, Rodney Bennett (Cyfarwyddwr), a Roger Murray-Leach (Dylunydd)
- Behind the Sofa
- The Ark in Space: Omnibus - fersiwn 70 munud
- Ffilm effeithiau modelau & CGI
- Llunwedd tecchnegol 3D
- Cyfweliad Roger Murray-Leach
- Oriel
- Archif PDF
Rhyddhadau Digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- mewn storfeydd iTunes Awstralia, Canada, y DU a'r UDA fel stori unigol.
- i ffrydio ar Amazon (DU) fel cyfres 76 o gyfres clasurol Doctor Who.
- i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o gyfres 12 o Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori mewn ffurf crynhoadol 94 munud yn Ionawr 1989 yn Awstralia, ac ar 5 Mehefin 1989 yn y DU. Yn Chwefror 1994, rhyddhawyd y stori eto mewn ffurf episodaidd.
Rhyddhadau Laserdisc[]
Rhyddhawyd y stori mewn ffurf episodaidd ar Laserdisc gan Encore Entertainment yn 1996.
Rhyddhadau Sain[]
Rhyddhawyd rhannau o sgôr Dudley Simpson, wedi'u trefnu gan Heathcliff Blair, gan Silva Screen yn gynnar yn yr 1990au ar eu CD Pyramids of Mars: Classic Music from the Tom Baker Era.
Troednodau[]
|
|