Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Awakening (Cy: Y Deffroad) oedd ail stori Hen Gyfres 21 Doctor Who. Dyma'r trydydd a'r olaf o storïau dwy ran cyfnod Davison. Yn ychwanegol, dyma stori olaf dwy ran yn y fformat o episodau 25 munud. Yn dilyn y stori yma, byddai pob stori dwy ran Doctor Who ag o leiaf 45 munud yr episôd.

Er bod y stori yn fer iawn, mae'n nodedig am sawl peth. Dyma cyfraniad cyntaf (ac unig) awdur a chyfarwyddwr y stori. Gwelodd y stori hefyd defnydd gyntaf o ail wisg y Pumed Doctor, gyda'r gwahaniaeth mwyaf yn cael ei weld yn ei siwmper criced. Dyma'r achos gyntaf yn hanes y sioe bod y Doctor yn hedfan y TARDIS yn bwrpasol i gwrdd ag aelodau teulu cydymaith - yn yr achos yma, tadcu Tegan. Dyma hefyd gwaith olaf dyluniodd Barry Newbery, ac un o ddylunwyr gwreiddiol Verity Lambert.

Yn syndodol, roedd gan y stori rhywfaint o hynodrwydd ym Mhrydain am un o'r damweiniau a ddigwyddodd yn rhan dau, gyda cheffyl a chart i weld yn dinistrio gât. Dyma un o lond llaw o olygfeydd a gafodd eu darlledu ar y BBC, gan hefyd cael ei chynnwys yn rhan o fideos diogelwch y BBC ar sut i beidio ffilmio ag anifeiliaid. Yn amlwg, am y fersiwn darlledwyd, cafodd yr olygfa ei torri cyn y damwain.

Crynodeb[]

Yn 1984, mae'r Doctor, Tegan, a Turlough yn cyrraedd Little Hodcombe, pentref bach Saesneg, yn disgwyl ymlaen at weld tadcu Tegan. Ond yn fuan, maent yn darganfod mae tadcu Tegan ar goll ac mae'r pentrefwyr yn dynwared brwydrau wrth Ryfel Cartref Lloegr yn 1643.

Gyda'r gorffennol yn cymysgu â'r presennol, a fydd modd i'r Doctor atal y gemau cyn i endid milain sydd yn cuddio yn eglwys y pentref ddihuno?

Plot[]

Rhan un[]

I'w hychwanegu.

Rhan dau[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Peter Davison
  • Tegan - Janet Fielding
  • Turlough - Mark Strickson
  • Jane Hampden - Polly James
  • Syr George - Denis Lill
  • Joseph Willow - Jack Galloway
  • Cyrnol Wosley - Glyn Houston
  • Will Chandler - Keith Jayne
  • Milwr - Christopher Saul
  • Andrew Verney - Frederick Hall

Cast di-glod[]

  • Dyn hanner-ddall:[1]
    • John Kearns
  • Milwr 2:[1]
    • Christopher Wenner
  • Milwyr:[1]
    • Robert Clarke
    • Harold Gasnier
    • Rod Keyes
    • Gordon Williams
    • David Medina
    • David Cole
    • Roy MacDonald
    • Ron Martin
    • Brian Coshall
  • Gweithwyr fferm:[1]
    • Bryan Godfrey
    • Ray Sergeant
    • Shirley Morgan
    • Beryl Lindsay
    • Mavis Litter
    • Ruth Stewarth
  • Pentrefwyr:[1]
    • Suzy Lyle
    • Shirley Morgan
    • Beryl Lindsay
    • Mavis Litter
    • Ruth Stewart
    • Diane Beames
    • Denise Harland
    • Joan Hulton
    • Jeanette Walton
    • Bryan Godfrey
    • Vaughan Collins
    • Barry Lindsay
    • Dean Lindsay
    • Denis Costello
    • Douglas Thorne
  • Cerddorion:[1]
    • Drymiwr Tuite
    • Drymiwr Cooney
  • Gwyneb a chorff:[1]
    • Jimmy Mac
  • Cafalîr ffantom:[1]
    • Nigel Tisdall
  • Pengryniadon ffantom:[1]
    • Nigel Tisdall
    • Scott Free
    • Sean McCabe
  • Milwyr:[1]
    • Bob Tarff
    • Peter Dukes

Criw[]

  • Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Marcus D F White
  • Gwisgoedd - Jackie Southern
  • Dylunydd - Barry Newbury
  • Dyn camera ffilm - Paul Wheeler
  • Golygydd ffilm - M A C Adams
  • Sain ffilm - Bryan Showell
  • Cerddoriaeth achlysurol - Peter Howell
  • Colur - Ann Ailes
  • Cynhyrchu - John Nathan-Turner
  • Cynorthwyydd cynhyrchu - Rosemary Parsons
  • Cynhyrchydd cyswllt - June Collins
  • Rheolwr cynhyrchu - Mike Hudson, Liz Trubridge
  • Golygydd sgript - Eric Saward
  • Hŷn dyn camera - Alec Wheal
  • Sain arbennig - Dick Mills
  • Goleuo stiwdio - Peter Catlett
  • Sain stiwdio - Martin Ridout
  • Rheolydd technegol - Alan Arbuthnott
  • Trefniant thema - Peter Howell
  • Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
  • Dilyniant thema - Sid Sutton
  • Effeithiau fideo - Dave Chapman, Dave Jervis
  • Golygydd fideo - Hugh Parson
  • Cymysgydd lluniau - Paul Wheeler
  • Dylunydd effeithiau gweledol - Tony Harding
  • Awdur - Eric Pringle

Cyfeiriadau[]

  • Mae tinclafig yn cael ei mwyngloddio gan y Terileptiliaid ar y blaned Raaga ar gyfer defnydd preswylwyr Hakol yng nghysawd Rifta.
  • Daeth y Malws i'r Ddaear yn 1643 fel rhagarweiniad i lynges goresgynol na ddilynodd.
  • Mae'r Doctor a Turlough yn hoff o .

Nodiadau[]

  • Roedd gan y stori teitl gweithredol o War Games a Poltergeist.
  • Ffilmiwyd golygfa gyda Tegan a chydymaith robotig y Doctor, Kamelion, yng nghóridor y TARDIS ar gyfer rhan un, ond cafodd ei golygu allan o'r stori cyn darlledu o ganlyniad i hyd yr episôd. Byddai hon yn ymddangosiad cyntaf Kamelion ers The King's Demons. Ni fyddai'r cymeriad yn ymddangos eto nes Planet of Fire.
  • Rhodd golygydd sgript Eric Saward sawl elfen wrth ei stori The Visitation, megis tinclafig a Raaga, ac felly mae The Awakening yn dilyniant mewn rhan i The Visitation.
  • Ystyriwyd Will Chandler am gydymaith newydd, ond teimlodd Eric Saward a John Nathan-Turner byddai gwylwyr yn diflasu gyda'r cymeriad yn gyflym. Ond wrth gael ei gwestiynnu am y cynlluniau yn 2010, dywedodd Saward nad oedd ef yn gwybod dim am gynlluniau i wneud Will yn gydymaith.
  • O'i gymharu â'r taith hir i gael Tegan nôl i Faes Awyr Heathrow yn gynnar yn yr 19890au, mae'r Pumed Doctor i bob olwg llawer gwell am lanio ym mhentref ei thadcu. Mae rhan un yn awgrymu llwyddodd ef yn ei gais gyntaf.
  • Mae fersiwn 50 munud o'r stori yn bodoli yn archifdy y BBC ar gyfer ailddarllediad ar 20 Gorffennaf 1984. Mae'n ffodus cafodd y fersiwn hwnnw ei chynhyrchu ac yn dal i fodoli ar dâp lliw PAL 625 llinell hyd heddiw, gan gafodd y fersiwn gwreiddiol ei grafu'n ddifrifol yn ystod sesiwn dyblu yn 1987 ac felly nid yw eisioes mewn cyflwr i ddarlledu. Nid oes unryw deunydd wedi'u colli; cafodd rhan un newydd ei chreu wrth y fersiwn 50 munud a'r ffilm lliw 16mm wrth ffilmio ar leoliad.
  • Nid oedd gan rhestrau Radio Times unryw crynodeb am naill un o'r ddwy ran. Ond, derbynodd y fersiwn 50 munud crynodeb o: "Pa fath o ddrygni sydd yn cuddio mewn pentref distaw yng nghanol y wlad?"
  • O ganlyniad i gamgymeriad, ni dderbyniodd Frederick Hall (Andrew Verney) credyd yn rhestrau gwreiddiol Radio Times, ond fe dderbynniodd credyd am yr ailddarllediad.
  • Yn ystod y credydau, mae pob lythyren yn derbyn amlinell las golau. Nid yw'n hysbys pam ddigwyddodd hon am y stori yma'n unig.
  • Mae'r stori yma yn debyg i stori gyntaf Sapphire & Steel gyda lluniau o'r gorffennol yn cael eu taflu ymlaen i'r presennol gan endid filain ac mae modd iddynt cyfathrebu a'r presennol.
  • Roedd y stori yma yn un o ddwy ystyriwyd am y safle yma. Y llall oedd The Darkness, hefyd wedi'i ysgrifennu gan Eric Pringle, a byddai wedi cynnwys y Daleks. Yn y pendraw, dewiswyd The Awakening dros The Darkenss o achos stori Eric Saward yn hwyrach yn yr un gyfres a fyddai'n cynnwys gelynion y Doctor, Resurrection of the Daleks.
  • Dyma'r stori gyntaf ers Black Orchid i beidio cynnwys gelyn yn dychwelyd i'r sioe, ond mae'r Terileptiliaid yn cael eu sôn am.
  • Nid oedd Eric Pringle yn hapus gydag ailddrafftiau Eric Saward, gan gredu roedd y stori yn letwith, dryslyd ac yn frysiog o ganlyniad.
  • Yn gwreiddiol, roedd bwriad cael stori pedair rhan, ond cafodd y stori ei dorri i stori dwy ran yn gynnar yn y broses sgriptio.
  • Ystyriwyd Lynda Bellingham, Honor Blackman, Eleanor Bron, Pauline Collins, Judi Dench, Diane Keen, Jean Marsh, Helen Mirren, Diana Rigg, Sheila Ruskin, Pamela Salem, Barbara Shelley, Sylvia Syms, Wanda Ventham, Fiona Walker, a Penelope Wilton am rôl Jane Humpden.
  • Ystyriwyd Joss Ackland, Terence Alexander, Michael Craig, James Ellis, Peter Gilmore, John Hallam, Donald Houston, Jeremy Kemp, Conrad Phillips, Patrick Stewart, John Stratton, a Peter Vaughan am Gyrnol Ben Wolsey.
  • Ystyriwyd Alun Armstrong, Nicholas Ball, Geoffrey Bateman, Jim Broadbent, Tom Chadbon, Scott Fredericks, John Hallam, Prentis Hancock, Del Henney, Roy Holder, Alan Lake, Terry Molloy, Edward Peel, Jeff Rawle, Carl Rigg, Paul Shelley, Donald Sumpter, Ian Talbot, a Malcolm Tierney am Joseph Willow.
  • Honnodd Jack Galloway i fod yn farchog profiadus iawn. Yn ystod yn olygfa, cafodd ei daflu'n gyflym wrth gefn ei geffyl i mewn i lyn.
  • Am y tro cyntaf, gwisgodd Peter Davison amrywiad ar ei wisg: tra wisgodd yr un het a chot, fe dderbyniodd siwmper gyda streipiau du a choch mwy trwchus arni; roedd ganddo trwser gyda stribedi oren a gwyn trwchus; a rhowd lliw gwyrdd y tu mewn i grys y Doctor yn lle'r coch arferol.
  • Dyma'r stori olaf gweithiodd Barry Newbery ar. Fe ddyluniodd gât y fynwent gan nad oedd yn ar gael ar leoliad.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Rhan un - 7.9 miliwn
  • Rhan dau - 6.6 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mewn cais i ddychwelyd Will i 1643, glaniodd y TARDIS ar blaned o ymlusgiaid galluog rhyfelol, gyda brenin a oedd eisiau dienyddu'r Doctor. (PRÔS: The King of Terror)
  • Mae'r Malus, a'i ofoden sydd yn cael eu cyfeirio ati trwy gydol deialog y stori, yn cael eu hailgyflwyno yn PRÔS: The Hollow Men a PRÔS: Last of the Gaderene.
  • Tra yn Little Hodcome, mae'r Doctor yn derbyn galwad argyfwng y Meistr yn Hexford yn 2016. (SAIN: And You Will Obey Me)
  • Roedd Jane Hampden oedd athrawes blwyddyn tri Mikey yn Ysgol Gynradd Little Hodcombe. (SAIN: And You Will Obey Me

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori yma yn y set bocs Earth Story ynghyd The Gunfighters. Dyma stori olaf y Pumed Doctor i gael rhyddhad ar DVD. Cafodd ei rhyddhau ar 20 Mehefin 2011 (DU), ar 12 Gorffennaf 2011 (UDA), ac ar 4 Awst 2011 (Awstralia).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gan gyfarwyddwr Michael Owen Morris a golygydd sgript Eric Saward, wedi'u cymedroli gan Toby Hadoke.
  • Return to Little Hodcombe - Yn dogfennu cynhyrchiad gyda Janet Fielding (Tegan) a Keith Jayne (Will Chandler) a golygydd sgript Eric Saward.
  • Making the Malus - Tony Harding a Richard Gregory yn adymuno gyda phrop y Malus adeiladon nhw am y stori yma.
  • Now and Then - Adroddiadau ar leoliad wrth bentrefi Martin, Shapwick a Tarrant Monkton.
  • From the Cutting Room Floor - Golygfeydd dileuwyd ac estyniedig.
  • The Golden Egg Awards - Mae Peter Davison yn casglu gwobr wrth Noel Edmonds.
  • Oriel
  • Camgymeriadau
  • Isdeitlau cynhyrchu
  • Deynydd PDF gan gynnwys rhestrau Radio Times

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori yma yngyd Frontios yn Mawrth 1997 (DU), ac yn Mawrth 1998 (UDA, Awstralia).

Troednodau[]