The Aztecs (Cy: Yr Aztecs) oedd chweched stori Hen Gyfres 1 Doctor Who. Dyma'r stori gyntaf i gynnwys canlyniadau newid digwyddiadau hanesol, a'r stori gyntaf i gynnwys isblot rhamantaidd ynglyn â'r Doctor.
"The Warriors of Death" oedd episôd gyntaf y gyfres a gafodd ei ffilmio yn BBC Television Centre. Roedd y symudiad yn ganlyniad o frwydr ar ran Verity Lambert am gyflysterau stiwdio gwell, ond yn dalfyr oedd y symudiad gan roedd rhaid i'r tîm dychwelyd i Lime Grove Studios yn dilyn y stori hon. (DWM 266)
Crynodeb[]
Yn dilyn cyrhaeddiad y TARDIS ym Mecsico yn y 15fed ganrif, mae'r criw yn cwrdd â'r pobl Aztec, pobl gyda chymysgedd o ddiwylliant crand ac anwareidd-dra gwerw. Yna, mae Barbara wedi'i cham-adnabod fel duw, ac mae'r Doctor yn cael cynnig priodas.
Plot[]
The Temple of Evil (1)[]
I'w hychwanegu.
The Warriors of Death (2)[]
I'w hychwanegu.
The Bride of Sacrifice (3)[]
I'w hychwanegu.
The Day of Darkness (4)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Susan Foreman - Carole Ann Ford
- Autloc - Keith Pyott
- Tlotoxl - John Ringham
- Ixta - Ian Cullen
- Cameca - Margot Van der Burgh
- Dioddefwr Cyntaf - Tom Booth
- Tonila - Walter Randall
- Dioddefwr perffaith - Andre Boulay
- Capten Aztec - David Anderson
Cast di-glod[]
Criw[]
- Awdur - John Lucarotti
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
- Cerddoriaeth Achlysurol - Richard Rodney Bennett
- Arweinydd cerddoriaeth - Marcus Dods
- Trefnwyr brwydro - David Anderson, Derek Ware
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Colur - Jill Summers
- Golygydd sgript - David Whitaker
- Dylunydd - Barry Newbery
- Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Cyfarwyddwr - John Crockett
Cyfeiriadau[]
- Mae Ian wedi'i hyfforddi i ymladd.
- Mae'r Doctor a Cameca yn yfed coco.
Nodiadau[]
- Mae pob episôd yn bodoli fel Telerecordiad 16mm.
- Adenillwyd argraffiadau ffilm negyddol am bob episod wrth BBC Enterprises yn 1978.
- Mae fersiwn Arabig o "The Day of Darkness" gan y BBC.
- Dyma'r unig stori Doctor Who ysgrifennodd John Lucarotti i fodoli yn archif y BBC, gan mae ei ddwy stori arall, Marco Polo a The Massacre, ar goll yn gyfan, heb hyd yn oed ffrâm ar gael. Maent ond ar gael yn y gyfrwng sain.
- Wedi byw ym Mecsico, roedd gan John Lucarotti diddordeb enfawr yn hanes yr Aztecs, gan eu disgrifio fel "grŵp soffistigedig iawn, gyda diwylliant dwfn", ac mi roedd ganddo swyngaredd i'w hobsesiwn gydag aberth dynol. Ysgrifennodd y sgriptiau ar ei iot ym Majorca.
- Treuliodd John Lucarotti llawer o amser yn ymchwilio i'r Aztecs cyn ysgrifennu'r stori. Fe ddefnyddiodd enwau wnaeth swnio'n Aztecaidd am y gymeriadau; megis gafodd enw Ixta wrth y dinas Aztec, Ixtapalapa
- Aseiniwyd John Crockett i gyfarwyddo'r stori achos ei wybodaeth am hanes, yn dilyn gweithio ar bedwerydd episôd Marco Polo.
- Roedd Carole Ann Ford ar ei gwyliau yn ystod recordio "The Warriors of Death" a "The Bride of Sacrifice", gan ymddangos mewn golygfeydd cafodd eu recordio'n gynharach yn ystod ymarferion "Sentence of Death", pumed episôd y stori flaenorol, The Keys of Marinus.
- Cofiodd Ian Cullen nad oedd William Hartnell "y person mwyaf cyfeillgar, ond mi roedd yn ceisio cofio'r holl linellau".
- Hen gyd-weithiwr John Crockett oedd John Ringham, ac felly ei gyfarwyddiad oedd i "wna i bob blentyn yn y wlad dy gasàu".
- Awgrymodd ysgrifenyddes John Crockett, June McMullen, i roi rôl Tonila i Walter Randall ar ôl ei gwrdd mewn parti.
- Gorchmynnodd Verity Lambert i Walter Randall i siafio am y rôl.
- Castiwyd arbenigwr crefftydd ymladd, David Anderson, fel y Capten ar ôl iddo ymddangos yn Marco Polo. Fe drefnodd hefyd y frwydr rhwng Ian ac Ixta am yr ail episôd, a fe oedd stỳnt dwbl Wiliam Russell yn yr episôd olaf.
- Wrth ddarganfod bod y set wedi'i dinistrio ers recordiad yr episôd cyntaf, aildrefnodd John Crockett rhannau wrth setiau arall yn gloi er mwyn adeiladu'r set.
- Roedd rhaid i'r teitl cloadwy yn "The Bride of Sacrifice" cael ei ail-ffilmio gan cafodd ei ystyried i fod yn rhy annerbyniol ar gyfer darlledu.
- Enwodd Jacqueline Hill y stori hon fel ei hoff un.
- Detholwyd y stori i gael ei darlledu yn rhan o Benwythnos Doctor Who BSB ym Medi 1990.
- Feindiodd dylunydd Barry Newbery roedd y stori yn annodd i archwilio gan gafodd ei gyfyngu gan y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd. Wrth ymchwilio trwy lyfrau'r BBC, dyluniodd drws y feddfa wrth y steil "comic book" o dyluniau Aztec. Hefyd, fe wyliodd rhaglen ddogfennol ar ITV am archaeoleg Aztec ac mi roedd yn pryderu am faint y stiwdio.
- Mae Tlotoxl yn un o elynion Doctor Who na chafodd ei drechu o gwbl. Mae hyn yn pwysleisio themâu'r stori; na all hanes cael ei newid, a mi fydd yn digwydd gydan ni neu hebddyn ni. Bydd y thema hyn yn datblygu trwy gydol y DWU, gan argáu o fewn The Waters of Mars, ymysg storïau eraill.
- Mae fynhonellau cyferbyniol am bryd gosodwyd y stori hon. Yn bennaf, mae'n eglir taw ar ôl 1430 yw'r stori, y flwyddyn mae Tetaxa i fod wedi marw.
- Wrth i The Terrestrial Index rhoi dyddiad o 1480, tra mae'r nofeleiddiad yn ei dyddio i 1507. Yn PRÔS: The Left-Handed Hummingbird yn rhoi'r dyddiad i syched 1454.
- Roedd eclips go iawn wedi digwydd ar 8 Awst 1496, yn debyg i'r un digwyddodd yn "The Day of Darkness". Roedd y llwybr tywyllwch wedi gorchuddio'r rhan fwyaf o Mecsico.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "The Temple of Evil" - 7.4 miliwn
- "The Warriors of Death" - 7.4 miliwn
- "The Bride of Sacrifice" - 7.9 miliwn
- "The Day of Darkness" - 7.4 miliwn
Lleoliadau ffilmio[]
- Ealing Television Film Studios
- Lime Grove Studios (Studio D)
Cysylltiadau[]
- Protestia'r Doctor wrth Barbara nad oes modd iddi "adysgrifennu hanes! Dim un llinell!" Bydd y Doctor yn gyfeirio sawl gwaith at natur amser wedyn, yn enwedig pwyntiau sefydlog amser. (TV: Time-Flight, The Waters of Mars, The Wedding of River Song ayyb) Adroddodd River Song y linell bron air am air i'r Degfed Doctor ar ôl iddo dynodi bod modd adysgrifennu hanes. (TV: Forest of the Dead) Bydd yr Arglwyddi Amser (gan cynnwys y Doctor) yn barhau i honni taw nhw yn unig sydd yn deall sut i newid digwyddiadau hanes. (TV: The Two Doctors ayyb)
- Ysgrifennodd Barbara ei thraethawd ar yr Aztecs. (PRÔS: Nothing at the End of the Lane)
- Yn dilyn dychwelyd i'w hamser cartrefol, darlithodd Barbara hanes mewn prifysgol, gan arbenigo yng nghyfnod yr Aztecs wrth hanes Canolbarth America. (PRÔS: Who Killed Kennedy)
- Defnyddiodd y Doctor y breichled Astec yn hwyrach i brynu siwtau ac hetiau top ar gyfer ei hun a Steven Taylor yn Llundain yn 1912. (SAIN: The Suffering) Er, derbynodd yr Wythfed Doctor y breichled nol, gan roddodd y breichled i Susan fel anrheg Nadolig. (SAIN: Relative Dimensions)
- Cyfarfodd yr Ail Ddoctor gyda milwyr Mecsicanaidd a gafodd eu cymryd wrth eu hamser cartrefol a'u gorfodi i frwydro ar gyfer yr Arglwyddi Rhyfel. (TV: The War Games)
- Bydd yr Wythfed Doctor yn dychwelyd i Mecsico i rwystro plot gan artist o'r enw Susini i greu cerfluniau wrth groen ac esgyrn y meirw. (COMIG: The Way of the Flesh)
- Mae'r Doctor yn honni i ddeall teimladau Barbara am drychinebau hanesol anocheladwy a'r eisiau i wella newid amser er y gwellaf. (SAIN: Farewell, Great Macedon)
- Mewn bydysawd paralel, rhybuddiodd y Doctor yr Asteciaid rhag nesâd Cortez. Tra ym Mecsico, fe gafodd ei gamgymryd fel yr Archoffeiriades ailymgnawdoledig. (SAIN: A Storm of Angels)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
RHyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Aztecs ar 21 Hydref 2002 (DU), ar 2 Rhagfyr 2002 (Awstralia), ac ar 3 Mawrth 2003 (UDA).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan gynhyrchydd Verity Lambert, ac actorion William Russell a Carole Ann Ford.
- Remembring The Aztecs - Cyfweliadau gyda John Ringham, Walter Randall, ac Ian Cullen.
- Designing The Aztecs - Cyfweliad gyda dylunydd Barry Newbery.
- Restoring The Aztecs - Edrych ar y broses adnewyddu am y DVD.
- Blue Peter - The Story of Cortez and Montezuma wrth 21 Medi 1970.
- Making Cocoa - Animeiddiad arweiniol am sut i wneud cocoa mewn ffordd Aztec.
- Trac sain Arabig - modd i weld yr episôd olaf mewn arabig.
- TARDIS Cam No.3
- Oriel
- Isdeitlau cynhyrchu
Credydau'r cefn:
- Yn cynnwys William Hartnell gyda William Russell, Jacqueline Hill a Carole Ann Ford
- Ysgrifennwyd gan John Lucarotti
- Cynhyrchu gan Verity Lambert
- Cyfarwyddo gan John Crockett
- Cerddoriaeth achlysurol gan Richard Rodney Bennett
Nodiadau:
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygu am y rhyddhad.
Yn debyg i'r rhan fwyaf o storïau a gafodd rhyddhad DVD cyn 2006, dewiswyd The Aztecs am rhyddhad argraffiad arbennig. Yn rhan o'r rhyddhad oedd trydydd episôd Galaxy 4, "Air Lock", a oedd newydd ei darganfod, gyda adluniad telesnap o weddill y stori. Cafodd ei rhyddhau ar 11 Mawrth 2013.
Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #122.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Aztecs yn Nhachwedd 1992 (DU), ac ym Mai 1994. Yn gwreiddiol, roedd y stori i fod ar gael wrth Woolworths yn ran o hysbysiad, ond, ar y funud olaf dewison nhw ar The Twin Dilemma yn lle - teimlon nhw byddai stori deledu lliw Doctor Who yn gwerthu'n gwell nag un du a gwyn.
Rhyddhadau Digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i brynnu ar iTunes yn Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, y DU, a'r UDA yn rhan o Doctor Who: The Classic Series ar gasgliad Doctor Who: The Best of The First Doctor, a wnaeth hefyd cynnwys y storïau An Unearthly Child a The Dalek Invasion of Earth;
- i brynnu ar iTunes yn Awstralia, Canada, y DU, a'r UDA fel stori unigol o Doctor Who: The Classic Series;
- i ffrydio ar Amazon Video yn y DU fel cyfres 6 o Doctor Who (classic) series;
- i ffrydio ar Amazon Video fel rhan Doctor Who: The 50th Anniversary Collection;
- i ffrydio ar BritBox (UDA) fel rhan o Doctor Who Clasurol.
Troednodau[]
|