The Blood Cell (Cy: Llywodraethu'r Carchar) oedd nofel rhif pum deg dau yn y gyfres BBC New Series Adventures. James Goss ysgrifennodd y stori a gynhwysodd y Deuddegfed Doctor a Clara Oswald.
Crynodeb cyhoeddwr[]
"Rhyddhewch y Doctor - neu mi fydd pobl yn dechrau marw."
Ar asteroid ymhell bell yn y gofod - y carchar mwyaf cadarn ar gyfer troseddwyr eithafol. Cyfrifoldeb y Llywodraethwr yw'r twyllwyr gwaethaf a'r lladdwyr mwyaf creulon. Felly nid yw cyrhaeddiad dyn sydd yn cael ei enwi fel y troseddwr mwyaf peryglys yn yr ardal yn ei hwyluso. Dyn sydd yn cael ei alw y Doctor.
Beth sydd yn diddorol yw sut mae'r carcharor newydd yn ceisio dianc yn syth. Ac mae'n cadw ati'n ceisio. O'r diwedd, mae'n galw am y Doctor i ofyn iddo pam? Ond mae'r ateb yn syndod i'r Llywodraethwr. Ac yna, mae'r bygythiad - os nad yw'r Doctor yn gwrando i'r Llywodraethwr, mi fydd llawer o bobl yn marw.
Pwy yw'r Doctor a beth yw e'n gwneud yma? Pam oes eisiau ar y Doctor i helpu'r Llywodraethwr? A pwy yw'r menyw ifanc sydd yn ymweld pob dydd, er i'r gwarchodwyr ei atal pob dydd?
Wrth i bawb cael ei lladd, mae'r Llywodraethwr yn dechrau cael ei atebion...
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cymeriadau[]
- Y Llywodraethwr
- Deuddegfed Doctor
- Clara Oswald
- Gwarcheidwad Bentley
- Marianne Globus
- Lafcardio
- Yr Oracl
- Abesse
- Y Barnwr
- Gwarcheidwad Gillian Donaldson
- Gwarcheidwad Chandress
- Helen
- Marla
Cyfeiriadau[]
- Mae Clara yn awgrymu dylai'r Doctor adfywio er mwyn gwella'r bys troed fe dorodd.
- Mae'r Doctor yn dweud os na dinistriodd y Llywodraethwr ffôn symudol Clara, byddai wedi ei ddefnyddio i ddangos wrtho ba mor blagus oedd Candy Crush.
- Mae'r Doctor yn datgan nid yw Ymerawdwr y Daleks yn cymharu i werthiwr ffôn symudol cyffredin.
- Mae llyfrgell y Carchar yn cynnwys The Da Vinci Code, The Woman in White, Shall We Tell the President?, y llyfr Garfield I Hate Mondays, The Magician's Nephew, Arabian Nights, a Moll Flanders. Mae Moll Flanders yn argraffiad wedi'i cysylltu i'r cyfres deledu, ac mae rhaid i'r Doctor atal ei hun rhag dweud seren y gyfres (Alex Kingston).
- Mae Lafcardio yn dod o hyd i gopi o The Barber of Seville.
- Mae'r Doctor yn siarad am y rhaglen Call the Midwife, ac yn ôl ef, mae'r rhaglen am fabanod a beiciau.
- Mae'r Doctor yn dweud fod yn eu 1000au cynnar. Yn ôl Clara, mae dros 2000 blwydd oed.
- Unwaith crëodd y Doctor anifeiliaid balŵn ar gyfer dosbarth Clara.
- Crëodd dosbarth 2B arwydd protest a ddywedodd "Save the Doctor", ond ysgrifennodd un o'r disgyblion "Save Dot Cotton".
- Dywedodd y Doctor roedd waliau Alcatraz yn binc.
- Mae'r Doctor yn trafod am sut honnodd pobl Dachau nad oeddent yn gwybod am y "gwersylloedd lladd" yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
- Wrth i Arabian Nights cael ei henwi, mae'r Doctor yn cofio hedfan ar garped.
- Mae'r Doctor yn canu The Entry of the Toreadors wrth Carmen.
- Mae'r Doctor yn sôn am Droidiau Clocwaith a "siwtiau durwisg byw".
- Mae'r Doctor yn cofio berchen ar gi.
- Addysgir Dosbarth 3B yn Ysgol Coal Hill.
Nodiadau[]
- Ysgrifennir y nofel gyfan wrth bersbectif person cyntaf y Llywodraethwr di-enw.
- Mae gan Clara prin ymddangosiadau yn y nofel, ac felly mae'n stori "
Cysylltiadau[]
- Mae Clara yn rhoi cacen pen-blwydd y Doctor i Danny Pink achos roedd Danny yn neis. Hefyd, mae'n benthyg brws wrtho. (TV: Into the Dalek)
- Oherwydd anwybyddaeth y Llywodraethwr, unwnaith eto dinistriwyd y sgriwdreifar sonig. Er, rhywsut, mae gan Clara ail un mae'n ceisio sleifio i mewn gan ei guddio fel cannwyll cacen pen-blwydd. (TV: The Visitation, Smith and Jones, The Eleventh Hour, The Rebel Flesh)
- Mae'r Doctor yn defnyddio Venusian aikido i amddiffyn ei hun rhag Abesse. (TV: Inferno, Robot of Sherwood, PRÔS: The Eight Doctors, SAIN: Voyage to Venus, Faith Stealer)
- Mae'r Doctor a Clara yn cyfeirio at atgasedd cychwynnol y TARDIS tuag at Clara. Er yn bresennol, mae'r TARDIS yn ei goddefu. (TV: The Rings of Akhaten, Hide, The Day of the Doctor, HOMEVID: Clara and the TARDIS)
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at ei euogrwydd tuag at ddinistrio Galiffrei. (TV: The Day of the Doctor)
- Mae'r Deuddegfed Doctor yn cynnal atgasedd y Chweched a Degfed Doctor tuag at Jeffrey Archer. (PRÔS: Telling Tales, COMIG: Cats and Dogs)
- Mae agwedd y Llywodraethwr yn atgoffa Clara o'i phrifathro. Nad yw'n glir os taw W. Coburn (TV: The Day of the Doctor) neu Armitage yw hyn. (TV: The Caretaker)
- Mae'r Doctor yn cydnabod, am ryw rheswm, na all ei ymgorfforiad presennol dioddef milwyr. (TV: Into the Dalek, The Caretaker)
- Mae'r Doctor yn dweud unwaith eto ei fod ddim yn hoff o gwtchio, gan feddwl ei ffordd dda o arogli siampŵ person. (TV: Deep Breath ayyb)
- Mae'r Doctor yn cael ei feio am bethau nad oedd ef wedi gwneud. (TV: Midnight, Planet of the Dead, The Pandorica Opens, Cold War, ayyb)
- Carcharwyd y Doctor yn blaenorol. O ganlyniad, mae'n ystyried ysgrifennu llyfr ar y pwnc. (TV: Frontier in Space ayyb)
- Mae'r Llywodraethwr yn meddwl bod Clara yn caru'r Doctor, neu taw ei wraig yw hi. Flyrtiodd Clara gyda ymgorfforiad blaenorol y Doctor, gan ei ystyried i fod yn cariad iddi, (TV: The Time of the Doctor ayyb) rhywbeth credodd y Doctor Hefyd. (TV: Deep Breath) Roedd Clara hefyd yn ystyried ei hun i fod yn gaeth i deithio gyda'r Doctor. (TV: Mummy on the Orient Express)
- Mae Clara yn siarad am Danny, athro arall yn ei hysgol. Meddylia'r Llywodraethwr taw ei chariad yw ef. (TV: Into the Doctor, The Caretaker ayyb)
- Mae crybwylliad tuag at Ddaear Newydd. (TV: New Earth)
- Mae'r Doctor yn cymharu'r Barnwr i'r Droidiau Clocwaith (TV: The Girl in the Fireplace, Deep Breath) a'r Cybermen. (TV: The Tenth Planet ayyb)
- Mae'r Doctor yn cofio siarad am liferau gydag Archimedes. (TV: The Two Doctors; PRÔS: City at World's End, Fallen Gods)
- Mae'r Doctor yn arddangos abl telepathig. (TV: The Sensorites)
- Am rhesymmmau aneglir, mae gan y Doctor ffôn symudol Clara nes mae'n cael ei dinistrio. (TV: Mummy on the Orient Express)
- Mae'r Doctor yn gwawdio awgrymiad Clara o adfywio er mwyn gwella ei bys traed. Er, fe ddefnyddiodd egni adfywio i wella arddwrn River Song. (TV: The Angels Take Manhattan)
- Nid yw Clara wedi arferu gyda edrychiad henach y Doctor, ac mae ei hawgrymiad yn esgus i adfywio eto er mwyn edrych yn ifanc eto. (TV: Deep Breath)
Rhyddhadau eraill[]
Sainlyfr[]
- Rhyddhawyd y stori hon fel sainlyfr wedi'i darllen gan Colin McFarlane ar 13 Tachwedd 2014.
Argraffiadau tu allan i Brydain[]
- Agraffiwyd y nofel yn yr UDA gan Broadway Books yn 2014.
- Agraffiwyd y nofel yn yr Almaen gan Cross Cult yn 2015.
- Agraffiwyd y nofel yn Rwsia gan AST yn 2015.
- Agraffiwyd y nofel yn yr Eidal gan Asengard Edizioni yn 2015.
- Agraffiwyd y nofel yn Tsieina gan New Star Press yn 2018.
|