Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Blood Cell (Cy: Llywodraethu'r Carchar) oedd nofel rhif pum deg dau yn y gyfres BBC New Series Adventures. James Goss ysgrifennodd y stori a gynhwysodd y Deuddegfed Doctor a Clara Oswald.

Crynodeb cyhoeddwr[]

"Rhyddhewch y Doctor - neu mi fydd pobl yn dechrau marw."

Ar asteroid ymhell bell yn y gofod - y carchar mwyaf cadarn ar gyfer troseddwyr eithafol. Cyfrifoldeb y Llywodraethwr yw'r twyllwyr gwaethaf a'r lladdwyr mwyaf creulon. Felly nid yw cyrhaeddiad dyn sydd yn cael ei enwi fel y troseddwr mwyaf peryglys yn yr ardal yn ei hwyluso. Dyn sydd yn cael ei alw y Doctor.

Beth sydd yn diddorol yw sut mae'r carcharor newydd yn ceisio dianc yn syth. Ac mae'n cadw ati'n ceisio. O'r diwedd, mae'n galw am y Doctor i ofyn iddo pam? Ond mae'r ateb yn syndod i'r Llywodraethwr. Ac yna, mae'r bygythiad - os nad yw'r Doctor yn gwrando i'r Llywodraethwr, mi fydd llawer o bobl yn marw.

Pwy yw'r Doctor a beth yw e'n gwneud yma? Pam oes eisiau ar y Doctor i helpu'r Llywodraethwr? A pwy yw'r menyw ifanc sydd yn ymweld pob dydd, er i'r gwarchodwyr ei atal pob dydd?

Wrth i bawb cael ei lladd, mae'r Llywodraethwr yn dechrau cael ei atebion...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cymeriadau[]

  • Y Llywodraethwr
  • Deuddegfed Doctor
  • Clara Oswald
  • Gwarcheidwad Bentley
  • Marianne Globus
  • Lafcardio
  • Yr Oracl
  • Abesse
  • Y Barnwr
  • Gwarcheidwad Gillian Donaldson
  • Gwarcheidwad Chandress
  • Helen
  • Marla

Cyfeiriadau[]

  • Mae Clara yn awgrymu dylai'r Doctor adfywio er mwyn gwella'r bys troed fe dorodd.
  • Mae'r Doctor yn dweud os na dinistriodd y Llywodraethwr ffôn symudol Clara, byddai wedi ei ddefnyddio i ddangos wrtho ba mor blagus oedd Candy Crush.
  • Mae'r Doctor yn datgan nid yw Ymerawdwr y Daleks yn cymharu i werthiwr ffôn symudol cyffredin.
  • Mae llyfrgell y Carchar yn cynnwys The Da Vinci Code, The Woman in White, Shall We Tell the President?, y llyfr Garfield I Hate Mondays, The Magician's Nephew, Arabian Nights, a Moll Flanders. Mae Moll Flanders yn argraffiad wedi'i cysylltu i'r cyfres deledu, ac mae rhaid i'r Doctor atal ei hun rhag dweud seren y gyfres (Alex Kingston).
  • Mae Lafcardio yn dod o hyd i gopi o The Barber of Seville.
  • Mae'r Doctor yn siarad am y rhaglen Call the Midwife, ac yn ôl ef, mae'r rhaglen am fabanod a beiciau.
  • Mae'r Doctor yn dweud fod yn eu 1000au cynnar. Yn ôl Clara, mae dros 2000 blwydd oed.
  • Unwaith crëodd y Doctor anifeiliaid balŵn ar gyfer dosbarth Clara.
  • Crëodd dosbarth 2B arwydd protest a ddywedodd "Save the Doctor", ond ysgrifennodd un o'r disgyblion "Save Dot Cotton".
  • Dywedodd y Doctor roedd waliau Alcatraz yn binc.
  • Mae'r Doctor yn trafod am sut honnodd pobl Dachau nad oeddent yn gwybod am y "gwersylloedd lladd" yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
  • Wrth i Arabian Nights cael ei henwi, mae'r Doctor yn cofio hedfan ar garped.
  • Mae'r Doctor yn canu The Entry of the Toreadors wrth Carmen.
  • Mae'r Doctor yn sôn am Droidiau Clocwaith a "siwtiau durwisg byw".
  • Mae'r Doctor yn cofio berchen ar gi.
  • Addysgir Dosbarth 3B yn Ysgol Coal Hill.

Nodiadau[]

  • Ysgrifennir y nofel gyfan wrth bersbectif person cyntaf y Llywodraethwr di-enw.
  • Mae gan Clara prin ymddangosiadau yn y nofel, ac felly mae'n stori "

Cysylltiadau[]

  • Mae Clara yn rhoi cacen pen-blwydd y Doctor i Danny Pink achos roedd Danny yn neis. Hefyd, mae'n benthyg brws wrtho. (TV: Into the Dalek)
  • Oherwydd anwybyddaeth y Llywodraethwr, unwnaith eto dinistriwyd y sgriwdreifar sonig. Er, rhywsut, mae gan Clara ail un mae'n ceisio sleifio i mewn gan ei guddio fel cannwyll cacen pen-blwydd. (TV: The Visitation, Smith and Jones, The Eleventh Hour, The Rebel Flesh)
  • Mae'r Doctor yn defnyddio Venusian aikido i amddiffyn ei hun rhag Abesse. (TV: Inferno, Robot of Sherwood, PRÔS: The Eight Doctors, SAIN: Voyage to Venus, Faith Stealer)
  • Mae'r Doctor a Clara yn cyfeirio at atgasedd cychwynnol y TARDIS tuag at Clara. Er yn bresennol, mae'r TARDIS yn ei goddefu. (TV: The Rings of Akhaten, Hide, The Day of the Doctor, HOMEVID: Clara and the TARDIS)
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at ei euogrwydd tuag at ddinistrio Gallifrey. (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae'r Deuddegfed Doctor yn cynnal atgasedd y Chweched a Degfed Doctor tuag at Jeffrey Archer. (PRÔS: Telling Tales, COMIG: Cats and Dogs)
  • Mae agwedd y Llywodraethwr yn atgoffa Clara o'i phrifathro. Nad yw'n glir os taw W. Coburn (TV: The Day of the Doctor) neu Armitage yw hyn. (TV: The Caretaker)
  • Mae'r Doctor yn cydnabod, am ryw rheswm, na all ei ymgorfforiad presennol dioddef milwyr. (TV: Into the Dalek, The Caretaker)
  • Mae'r Doctor yn dweud unwaith eto ei fod ddim yn hoff o gwtchio, gan feddwl ei ffordd dda o arogli siampŵ person. (TV: Deep Breath ayyb)
  • Mae'r Doctor yn cael ei feio am bethau nad oedd ef wedi gwneud. (TV: Midnight, Planet of the Dead, The Pandorica Opens, Cold War, ayyb)
  • Carcharwyd y Doctor yn blaenorol. O ganlyniad, mae'n ystyried ysgrifennu llyfr ar y pwnc. (TV: Frontier in Space ayyb)
  • Mae'r Llywodraethwr yn meddwl bod Clara yn caru'r Doctor, neu taw ei wraig yw hi. Flyrtiodd Clara gyda ymgorfforiad blaenorol y Doctor, gan ei ystyried i fod yn cariad iddi, (TV: The Time of the Doctor ayyb) rhywbeth credodd y Doctor Hefyd. (TV: Deep Breath) Roedd Clara hefyd yn ystyried ei hun i fod yn gaeth i deithio gyda'r Doctor. (TV: Mummy on the Orient Express)
  • Mae Clara yn siarad am Danny, athro arall yn ei hysgol. Meddylia'r Llywodraethwr taw ei chariad yw ef. (TV: Into the Doctor, The Caretaker ayyb)
  • Mae crybwylliad tuag at Ddaear Newydd. (TV: New Earth)
  • Mae'r Doctor yn cymharu'r Barnwr i'r Droidiau Clocwaith (TV: The Girl in the Fireplace, Deep Breath) a'r Cybermen. (TV: The Tenth Planet ayyb)
  • Mae'r Doctor yn cofio siarad am liferau gydag Archimedes. (TV: The Two Doctors; PRÔS: City at World's End, Fallen Gods)
  • Mae'r Doctor yn arddangos abl telepathig. (TV: The Sensorites)
  • Am rhesymmmau aneglir, mae gan y Doctor ffôn symudol Clara nes mae'n cael ei dinistrio. (TV: Mummy on the Orient Express)
  • Mae'r Doctor yn gwawdio awgrymiad Clara o adfywio er mwyn gwella ei bys traed. Er, fe ddefnyddiodd egni adfywio i wella arddwrn River Song. (TV: The Angels Take Manhattan)
  • Nid yw Clara wedi arferu gyda edrychiad henach y Doctor, ac mae ei hawgrymiad yn esgus i adfywio eto er mwyn edrych yn ifanc eto. (TV: Deep Breath)

Rhyddhadau eraill[]

Sainlyfr[]

Argraffiadau tu allan i Brydain[]

  • Agraffiwyd y nofel yn yr UDA gan Broadway Books yn 2014.
  • Agraffiwyd y nofel yn yr Almaen gan Cross Cult yn 2015.
  • Agraffiwyd y nofel yn Rwsia gan AST yn 2015.
  • Agraffiwyd y nofel yn yr Eidal gan Asengard Edizioni yn 2015.
  • Agraffiwyd y nofel yn Tsieina gan New Star Press yn 2018.
Advertisement