The Chase oedd wythfed stori a stori olaf-ond-un Hen Gyfres 2 Doctor Who. Ynghyd dangos defnyddiad cyntaf y Daleks o deithiant amser. Dyma ymddangosiad olaf rheolaidd William Russell fel Ian Chesterton a Jacqueline Hill fel Barbara Wright yn eu tro. Yn ychwanegol, cynhwysodd y stori ymddangosiad gydymaith newydd Steven Taylor, wedi'i bortreadu gan Peter Purves. Ymddangosodd Purves hefyd yn gynharach yn y stori fel gymeriad achlysurol arall. Cynhwysodd y stori hefyd yr achos gyntaf o ymddangosiad wtrh gymeriad ag oedd yn edrych unfath i'r Doctor.
Roedd strwythur y stori yn debyg i stori Nation gynharach, The Keys of Marinus, gyda criw'r TARDIS yn lleoliad wahanol ym mron pob episôd. Byddai strwythur debyg yn cael eu defnyddio ar gyfer The Daleks' Master Plan a The Infinite Quest. Gwelodd The Chase hefyd gymeriadau wrth weithiau ffuglen eraill yn ymddangos yn y stori, er fel dyblau robotig. Yn ychwanegol, cynnigodd y stori esboniad cyntaf wrth y rhaglen am dynged y Mary Celeste, rhywbeth a fyddai'n cael ei wrth-ddadlau gan gyfryngau eraill.
Yn gwreiddiol, roedd y stori yma i fod yn ddiweddglo i Hen Gyfres 2; yn ychwanegol, roedd syniadau o ymestyn y stori i saith rhan er mwyn gymwynasu'r ffaith cafodd rhan tri a phedwar Planet of Giants eu crynhoi'n un.
Crynodeb[]
Mae teithwyr y TARDIS yn dysgu wrth Delwedydd Amser-Gofod (wedi'u cymryd wrth Amgueddfa'r Morok) bod grŵp o Daleks, gyda pheiriant amser eu hun, yn eu dilyn yn mynnu eu ecstermineiddio. Ffoa'r teithwyr yn y TARDIS, gan ddechrau'r ymlid...
Yn dilyn teithio i sawl adeg eraill, mae'r dau beiriant amser yn cyrraedd y blaned Mecanws. Yn dilyn cais y Daleks i ladd parti'r Doctor gyda dwbl robotig ohono, maent yn cwrdd â Steven Taylor, astronot traethwyd ar Fecanws am ddwy flynedd.
Yn y diwedd, mae'r Daleks a'r Meconoidiau yn dechrau brwydr erchyll sydd yn gorffen gyda dinistriad y ddau rhywogaeth. Mae parti'r Doctor yn defnyddio'r cyfle i ddianc, gyda'r Doctor yn helpu Ian a Barbara yn anfodlon i ddefnyddio beiriant amser y Daleks i ddychwelyd cartref.
Plot[]
The Executioners (1)[]
I'w hychwanegu.
The Death of Time (2)[]
I'w hychwanegu.
Flight Through Eternity (3)[]
I'w hychwanegu.
Journey into Terror (4)[]
I'w hychwanegu.
The Death of Doctor Who (5)[]
I'w hychwanegu.
The Planet of Decision (6)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Vicki - Maureen O'Brien
- Abraham Lincoln - Robert Marsden
- Francis Bacon - Roger Hammond
- Brenhines Elisabeth I - Vivienne Bennett
- William Shakespeare - Hugh Walters
- Cyhoeddwr Teledu - Richard Coe
- Lleisiau Dalek - Peter Hawkins, David Graham
- Daleks - Robert Jewell, Kevin Manser, John Scott Martin, Gerald Taylor
- Bwystfil Mire - Jack Pitt
- Malsan - Ian Thompson
- Rynian - Hywel Bennett
- Prondyn - Al Raymond
- Hebryngydd - Arne Gordon
- Morton Dill - Peter Purves
- Albert C Richardson - Dennis Chinnery
- Capten Benjamin Briggs - David Blake Kelly
- Bosun - Patrick Carter
- Willoughby - Douglas Ditta
- Stiward y Cabin - Jack Pitt
- Frankenstein - John Maxim
- Count Dracula - Malcolm Rogers
- Menyw Llwyd - Roslyn de Winter
- Dr Who Robot - Edmund Warwick
- Llais y Mecanoid - David Graham
- Mecanoidiau - Murphy Grumbar, Jack Pitt, John Scott Martin
- Steven Taylor - Peter Purves
- Ffyngoid - Jack Pitt, Ken Tyllsen
- Tocynnwr Bws - Derek Ware
Cast di-glod[]
Criw[]
- Awdur - Terry Nation
- Cyfarwyddwr - Richard Martin
- Cyfarwyddwr - Douglas Camfield (di-glod am "The Planet of Decision")
- Cynhychydd - Verity Lambert
- Golygydd Sgript - Dennis Spooner
- Dylunydd - Raymond Cusick
- Dylunydd - John Wood
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Trefnydd Brwydrau - Peter Diamond
- Dyn Camera Ffilm - Charles Parnell
- Golygydd Ffilm - Norman Matthews
- Cerddoriaeth Achlysurol - Dudley Simpson
- Colur - Sonia Markham
- Sain Arbennig - Brian Hodgson
- Goleuo - Howard King
- Sain - Ray Angel
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
Cyfeiriadau[]
Llyfrau[]
- Tra yn y TARDIS, mae Ian yn darllen Monsters from Outer Space.
Daleks[]
- Nid yw'r robotiaid yn y parc antur yn cael eu heffeithio gan arfau'r Daleks, gydan nhw yn credu taw bodau byw ydynt.
- Defnyddia'r Daleks Graddfa Dalekian i fesur pa mor hir maent yn glanio mewn safleoedd gofod-amser y tu ôl i'r TARDIS.
Lleoliadau[]
- Mae Vicki yn nodi cafodd Dinas Efrog Newydd "hynafol" yn Ymosodiad 22ain ganrif y Daleks.
- Planed diffeithdir yw Aridius - mae heuliau dwbl wedi sychu'r moroedd.
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at Ganolbarth Ewrop.
Creuaduriaid Chwedlonol[]
- Mae criw'r Mary Celeste yn camgymryd y Daleks i fod y Barbary Terror.
TARDIS[]
- Mae Vicki yn sôn am y rotor amser.
- Mae'r Doctor yn defnyddio'r rhagamlygydd llwybr amser.
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor yn honni bod ei abl canu yn gallu "denu'r eos o'r coed". Yn hwyrach, mae'n honni ei fod ganddo "synhwyrau cyfeiriad yn unfath â cholomen y glud.
Cerddoriaeth o'r Byd Go Iawn[]
- Mae'r Beatles yn ymddangos ar y Delwedydd Amser Gofod yn perfformio "Ticket to Ride". Mae Vicki yn hoffi'r grŵp, gan mae wedi bod i theatr coffa'r grŵp yn Lerpwll. (Yn yr un modd, mae Maureen O'Brien hefyd o Lerpwll).
Nodiadau[]
- Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiau 16mm.
- Adferwyd printiau negatif ar gyfer pob episôd yn 1978.
- Roedd gan y stori y teitlau gweithredol o The Daleks (III) a The Pursuers.
- Dyma'r achos cyntaf o'r Daleks yn defnyddio teithiant amser.
- Comisiynnwyd y stori yma yn hwyr pan atalwyd cynhyrchiad ar un o storïau eraill Terry Nation. Mae'n debyg llenwodd y stori fwlch a grëwyd yn gwreiddiol gan ei stori hanesyddol The Red Fort.
- Ystyriwyd Christopher Barry i gyfarwyddo'r stori.
- Gollyngodd Terry Nation sawl syniad am y stori, gan gynnwys golygfeydd yn yr Hen Aifft (lle byddai'r cyntaf o Byramidau'r Aifft yn cael eu adeiladu ar ben olion Dalek a ddinistriwyd), y blaned Stygian gyda brodorion anweledol, a'r byd niwlog Vapuron. Yn y pendraw, bydd y syniadau yn cael eu haildefnyddio ar gyfer The Daleks' Master Plan.
- Roedd sawl newidiad i'r stori wrth syniad gwreiddiol Terry Nation. Yn y stori gwreiddiol, byddai criw'r TARDIS yn gwylio William Shakespeare yn sgwrsio gyda'i wraig y posibilrwydd o hawlio Francis Bacon i ddefnyddio ei enw am ddramau Bacon, ac araeth gan Winston Churchill ar y delwedydd; byddai Ian a Vicki yn gweld y dinas tanddaearol eang Aridian trwy'r tywodau; a ni fyddai Ian a Barbara yn dychwelyd cartref ar ddiwedd y stori.
- Dychmygwyd preswylion Aridius fel creuaduriaid hyll, cyrfach.
- Yn gwreiddiol, cyflwynwyd y Ffyngoidiau ar Aridiws, yn lle eu cyfuno i olygfeydd Mecanws.
- Roedd esboniad y Doctor o'r tŷ arswyd yn bodoli mewn tiriogaeth meddyliau bod dynol yn gysyniad gwreiddiol Terry Nation am y segment, ond teimlodd Verity Lambert roedd hon yn crwydro'n rhy bell wrth strwythur arferol Doctor Who.
- Ar adeg roedd Baron Frankenstein wedi'i cynnwys yn olygfeydd y tŷ arswyd; roedd y Menyw Llwyd yn ychwanegiad hwyr.
- Recordiwyd yr olygfeydd ar ddiwedd "The Planet of Decision" gydag Ian a Barbara yn dathlu eu dychweliad i Lundain fel rhan o floc cynhyrchu The Time Meddler, ac felly cyfarwyddwr yr olygfeydd yma yw Douglas Camfield.
- Cafodd y Mecanoidiau eu hunig ymddangosiad yn y stori yma oherwydd y trafferth cafodd y dynion ynddynt wrth eu rheoli; nid oedd modd eu ffitio trwy'r rhan fwyaf o ddrysau.
- Llogwyd Dudley Simpson i cyflenwi'r cerddoriaeth achlysurol yn dilyn anargaeledd y dewisiad gwreiddiol, Max Harris.
- Dyma un o'r unig storïau Dalek i gynnwys hiwmor. Mae enghreifftiau yn cynnwys Dalek gyda nam llefaredd nad oedd yn gallu gwneud rhifyddeg pen syml (yn "The Executioners" a "The Death of Time"); Daleks yn nodio eu coesau llygaid i gadarnhau cynllun (yn "The Death of Doctor Who"); a'r Daleks yn dangos tuedd o grwydro wrth y pwnc sgwrsio craidd (yn ystod eu sgyrsiau yn "The Executioners").
- Mae'r stori yn cynnwys clip o The Beatles. Yn ddiddorol, gan ystyried y nifer fawr o episodau coll Doctor Who, mae'r clip yma o'r Beatles yn perfformio ar Top of the Pops, ond yn bodoli yn y stori yma. Serch hynny, mae'r golygfa eisioes "ar goll" unwaith eto oherwydd achosodd gyfyngiadau trwyddedau i'r golygfa cael ei golygu allan o bob rhyddhad DVD y tu allan i rhanbarthau 2 & 4 (DU ac Awstralia). Mae'r golygfa hefyd wedi'i gwahardd wrth yr episôd sydd ar gael ar BBC iPlayer.
- Yn gwreiddiol, cynlluniwyd byddai'r Beatles yn ymddangos yn y stori fel hen ddynion yn perfformio mewn cerdd pymthegfed penblwydd yn y 21ain ganrif. Roedd gan y band diddordeb yn y syniad, ond cafodd y syniad ei rhwystro gan eu rheolydd, Brian Epstein. Roeddent hefyd fod perfformio "I Feel Fine" yn lle "Ticket to Ride".
- Nid oedd tristwch y Doctor wrth ddweud hwyl fawr i Ian a Barbara o achos actio anhygoel yn unig. Wrth ffilmio Doctor Who, fe ddaeth William Hartnell yn ffrindiau go dda gyda William Russell a Jacqueline Hill a roedd ef yn wirioneddol drist i weld yr actorion yn gadael y rhaglen.
- Mae'r stori yma yn cynnwys y jôc byddai cerddorwyr pop y pryd yn cael eu ystyried fel artistiaid clasurol yn y dyfodol. Ailadroddwyd y jôc yn y gyfres 40 mlynedd yn hwyrach yn The End of the World. Tra nad oedd y grŵp yn gyfoes ar adeg darllediad, cafodd y Beatles eu cyfeirio atynt fel grŵp "clasurol" yn y stori 42.
- Mae'r Daleks yn aweddynol iawn yn y stori yma: "Advance and attack! Attack and destroy! Destroy and rejoice!"
- Dyma'r stori deledu olaf i gynnwys Ian a Barbara, ac felly mae'n cloi'r arc eang o'r Doctor yn ceisio cael y ddau nôl cartref.
- Dyma ymddangosiad cyntaf Steven Taylor. O ganlyniad, Peter Purves yw'r actor cyntaf i chwarae dau gymeriad gwahanol (heb golur trwm na phrostetigau) yn yr un stori. Yn ychwanegol, fe oedd yr actor cyntaf i ymddangos yn Doctor Who mewn rôl gwadd cyn cael rôl rheolaidd. Yn dilyn hon, byddai Ian Marter, Freema Agyeman, Karen Gillan, Peter Capaldi a Varada Sethu yn dilyn yr un llwybr; ond mae'r ffaith chwaraeodd Purves dwy rôl, gydag un yn troi'n rheolaidd yn yr un stori yn sefyllfa unigryw hyd heddiw.
- Ystyriwyd The Chase ar gyfer sail trydydd ffilm "Dr. Who" yn cynnwys Peter Cushing, i ddilyn Daleks' Invasion Earth 2150 A.D., ond cafodd y ffilm erioed ei chreu.
- Mae'r pumed episôd yn defnyddio'r teitl "The Death of Doctor Who"; dyma un o ddwy achos lle mae'r enw anghywir "Doctor Who" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teitl stori (yr achos arall oedd Doctor Who and the Silurians yn 1970). Cafodd yr enw ei chywiro wrth gael ei ailddefnyddio am y stori The Sarah Jane Adventures, Death of the Doctor a'i nofeleiddiad.
- Yn ystod ymarferion rhowd llysenwau i'r tri gwisg Fungoid er mwyn osgoi cymysgiadau: Fungoid Fred, Toadstool Taffy a Mushroom Malone.
- Cyfeiriwyd at bob un o'r tri prif colofnau yng nghoedwig Mecanws yn y sgript fel "Gubbage Canes".
- Sefydlodd nofel hwyrach, Interference - Book One, cafodd robotiaid Dracula a Frankenstein eu hadeiladu gan Microsoft, er ni chafodd y cwmni ei sefydlu nes deg mlynedd yn dilyn darllediad The Chase.
- Mae "The Planet of Decision" yn cynnwys y defnydd cyntaf o sgrech y Daleks; "Exterminate!" (Yn flaenorol, cynhwysodd y stori The Daleks y term "extermination", ac yn The Dalek Invasion of Earth defnyddiodd y Dalek Goruchaf y ferf "exterminate" yn ei orchymyn i'w israddion am Ian, ond dyma'r tro cyntaf i'r gair cael ei ddweud fel ebychiad ar ben ei hun.)
- Yn "The Mighty 200", fel rhan o arolwg barn Doctor Who Magazine ar hoff storïau cefnogwyr y rhaglen yn argraffiad 413, The Chase oedd y 157fed hoff stori ar y cyfan a'r stori olaf ymysg storïau Dalek.
- Mae'r episôd "Flight Through Eternity" yn cynnwys y dyluniad cyntaf o farwolaeth plentyn; ffaith eithaf erchyll gan ystyried ar y pryd ac yn barhau hyd heddiw, ystyriwyd y sioe i fod yn sioe teuluol. Sef, y baban sydd yn cael eu cario gan menyw wrth iddi neidio oddi ar y Mary Celeste (er nad yw marwolaeth yn cael ei weld ar sgrîn, mae hanes yn dynodi na chafodd unryw un o deithwyr y llong erioed eu ffeindio).
- Mae "Flight Through Eternity" hefyd yn cynnwys cyfeiriad cyntaf y sioe deledu at liw las ochr allanol y TARDIS, gyda Morton yn ei disgrifio fel "some kind of beat-up old blue wooden box". Oherwydd natur du-a-gwyn ar y pryd, dyma'r tro cyntaf i'r sioe cadarnhau natur y nodwedd hon.
- Dyma'r ail stori i'w gyfansoddi trwy sawl antur-mini wedi'u cysylltu trwy arc hirach, y cyntaf oedd The Keys of Marinus, hefyd wedi'i hysgrifennu gan Terry Nation. Mae gan y ddwy stori hefyd blaned gyda planhigion ymwybodol.
- Mae deialog y Daleks wrth episôd 6 wedi'i hailddefnyddio wrth olygfa episôd 1 o'r Dalek Goruchaf yn danfon y Dienyddwyr.
- Yn Nhachwedd 1986, gobeithiwyd byddai'r stori yn cael ei hailadrodd yn rhan o TV 50, fel rhan o ddathliad 50 mlynedd yn y BBC, ond o achos problemau contract, ni ddigwyddodd hon. Serch hynny, arddangoswyd Doctor Who digon trwy clipiau yn rhan o'r prif rhaglen dogfen TV 50.
- Crëwyd rhai o'r Daleks ag ymddangosodd yn y stori yma gan Shawcraft Models ar gyfer Dr. Who and the Daleks. Er roedd cynllun i beintio'r Daleks i edrych fel y Daleks teledu, roedd hon yn rhy anymarferol, ac felly defnyddiwyd y tri Dalek llogwyd yng nghefn golygfeydd yn unig. Oherwydd darlledwyd The Chase cyn rhyddhad y ffilm, dyma ymddangosiad cyntaf Daleks y ffilm.
- Er maen galed i weld achos yr ongl, wrth i Vicki eistedd ar bwys Barbara gan wthio'r cadair drosodd, mae coffi yn arllwys ar y deunydd mae Barbara yn gweithio gyda.
- Byddai'r trafferthau gyda'r mecanism amseru ac felly yn atal y TARDIS rhag lanio yn yr un lle mwy nac unwaith yn cael ei drwsio yn y pendraw, ac felly nid yw hon yn drafferth mewn storïau olynol.
- Dyma'r stori Dalek cyntaf lle mae'r Daleks yn ymwybyddus o'r Doctor yn barod.
- Mae'r stori yma'n cynnwys camp cyntaf enfawr o ran y fasnachfraint: ymddangosiad cyntaf ar deledu o gymeriad a darddiodd wrth gyfryngau deilliedig. Roedd y Dalek Du (yn hwyrach wedi'i wahaniaethu fel y "Dalek Du Arweiniol") yn gymeriad cylchol yn y gyfres gomig The Daleks, gan ymddangos yn gyntaf yn Duel of the Daleks #3 bron mis cyn ddarllediad cyntaf "The Executioners". Bydd'r Dalek Du yn mynd ymlaen i serennu mewn niferoedd o episôdau, storïau comig a storïau sain eraill trwy gydol y degawdau. Serch hynny, ni sefydlwyd hynaniaeth y Dalek yma fel yr un Dalek yn The Chase ei hun, ond yn y nofeleiddiadau Target gan John Peel, blynyddoedd yn hwyrach.
- Mae'r Doctor yn cwrdd â bwystfil Frankenstein. Yn The Haunting of Villa Diodati, mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn cwrdd â Mary Shelley y noswyl ysgrifennodd hi'r stori Frankenstein.
- Dyma'r stori olaf chwe rhan nes The Power of the Daleks bach dros blwyddyn yn hwyrach, ac felly dyma stori chwe rhan olaf yng nghyfnod Hartnell.
- Cafodd Edmund Warwick rhan a ysgrifennwyd yn benodol ar ei gyfer fel diolch am ei gymorth yn llenwi am William Hartnell yn dilyn cael ei anafu wrth greu The Dalek Invasion of Earth.
- Yn gwreiddiol, gobeithiwyd byddai modd dirweddu'r olygfa o'r Dalek yn ymgodi o'r tywod trwy gladdio'r plisgyn mewn tywod cyn tynnu'r model allan gyda rhaff a Land Rover. Yn anffodus, pan geisiwyd y stỳnt, darganfuwyd roedd pwysau'r tywod yn atal y Dalek rhag symud. Yn lle, perfformiwyd yr olygfa fel siot model yn BBC Television Film Studios yn Ealing.
- Enw gwreiddiol y Mecanoids oedd Mecons, ond newidwyd yr enw yn ystod cynhyrchiant er mwyn osgoi unryw gymysgedd gyda gelyn y gyfres Dan Dare, y Mekon. Serch hynny, ni chafodd y newidiad ei dodi ar y sgriptiau ddefnyddiodd actiorion llais y Daleks wrth recordio, ac o ganlyniad mae'r Daleks yn cyfeirio at y Mecanoids fel Mecons trwy gydol "The Planet of Decision". Enw gwreiddiol planet y Mecanoids oedd Mecon, tra enw gwreiddiol Aridius oedd Aridus.
- Symleiddiodd Dennis Spooner yr olygfeydd ar Aridius; ysgrifennodd Terry Nation am wladfa o fwystfilod mire yn llisgo Ian a Vicki o dan y ddaear, ond newidodd Spooner y sgript fel roedd ond angen un bwystfil mire yn unig ac hefyd fe ychwanegodd y drws i'r twneli.
- Yn union fel The Dalek Invasion of Earth, ni ysgrifennodd Terry Nation ymadawiad y cydymaith. Ysgrifennod Dennis Spooner ymadawiad Ian a Barbara.
- Nid oedd Raymond Cusick yn bles gyda ail-ddyluniadau Spencer Chapman o'r Daleks ar gyfer The Dalek Invasion of Earth, ac felly fe gafodd gwared o'r newidiadau. Cyfnewidwyd y disg radio gyda paneli solar fertigol yng nghanol corff y Dalek.
- Dyma'r stori gyntaf lle mae dau Ddoctor yn ymddangos ar sgrîn, yn benodol y Doctor Cyntaf gwreiddiol a'i gopi robot o'r Daleks.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "The Executioners" - 10 miliwn
- "The Death of Time" - 9.5 miliwn
- "Flight Through Eternity" - 9.0 miliwn
- "Journey into Terror" - 9.5 miliwn
- "The Death of Doctor Who" - 9.0 miliwn
- "The Planet of Decision" - 9.5 miliwn
Cysylltiadau[]
- Wrth i Ian ofyn i Barbara am ei chardigan i ddefnyddio mewn cynllun i drapio'r Dalek oedd yn gwarchod y TARDIS, mae'n dweud "o na, dim eto." Defnyddiwyd un arall o'i chardiganau am gynllun arall. (TV: The Space Museum)
- Dyma ymddangosiad cyntaf dechnoleg atgynhyrchu'r Daleks. Bydd y Doctor yn gweld y dechnoleg unwaith eto. (TV: Resurrection of the Daleks)
- Bydd yr Adeilad Empire State yn graidd i un o gynlluniau eraill y Daleks. (TV: Daleks in Manhattan / Evolution of the Daleks) Yn y stori yma, mae awgrymiad cafodd y Daleks llaw mewn adeiladu'r Adeilad Empire State, ar y lleiaf trwy ddylunio'r lloriau uchaf; dyma union beth digwyddodd gyda cynllun Cwlt Sgaro. Serch hynny, mae'n debyg nad yw'r dau rŵp o Ddaleks yn ymwybodol o'r llall, gan mae Cwlt Sgaro yn dod o fydysawd ôl-Rhyfel Mawr Olaf Amser.
- Bydd Davros yn atgyfodi'r Meconoids. (SAIN: The Juggernauts)
- Bydd sawl gyfeiriad olynol at abl y Daleks i deithio trwy amser. (TV: The Daleks' Master Plan, The Evil of the Daleks, Day of the Daleks, Resurrection of the Daleks, Remembrance of the Daleks, Doomsday, Daleks in Manhattan, The Stolen Earth a Journey's End)
- Honnodd estronwr o'r enw Mila i fod ar y TARDIS ers yr adeg hon. (SAIN: Patient Zero)
- Yn 1903, yn dilyn derbyn llu o wybodaeth o'r dyfodol, rhagwelodd Grigori Rasputin y modd ymadawodd Ian a Barbara'r TARDIS. (SAIN: The Wanderer)
- Cyrhaeddodd Ian a Barbara Lundain ar 26 Mehefin 1965. Rhodd y Doctor amlen llawn nodiadau a cheiniogau Prydeinig, gan gynnwys un darn dauddeg ceiniog yn dyddio wrth 1982. (PROS: The Time Travellers)
- Yn dilyn dychwelyd i 1965, bydd Ian a Barbara yn priodi. (PROS: The Face of the Enemy)
- Bydd y Doctor unwaith eto yn cael ei gyfeirio ato fel "bod dynol". (TV: The Daleks Master Plan) Ni fydd rhywogaeth cywir y Doctor yn cael ei ddynodi gan y Daleks nes ei bumed ymgorfforiad. (TV: Resurrection of the Daleks)
- Gwelwyd ailgrëad robot o Dracula yn y tŷ arswyd yng Ngwledd Ghana yn 1996. Yn hwyrach, bydd y Pumed Doctor yn cwrdd â'r Dracula hanesyddol, Vlad III, yn 1462 (SAIN: Son of the Dragon) tra gwrddodd ei chweched ymgorfforiad â'i gyfatebiad llenyddol yn Nhir y Ffuglen. (SAIN; Legend of the Cybermen)
- Sawl blwyddyn yn hwyrach, cafodd Ian a Steven eu hailuno gyda'i gilydd a'r Doctor a'r Doctor, erbyn ni yn ei bumed ymgorfforiad, mewn Rhanbarth Marwolaeth eiledol ar Aliffrei. (SAIN: The Five Companions)
- Yn "The Death of Doctor Who", mae'r Doctor robotig yn galw Vicki'n "Susan", gan nad yw'r Daleks wedi cwrdd Vicki o'r blaen, a maent yn anymwybodol o ymadawiad Susan. (TV: The Dalek Invasion of Earth)
- Erbyn ei ail ymgorfforiad, darganfododd y Doctor am ymglymiad ei hun mewn diflaniad criw'r Mary Celeste. (SAIN: The Rosemariners)
- Treuliodd Steven sbel hir iawn mewn caethiwed unigeddol tra ar Mecanws. (SAIN: The Anacronauts)
- Yn dilyn cyrraedd haf 1965, honnodd Ian a Barbara treulion nhw'r blwyddyn a hanner cynt yn gwneud gwaith efelyngol yng Nghanolbarth Africa. Peidiodd y ddau ddychwelyd yn union i'w hen fywydau, gyda Barbara yn dod yn ddarlithiwr hanes mewn prifysgol, yn arbenigo yng nghyfnod yr Asteciaid yn hanes Canolbarth America, a daeth Ian yn ddarlithiwr gwyddoniaeth mewn prifysgol gan ennill proffesoriaeth o fewn blwyddyn, gan arbenigo yn astronomeg. Nododd y newyddiadurwr James Stevens roedd gan Ian arbenigaeth ar ddraws sawl pwnc, y tu hwnt i'r disgwyl o gyn-athro ysgol uwchradd. (PROS: Who Killed Kennedy)
- Bydd y Degfed Doctor hywrach yn cwrdd ag Elisabeth I a William Shakespeare. (TV: The Day of the Doctor, The Shakespeare Code)
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd adnewyddiad o'r stori yma ar DVD yn y DU ar 1 Mawrth 2010 fel rhan o set bocs gyda The Space Museum.
Ychwanegiadau arbennig[]
Disc un[]
- Sylwebaeth sain gan Maureen O'Brien (Vicki), William Russell (Ian), Peter Purves (Steven) a Richard Martin (Cyfarwyddwr)
- Cusick in Cardiff - Dylunydd y Daleks, Raymond Cusick, yn ymweld â stiwdios y gyfres newydd yng Nghaerdydd.
- Rhestriadau Radio Times
- Is-deitlau gwybodaeth cynhyrchu
- Trelar tro nesaf - Myths and Legends
Disc dau[]
- The Thrill of the Chase - Richard Martin yn edrych nôl ar gynhyrchu'r sioe
- Last Stop White City - Stori yr athrawon Barbara Wright ac Ian Chesterton
- Daleks Conquer and Destroy - Gwerthusiad o apêl y Daleks
- Daleks Beyond the Screen - Y cyfleuodd marchnadu cyflwynodd y Daleks
- Shawcraft - The Original Monster Makers - Rhaglen dogfen am grewyr sawl prop a model ar gyfer Doctor Who yr 1960au.
- Follow that Dalek - film lliw 8mm wrth Shawcraft Models yn 1967
- Give-a-Show Slides - 16 stori ar ddraws 7 sleid yr un o'r Give-a-Show Projector
- Oriel
Noddiadau[]
- Cyflawnwyd golygu ar gyfer y DVD gan y Doctor Who Restoration Team.
- O achos rhwystriadau trwydded am gân y Beatles, ni chynhwyswyd yr olygfa mewn rhyddhadau America (Rhanbarth 1) o The Chase.
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori ar Blu-ray yn y DU ar 5 Rhagfyr 2022, fel rhan o set bocs The Collection: Season Two.
Rhyddhadau Digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio trwy BritBox (UDA) fel rhan o Hen Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.
- i ffrydio ar BBC iPlayer.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori ar VHS fel rhan o The Daleks Box Set, ynghyd Remembrance of the Daleks, yn y Deyrnas Unedig ym Medi 1993 ac yn yr UDA yn Hydref 1993. Ni werthwyd The Chase erioed ar wahân.
Rhyddhadau Sain[]
Gwelodd Ebrill 1966 ryddhad "The Planet of Decision" (episôd chwech) fel albwm mini 7" gan Century 21 Records a Pve Records fel rhan o'u cyfres "21 Minutes of Adventure". Derbynodd yr episod rhai olygiadau ac ychwanegwyd adroddawd cysylltiadol gan actor llais Dalek, David Graham. Dyma'r rhyddhad Doctor Who sain cyntaf erioed o stori a fodolodd yn barod neu wreiddiol, gan gyn-ddyddio Doctor Who and the Pescatons a'r rhyddhad LP o Genesis of the Daleks gan bron dros ddegawd.
Troednodau[]
|
|
|