Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Crimson Horror (Cy: Arswyd y Gochrudd) oedd unarddegfed episôd Cyfres 7 Doctor Who.

Cynhwysodd yr episôd dychweliad Madame Vastra, Jenny Flint a Strax, ar ôl cael eu gweld yn olaf yn The Snowmen. Dyma 100fed episôd Doctor Who ers dychwelyd yn 2005.

Mae'r episôd yma yn dilyn yn syth i mewn i'r un dilynol, Nightmare in Silver, o ganlyniad i'r plant Maitland bygwth Clara i wneud i'r Doctor tywys nhw ar daith ar ôl iddynt dod o hyd i dystiolaeth o deithiau amser Clara mewn llyfrau hanes ac ar y .

Crynodeb[]

Yn 1893, mae hen ffrindiau'r Unarddegfed Doctor: Vastra, Jenny Flint, a Strax yn dod o hyd i optogram o'r Doctor wrth aberth o'r "arswyd gochrudd". Maent yn teithio i Swydd Efrog, lle mae Jenny yn torri i mewn i gymuned Winifred Gillyflower o Sweetville er mwyn darganfod beth sydd wedi digwydd iddo.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Matt Smith
  • Clara - Jenna-Louise Coleman
  • Mrs Gillyflower - Dame Diana Rigg
  • Ada - Rachael Stirling
  • Jenny - Catrin Stewart
  • Madame Vastra - Neve McIntosh
  • Strax - Dan Starkey
  • Angie - Eve De Leon Allen
  • Artie - Kassius Carey Johnson
  • Edmund & Mr Thursday - Brendan Patricks
  • Amos - Graham Turner
  • Effie - Olivia Vinall
  • Abigail - Michelle Tate
  • Bachgen tlawd - Jack Oliver Hudson

Cast di-glod[]

  • Dwbl Mrs Gillyflower:[1]
    • Blod Jones
  • Dwbl Mrs Gillyflower yn chwarae'r organ:[1]
    • Christine Paterson
  • Gweithwyr:[1]
    • Natie Marie Davies
    • Nicole Crees
    • Emily Hodge
    • Amanda Mulford
    • Harriet Young
    • Anna Treasure
    • Lisa Jones
    • Edward James
    • Christian Pegley
    • Kade Mconville
    • Paul Bailey
    • Daniel Palmer
    • Warren Pegley
    • Adam Dabbs
    • Ian Hoyle
  • Pererindodwyr benywaidd:[1]
    • Brya Waterford
    • Tiffany Smith
    • Marley Hamilton
    • Rebecca Van-Stein
    • Olivia Alessandra
  • Dwbl Edmund & Mr Thursday:[1]
    • Andrew Cross
  • Pererindodwyr:[1]
    • Simon Carew
    • James Hill
    • Faye Johnson
    • Harry Burt
    • Sean Oakes
    • Rhys Edwards
    • Craig Walkey
    • Florent Bahuaud
    • Kally Davies
    • Marley Hamilton
    • Emily Humpphries
  • Pobl yn yr ystafell aros:[1]
    • Caroline Harrison
    • Katie Powles
    • Katherine Gray
    • Mandy Floodpage
    • Hannah Floodpage
    • Kathy Saxondale
    • Jane Waters
    • Helen Evans
    • Melody Brain
    • Nicola Cope
    • Helena Dennis
    • Bethan Williams
    • Miriam Pippard
    • Angharad Baxter
    • Elizabeth Haworth
    • Den Edginton
    • Ben Templar
    • Charlie Elliot
    • Jonathan Charles
    • Harry Damsell
    • Graham Smith
    • Peter Hanks
    • Geoff Scott
    • Nigel Mably
    • Richard Powell
    • Keith Ruby
    • Tim Beech
    • John Britton
    • Aled Hughes
    • David Harries
  • Pobl yn pasio:[1]
    • Mike Wendell
    • Anna Treasure
    • Gerald Bowman
    • Philip Gould
    • Richard Husband
    • Caroline Smith
  • Gyrrwr y cab:[1]
    • Mike Pike
  • Plant tlawd:[1]
    • Travis Weeks
    • Harry Lewis
    • Ellie Pirie
  • Pererindodwr gwrywaidd golygus:[1]
    • Rob Judd
  • Pobl a gafodd eu plymio:[1]
    • Lewis Fackerell
    • 6 Menyw Anhysbys
    • 5 Dyn Anhysbys
  • Syllwyr:[1]
    • Tim Reid
    • Maggie Baiton
  • Heddlu:[1]
    • Steven Eynon
    • Jonathan Hendry
  • Menyw yn sgrechen:[1]
    • Mandie Garrigan
  • Dyn yn cysuro:[1]
    • Ian Hoyle
  • Menyw gochrudd farw:[1]
    • Elena Allsopp
  • Gŵr mewn jar cloch:[1]
    • Andrew Jay
  • Gwraig mewn jar cloch:[1]
    • Marina Baibara
  • Dwbl y Doctor:[1]
    • Matt Humphries
  • Dwbl Clara:[1]
    • Charlotte Patterson
  • Dyn golygus mewn jar cloch:[1]
    • Mitchell Harper
  • Pererindodwr stỳnt:[1]
    • Dan Euston
  • Pererindodwyr newydd:[1]
    • Marley Hamilton
    • Emily Humphries
    • Brya Waterford
    • Oliver Park
    • Rhys Edwards
    • Florent Bahuaud
  • Dwbl stỳnt:[1]
    • Stephanie Carey

Cyfeiriadau[]

Technoleg[]

  • Mae Thomas Thomas, trwy ddefnyddio iaith GPS modern, yn gyfeiriad amlwg at y wasanaeth GPS poblogaidd o'r byd go iawn, TomTom.

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • "The Repulsive Case of the Red Leech" yw antur Sherlock Holmes heb nofel llawn, gan gael ei gyfeirio ati yn The Adventure of the Golden Prince-Nez.
  • Yn dilyn dychwelyd wrth ei hantur, mae Clara yn gafael mewn tegan Transformers, yn penodol ffigur Galvatron.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae sawl bwyd yn cael eu cyfeirio atynt, yn cynnwys: Amontillado, cacennau Pontefract, a cacennau hadau.

Lleoliadau[]

  • Caiff Bradford a Buckden Pike eu cyfeirio atynt.

Nodiadau[]

  • Mae'r stori yma yn dynodi'r tro gyntaf yn y gyfres newydd i gyfeillion cydymaith llwyddo didwytho teithiau amser y person gyda'r Doctor ar ben eu hun, ac abl y Doctor i deithio trwy amser, heb gwestiynnu'r Doctor yn uniongyrchol na chael unryw brofiad o'r TARDIS. Darganfododd Artie ac Angie Maitland lluniau o deithiau Clara wrth TV: Cold War, Hide, a llun o Clara yn ystod eu bywyd Oes Fictoria (TV: The Snowmen) ar y , yn datgan ei chyfrinach.
    • Felly, mae Clara'n gweld un o'i hadleisiau am y tro cyntaf wrth edrych ar lun o'i hun yn Llundain, gan awgrymu iddi ei bod hi wedi byw mwy nac un bywyd; cwestiynodd y Doctor hi dros ei chyn-fywydau yn ystod eu hantur olaf, ond anghofiodd hi wedyn ar ôl i'r dydd cael ei dileu. (TV: Journey to the Centre of the TARDIS)
  • Mae'r Doctor llawer mwy cyfeillgar gyda Clara yn dilyn dysgu nad oes gan Clara unryw rheolaeth dros ei hadleisiau. Mae'n atal trin hi fel ysbryd a dechrau ei thrin fel cydymaith.
  • Er i Jenny a Vastra cwestiynnu'r Doctor dros Clara a sut yw hi dal i fyw, nid yw ef byth yn esbonio unrywbeth iddynt a nid yw Clara'n bresennol am y cwestiynnau chwaith. O ganlyniad, er gwrddon nhw, nid yw Vastra na Jenny yn ymwybodol mai unigolyn gwahanol a dim yr un un wedi ei hadfer yw hon, a nid yw Clara yn ennill unryw gwybodaeth am ei chyn-fywydau o'r ddwy.
  • Dyma'r unig stori i gynnwys Vastra, Jenny, a Strax i beidio cael ei hysgrifennu gan Steven Moffat.
  • Dyma 100fed episôd Doctor Who ers dychweliad y rhaglen yn 2005.
  • Mae Diana Rigg yn cael ei chredydu fel "Dame Diana Rigg", dyma'r tro cyntaf i'r arwydd parch cael ei cynnwys mewn credyd ar sgrîn Doctor Who, ar y llaw arall, nid yw Syr Michael Gambon yn derbyn y credyd hwnnw yn TV: A Christmas Carol.
  • Dyma'r ail episôd yn olynol i gynnwys ffurf o gamdriniaeth teuluol.
  • Dyma'r ail episôd yn olynol wedi'u gosod yn Oes Fictoria i gynnwys actor sydd wedi'u urddo'n farchog fel y prif gelyn yn dilyn Syr Ian McKellen yn darparu ei lais ar gyfer yr Deallusrwydd Mawr yn TV: The Snowmen.
  • Mae'r episôd yma yn cynnwys enghraifft ymddangosiad teledu cyntaf y DWU o gini sydd dal i oroesi, gan mae The Highlanders ar goll.
  • Mae Sweetville wedi'i seilio ar y bentref go iawn o Saltaire, Swydd Efrog, a ddechreuodd yn 1851 gan Titus Salt. Roedd gan Titus merch o'r enw Ada, gyda stryd yn y bentref yn cael ei enwi ar ei hôl. Mae'n posib bod enw Sweetville yn adlewyrchu enw'r bentref Bournville, a wnaeth cael ei ddefnyddio fel enw bar siocled yn hwyrach.
  • Mae cleient Vastra yn ffeintio sawl gwaith yn dilyn gweld unrywbeth annisgwyl neu syndodol. Roedd hyn yn dynwared sut cafodd menywod eu portreadu i ymddwyn yn ystod Oes Fictoria.
  • Nid yw'r stori yma yn cynnwys unryw elfennau estronaidd ar wahân i'r Doctor, y TARDIS, a Strax.
  • Byddai Matt Smith a Diana Rigg yn ymddangos gyda'i gilydd yn hwyrach yn ffilm Edgar Wright, Last Night in Soho (ffilm olaf Rigg cyn ei marwolaeth).
  • Yn y stori yma, mae Diana Rigg a Rachel Stirling yn chwarae mam a merch; yn y byd go iawn, mae'r dwy yn mam a merch hefyd.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.61 miliwn
  • Cyfartaledd DU trefynol: 7.37 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud roedd y TARDIS arfer bod yn waeth am lanio yn y lleioliad bwriadol, gan nodi unwaith treuliodd "sbel yn ceisio cael Awstraliad siaradus nôl i Faes Awyr Heathrow", yn cyfeirio at geisiau ei bumed ymgorfforiad i gael Tegan Jovanka nôl i amser ei hun. (TV: Four to Doomsday, ayyb)
  • Yn dilyn cyfeirio at Tegan, mae'r Doctor yn defnyddio'r ymadrodd dywedodd ei bumed ymgorfforiad yn aml iddi hi i Clara: "Brave Heart...". (TV: Earthshock, ayyb)
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn defnyddio'r alias John Smith. (TV: Spearhead from Space, ayyb)
  • Mae'r Doctor yn ceisio acen gogleddol unwaith eto. (TV: The Rebel Flesh) Siaradodd ei nawfed ymgorfforiad gyda acen y gogledd. (TV: Rose, ayyb) Mae Clara hefyd yn ceisio ar acen y gogledd wrth edrych rownd Sweetville.
  • Mae gan Angie lluniau o Clara ar ei gluniadur yn yr 1980au, (TV: Cold War) 1970au, (TV: Hide) a Llundain Oes Fictoria. (TV: The Snowmen)
    • Mae Clara wedi ei syndodu gan y llun olaf gan nid yw hi wedi ymweld â Llundain yn Oes Fictoria. Mae hon achos mae'r llun o'i hatseiniad, Clara Oswin Oswald. (TV: The Snowmen)
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn cael cymorth wrth Madame Vastra, Jenny Flint a Strax. (TV: A Good Man Goes to War, The Snowmen)
  • Mae Strax yn bloeddi bloedd brwydr y Sontarans, "Sontar-ha!", wrth ymosod ar y pobl pwylltreisedig sydd o amgylch y Doctor a Jenny. (TV: The Sontaran Stratagem / The Poison Sky, ayyb)
  • Cyfeiriwyd at y gred o'r llygaid yn cadw'r olygfa olaf mae'n gweld yn olaf gan y Pedwerydd Doctor, gydag ef yn defnyddio proses tebyg i weld y cofion olaf ymennydd Wirrn marw. (TV: The Ark in Space)
  • Mae'r Strax yn cyfeirio at Jenny fel "fleshy boy", yn dangos bod dal ganddo trafferthau gyda gwahaniaethu rhywiau. (TV: The Snowmen, The Battle of Demons Run: Two Days Later)
  • Mae Gillyflower yn dweud "you do keep turning up like a bad penny young man". Ceisiodd Melissa Heart galw'r Doctor yn "bad penny", ond dywedodd hi "Bad Wolf" yn lle. (PRÔS: The Clockwise Man) Yn flaenorol, honnodd y Doctor mai "Bad Penny" oedd ei enw canol. (TV: The God Complex)
  • Mae gan Gillyflower organ sydd yn troi i guddio uned rheoli lawsio ei roced ar ôl i allweddi penodol cael eu chwarae. Chwaraeodd y Degfed Doctor organ er mwyn rwystro Lazarus. (TV: The Lazarus Experiment) Mae'r TARDIS wedi troi i mewn i organ hefyd, gyda'r Chweched Doctor yn chwarae honno hefyd. (TV: Attack of the Cybermen)
  • Wrth i'r Doctor a Clara paratoi i adael Swydd Efrog, mae Clara yn nodi ei bod hi wedi cael digonedd o gredydau Fictoriaidd. Yn flaenorol, siaradodd y Doctor gyda Strax am gredydau Fictoriaidd, lle os yw person yn dod o hyd i rywbeth newydd sbon yn y byd, byddent nesaf yn ceisio dod o hyd i wneud elw wrth y peth. (TV: The Snowmen)
  • Mae Strax unwaith eto yn hoff o grenades, dulliau ymosodol, a thrapiau asid. (TV: The Snowmen)
  • Mae Jenny yn sôn am farwolaeth Clara Oswin Oswald o ganlyniad i'r menyw iâ. (TV: The Snowmen)
  • Mae Angie ac Artie yn adnabod y Doctor, ac felly yn cysylltu Clara i'r hen luniau o ganlyniad iddyn nhw'n cymryd neges wrtho i roi i Clara tra roedd hi'n anymwybodol. (TV: The Bells of Saint John)
  • Mae Angie ac Artie yn dod o hyd i dystiolaeth o'r Doctor ar y wê. Roedd modd i Clive a Mickey Smith ymmchwilio i'r Nawfed Doctor, gan honni roedd modd ei weld yn dwfn mewn llyfrau hanes ac ar y wê. (TV: Rose, Aliens of London)
  • Ar ôl cael ei adfer, mae'r Doctor yn cusanu Jenny ac mae hi yn ei fwre. (TV: The Snowmen)
  • Cyfeiriodd John Watson at "the repulsive story of the red leech" yn ei lyfr, All-Consuming Fire. (PRÔS: All-Consuming Fire)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd The Crimson Horror yn rhan o Doctor Who Series 7 Part 2 ar 22 Mai 2013, ac fel rhan o The Complete Seventh Series ar 24 Medi 2013.

Troednodau[]