The Crusade (Cy: Y Croesgad) oedd chweched stori Hen Gyfres 2 Doctor Who. Dyma'r stori olaf ysgrifennodd David Whitaker ar gyfer William Hartnell, a'r stori gyntaf i gael ei chyfarwyddo gan Douglas Camfield yn gyfan gwbl. Hyd heddiw, yr episôd gyntaf a'r trydydd episôd, "The Lion" a "The Wheel of Fortune", yw'r unig episodau sydd ddim ar goll; o ganlyniad, The Crusade yw'r unig stori yn Hen Gyfres 2 i gynnwys episodau coll.
Roedd y rhan fwyaf o'r actorion yn y stori yma wedi bod yn Doctor Who o'r blaen, neu byddent yn mynd ymlaen i actio yn stori olynol Doctor Who, yn enwedig: Gabot Baraker, Zohra Sehgal, Walter Randall, Jean Marsh, Reg Pritchard, a Bernard Kay. Roedd hon yn ymarferiad arferol am yr adeg. Byddai Jean Marsh yn mynd ymlaen i chwarae Sara Kingdom yn The Daleks' Master Plan. Yn ychwanegol, ystyriwyd Nicholas Courtney am adeg i amnewid ar gyfer Julian Glover.
Mae'r stori yma hefyd yn nodedig am gweithrediadau'r Doctor. Mae'n cyfiawnhau dwyn dillad ar sail y ffaith roedd y dillad eisioes wedi'u dwyn yn barod. Ac mae'n siarad am sut mae'n hoff o ddewrder ac yn casàu ffyliaid. Yn rhyfeddol, mae'n ceisio cefnogi cynllun heddwch y Brenin Rhisiart, er mae'n sicr bod rhaid iddo gwybod na fydd y cynllun yn gweithio. Mewn rhyw fath o jôc-mewnol, gwelodd The Web Planet Ian yn cael ei fygwth gan y Sarbi wrth sylwadu ar forgrug yn bwyta trwy dŷ, tra yn y stori yma mae ef bron yn cael i fwyta gan wladychfa morgrug.
Crynodeb[]
Mae'r TARDIS yn cyrraedd Palesteina yn y 12fed ganrif lle mae rhyfel sanctaidd yn brwydro rhwng grymoedd Brening Rhisiart Lewgalon a rheolwr y Saracen, Saladin. Mae Barbara yn cael ei herwgipio mewn ymosodiad saracen a mae'r Doctor, Ian, a Vicki yn teithio i balas y Brenin Rhisiart yn ninas Jaffa.
Plot[]
The Lion (1)[]
I'w hychwanegu.
The Knight of Jaffa (2)[]
I'w hychwanegu.
The Wheel of Fortune (3)[]
I'w hychwanegu.
The Warlords (4)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Vicki Pallister - Maureen O'Brien
- Rhisiart Lewgalon - Julian Glover
- William des Preaux - John Flint
- El Akir - Walter Randall
- Reynier de Marun - David Anderson
- William de Tornebu - Bruce Wightman
- Ben Daheer - Reg Pritchard
- Thatcher - Tony Caunter
- Saphadin - Roger Avon
- Saladin - Bernard Kay
- Rhyfelwyr Saracen - Derek Ware, Valentino Musetti, Chris Konyils, Raymond Novak, Anthony Colby
- Joanna - Jean Marsh
- Chamberlain - Robert Lankesheer
- Sheyrah - Zohra Segal
- Luigi Ferrigo - Gabor Baraker
- Haroun - George Little
- Safiya - Petra Markham
- Dug Caerlŷr - John Bay
- Gwylltiad Twrcaidd - David Brewster
- Maimuna - Sandra Hampton
- Fatima - Viviane Sorrel
- Hafsa - Diana McKenzie
- Ibrahim - Tutte Lemkow
- Dyn-yn-Arms - Billy Corneilus
Cast di-glod[]
Cast[]
- Awdur - David Whittaker
- Trefnydd Brwydrau - Derek Ware
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
- Cerddoriaeth Achlysurol - Dudley Simpson
- Dyn Camera Ffilm - Peter Hamilton
- Golygydd Ffilm - Pam Bosworth
- Goleuo - Ralph Walton
- Sain - Brian Hiles
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Colur - Sonia Markham
- Golygydd Stori - Dennis Spooner
- Dylunydd - Barry Newbery
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Cyfarwyddwr - Douglas Camfield
Cyfeiriadau[]
- Mae Barbara yn cynllunio dweud wrth Saladin am storïau Romeo and Juliet, Gulliver's Travels a chwedlau Hans Christian Andersen.
- Mae llu Rhisiart yn defnyddio cudyllod ar gyfer hela.
- Mae El Akir yn cynnig ceiniogau metel i Barbara.
Nodiadau[]
- Teitl gwreiddiol y stori oedd The Saracen Hordes. Teitlau gweithredol "The Knight of Jaffa", "The Wheel of Fortune", a "The Warlords" oedd "Damsel in Distress", "Changing Fortunes" a "The Knight Jaffa" yn eu tro.
- Yr episodau cyntaf a'r trydydd, "The Lion" a "The Wheel of Fortune", yn unig sydd yn bodoli yn archifau'r BBC fel telerecordiau 16mm. Serch hynny, mae recordiau sain o'r pedwar episôd yn bodoli. O nodedig, mae episôd dau ("The Knight of Jaffa") yn torri rhediad o 44 o episodau "symudol" (e.e. ar gael i wylio yn weledol mewn ffurf arall ar wahân i delesnaps) yn dyddio nôl at "The Sea of Death".
- Canfuwyd "The Lion" yn Seland Newydd gan gasglydd ffilmiau Bruce Grenville rhywbryd cyn 1998 ac eisteddodd yr episod yn rhan o'i gasgliad ffilmiau 16mm eang am sawl mlynedd. Yn 1998, gofynnodd cefnogwr Doctor Who, Neil Lambess, i Grenville os oedd ganddo unryw ffilmiau Doctor Who yn ei gasgliad, a phan dywedodd Grenville roedd ganddo rhywbeth o'r enw "The Lion", sylweddodd Lambess efallai roedd ganddo episôd coll. Fe ddaeth a'i ffrind Paul Scoones i dŷ Grenville i recordio'r episôd rhag ofn roedd gan Grenville yr episôd go iawn. Yn dilyn cadarnhau roedd argraffiad Grenville yn go iawn, roedd ef yn adnabyddus iawn i gael y print nôl i'r BBC ar gyfer copïo. Danfonodd Scoones y dâp i'r BBC Film and Videotape Library, ac yn 1999, crëodd y BBC print Digi-Beta o "The Lion" cyn dychwelyd y print gwreiddiol i Grenville. Derbynodd stori adferiad "The Lion" sylw sylweddol wrth près y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, ymddangosodd Bruce Grenville ar un o raglenni BBC1 gwyliwyd yn mwyaf, amrywiad o The National Lottery, er mwyn adrodd ei stori. Hyd heddiw, The Crusade yw unig stori Hen Gyfres 2 i gael episôd coll.
- Mae telesnaps ar gyfer y stori yma gan John Cura yn bodoli mewn casgliadau preifat.
- Mynnodd William Hartnell am ddileuad y deialog ag awgrymodd perthynas llosgachllyd rhwng Rhisiart a Joanna, gan fe deimlodd roedd y deialog yn rhy anaddas ar gyfer gyfres deuluol. Roedd Julian Glover a Jean Marsh yn agwybod am yr amcanion gwreiddiol ac roeddent yn adnabyddus i gyfleu'r berthynas trwy deimladau gnawdwyllt yn eu perfformiad. Serch hynny, cafon nhw eu rhybuddio rhag wneud hon gan Verity Lambert, gyda hi'n dweud "Dydw i ddim yn siwr os ydych chi'n gwybod beth chi'n gwneud."
- Ceisiodd Adrienne Hill am rôl Joanna, ond teimlodd Douglas Camfield a Verity Lambert roedd hi'n rhy fyr.
- Yn ystod cynhyrchu'r stori yma, dewisodd Verity Lambert gadael y gyfres.
- Mae William Russell braidd yn ymddangos yn "The Wheel of Fortune", gan ymddangos mewn segment recordiwyd yn gynt gan roedd yr actor ar ei wyliau yn ystod ffilmio. Cafodd Russell ei drefnu i ffilmio'r olygfa lle mae byddin o forgrug yn crepian lan braich Ian. Gwrthodd Russell ffilmio'r olygfa yma, felly roedd rhaid i gynorthwyydd cynhyrchu Viktors Ritellis dyblu iddo fe.
- Roedd rhestriad Radio Times ar gyfer "The Wheel of Fortune" wedi'i chyfeilio gan lun du-a-gwyn o'r Doctor mewn marchnad mewn rhai ardaloedd, gydag isdeitl o "William Hartnell as Dr. Who, who continues his adventures among the Crusaders and Saracens this evening at 5.40".
- Mae'r story yn nodedig am drîn y ddau reolwyr mewn modd gwrth-arferol. Mae Saladin (wedi'i chwarae gan Bernard Kay) wedi'i bortreadu fel cydymdeimlol a deallgar, tra mae'r Brenin Rhisiart I yn cael ei bortreadu fel plentynaidd a phenboeth. Mae Doctor Who hefyd yn ynganu enw Saladin yn gywir, sydd yn annhebygol o arluniad cyfryngau'r Gorllewin.
- Ni rhowd dyddiad union am y stori yma, ond wnaeth y nofeleiddiad cael y Doctor yn amcan y dyddiad i fod rhwng 1190 ac 1192.
- Ni mwynhaodd Julian Glover gweithio gyda William Hartnell. Fe nododd ar sylwebaeth sain DVD y stori William Russell a Jacqueline Hill wnaeth croesawi'r cast gwadd gan nad oedd Hartnell yn "rhy dda am wneud hynny", gan ei ddisgrifio fel actio'n "oer" tuag ato ac i Jean Marsh. "I don’t know whether he was insecure or not, but he was very difficult to work with. God rest his soul, but he was very difficult. I suppose it was insecurity, he couldn’t bear to be upstaged, he couldn’t bear not to be in the centre. It was extraordinary casting in that part, I mean, if you think of all those films where he played military people, and all that. He was absolutely wonderful playing those stern military types. That was his strength, playing union men, playing representatives of working class bodies, and so it was extraordinary that he was cast as Doctor Who. That’s probably the reason Bill Hartnell, as has been suggested, felt insecure. That was the reason for it; he felt like a fish out of water to start with, and he was determined that he should win, and my God, he did win. He was personally responsible for the success of that series, and why it’s still going today. I don’t deny that, but he wasn’t easy, and I had to just swallow it, as he was the governor, and Doug said, 'No, don’t upset him.' My background was, at the time, a bit la-de-da for him, with the Royal Shakespeare company, and all that Shakespeare stuff. Unlike Roger Moore, who had never done anything like that at all in his life, and just used to call me 'Mr National Theatre', and we laughed all the time. He found it amusing, but William Hartnell didn’t".
- Mae David Whitaker yn ystyried y stori yma fel ei gamp dechnegol orau. Honnodd Douglas Camfield nad oedd rhaid iddo newid dim un gair. "The Crusade is the story that I am technically proudest of. It achieved almost to a word what I set out to depict and was people with some interestingly real characters. I became fascinated with the relationship between Richard and his sister, which was almost incestuous in its intensity. I relished the dialogue that the story allowed me to write, and the period itself was so interesting that it became almost a labour of love to produce a script worth of the colour and depth of drama that had inspired it, within the limits of the budget - and what was permissible for that time slot and indeed that time, when television was not the liberated lady it has since become. The final satisfaction came with the truly inspired acting and direction — Douglas Camfield worked my words into some beautiful and taut images".
- Ymyrrwyd ymarferion camera pan gwtiwyd Tutte Lemkow ei fys yn ddwfn gyda'i gyllell ac roedd rhaid iddo gael ei dywys i'r ysbyty ar gyfer chwistrelliad tetanus.
- Mwynhaodd Jacqueline Hill gweithio gyda Douglas Camfield eto, credodd Maureen O'Brien ei fod yn egnïol; roedd William Hartnell yn bles i weithio gyda chyfarwyddwr roedd ef yn hoff ohono.
- Defnyddiodd Barry Newbery cyfrol 1962 Behind the Veil of Arabia gan Jørgen Bitsch ar gyfer ysbrydoliaeth. Fe feddyliodd roedd lluniau o adeiladwriaeth y Crwsgadau gwreiddiol yn ddefnyddiol iawn.
- Daeth y propiau ag addurnodd y setiau wrth Old Times Props House.
- Dyma'r tro olaf cydweithredodd Douglas Camfield a Dudley Simpson; o ganlyniad i ddadl yn fuan ar ôl ddarllediad y stori, gwrthododd Camfield i weithio gyda Simpson eto. Blwyddi wedyn, pan ddarganfododd Camfield ei fod wedi camfarnu Simpson, bwriadodd Camfield llogu Simpson unwaith eto, ond bu farw cyn gyflawni'r bwriad.
- Castiodd Douglas Camfield Julian Glover ar ôl ei weld yn An Age of Kings.
- Cafodd Walter Randall ei gastio fel El Akir, yn dilyn bod yn ffrindiau da gyda Douglas Camfield ar ôl gweithio gydag ef ar Gerry Halliday yn 1951.
- Ar gyfer y siot yn "The Warlords" lle mae morgrug yn ymosod ar Ian, trefnodd rheolwr llawr Michael E. Briant ar gyfer cael 75 morgrug du wrth Sŵ Llundain.
- Trefnodd Douglas Camfield i gorff buwch i fod yn bresennol am y recordiad er mwyn llwyddo golygfeydd penodol trwy'r asenau, ond daenodd y corff glêr a drewodd o dan oleuadau'r stiwdio.
- Byddai Julian Glover yn chwarae Rhisiart Lewgalon unwaith eto yn Ivanhoe (1982), a roedd hefyd wedi'i chyfarwyddo gan Douglas Camfield.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "The Lion" - 10.5 miliwn
- "The Knight of Jaffa" - 8.5 miliwn
- "The Wheel of Fortune" - 9.0 miliwn
- "The Warlords" - 9.5 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Vicki dylai amser cael cyfle i lifo heb ymyrraeth, fel fe ddywedodd wrth Barbara yn gynharach fel rhybudd yn erbyn newid amser. (TV: The Aztecs)
- Mae Barbara yn cyfeirio at sawl antur wrth siarad gyda Saladin. Mae'n dweud wrtho am Loegr yn y dyfodol pell, (TV: The Dalek Invasion of Earth) cwrdd Nero yng Ngorffennaf 64, (TV: The Romans) a'r Sarbi ar Fortis. (TV: The Web Planet)
- Mae'r Doctor yn mynegu ei ddymuniad i fod yn farchog, gyda Vicki'n sylwadu, "hynny bydd y dydd". O'r diwedd mae'r Doctor yn cael ei droi'n farchog yn ei ddegfed ymgorfforiad fel "Syr Doctor o TARDIS" gan y Frenhines Fictoria yn 1879. (TV: Tooth and Claw)
- Yn hwyrach, mae Ian yn cyflwyno ei hun i Syr Robert de Wensley fel "Syr Ian o Jaffa" ym Mhalas Sonning yn 1400. (SAIN: The Doctor's Tale)
- Byddai'r Pumed Doctor yn cwrdd robot mae'n camgymryd i fod y Brenin John, brawd iau Rhisiart Lewgalon a'r Dywysoges Joanna ym Mawrth 1215. (TV: The King's Demons)
- Yn hwyrach, bydd Vicki yn cuddio fel bachgen o'r enw Victor unwaith eto wrth iddi hi a'r Doctor cwrdd â'r Brenin Iago I yn Llundain 1605. (PRÔS: The Plotters) Wnaeth Polly Wright union yr un peth yng Nghernyw yn yr 17eg ganrif. (TV: The Smugglers) Yn ychwanegol, cafodd cymdeithion y Pumed Doctor, Peri Brown ac Erimem eu gorfodi gan Frenin Rhisiart III i guddio fel ei nai y Brenin Edward V a Rhisiart, Dug Efrog, Tywysogion y Tŵr, o 1483 i 1486. (SAIN: The Kingmaker)
- Yn hwyrach, mae'r Trydydd Doctor yn cofio Rhisiart Lewgalon fel "dyn ardderchog". (SAIN: The Warren Legacy)
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Gan nad yw'r stori cyfan yn bodoli, mae rhyddhadau fideo yn cynnwys William Russell fel Ian mewn cyflwyniad cyn episodau'r stori. Yn y segmentau yma, mae Ian wedi henneiddio'n sylweddol, sydd yn cyferbynnu gydag awgrymiad Sarah Jane Smith stori'r Sarah Jane Adventures, Death of the Doctor, a ddywedodd nad oedd Ian na Barbara wedi oedi o gwbl ers yr 1960au. Serch hynny, nododd hi hefyd, roedd hon yn debygol o fod yn "straeon". Mae hefyd yn bosib roeddent yn heneiddio'n araf iawn, a roedd yr adroddiad yma sawl mlynedd yn dilyn "Death of the Doctor". Sylwadodd Ian yn y stori sain The Five Companions roedd ef a Steven mwy na bach yn hyn pan cafon nhw eu rhoi ar yr Parth Marwolaeth eiledol.
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd dwy episôd oroesedig y stori yma ynghyd sain y ddwy episôd coll yn y set bocs Doctor Who: Lost in Time ar 1 Tachwedd 2004 (DU), ar 2 Tachwedd 2004 (UDA), ac ar 2 Rhagfyr 2004 (Awstralia). Mae'r dwy episôd coll, "The Knight of Jaffa" a "The Warlords", ar gael yn ffurf sain yn unig fel eu darlledwyd, sef heb adroddawd cysylltiadol.
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori ar Blu-ray yn y DU ar 5 Rhagfyr 2022, fel rhan o'r set bocs The Collection: Season 2. Cynhwysodd y set bocs yma ail-grëad o'r episodau coll gan ddefnyddio'r trac sain a lluniau o'r episodau.
Rhyddhadau Fideo[]
Rhyddhawyd "The Wheel of Fortune" yn 1991 fel rhan o The Hartnell Years; ar y pryd dyma'r unig episôd o'r stori ag oedd ar gael.
Yn hwyrach, rhyddhawyd "The Lion" a "The Wheel of Fortune" fel rhan o Doctor Who: The Crusade / The Space Museum yng Nghorffennaf 1999 (DU) ac yn Ionawr 2000 (UDA). Darparodd William Russell adroddawd fel Ian Chesterton ar gyfer "The Knight of Jaffa" a "The Warlords".
Rhyddhadau Sain[]
Rhyddhawyd fersiwn sain episodau dau a phedwar y stori ar CD ynghyd rhyddhad VHS y stori yn 1999. Ni chynhwysodd y stori yma dim adroddawd.
Rhyddhawyd sain y stori yma unwaith eto yn 2005 gan BBC Audio, gydag adroddawd cysylltiadol gan William Russell ar 2 CD ac yn cynnwys cyfweliad cyhwanegol gyda William Russell fel rhan o'r rhyddhadau Doctor Who TV soundtrack. Rhyddhawyd hon unwaith eto yn 2010 fel rhan o'r set bocs Doctor Who: The Lost TV Episodes - Collecion One.
Llyfr Sgript[]
- Prif erthygl: The Crusade (sgript)
Yn Nhachwedd 1994, cyhoeddodd Titan Books sgript y stori fel rhan o'i linell llyfrau Doctor Who: The Scripts. Dyma cyhoeddiad olaf y gyfres.
Troednodau[]
|