Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Day of the Doctor oedd episôd arbennig yn dathlu 50fed pen blwydd Doctor Who. Steven Moffat oedd awdur y stori, wedi'i cyfarwyddo gan Nick Hurran, a chynhwysodd Matt Smith fel yr Unarddegfed Doctor, David Tennant fel y Degfed Doctor, Jenna Coleman fel Clara Oswald, Billie Piper fel y Foment, a John Hurt fel y Doctor Rhyfel.

Dathlwyd yr achos trwy gael stori hyd lawn aml-Ddoctor cyntaf yng nghyfnod BBC Cymru'r sioe, y stori Doctor Who cyntaf i cael ei chynhyrchu yn 3D, a'r stori gyntaf i cael ei chwarae mewn sinemâu sawl gwlad ar ddraws y byd.

Darlledwyd y stori yr un amser ar ddraws y byd, ar 23 a 24 Tachwedd 2013 ar deledu, gan osod record am y ddrama darlledwyd yr un pryd yn y nifer fwyaf o wledydd erioed. Yn gyfan, roedd modd gweld y stori mewn dros 94 gwlad, ac 1,500 theatr.[1] O ran ystadegau gwylio Prydain, dynododd adroddiad flynyddol 2013/14 y Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig mai'r ddrama gwyliwyd gan y nifer mwyaf o wylwyr yn 2013 oedd yr episôd, gyda 12.8 miliwn gwyliwr teledu, a 3.2 miliwn ychwanegol ar BBC iPlayer. Wnaeth y stori hefyd torri, neu dod yn agos at dorri, sawl record gwylwyr mewn niferoedd o ardaloedd eraill. O ganlyniad i'r ddarllediadau theatr a'r gwerthiadau cyfryngau cartref cryf, dyma'r stori deledu gyda'r nifer mwyaf o werthiadau yn haned Doctor Who. Yn ychwanegol, achosodd llwyddiant y stori yma i stori gyntaf cyfres 8, Deep Breath, derbyn yr un triniaeth wrth gael ei darlledu ar 23 Awst 2014.

Gwelodd yr episôd dychweliad David Tennant i rôl y Degfed Doctor, ac ymddangosiad John Hurt fel ymgorfforiad cynharach anhysbys o'r Doctor: y Doctor Rhyfel, ar antur cronolegol olaf y Doctor hwnnw. Roedd ei unig antur ar-sgrîn wedi cyflwyno edrychiad newydd i sgriwdreifar sonig y Doctor, a ystafell gonsol y TARDIS, yn rhagflaenu'r dyluniad gwelwyd yng nghyfres 1. Cyflwynwyd ymgorfforiad Rhyfel y Doctor er mwyn orchuddio'r ffaith nad oedd modd ddefnyddio'r Nawfed Doctor am yr ymgorfforiad a frwydrodd yn y Rhyfel Amser; Gwrthodd Christopher Eccleston ddychwelyd i'r sioe, felly roedd rhaid adfer y sefyllfa trwy ychwanegu ymgorfforiad na ddefnyddiodd y teitl o "Doctor" er mwyn osgoi amharu ar rhifau'r Doctoriaid.

Mae'r episôd hefyd yn cynnwys ymddangosiad di-glod wrth Peter Capaldi, ar yr adeg ddarlledu, y Deuddegfed Doctor-i-ddod; yn nodedig am y tro cyntaf yn y gyfres cafodd ymgorfforiad nesaf y Doctor ei ddangos cyn adfywiad y Doctor cyfredol.

Yn ychwanegol, gwelodd yr episôd Adfywio adfywiad y Doctor Rhyfel i mewn i'r Nawfed Doctor, yn cyflawni linc coll yn yr ymgorfforiadau a ddechreuodd ers ymgorfforiad Christopher Eccleston ar ddychweliad y sioe yn 2005 gyda Rose. Cafodd y broblem yma ei ddatrys gan ddymunodd prif gynhyrchydd y sioe, Steven Moffat cael "set llawn" yn barod am episôd olaf Matt Smith. Dewisodd Moffat hefyd cyflogi actor Paul McGann ar gyfer un stori ychwanegol fel yr Wythfed Doctor mewn episôd-mini, The Night of the Doctor, wythnos yn dilyn gorffen cynhyrchu'r episôd pen blwydd, ac o ganlyniad dychwelodd ail gyn-Ddoctor yn dychwelyd i'r sgrîn yn rhan o'r ddathliadau. Ffilmiodd McGann ei adfywiiad i mewn i ymgorfforiad Hurt y Doctor, yn cadarnhau trefn pob Doctor o Smith ymlaen.

Cynhwysodd The Day of the Doctor hefyd dychweliad y Seigonau, wedi gweld yn olaf yn 1975 yn stori'r Pedwerydd Doctor, Terror of the Zygons, 38 blwyddyn wedyn eu cyflwyniad cyntaf, er iddynt cael sawl ymddangosiad yn y cyfamser mewn cyfryngau deilliedig.

Darparodd The Day of the Doctor cyfle i wylwyr y sioe gweld canlyniad hynod wahanol i'r Rhyfel Mawr Olaf Amser i'r un crybwyllwyd ato trwy gydol y cyfresi cynt. Yn lle darlunio dinistriad Galiffrei, mae'r stori yn dangos y Doctoriaid yn achub y blaned, gan rhoi siawns i'r Unarddegfed Doctor i gwaredu ei euogrwydd wrth y ganlyniad, ac yn lle anelu am amcan arall, sef dod o hyd i'w ffordd gartref. O ganlyniad i sefyllfa unigryw y naratif, cynhalodd y stori naratifau cyfnid Russell T Davies, gyda'r Doctor yn credu cafodd Galiffrei ei ddinistrio gyda'i phreswylwyr i gyd wedi'u lladd, ond collodd pob ymgorfforiad cyn yr Unarddegfed Doctor eu cof o'r ddigwyddiadau o ganlyniad i'w llinellau amser bod allan o sync.

O ran cefnogwyr y sioe, roedd y stori yma'n boblogaidd iawn. Mewn holiadur 2014 gan Doctor Who Magazine, a defnodd pob stori Doctor Who yr adeg honno o leiaf poblogaidd nes mwyaf poblogaidd, The Day of the Doctor oedd y stori mwyaf poblgaidd darllenwyr DWM wrth 50 mlynedd cyntaf y sioe. (DWM 474)

O galnyniad i ledaeniad y Coronafeirws yn y flwyddyn 2020, awgrymodd Emily Cook o Doctor Who Magazine i efnogwyr y sioe gwylio'r stori i gyd ar yr un pryd ar 21 Mawrth 2020 er mwyn treulio amser yng nghyfnod clo, gan ychwanegu os fyddai'r digwyddiad yn ddigon poblogaidd, byddai hi yn trefnu sawl cyd-gwyliad arall dros yr wythnosau olynol. O ganlyniad i'r cyffro am y syniad, trendiodd #SaveTheDay unwaith eto. Am yr achos yma, dychwelodd Steven Moffat i ysgrifennu cyflwyniad newydd i'r stori o'r enw Strax Saves the Day.

Crynodeb[]

Mae'r Doctor yn ymgymryd yn ei antur fwyaf pwyig yn yr episôd arbennig yma. Yn yr 21ain ganrif, mae rhywbeth ofnadwy yn deffro yn yr Oriel Genedlaethol Llundain; yn 1562, mae cynllun llofruddiog yn ddechrau yn Lloegr Elisabethaidd, a rhywle yn yr ofod, mae brwydr hynafol yn dod i gasgliad dinistriol. Mae realiti cyfan wedi'i fygwth, wrth i orffennol y Doctor ei hun dod nôl i'w blagio

Plot[]

I'w hychwanegu

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Heddwas:[4]
    • Derrick Foord
  • Athrawon:[4]
    • Victoria Thomas
    • Marcus Sherard
  • Cerddwyr:[4]
    • David Cavell
    • Chris Aitree
  • Disgyblion:[4]
    • Tyrell Williams
    • George Slade
    • Jack Jones
    • Lewys Watkins
    • Jordan Baker
    • Liam Bowen
    • Gemma Jones
    • Mariah Yau
    • Maya Williams
    • Owen Slade
    • Liam Hartery
    • Dylan Williams
    • Rhys Rowlands
    • Josh Coombs
    • Lauren Rowlands
    • Amber Morgan
    • Shakira Logan
    • Santhi Dosanjh
  • Dyblau beic modur ar gyfer Clara:[4]
    • Cristian Knight
    • Tracey Caudle
    • Rob Hunt
  • Twristiaid:[4]
    • Eunice Learmont
    • Sophie Cox
    • Clem So
    • John Field
    • Lyn Field
    • Melissa Stanton
    • Kat Chow
  • Gwarchod y tŵr:[4]
    • Victor Richards
  • Dwbl stỳnt y Doctor:[4]
    • Gordon Seed
  • Dwbl y Doctor:[4]
    • Ian William George
  • Dwbl stỳnt Clara:[4]
    • Dani Biernat
  • Dwbl stỳnt yr Arglwydd Amser:[4]
    • David Newton
  • Dinasyddion stỳnt:[4]
    • David Newton
    • Christian Knight
    • Kim McGarrity
  • Dinasyddion Ifanc:[4]
    • Katie Gear
    • Jac Osmond
    • Chloe Winkley
    • Menna Isaac
    • Gruffydd Jones
    • Ellie Pirie
    • Sasha Evans
    • John William Carter
    • Elijah Dyer
  • Dinesydd Ifanc:[4]
    • Elis Hughes
  • Dinasyddion Aeddfed:[4]
    • Caroline Gill
    • Bron Grover
    • David Gethin
    • Anne Gethin
    • Johannah Hohnson
    • James Rockney
    • Marc Llewlyn Thompson
    • Tom Grainger
    • Ann Thompson
    • Terence Meredith
    • Volente Lloyd
    • Ian Massey
    • Natalie Harries
    • Wayne Edmond
    • Phil Brown
    • Helena Dennis
    • Bridie Edwards
    • Sy Turner
    • Phillip Bailey
    • Simon Carew
    • Clive Thompson
    • Simon Cooke
    • Aiysha Griffin
    • Arfa Begum
    • Ankur Sengupta
    • Ken Davies
  • Milwyr Arglwydd Amser:[4]
    • Chester Durrant
    • Allan Gill
    • Benjamin Holmes
    • Darren Swain
  • Gweithredwyr Dalek:[4]
    • Jon Davey
    • Jeremy Harvey
    • Matt Doman
    • Claudio Laurini
  • Dwbl Y Doctor Arall:[4]
    • Philip Crean
  • Dwbl y Degfed Doctor:[4]
    • Harry Franklin-Williams
  • Milwyr UNIT:[4]
    • Lee Bradshaw
    • Michael Freeman
    • Richard Highgate
    • Joshua Eley
    • Malcolm Grieve
    • Martyn Mayger
    • Leigh Maddern
    • Phoenix Stewart
    • Lee Hare
    • Kevin Hudson
    • Ian William George
  • Twristiaid:[4]
    • Millicent Brown
    • Sylvia Maharaj
    • Beryl Phelps
    • Corinna Allen
    • 1 Anhysbys
  • Heddweision:[4]
    • Scott Stevenson
    • Tim Reid
  • Plant:[4]
    • Ailsa Husband
    • Thomas Morris
    • Nicole Paphitis
    • Regan Bojang-Thomas
    • Olivia Saunders
    • Michael Seager
    • Tallulah Stephens
    • Tom Philpott
  • Milwyr UNIT:[4]
    • Richard Parry
    • Jon Davey
    • Marcus Elliott
    • Justin Beaver
  • Arglwyddi Amser:[4]
    • Dale Henry
    • Nick Dunwell
    • Angus Brown
    • Louise Bowen
    • Rosie Douglas
  • Gwarchodion y Ganghellfa:[4]
    • Michael Gleeson
    • Ian Hilditch
    • Michael Houghton
    • Daryl Matthews
  • Dwbl y Foment:[4]
    • Louise Eastell
  • Dwbl Ysgrifennu Elizabeth I:[4]
    • Christina Tom
  • Dwbl Marchogaeth y Degfed Doctor:[4]
    • Ian Van Temperley
  • Dwbl Marchogaeth Elizabeth I:[4]
    • Annabel Canaven
  • Dwbl Elizabeth I:[4]
    • Carolyn Joliffe
  • Gwyddonwyr UNIT:[4]
    • Ankur Sengupta
    • Ross Coles
  • Dynion Betham:[4]
    • Jeremy Harvey
    • Steffan Alun
    • Simon Challis
    • Steve Coussens
    • Shelby Williams
    • Harry Burt
    • Adam Davies-Sheeham
    • Timothy Depaul
  • Max, Ceidwad y Carchar:[4]
    • Clive Haffner

Cyfeiriadau[]

Rhifau[]

  • Yn ôl y Degfed Doctor, roedd 2,470,000,000 o blant ar Galiffrei yr eiliad dinistriwyd y blaned.
  • Mae'r Doctor Rhyfel yn honni bod byddin y Daleks yn rhifyddu 1,000,000,000,000,000.

Unigolion[]

  • Cadwyd driniwr fortecs Jack Harkness yn Archif Du UNIT yn dilyn un o'i farwolaethau. Yn hwyrach, mae'n cael ei dwyn gan yr Unarddegfed Doctor a Clara Oswald.
  • Mae'r dau fwrdd sydd yn cynnwys lluniau wrth ymweliad olaf Clara i'r Archif Du hefyd yn cynnwys lluniau o hen gymdeithion eraill y Doctor: Susan Foreman, Capten Mike Yates gyda Sara Kingdom, Polly Wright, Dodo Chaplet, Zoe Heriot, Harry Sullivan gyda Rhingyll Benton a Sarah Jane Smith, K9 Marc III, Barbara Wright, Ian Chesterton, Ben Jackson, Jamie McCrimmon, Zoe Heriot wrth ymyl y Brigadydd, Rhingyll Benton wrth ymyl Leela, Vicki Pallister, Victoria Waterfield, Jo Grant gyda Rhingyll Benton, Liz Shaw gyda'r Brigadydd, Romana II, Steven Taylor, Katarina, Romana I, Tegan Jovanka gyda Nyssa, Grace Holloway, Donna Noble, Amy Pond gyda Kate Stewart, Clara Oswald gyda Kate Stewart, Adric, Kamelion, Capten UNIT Erisa Magambo gyda Rose Tyler, Wilfred Mott, Peri Brown. Brigadydd Winifred Bambera gydag Ace, Martha Jones, Mickey Smith, Adam Mitchell, Cadfridog Sanchez gyda Sarah Jane Smith, Rory Williams, Vislor Turlough, Melanie Bush, Jack Harkness, Craig Owens, a Kate Stewart wrth ymyl River Song.
  • Mae ffôn symudol Kate yn defnyddio sain y TARDIS i ddangos bod y Doctor yn galw.
  • Mae Clara eisioes yn athrawes yn Ysgol Coal Hill, ac mae'n dyfynu Marcus Aurelius i'w dosbarth.
  • Mae modd gweld penddelw o Albert Einstein o flaen paentiad y Cyberman yn yr Is-oriel.
  • Mae Kate yn galw rhywun o'r enw Malcom dwywaith; mae'n debyg mae Malcom Taylor yw hyn.

Y Doctor[]

  • Wrth wynebu cwningen mae'n credu yw Seigon cudd, mae'r Degfed Doctor yn rhoi oedran o 904 blwydd oed. Mae'r Unarddegfed Doctor yn credu ei fod yn tua 1200 mlwydd oed, gyda'r Doctor Rhyfel yn sylwadu sydd 400 blwyddyn yn hŷn nag ef.
  • Mae'r Doctor dal i gael ei gyflogi gan UNIT.
  • Mae'r Doctor Rhyfel yn adfywio i mewn i'r Nawfed Doctor.

Seigonau[]

  • Mae gan Seigon sachau gwenwyn yn eu tafodau.

Planedau[]

Technoleg[]

  • Mae'r Unarddegfed Doctor yn defnyddio contraffibwladydd ffrithiant consol y TARDIS i sefydlu thema ystafell gonsol y TARDIS.
  • Mae modd i Arglwyddi Amser cymryd "lluniau" o ddigwyddiadau gwahanol trwy rewi amser a'u cyflwyno fel paentiadau olew 3D gyda'u ciwbiau stasis.

Cyfeiriadau o'r byd go iawn[]

  • Mae'r Unarddegfed Doctor yn galw'r Degfed Doctor yn "Dick Van Dyke", cyfeiriad at ei acen.
  • Mae'r Degfed Doctor yn gwisgo esgidiau tywod.

Nodiadau[]

  • Cynhyrchodd Red Bee Media trelar ar gyfer y stori yma a grynhodd naratif y gyfres gyfan. (DWMSE 38)
  • Hawliodd Steven Moffat cyhoeddiad o'i fersiwn gwreiddiol a gynhwysodd Nawfed Doctor Christopher Eccleston yn rhan o A Second Target for Tommy; blodeugerdd a oedd yn helpu codi arian ar gyfer costau megyddol Tommy Donbavand o ganlyniad i diwmor yn ei ysgyfaint.

Yn benodol i'r rhyddhad sinema[]

Prif erthygl: Cyflwyniad Sinema (The Day of the Doctor)
  • Recordiwyd ddau olygfa i'w ddangos cyn ddarllediad y stori mewn sinemâu. Cynhwysodd yr un gyntaf Dan Starkey fel Strax, gyda'i glonau Sontaran, yn dysgu ymddygiad cywir sinemâu i'r gwylwyr. Cynhwysodd yr ail un Matt Smith a David Tennant fel yr Unarddegfed a Degfed Doctor yn dweud wrth y gwylwyr i roi arno eu sbectol 3D. Mae'r ail olygfa yn gorffen gyda John Hurt fel y Doctor Rhyfel yn ymddangos tu ôl y dau gydan nhw'n troi ato wrth iddo gadw ei gefn atynt tra mae'r stori yn dechrau.

Yn benodol i'r rhyddhad 3D[]

  • Saethiwyd, a ddarlledwyd y stori mewn sinemâu yn 3D. Er cyfaddodd Steven Moffat nad oedd ef yn hoff iawn o ffilmiau 3D, ef wnaeth cael y syniad o gynhyrchu'r stori mewn 3D. Yn ei farn ef, mae'r fersiwn 3D yn "well" na'r fersiwn 2D.
  • Newidwyd teitlau agoriadol gwreiddiol Doctor Who i gynnwys effaith 3D i edrych fel mae'n symyd tuag at y gwyliwr.
  • Mae'r paentiadau yn mwy 3D yn y fersiwn 3D.
  • Wrth i'r Unarddegfed Doctor cerdded ar y cwmwl tuag at ei ymgorfforiadau eraill, mae'r effaith ym mwy 3D nag yw'r fersiwn 2D yn awgrymu.
  • Defnyddiwyd Mistika i orffen y gwaith 3D.

Ar ddraws pob fersiwn[]

  • Pan ddechreuodd cyn-gynhyrchu ar y stori, Jenna Coleman oedd yr unig aelod o'r cast a oedd wedi eu contractio i ymddangos. O ganlyniad, dechreuodd Steven Moffat gweithio ar stori a fyddai ond yn cynnwys Clara, o'r enw The No Doctors, rhag ofn nad oedd un Doctor ar gael.
  • Yn drafft cynnar o Doctor Who 50th Anniversary: The Time War, ymddangosodd y Nawfed Doctor yn y rôl ag aeth i'r Doctor Rhyfel yn y pendraw. Yn dilyn Christopher Eccleston yn gwrthod dychwelyd i'r sioe, awgrymodd Moffat defnyddio hen Ddoctor arall, ond ni hawliodd y BBC hon, ac o ganlyniad, creodd Moffat ymgorfforiad newydd cudd o'r Doctor.
  • Mewn drafft cyflawn o Doctor Who 50th Anniversary Special, mae'r Doctor Rhyfel yn galw ei hun yn "The Renegade".
  • Mae rhestrau Radio Times yn credydu David Tennant fel "Y Degfed Doctor", John Hurt fel "Y Doctor Arall" (yn adlewyrchu marchnataeth ar gyfer yr ymgorfforiad cyn darllediad y stori) a Billie Piper fel "Rose Tyler". Gwelwyd hon hefyd yn credydau'r stori wrth iddi cael ei chredydu fel Rose, er mewn gwirionedd mae'n chwarae y Foment yn ffurf Rose.
  • Credydwyd Jonjo O'Neill, actor McGillop, yn angywir fel "McGuillop" yn y Radio Times.
  • Cyfelilwyd rhestriad Radio Times gan lun fach o'r Unarddegfed a'r Degfed Doctor mewn coedwig, gydag isdeitl o "Doctor Who / 7.50yh / Matt Smith and David Tennant join forces in a tale celebrating 50 years of the show".
  • Mae'r stori yn dechrau gyda fersiwn o'r teitlau agoriadol wrth An Unearthly Child, wedi newid i gynnwys logo'r BBC, ac wedi'i fyrhau. Dynoda hon defnyddiad cyntaf y teitlau ers Episôd 4 The Moonbase yn 1967, tua 47 blwyddyn cynt. O ganlyniad, The Day of the Doctor yw'r unig episôd i ddefnyddio fersiwn blaenorol o'r teitlau agoriadol, yn lle defnyddio'r un cyfredol neu cyflwyno un newydd.
  • Un debyg i The Two Doctors, mae olygfa agoriadol yn du-a-gwyn, ond mae'n newid i liw yn gloi.
  • Codwyd llawr set mewnol y TARDIS o'i uchder gwreiddiol er mwyn hawlio dwbl stỳnt Jenna Coleman i yrru beic modur Clara i mewn i'r TARDIS.
  • Mae modd clywed cân wrth i'r Unarddegfed Doctor hongian allan o'r TARDIS uwchben Llundain a ddefnyddiwyd yn gyntaf yn Aliens of London a World War Three.
  • Dyma'r tro gyntaf ers The Eleventh Hour clywyd pont y cerddoriaeth thema yn y credydau cau.
  • Dyma'r stori olaf i ddangos yr Unarddegfed Doctor mewn fez.
  • Mae addewid y Doctor wedi'i seilio ar baragraff gan Terrance Dicks wrth y cyfeirlyfr The Making of Doctor Who. Mae rhannau o'r paragraff hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gynnyrch arall Doctor Who, gan gynnwys The Curse of Fatal Death yn 1999, hefyd wedi'i ysgrifennu gan Moffat.
  • Mae'r hen ffilmiau a recordiadau yn ystod yr olygfa "achub Galiffrei" yn dod wrth:
  • Mae golygfa adywiad y Doctor Rhyfel yn gorffen heb ddangos y Nawfed Doctor, ond awgrymiadau o'u wyneb yn ddechrau ffurfio o ganlyniad i wrthod Christopher Eccleston o dychwelyd i'w rôl yn yr episôd arbennig.
  • Yn debyg i The Five Doctors, mae'r credydau cloi yn rhestru pob actor i chwarae'r Doctor yn y trefn gwrthwynebol (yn eithrio Peter Capaldi, gan ni dderbyniodd credyd yn y stori yma). O ganlyniad, credydwyd Matt Smith a David Tennant yn gyntaf, wedyn mae Christopher Eccleston wedi'i credydu cyn John Hurt. Dynoda hon y tro gyntaf i Christopher Eccleston cael ei gredydu fel "Y Doctor", gan trwy gydol ei gyfnod ef, credydwyd Eccleston fel "Doctor Who" (yn flaenorol credydwyd Hartnell fel "Dr. Who" trwy gydol ei gyfnod, ond fe dderbyniodd credyd o "The Doctor" yn TV: The Five Doctors).
  • Ar rhyw adeg, roedd gan y sgript datgeliad roedd y ffilmiau Peter Cushing yn addasiadau Americanaidd wedi seilio ar adroddiadau cymdeithion y Doctor, ond cafodd ei canslo o ganlyniad i resymau cyllid.[5]
  • Ffilmiwyd golygfa'r Deuddegfed Doctor ar yr un dydd o olygfa Peter Capaldi wrth TV: The Time of the Doctor, ac o ganluniad fe ddefnyddiodd gwisg a set TARDIS yr Unarddegfed Doctor.
  • Dywedodd Steven Moffat fe gredodd nad oedd y Doctor wedi newid i hanes o ddinistriad Galiffrei, gan mai "hon yw'r stori o beth digwyddodd mewn gwirionedd" ac "wrth gwrs oedd ef erioed wedi gwneud y pethau ni".

Cyfraddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 12.8 miliwn, gyda 3.2 miliwn ar iPlayer[6]
  • UDA: 2.8 miliwn
  • Canada: 1.7 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mae Clara eisioes yn athrawes yn Ysgol Coal Hill. Mae arwydd yn dangos mai I. Chesterton yw cadeirydd Bwrdd Lywodraethwyr yr ysgol. (TV: An Unearthly Child)
  • Mae Clara yn gyrru beic modur i mewn i ystafell consol y TARDIS. Unwaith, gyrrodd plismon o San Francisco tu mewn i'r TARDIS. (TV: Doctor Who) Gyrrodd y Degfed Doctor moped allan o'r TARDIS hefyd, (TV: The Idiot's Lantern) ac wnaeth yr Unarddegfed Doctor yr un peth gyda beic modur. (TV: The Bells of Saint John)
  • Mae'r Doctor Rhyfel yn rhoi sylwad ar y ffaith bod ei gymdeithion yn parhau i ieuengeuddio, teimlad rhannodd Sarah Jane Smith. (TV: School Reunion)
  • Mae'r Doctor yn parhau i wisgo sbectol darllen Amy Pond. (TV: The Angels Take Manhattan, The Snowmen, The Rings of Akhaten)
  • Mae Kate yn gofyn Osgood i ddweud wrth Malcolm Taylor i newid batrïau gigfrain robotig Tŵr Llundain. (TV: Planet of the Dead) Yn flaenorol, jociodd Kate am gael "brain angheuol" i Amy Pond. (TV: The Power of Three)
  • Mae'r Doctor yn defnyddio ffôn allanol y TARDIS unwaith eto. (TV: The Bells of Saint John) Yn gynharach, doedd y ffôn ddim yn gweithio. (TV: The Empty Child) Yn hwyrach, bydd y Doctor yn dweud wrth Handles i'w atgoffa i ailwifrennu'r ffôn nôl trwy gonsol y TARDIS, (TV: The Time of the Doctor) ond mae'n debygol doedd y Doctor erioed wedi cwblhau'r dasg. (TV: Time Heist)
  • Dywedodd Romana II unwaith fod paentiadau ar Galiffrei wedi'u creu gan gyfrifiaduron. (TV: City of Death)
  • Mae'r Arglwyddi Amser yn yr Ystafell Rhyfel yn siarad am sesiwn argyfwng yr Uwch Cyngor, a'r ffaith bod ganddyn nhw cynlluniau eu hun. Ond yn ôl y Cadfridog, mae cynlluniau'r Cyngor wedi methu yn barod. (TV: The End of Time)
  • Dywedwyd ymadrodd y Doctor Rhyfel "No more" gan Dalek Caan yn dilyn gweld gweithrediadau'r Daleks trwy'r gofod ac amser. (TV: Journey's End)
  • Yn union fel y TARDIS wrth iddi meddiannu Idris, mae'r Foment yn cymysgu rhwng y gorffennol a'r dyfodol. (TV: The Doctor's Wife)
  • Mae'r Degfed Doctor yn priodi Elisabeth I. (TV: The End of Time, The Beast Below, Amy's Choice, The Wedding of River Song) Yn hwyrach, mae gan y Frenhines atgasedd tuag at y Degfed Doctor yn 1599, ond, gan ddigwyddodd hyn yn gynharach yn llinell amser personol y Doctor, nid oedd ef yn gwybod pam roedd Elisabeth yn ei gasáu. (TV: The Shakespeare Code)
  • Pan mae Clara yn sywadu ar y ffaith bod tri Doctor yn bresennol, mae "Kate" yn ymateb bod ganddyn nhw "profiad gyda hwnnw". (TV: The Three Doctors)
  • Pan mae'r Doctoriaid yn cadarnhau i'r cyngor rhyfel eu bod yn barod i roi Galiffrei i mewn i fydysawd poced, mae'r Cadfridog yn cwyno "I didn't know when I was well off. All twelve of them". Mae hon yn adlewyrchu sylwad Brigadydd Lethbridge-Stewart o "Three of them, eh? I didn't know when I was Well off". (TV: The Three Doctors)
  • Yn ystod Rhyfel y Nefoedd, clywodd Homuniculette sibrydion cafodd rhai Galiffreiau eu cuddio tu mewn i fydysodau poced. (PRÔS: The Taking of Planet 5) Rhowd o leuaf un o'r Naw Galiffrei ei rhoi i mewn i fydysawd potel er mwyn dianc wrth y Gelyn. (PRÔS: Dead Romance)
  • Arweiniwyd grym rhyfel Galiffrei gan y Cyngor Rhyfel, (PRÔS: The Taking of Planet 5, SAIN: Body Politic) sydd hefyd yn cael ei alw'n Uwch Rheolaeth Galiffrei. (PRÔS: K9 and the Time Trap, K9 and the Zeta Rescue)
  • Wrth gael eu cwmpasu gan filwyr y Frenhines Elisabeth I, mae'r Doctor Rhyfel yn gofyn i'r Degfed Doctor a'r Unarddegfed Doctor os ydynt yn mynd i "adeiladu cabinet atynt". Defnyddiodd River Song yr ymadrodd "adeiladu cabinet" yn flaenorol i gyfeirio at y sgriwdreifar sonig, (TV: Day of the Moon) tra ofynnodd y Nawfed Doctor wrth Jack Harkness os oedd ef "erioed wedi cael sawl cabinet i adeiladu" ar ôl i Jack gofyn am y sonig. (TV: The Doctor Dances)
  • Mae'r Unarddegfed Doctor yn galw i Clara trwy dwll gofod, gan gyfeirio ati fel "Wicked Witch of the Well". Cyfeiriwyd at Hila Tacorien yn flaenorol gyda'r un enw o achos y twll gofod yn Nhŷ Caliburn. (TV: Hide)
  • Mae Kate yn gweld estronwr sydd yn copïo ei hedrychiad a'i hymddygiad. Digwyddodd hyn yn flaenorol iddi wrth i gerfddelw Dæmon copïo ei fuurf hi. (FIDEO: Dæmos Rising)
  • Wrth weld addurniaeth TARDIS ei unarddegfed ymgorfforiad, mae'n nodi nad yw'n hoff ohono. (TV: The Three Doctors, The Five Doctors, Closing Time) Nid oedd y Pumed Doctor chwaith yn hoff o addurniaeth TARDIS y Degfed Doctor pan rhedon nhw eu TARDISau i mewn i'e gilydd ar ddamwain. (TV: Time Crash)
  • Mae modd gweld sawl arteffact yn yr Archif Du, gan gynnwys sodlau coch River Song, (TV: The Time of Angels) Magna-Clamps, (TV: Army of Ghosts) pen y Dalek Goruchafol, (TV: The Stolen Earth) Drill Tommy y Daleks, (TV: Evolution of the Daleks) y cadair rhwystro wrth y Plas Naismith, (TV: The End of Time) telegraff amser-gofod, (TV: Terror of the Zygons) prob sonig, (TV: The Girl Who Waited) un o fasgiau'r Droidiau Clocwaith, (TV: The Girl in the Fireplace) troell-flodyn Amy Pond, (TV: The Eleventh Hour) Drill Sontaran, (TV: The Sontaran Stratagem) a ddarn o gwrel TARDIS. (TV: The Runaway Bride)
  • Mae addweid y Doctor yn debyg iawn i'r syniad o'r Doctor oedd gan Ace wrth iddi ceisio cadw ei hunaniaeth "impulsive, idealistic, ready to risk his life for a worthy cause... hates tyrrany and oppression... never gives in... never gives up... bilieves in good and fights evil... though often caught up in violent situations, he is a man of peace. He is never cruel or cowardly." (PRÔS: Timewyrm: Revelation) Yn hwyrach, roedd gan John Smith yr un nodiadau ar y Doctor. (PRÔS: Human Nature)
  • Cyn dychwelyd i linell amser ei hunan, mae'r Degfed Doctor yn dweud wrth yr Urarddegfed Doctor mae'n hapus bod ei ddyfodol yn ddiogel. (TV: The Five Doctors)
  • Mae protocol diogelwch yr Archif Du yn cynnwys ffrwydriad o arf niwclear o dan yr arcif a fyddai'n aberthu pob person yn yr ardal. Dyfeisiwyd opsiwn niwclear tebyg yn erbyn ymosodiad estronaidd gan UNIT trwy'r Prosiect Osterhagen, a fu bron ei hactifadu. (TV: The Stolen Earth, Journey's End)
  • Rhif ffôn y Doctor unwaith eto yw 07700900461. (TV: The Stolen Earth)
  • Mae'r Doctor yn siarad am ei dynged ar Trenzalore. (TV: The Name of the Doctor)
  • Wrth glywed am ei dynged ar Trenzalore, mae'r Degfed Doctor yn dweud bod angen lleoliad newydd, gan honni "I don't want to go". (TV: The End of Time)
  • Yn fuan cyn ei adfywiad, mae'r Doctor Rhyfel yn sylwadu ar y ffaith bod ei gorff yn "treulio'n denau", yn ailadrodd y sylwad y Doctor Cyntaf ychydig o eiliau cyn adfywiad ei hunan. (TV: The Tenth Planet) Yna, mae'r Doctor yn gobeithio bydd ei glustiau yn "llai amlwg y tro yma"; bydd y Nawfed Doctor yn sylwadu ar glustiau ei hun wrth eu gweld mewn ddrych. (TV: Rose )
  • Pan mae'r Doctor Rhyfel yn gweiddi allai cusani "mech Bad Wolf", mae'r Foment yn ymateb "mae honna'n bendant o ddigwydd". (TV: The Parting of the Ways)
  • Mae Androgar yn dweud bod "pob un o lyngesau'r Dalek yn anelu am y Brifddinas, ond mae ffosydd awyr yn parhau i ddal". Llwyddodd y Daleks ddinistrio dros 400 o'r ffosydd awyr o amgylch Arcadia, "lle diogelaf Galiffrei", nes dydd olaf y Rhyfel Amser, nad oedd dim wedi llwyddo yn cael myniadiad i fwy na ddau ffos awyr. (TV: The Last Day)
  • Bydd y Deuddegfed Doctor yn y pendraw yn dod o hyd i Galiffrei ar ddiwedd y fydysawd, wedi'i dad-rewi. (TV: Hell Bent)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd The Day of the Doctor yn y DU ar 2 Rhagfyr 2013 ar DVD a Blu-ray. Cynhwyswyd The Night of the Doctor a The Last Day ar y ddau fersiwn. Cafodd eu rhyddhau yn yr UDA ar 10 Rhagfyr 2013.
  • Rhyddhawyd y set bocs 50th Anniversary Collector's Edition yn y DU ar 8 Medi 2014 ac yn Awstralia ar 9 Hydref 2014. Wedi'i cynnwys ar y set bocs oedd The Name of the Doctor, The Day of the Doctor, The Time of the Doctor, The Night of the Doctor, a The Last Day, a drama dogfennol 2013, An Adventure in Time and Space.
  • Rhyddhawyd yr episôd ar Netflix UDA ym mis Medi 2014, fel 15fed episôd cyfres 7.

Troednodau[]

  1. Doctor Who anniversary special sets world record as millions tune in to Day of The Doctor - Dion Dassanayake
  2. Mae nodiadau BBC iPlayer yn dynodi cymeriad Hurt fel "y Doctor Arall".
  3. Er i Piper derbyn credyd am chwarae Rose, mewn gwirionedd, mai fersiwn y Foment o'r Bad Wolf yw'r cymeriad.
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 4.15 4.16 4.17 4.18 4.19 4.20 4.21 4.22 4.23 4.24 4.25 4.26 4.27 4.28 4.29 4.30 4.31 4.32 4.33 4.34 4.35 4.36 4.37 4.38 4.39 4.40 4.41 4.42 4.43 4.44 4.45 4.46 4.47 4.48 4.49 TCH 75
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 5.7 5.8 5.9 DWMSE 38
  6. [1]