Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Edge of Destruction oedd trydydd stori Hen Gyfres 1 Doctor Who. O fewn yr hen gyfres, mae'r stori yn unigryw gan mae wedi'i lleoli tu mewn i'r TARDIS yn gyfan gwbl, ac yn cynnwys aelodau'r cast rheolaidd yn unig.

I ddechrau, comisiynodd y BBC pedwar episôd o Doctor Who. Hanner ffordd trwy gynhyrchu An Unearthly Child, ychwanegwyd naw episôd pellach, i gyfanswm o un deg tri episôd. Ynghyd, rhychwantodd An Unearthly Child a The Daleks ond un deg un episôd. Gyda chyllideb bychan, comisiynwyd The Edge of Destruction i lenwi'r episodau oedd ar ôl er mwyn gorffen y gyfres.

Yn ôl Verity Lambert, gwariodd y ddwy stori gyntaf gormodedd o arian, ac o ganlyniad byddai rhaid arbed arian ar y stori nesaf. Yn ôl David Whittaker, doedd dim sgript arall ar gael, a'r unig opiswn arall oedd i beidio darlledu episôd am bythefnos. Yn y pendraw, fe ysgrifennodd y sgript mewn deuddydd.

O ran naratif y gyfres, roedd y stori hon yn hanfodol gan bondiodd y teithwyr dros ddigwyddiadau'r stori fel byddent yn grŵp a medrodd ymddiried yn ei gilydd, yn lle casgliad o bobl wedi'u gorfodi i deithio gyda'i gilydd. Hefyd, ymwelwyd y cyfeiriadau cyntaf doedd y TARDIS dim yn berchen i'r Doctor, wrth iddo dangos diffyg dealldwriaeth yn galluoedd y TARDIS. Yn olaf, cynhwsodd cyfeiriau cyntaf y Doctor at ffigyrau hanesyddol.

Ail episôd y stori, "The Brink of Disaster", yw'r pwynt pellach medrir gwylio'r cyfnod Hartnell mewn cyfrwng gweledol, a'r hen gyfres o'r cychwyn hyd yn oed, heb gyrraedd episôd coll. Mae'r stori canlynol, Marco Polo, ar goll yn gyfan gwbl.

Crynodeb[]

Wrth adfeirio wrth syndod cael eu taflu i'r llawr, mae'r Doctor, Susan, Ian a Barbara yn dechrau actio'n rhyfedd. Yna, mae pethau annisgwyl yn dechrau digwydd wrth i'r criw troi ar ei gilydd tra maent yn myfyrio ar beth sy'n digwydd iddynt.

Plot[]

The Edge of Destruction (1)[]

I'w hychwanegu.

The Brink of Disaster (2)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Criw[]

  • Awdur - David Whitaker
  • Dylunudd - Raymond Cusick
  • Cynhyrchydd Cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Cyfarwyddwr - Richard Martin ("The Edge of Destruction"), Frank Cox ("The Brink of Disaster")
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert

Di-glod[]

  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Ann Ferriggi
  • Sain Arbennig - Brian Hodgson
  • Trefniant Thema - Delia Derbyshire

Cyfeiriadau[]

Cyfeiriau diwylliannol o'r byd go iawn[]

  • Mae Ian yn benthyg côt o'r Doctor, a gafodd wrth Gilbert and Sullivan.

Unigolion[]

  • Mae'r Doctor a Susan yn rhannu cysylltiad Telepathig rhyngddyn nhw a'r TARDIS.

Nodiadau[]

  • Hon yw'r stori gyntaf - a'r stori llawn unig - i gynnwys y Doctor a'i gymdeithion yn unig.
  • Hon yw'r stori deledu gyntaf (ac mae modd dadlau taw hon yw'r unig un) lle mae'r stori gyfan yn digwydd o fewn y TARDIS.
  • Adnabuwyd y stori gan "Inside the Spaceship" (weithiau "The Spaceship") a "The Brink of Disaster" hefyd. Yn aml, mae'r stori wedi'i hadnabod yn anghywir fel "Beyond the Sun", teitl gweithredol The Daleks.
  • Mae'r dau episôd yn bodoli ar delerecordiau 16mm.
  • Adenillwyd y dau episôd o'u hargraffiadau negyddol dargafnyddwyd yn BBC Enterprises yn 1978.
  • Mae argraffiad Arabig o "The Brink of Disaster", ar gyfer cynulleufa y Dwyrain Canol, yn bodoli hefyd.
  • Ysgrifennwyd y stori er mwyn cyrraedd nôd y BBC. Comissiynnwyd y gyfres gydag un deg tri episôd cychwynnol, a gan roedd pedwar episôd gan An Unearthly Child a saith episôd gan The Daleks, roedd rhaid cael dau episôd rhag ofn canslwyd y sioe. Yn wir, yn ystod cynhyrchu An Unearthly Child, diddymodd Donald Baverstock y sioe, gyda The Brink of Disaster wedi'i nodi fel yr episôd terfynnol, cyn newid ei feddwl.
  • Rhyddhawyd rhai o gerddoriaeth y stori yn Doctor Who at the BBC Radiophonic Workshop, Volume One - The Early Years, 1963 - 1969.
  • Dewiswyd y stori hon i fod yn rhan o Penwythnos Doctor Who BSB ym Mis Medi 1990. Yn gwreiddiol wedi'u darlledu yn y trefn anghywir, fe'u darlledwyd yn y trefn cywir y penwythnos canlynol.
  • Mae'r stori hon yn dynodi y tro cyntaf i'r Doctor yn cyfeirio at y TARDIS fel peth fyw, er, yn An Unearthly Child mae Ian yn dweud "Mae'n Fyw!" wrth iddo gyffwrdd ag orch allanol y TARDIS am y tro cyntaf. Does dim i awgrymu bod y Doctor dim yn ymwybodol o fywyd y TARDIS, ond wrth i'r gyfres mynd ymlaen mae fwy o gliwiau'n cael eu rhoi i wylwyr, gyda'r Trydydd Doctor hyd yn oed yn dweud bod y TARDIS yn fyw. Nid yw'r gyfres yn cadarnhau i wylwyr bod y TARDIS yn fyw nes The Doctor's Wife, wrth i ymwybyddiaeth y TARDIS cael mynediad i gorff cyn siarad yn uniongyrchol â'r Doctor (Mae'r Doctor yn gwybod hyn yn barod, ond mae'r stori yn rhagdybio doedd dim modd i cyfathrebu gyda'r TARDIS mewn ffordd arferol).
  • Bu rhaid i Verity Lambert ysgrifennu llythyr yn ymddiheirio i Adran Plant y BBC ar ôl iddynt cwyno am ymddygiad ymosodol Susan wrth iddi hi dal siswrn.
  • Yn gwreiddiol, cyfarwyddwr y stori oedd Paddy Russell, un o cyfarwyddwyr benywol cyntaf y BBC. O ganlyniad iddi pheidio bod ar gael ar ddyddiau ffilmio'r stori wnaeth Mervyn Pinfield cymryd ei lle.
  • Gan wnaeth y cast sbri ar ben William Hartnell pan anghofiodd ei linellau, fe benderfynnodd i chwarae jôc arnynt. Yn ystod un olygfa, roedd rhaid iddo ddweud "The fault locator!" yn lle, fe ddywedodd "The fornicator!". Atgofiwyd y ddigwyddiad yn An Adventure in Time and Space, er ni chyflwynodd y drama'r digwyddiad fel rhywbeth bwriadol ar rhan Hartnell.
  • Yn ystod recordio'r stori, newidwyd rhannau o uchafbwynt y stori, megis cael Barbara i gyfrifo roedd y TARDIS yn ceisio cyfathrebu a'u theithwyr (yn gwreiddiol roedd Ian hefyd wedi dargafod hyn). Wrth ymarfer, ymgyffrowyd y ddatrysiad; unig ddisgrifiad y sgript oedd y Doctor yn gwasgu'r botwm "dychweliad cyflym" i achub y TARDIS.
  • Hon yw'r stori gyntaf o rŵp cyfyng o storïau teledu lle nad yw unryw cymeriad yn marw, er, yn y stori hon nid yw unryw cymeriad arall, ar wahan i'r cast rheolaidd, yn ymddangos.
  • Hon yw'r stori gyntaf i beidio cael gelyn mewn unryw ffurf o gwbl. Y Doctor a Susan yw'r agosaf sydd gan y stori i elynion.
  • Mae'r stori yn parhau i fod y stori Doctor Who rhataf erioed, gydag ond £2500 wedi'i wario ar y stori.
  • I ddechrau, cwynodd William Hartnell am nifer o'i linellau yn y sgript, tra roedd Carole Ann Ford yn poeni am y cymeriadau'n troi'n wallgof heb rheswm. Ar y llaw arall, roedd Jacqueline Hill a William Russell yn frwdfrydig i ddatblygu eu cymeriadau.
  • Mae label y botwm dychweliad cyflym wedi'i hysgrifennu gyda beiro ffelt. Does neb yn gwybod yn union pam ddigwyddodd hyn; dyfalodd Raymond Cusick taw canllaw ymarfer oedd hyn, tra credodd Verity Lambert bod y label yna i helpu William Hartnell ffeindio'r botwm; mae'r dau ohonynt yn cytuno mae'n debyg nid bwriad y label oedd i ymddangos ar sgrîn. Dywedodd Carole Ann Ford wnaeth hi ac Hartnell labelu controls y TARDIS tra'n ymarfer, gan dybio fyddai'r labeli yn cael eu tynnu o'r consol cyn cynhyrchiant.
  • Er mwyn osgoi cymhlethiadau gyda'r Writers' Guild, derbynodd David Whitaker credyd am ysgrifennu'r stori yn unig, yn lle ei credyd arferol o olygydd storïau.
  • O ganlyniad i gyfyniadau cyllid, dewiswyd y gerddoriaeth wrth ystod o samplau cerddoriaeth awyrgylchol.

Cyfartaledd gwylio[]

  • The Edge of Destruction - 10.4 miliwn
  • The Brink of Disaster - 9.9 miliwn

Chwedlau[]

  • Teitl gweithredol y stori oedd "Beyond the Sun". Hon oedd teitl gweithredol The Daleks.
  • Ysgrifennwyd y stori mewn amser fyr achos doedd y set ar gyfer Marco Polo heb ei orffen eto. (Gwelir y nodiadau am y rheswm gwirioneddol)

Gwallau cynhyrchu[]

  • Mae modd gweld cysgod ar y wal wrth i Barbara ceisio dihuno Ian.
  • Yn yr episôd cyntaf, gellid gweld llawr y stiwdio yn amlwg o fewn y "gwactod gwyn" tu allan i'r TARDIS. (Mae'r modd taw yn fwriadol oedd hyn, gan mae episodau diweddarach hefyd yn dangos "gwactod gwyn" gyda llawr gweledol hefyd)
  • Mae cysgodau dau gynorthwyydd lawr yn cael eu gweld yn yr episôd cyntaf, "The Edge of Destruction", ar y drws sydd yn agor i'r ystafelloedd gwely ac ardal y peiriant fwyd.
  • Wrth i'r Doctor disgrifio enedigaeth cysawd newydd, mae peswch i'w glywed yn glir.
  • Ar ddechrau'r ail episôd mae'r Susan yn gwisgo sanau asgwrn, ond wedyn maent wedi diflannu.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r teithwyr yn crybwyll eu taith cyntaf. (TV: An Unearthly Child)
  • Soniwyd am y Daleks a Sgaro. (TV: The Daleks)
  • Mae Susan yn atgoffa'r Doctor am eu hymweliad i Quinnis o fewn y pedwerydd bydysawd. Yna, bron collon nhw'r TARDIS, yn fuan cyn teithion nhw i Lundain yn 1963. (SAIN: Quinnis)
  • Pan roedd Ian a Barbara ar y TARDIS, cysgodd Susan yn yr ystafell gyffredin i geisio bod fwy yn gymdeithasol. (PRÔSThe Rag & Bone Man's Story)

Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]

Rhyddhadau DVD[]

Cynnwys:

  • Doctor Who: Origins - rhaglen ddogfennol yn manylu ar enedigaeth Doctor Who.
  • Over the Edge - Y cast a'r criw yn sôn am gynhyrchiad The Edge of Destruction.
  • Inside the Spaceship - Golygu'r TARDIS.
  • Marco Polo - fersiwn 30 munud o bedwerydd stori Doctor Who colledig, wedi'i chreu gyda recordiad o'r sain a lluniau cymerwyd yn ystod cynhyrchiad y stori.
  • Trac sain Arabig.
  • Is-deitlau cynhyrchu.
  • Sain a llun wedi'u gwella'n ddigidol.

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

  • Gyda bwriad gwreiddiol o rhyddhau'r stori hon gyda An Unearthly Child a The Daleks, cyn newid eu meddyliau i rhyddhau pob stori'n unigol, rhyddhawyd y stori hon gyda Dr Who: The Pilot Episode ar 1 Mai 2000 (DU) ac Hydref 2000 (UDA).