The Eighth Doctor Adventures oedd cyfres sain, cynhyrchwyd gan Big Finish Productions yn ddechrau yn 2006. Cynhwysodd yr Wythfed Doctor, wedi'i chwarae gan Paul McGann, Lucie Miller, gan Sheridan Smith a Tamsin Drew, gan Niky Wardley.
Yn gwreiddiol, marchnatwyd y gyfres fel "The New Eighth Doctor Adventures", er collwyd y gair "New" erbyn pedwedydd cyfres y gyfres. Roedd y storïau'n wahanol iawn yn eu fformat a'u pris i linell misol Big Finish. Ar bodlediad Big Finish, cafodd y gyfres ei chyferio ati'n anffurfiol fel "the Eighth Doctor and Lucie adventures".
Darlledwyd y gyfres yn gyntaf ar BBC Radio 7 gyda rhan cyntaf Blood of the Daleks ar 31 Rhagfyr2006. Cafodd pob episôd o'r gyfres gyntaf eu darlledu gyda rhaglen 10 munud o'r enw Beyond the Vortex a ganolbwyntiodd ar greadigaeth yr episôd. Yn wahanol, cyhoeddwyd yr ail, trydydd, a phedwerydd cyfresi ar CD cyn eu darllediad cyntaf ar y radio, gan barhau ar olynydd BBC Radio 7, BBC Radio 4 Extra.
Roedd y gyfres yn nodedig am yrru'r Wythfed Doctor tuag at bersonoliaeth tywyllach gwelwyd yn y cyfresi sain canlynol, Dark Eyes. Yn ychwanegol, cyflwynodd y gyfres trydydd amrywiad ar gân thema yr Wythfed Doctor wedi'i gyfansoddu gan Nicholas Briggs, er defnyddiwyd trefniant David Arnold am y gyfres gyntaf yn unig.
Blood of the Daleks • Horror of Glam Rock • Immortal Beloved • Phobos • No More Lies • Human Resources
Cyfres 2
Dead London • Max Warp • Brave New Town • The Skull of Sobek • Grand Theft Cosmos • The Zygon Who Fell to Earth • Sisters of the Flame / The Vengeance of Morbius
Cyfres 3
Orbis • Hothouse • The Beast of Orlok • Wirrn Dawn • The Scapegoat • The Cannibalists • The Eight Truths / Worldwide Web
Cyfres 4
Death in Blackpool • Situation Vacant • Nevermore • The Book of Kells • Deimos / The Resurrection of Mars • Relative Dimensions • Prisoner of the Sun • Lucie Miller / To the Death