Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The End of the World (Cy: Diwedd y Byd) oedd ail episôd Cyfres 1 Doctor Who.

Dyma oedd enghraifft cyntaf o deithio trwy amser i ddyfodol y gwylwyr yn y gyfres newydd. Cyflwynodd y stori cymeriadau'r Foneddiges Cassandra, a'r Wyneb Boe. Cynhwysodd y stori hefyd y crybwyllaid cyntaf i'r ymadrodd "Bad Wolf". Er mai yng nghefndir y stori hon yw'r ymadrodd, yn fuan byddai'n dod yn nodwedd allweddol i arc stori a fyddai'n para ar ddraws sawl cyfres yn y sioe newydd.

Roedd y stori hefyd yn nodedig am gyflwyno'r Rhyfel Amser, er ni enwyd y rhyfel nes yr episôd ganlynol, The Unquiet Dead. Mae'r Doctor yn datgelu cafodd ei blaned cartrefol ei ddinistrio yn ystod y rhyfel, ac o ganlyniad, ef yw'r "Arglwydd Amser diwethaf". Byddai effaith euogrwydd y Doctor o achos ei benderfyniadau yn ei effeithio trwy ei ddegfed, unarddegfed, deuddegfed, a'i drydydd ar ddegfed ymgorfforiadau.

Dyma gwaith cyntaf Euros Lyn yn y gyfres. Ar ddarllediad y stori, dyma oedd y defnyddiad mwyaf o CGI yn hanes Doctor Who.

Wrth chwarae'r Moxx Balhoon, hon oedd rôl cyntaf Jimmy Vee yn y gyfres. Byddai hefyd yn chwarae'r Mochyn gofod yn y stori Aliens of London. Yn y pendraw, fe ddaeth yn actor rheolaidd ar gyfer yr estronwyr bach yn ngyfnod BBC Wales y sioe.

Crynodeb[]

Mae'r Nawfed Doctor yn tywys ei gydymaith newydd, Rose Tyler, i'r flwyddyn 5,000,000,000 i wylio ehangiad yr haul, a dinistriad canlynol y Ddaear. Mae'r gorsaf ofod, Platfform Un, yn croesawu'r digwyddiad gan wahodd pobl gyfoethogaf y cyfnod i wylio marwolaeth y blaned. Ond, mae corrynod metel - anrheg wrth Adherents of the Repeated Meme - yn ceisio dinistrio'r orsaf.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Staff Glas:[1]
    • Chris Chapman
    • Ross Marshall
    • Stephen Boyd
    • Scott Hurley
    • Elliot Blackner
    • Jack Palmer
    • Jack Thomas
    • Adam Smith
    • David Pursey
    • Owen Roberts
    • Steffan Stone
    • Alex Francis
    • James Price
    • Billy McCleary
    • Matthew Rawcliff
    • Jake Rees
    • Thomas Drewson
    • Dan Allen
    • Ryan Conway
    • Darius Huntley
    • Elliott Truman
    • Carlton Venn
  • Lute/Coffa:[1]
    • Paul Kasey
    • Alan Ruscoe
  • Adherents:[1]
    • Michael Humphries
    • Paul Newbolt
    • Saul Murphy
    • Dean Cummins
    • Jason Jones
  • Estronwyr:[1]
    • Toby Hunt
    • Jamie Jones
    • Trey Taylor
    • Josh Kingston
    • Ioan Mansaray
    • Alex Yell
    • Mathew Hill
    • Giles Hibberd
    • Greg Mothersdale
    • Keith Newell
    • Matthew Gilbert
    • Adam Moore
  • Llawfeddygon:[1][2]
    • Von Pearce
    • John Collins
  • Dwbl Cassandra:[1]
    • Claire Cage
  • Dwbl Stỳnt Adherents:[1]
    • Jamie Edgell
  • Dwbl Llaw Doctor Who:[1]
    • Jamie Edgell
  • Dwbl Braich Stỳnt Jabe:[1]
    • Sarah Franzl
  • Gweithwyr Swyddfa:[1]
    • Pam Kane
    • Jeff Paigne
  • Gwerthwr Big Issue:[1]
    • John Griffith-Evans
  • Mam:[1]
    • Julie Sydenham
  • Merch:[1]
    • Daisy Sydenham
  • Dwbl Doctor Who:[1]
    • Carl Edwards Ackerman
  • Dwbl Rose Tyler:[1]
    • Lucy Lutman
  • Lleisiau'r torf:[1]
    • Nicholas Lupton
    • Jane Hunt
    • Stephen Bracken-Keogh
    • Wendi Sheard
    • Paul Ganney
    • Emma Feeney
    • Nick Cater
    • Hannah Welch
  • Anhysbys:[1]
    • Ben Gould
    • James Cooke
    • Saul Baum

Cyfeiriadau[]

Lleoliadau[]

Unigolion[]

Gallifrey[]

  • Dywed y Doctor wrth Rose Tyler cafodd ei blaned ei ddistrywio cyn ei amser oherwydd rhyfel a gollodd ei bobl.

Arc Bad Wolf[]

  • Dyma'r crybwylliad cyntaf at yr ymadrodd Bad Wolf, gyda Moxx Balhoon yn datgan: "Indubitably, this is the Bad Wolf scenario".

Rhywogaethau[]

  • Mae Cassandra yn dweud mae lawer o rhywogaethau yn enwi eu hun fel "human-ish", ond hi yn unig yw'r bod dynol "pur" olaf.

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Mae Rose yn cyfeirio at Newsround Extra.
  • Mae Cassandra yn chwarae beth meddylia hi yw "baled traddodiadol Daearol" er mwyn cydnabod dinistriad y Ddaear - ond mae hi'n chwarae'r gân "Toxic" gan Britney Spears, cân anaddas ar gyfer y digwyddiad.
  • Mae Rose yn galw Cassandra yn "Michael Jackson" gan gyfeirio ar llawdriniaeth gosmetig niferus y caneuwr.
  • Chwareuwyd "Tainted Love" gan Soft Cell ar ôl i'r dirprwyaid cyfan casglu.
  • Mae Cassandra yn cyflwyno jiwcbocs, ac yn ei alw'n iPod yn cymysgu'r enwau.

Nodiadau[]

  • Defnyddiwyd y rhan fwyaf o gyllid effeithiau'r gyfres ar yr episôd hon gan oedd angen mwy o effeithiau CGI ar y stori hon nac unryw stori arall. Cafodd olygfa ei ollwng lle byddai'r oriel wedi cwympo ar ongl gan oedd yn rhy drud.
  • Mae'r episôd yn dechrau gydag atgoffâd o'r episôd blaenorol yn debyg i sawl sioe Americanaidd, er nid oes llais yn dweud "yn gynt ar Doctor Who". Yr olygfeydd o Rose sydd yn dechrau'r episôd. Heb gyfri ffilm teledu 1996, hon oedd y tro cyntaf i Doctor Who cynnwys golygfa cyn y teitlau agoriadol ers Remembrance of the Daleks yn 1988. Yn wahanol i'r hen gyfres a ddefnyddiodd yr arddull ond weithiau, byddai cael golygfa cyn y teitlau agoriadol yn rheolaidd yn y gyfres newydd, gyfa braidd episôd heb olygfa cyn y teitlau agoriadol.
  • Gwelwyd logo y BBC ar waelod y sgrîn ar ddechrau'r episôd yn dilyn yr atgoffâd. Ar yr adeg hon, nid oedd y BBC wedi cadarnhau'r ymarfer o gael y logo yn y teitlau agoriadol.
  • Dywedodd Russell T Davies, creawdwr Cassandra, ar sawl adeg fe gafodd yr ysbrydoliaeth i greu Cassandra yn dilyn gweld actoresau Hollywood tenau iawn yn mynd i'r Academy Awards. Ar 2 Ebrill 2006, dyfyniad Davies yn y Sunday Mirror oedd: "It was horrific seeing those beautiful women reduced to sticks. Nicole Kidman struck me in particular. Nicole is one of the most beautiful women in the world. But she looks horrifying because she's so thin. It's like we're killing these women in public. We watch while you die."
  • Yn un olygfa, mae Rose yn sôn am Newsround Extra. Newsround yw rhaglen newyddion ar BBC 1 a CBBC gyda chynulleidfa bwriad o blant. Mae Newsround Extra yn ffurf estyniedig o'r rhaglen sydd yn canolbwyntio ar un pwnc yn unig. Roedd newyddiadurwr Newsround ar set wrth ffilmio'r olygfa hon.[3]
  • Mae moment nodadwy yn digwydd o ran hanes y Doctor wrth iddo ddweud "What the hell is that?", gan dyma'r tro cyntaf i'r cymeriad defnyddio mân-rheg ar sgrîn. Dynododd hon rhyddhad ar iaith y Doctor yn y gyfres newydd, ond achos agwedd teuluol y sioe, nad yw'r Doctor wedi defnyddio unrhyw beth gryfach na "hell" na "damn".
  • Ychwanegwyd yr olygfa rhwng Rose a Raffalo yn hwyr gan roedd yr episôd yn rhy fyr. Roedd hyn oherwydd roedd rhaid torri rhai o linellau Cassandra gan roedd anodd-debau yn ei hanimeiddio.
  • Pan mae Jabe yn dechrau siarad am y Rhyfel Mawr Olaf Amser, mae modd gweld y Doctor yn dagru, yr unig adeg mae'r Nawfed Doctor wedi'i bortreadu yn crio ar sgrîn. Dyma hefyd y tro cyntaf mae modd gweld y Doctor yn crio ar sgrîn. Yn flaenorol, fe ddisgrifiwyd yn crio yn dilyn credu (yn anghywir) bod Liz Shaw wedi marw yn PRÔS: The Scales of Injustice.
  • Mae sawl olygfa ar gael yn The Shooting Scripts na chafodd eu cynhyrchu, gan gynnwys marwolaeth erchyllach ar gyfer Raffalo, trafodaeth hirach rhwng y Doctor a Jabe, a Rose a Cassandra, ac ail olygfa o Rose yn ffonio Jackie wrth i belydrau'r haul ymdreiddio'r oriel.
  • Disgrifia'r sgript gwreiddiol Cassandra yn cyflwyno cabinedau a gynhwysodd argraffiad cyntaf Harry Potter and the Philosipher's Stone a'r Magna Carta.[4]
  • Mae'r episôd yma yn cynnwys ymddangosiad cyntaf y papur seicig, y Rhyfel Amser a'r geiriau "Bad Wolf", geiriau a fyddai'n creu arc trwy gydol y gyfres.
  • Cynhwysodd hen olygfa y ddatgeliad a fyddai'n dynodi perchnogaeth y Doctor ar naw cadwyn DNA, cyfeiriad at ei hen ymgorfforiadau.
  • O ganlyniad i'w hymrwymiad i The Business nad oedd Camille Coduri ar gael, felly ffilmiwyd ei golygfeydd yn rhan o'r bloc ffilmio blaenorol.
  • Mae 203 golygfa effeithiau gweledol yn yr episôd a gafodd eu cwblhau dros wyth wythnos, o'i gymharu a'r "tua 100" yn Gladiator; o ganlyniad, cellweiriodd Russell T Davies na fyddai episôd ar yr un raddfa byth eto o achos y gost cynhyrchu. Hyd The Wedding of River Song nid oes episôd Doctor Who arall gyda nifer cymharol o olygfeydd effeithiau arbennig. Dywedodd Phil Collinson roedd gan yr episôd mwy o anghenfilod nag erioed.
  • Mae Cassandra a'r corrynod metel - ar wahân i'r rhai anactif - yn CGI yn gyfan gwbl. Yn ôl Russell T Davies, cymerodd Cassandra "sawl sawl mis" i'w chreu a chostiodd "ffortiwn". Byddai'r Moxx Balhoon wedi'i cael ei animeiddio hefyd, ond newidodd hyn i "pyped" a wedyn i siwt rwber llawn gyda'r bwriad o gael ef i fod yn tewach. Roedd Jimmy Vee wedi gweithio rhannau tebyg yn flaenorol, ond fe ddywedodd roedd yn anodd ffilmio yn y wisg, a gymrodd tair awr i rhoi arno.
  • Yn gwreiddiol, roedd gan Jabe mwy o farc ar ei gwyneb, ond newidwyd hi i fod yn Fedwen Arian yn lle.
  • Mae Cassandra yn arddangos "iPod" (mewn gwirionedd jiwcbocs Wurlitzer yw hyn), sydd yn chwarae "Tainted Love" gan Soft Cell ac yn hwyrach "Toxic" gan Britney Spears. Gan nad oedd "Toxic" erioed wedi'i rhyddhau ar finyl 7" 45 rpm, creodd y tîm record 7" ffug ar gyfer yr episôd.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 7.3 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 7.97 miliwn[5]

Lleoliadau ffilmio[]

  • Unit Q2, Casnewydd
  • Y Deml Heddwch, Caerdydd
  • BBC Broadcasting House, Llandaf, Caerdydd
  • Headlands School, Penarth
  • Helmont House, Caerdydd
  • Queen Street, Caerdydd

Cysylltiadau[]

  • Mae Rose yn gofyn pam oes modd i'r estronwyr siarad Saesneg. Gofynnodd Sarah Jane Smith union yr un cwestiwn. (TV: The Masque of Mandragora) Gofynodd Donna Noble hefyd, cyn ceisio siarad Lladin i Rhufeiniwr yn Rhufain. (TV: The Fires of Pompeii) Cafodd Clara Oswald syndod ar ei habl i siarad a deall Rwsieg (TV: Cold War) a digwyddodd yr un peth i Bill Potts â lladin. (TV: The Eaters of Light)
  • Mae'r Doctor yn awgrymu i Jabe roedd ef ar y RMS Titanic. Roedd y Chweched Doctor wedi bod ar fersiwn o'r Titanic (a'r Titan, llong ansuddadwy arall). (SAIN: The Wreck of the Titan) Gwnaeth y Bedwerydd Doctor cyfeiriad at y Titanic. (TV: Robot, The Invasion of Time)
  • Bydd Cassandra yn cyfarfod â'r Doctor a Rose eto. (TV: New Earth)
  • Wrth geisio datrys dirgel Bwgan Caliburn, byddai'r Doctor yn ymweld â'r Ddaear yn ystod ei dinistriad gyda Clara Oswald. (TV: Hide)
  • Bydd y Doctor yn cyfarfod â Gwyneb Boe dwywaith ymhellach yn ei ddegfed ymgorfforiad. (TV: New Earth, Gridlock) Byddai wedyn yn tybio efallai mai'r Gwyneb Boe yw dyfodol Jack Harkness. (TV: The Last of the Time Lords)
  • Mae'r Doctor wedi gweld dinistriad y Ddaear, yn llosgi wrth gwympo tuag at yr Haul yn ystod 57fed segment amser, tua 10,000,000 flwyddyn i'r dyfodol. Erbyn hyn, roedd y pobl olaf wedi gwacáu'r blaned oherwydd yr argyfwng. Aeth y pobl hyn i sawl blaned gan gynnwys Refusis II (TV: The Ark) a Frontios. (TV: Frontios) Mae Cassandra yn cyfeirio at hyn wrth ddweud "maent yn dweud cyffyrddodd dyn â phob un o sêr y nen".
  • Mae'r Doctor yn uwchraddio ffôn symudol Rose i Uwchffôn. Byddai hefyd yn uwchraddio ffonau Martha Jones (TV: 42) a Donna Noble. (TV: The Poison Sky)
  • Mae'r Doctor yn defnyddio'i Papur Seicig. Defnyddiodd ei ail ymgorffiad y papur am amser fuan tra'n gweithreu ar ran yr Asiantaeth Ymyrraeth Wybrennol. (PRÔS: World Game) Fe gariwyd gan ei wythfed ymgorfforiad hefyd ar adegau, (SAIN: The Turn of the Screw, The Starship of Theseus) a fe'i ddefnyddiwyd gan y Doctor Rhyfel yn ystod y Rhyfel Mawr Olaf Amser. (SAIN: Legion of the Lost)
  • Yn yr un modd â Rose, roedd taith cyntaf Peri Brown yn y TARDIS i orsaf osod hefyd (PRÔS: The Ultimate Treasure) - wedi'i ddewis ar bwrpas gan y Pumed Doctor er mwyn dangos i Peri sawl rhywogaeth estronaidd a rhoi blas iddi ar beth fyddai teithio yn y TARDIS.
  • Cyfarfodd y Doctor Cyntaf â phlanhigion galluog. (SAIN: Here There Be Monsters)
  • Mae'r Doctor yn honni i Rose fe raddiodd yn "Jiggery-pokery". Dywedodd y Trydydd Doctor fod ganddo "rhyw brofiad" gyda jiggery-pokery. (PRÔS: Generation Gap)
  • Bydd Jabe yn rhan o'r pobl cofiwyd gan y Doctor ar ôl i Davros gofyn iddo: "Faint sydd wedi marw yn dy enw di?" (TV: Journey's End)
  • Yn flaenorol, tywysodd y Trydydd Doctor Sarah Jane Smith i weld planed yn marw. Yn ôl fynhonell arall, mae'r Pedwerydd Doctor a Joan Brown oedd hyn. (COMIG: Doomcloud)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Cafodd The End of the World, ynghyd Rose a The Unquiet Dead, ar DVD ar 16 Mai 2005 (DU) ac ar 7 Tachwedd 2006.
  • Yn hwyrach, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 yn rhan o DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #1.
  • Rhyddhawyd yr episôd ar Doctor Who: Series 1-4 ym mis Hyfres 2009, ac wedyn ar blu-ray yn rhan o Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
  • Ar 20 Mawrth 2017, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 mewn Steelbook.

Troednodau[]

Advertisement