The Ghost Monument oedd ail episôd Cyfres 11 Doctor Who.
Cyflwynodd yr episôd yma ddilyniant thema newydd, ar ôl cael ei gadael wrth yr episôd blaenorol. Gwelodd y stori hefyd y cyferirad cyntaf at "y Plentyn Diamser", arc stori a fyddai'n para hyd cyfnod y Trydydd ar Ddegfed Doctor.
Crynodeb[]
Wedi'i strandio ar blaned estronaidd, planed o'r enw Anghyfannedd, a fydd modd i'r Doctor dod o hyd i'w TARDIS yn union fel addodd hi i'w ffrindiau? A fydd ei chwmni newydd yn unryw help os ydynt yn rasio yn erbyn ei gilydd? A beth yn union yw'r "Henebyn Ysbrydol"?
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Jodie Whittaker
- Graham O'Brien - Bradley Walsh
- Ryan Sinclair - Tosin Cole
- Yasmin Khan - Mandip Gill
- Angstrom - Susan Lynch
- Epzo - Shaun Dooley
- Ilin - Art Malik
- Llais y Gweddillion - Ian Gelder
Cast di-glod[]
Cyfeiriadau[]
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor wedi cwrdd â Pythagoras ac Audrey Hepburn.
- Mae'r Doctor yn dweud wrth y Gweddillion bod ganddi "dwsyn" o fywydau llawn ofn.
- Unwaith, treuliodd y Doctor tair wythnos fel hologram.
- Mae'r Gweddillion yn crybwyllio'r "Plentyn Diamser" wrth orffennol y Doctor.
Y TARDIS[]
- Mae'r Doctor yn hawlio bod modd i'r TARDIS cyfieithu ieithoedd estronaidd.
- Mae'r TARDIS yn sownd mewn cylch, yn cwmpo i mewn ac allan o amser a'r gofod.
- Mae'r Doctor yn dweud collodd hi ei hallwedd.
- Mae'r Doctor yn dweud bod y TARDIS yn fwy o faint ar y tu mewn oherwydd peirianaeth dimensiynol.
- Mae eisioes gan Consol y TARDIS dosbarthwr custard creams, wedi'i actifadu trwy wasgu pedal ar y llawr.
Rhywogaethau[]
- Mae Angstrom yn Albariwr o'r blaned Albar.
- Muxterwr yw Epzo.
- Er maent yn disgwyl yn debyg i ddynoliaeth, nid yw Angstrom na Epzo wedi clywed dim am ddyn na'r Ddaear. Mae Angstrom yn camglywed "human beings" fel "moomanbeans".
- Mae Ilin yn cyfeirio at preswylwyr hynafol y blaned. Roedd rhai ohonynt yn wyddonwyr.
- Mae'r Doctor yn honni roedd lleianod Gwener yn alluog.
- Mae dŵr Anghyfannedd yn llawn meicrobau cnawd-fwytol.
- Mae Althuswyr yn treulio hanner eu bywydau yn creu eu siagarau enwog.
- Ymosodwyd ar Albar gan y Stenza o'r blaen.
- Mae modd i'r Gweddillion arogli ofn.
Gwyddoniaeth[]
- Mae asetylen yn gwynto fel garlleg, yn ysgafnach nac aer, ac yn danio'n hawdd.
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae Graham yn galw Epzo yn Rhiain Gwsg.
- Mae'r Doctor yn honni dylai Cerebos bod ar Antiques Roadshow.
- Mae Ryan yn hawlio ei fod wedi chwarae digon o Call of Duty i wybod sut i ddefnyddio dryll.
Arian[]
- Gwobr Rali'r Deuddeg Galaeth yw 3.2 triliwn Krin.
- Gwerth un Krin yw 200 kavalon, 90 forvalar, neu 4,000 tryntie.
- Gan nad yw hi'n gyfarwydd gyda'r arian, mae'r Doctor yn nodi mae hi "back tu ôl" ar ei chyfraddau cyfnewid.
Digwyddiadau[]
- Mae Angstrom ac Epzo yn cystadleuwyr yn Rali'r Deuddeg Galaeth olaf, wedi llwyddo cyrraedd y deithran olaf. Roedd Kornlite, Fythen, a Finskad hefyd wedi cystadlu.
- Mae larwm yn canu wrth i'r cystadleuwyr cyrraedd Anghyfannedd.
- Mae'r Doctor yn cymharu'r rali i Baris-Dakar, ond yn y gofod.
- Mae Epzo yn cynllunio tanio'r Sigâr Althusaidd ar ôl iddo ennill.
Lleoliadau[]
- Mae Anghyfannedd allan o'i chylchdroad arferol. Mae Angstrom yn nodi mai'r blaned olaf yw hi. Mae Graham yn hawlio 3 haul yn yr awyr.
- Mae Ilin yn defnyddio'i babell i roi gwybodaeth am y rali.
- Mae'r Doctor yn dweud teithion nhw sawl gysawd.
- Mae gan Anghyfannedd corsydd mwglyd.
- Mae Yaz yn cymharu TARDIS y Doctor i'r blwch heddlu ar Surrey Street, sydd yn gwyrdd.
- Mae Albar yn blaned bychain.
- Mae Graham yn sôn am Sheffield.
Pobl[]
- Mae gan Angstrom datŵ
- Mae'r Doctor a'i ffrindiau yn cael eu camgymryd am fonysau.
- Honna Ilin nad oes fonysau a thrapiau neidr yn y deithfan olaf.
- Ysgrifennwyd caneuon am Cerebos.
- Mae'r Doctor yn honni bydd pobl yn ysgrifennu operâu am eu marwolaethau di-bwynt os na fyddai Epzo yn gwaredu rhan gefn ei long.
- Mae'r Doctor yn roi par o sbectol Audrey Hepburn i Graham, ond mae'n ychwanegu mae'n bosib mai sbectol Pythagoras yw rhain a nad yw hi'n cofio.
- Mae'r Doctor wedi gweld Pythagoras gyda phen mawr.
- Mae Graham yn awgrymu dylai Ryan defnyddio'i astudiau NVQ i drwsio'r cwch.
- Llasddwyd Gwraig Angstrom gan y Stenza.
Technoleg[]
- Roedd llong ofod Angstrom yn Hyperjump.
- Enw llong Epzo yw Cerebos.
- Mae gan Cerebos a llong Angstrom MediPods.
- Mae tariannau Cerebos yn gychwyn dybanaidd, ac mae ganddo sefydlogwyr dybanaidd.
- Mae rhaid i Angstrom casglu data atmosfferig.
- Mae'r MediPods yn gwirio i weld os oes cyfieithydd cyfanfydol yn eu claf, gan ddarparu un os nad oes un.
- Mae gan y twneli tanddaearol system arolygu a systemau cynnal bywydau.
Nodiadau[]
- Ffilmiwyd The Ghost Monument, a Rosa hefyd, yn De Affrica yn Ionawr 2018, gyda chymorth Out of Africa Entertainment, cwmni cynhyrchu lleol.
- Darparodd Timeslice Cinematography pob saethiad o'r awyr.
- Dynodofdd hon defnydd cyntaf o ddilyniant thema newydd ar gyfer Cyfres 11.
- Dyma'r tro cyntaf ers The Snowmen yn 2012, yn eithrio The Night of the Doctor, The Day of the Doctor, Death in Heaven a Sleep No More yn 2013, 2014, a 2015 yn eu tro, i'r dilyniant thema beidio cynnwys gwyneb na lygaid y Doctor. Serch hynny, mai modd gweld amlinell y Doctor rhwng ymddangosiad logo Doctor Who a theitl yr episôd.
- Dyma'r tro cyntaf ers The Ultimate Foe yn 1986, yn eithrio The Day of the Doctor a Sleep No More, nid yw'r TARDIS yn ymddangos yn y dilyniant agoriadol.
- Dyma'r tro gyntaf ers The Day of the Doctor yn 2013 nad oes olygfa cyn y dilyniant agoriadol. Gan ddechrau gyda'r episôd yma, ni fyddai olygfa cyn y dilyniant thema, gyda'r episodau yn dechrau'n rheolaidd gyda'r dilyniant agoriadol. Dyma hefyd yr achos gyntaf ers Doctor Who: The Movie, gan eithrio The Day of the Doctor, nid oedd "conyn" (sting) cyn y dilyniant agoriadol a ni chafodd ei ddefnyddio yng nghyfnod Chibnall. Dechreuodd y conyn cael ei gynnwys yn rhan o'r dilyniant thema gyda The Leisure Hive, yn para nes ddiwedd yr hen gyfres gyda Survival. Pan ddychwelodd y gyfres gyda Rose, parhawyd defnydd o gonyn ar ddechrau'r dilyniant thema. Ar y llaw arall, roedd dal conyn fel arweiniad am y credydau cau.
- Dyma'r tro cyntaf ers yr episôd-mini Time, a'r ail tro yn hanes y sioe, mae'r dilyniant agoriadol yn dechrau'r tu allan i, cyn mynd i mewn i'r Fortex Amser.
- Er dyma stori gyntaf y Trydydd ar ddegfed Doctor i gael dilyniant thema, dyma'r ail tro i fenyw cael ei chredydu'n gyntaf yn y dilyniant thema, yn dilyn Death in Heaven.
- Cyflwynodd y stori yma ystafell gonsol newydd i'r TARDIS, a mân-newidiadau i'r tu allan.
- Dileuwyd fathodyn St John Ambulance wrth y drws ar flaen y TARDIS, yn dynodi'r absenoldeb cyntaf ers The Eleventh Hour, wedi bod yn presennol trwy gydol cyfnod Steven Moffat.
- Mae'r testun wedi newid wrth ysgrifau du ar gefndir gwyn i ysgrifau gwyn ar gefndir du, yn union fel cyfnod Tom Baker.
- Am y tro cyntaf ers cais ailddechrau'r sioe yn 1996 gyda ffilm teledu Doctor Who , nid yw'r rotor amser yn estyn nes y nenfwd. Dyma'r tro cyntaf hefyd nad yw'r rotor yn silindr perffaith; yn lle mae'n crisial enfawr. Yn ychwanegol, am y tro cyntaf, nid yw'r rotor yn dryloyw.
- Dyma'r tro cyntaf ers The Husbands of River Song yn 2015, nid oes unryw olygfa wedi'u gosod ar y Ddaear.
- Mae'r stori yma yn dynodi terfyn cyfres o storïau teledu yn dilyn yn syth i mewn i'w gilydd a ddechreuodd yn World Enough and Time
- Yng nghyfieithiad Brasiliaidd y stori, newidwyd enwau Audrey Hepburn a Pythagoras i Carmen Miranda a Palmirinha yn eu tro. Hefyd, newidwyd enw'r gêm Call of Duty i GoldenEye 007.
- Dyma'r tro cyntaf yng nhyfnod BBC Cymru'r sioe i BBC Studios yn unig derbyn credyd am yr episôd. Byddai hyn yn digwydd nes ddiwedd y gyfres.
Cyfartaleddau gwylio[]
Cysylltiadau[]
- Ar ddechrau'r episôd, mae'r Doctor a'u ffrindiau ar goll yn y gofod. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae Ryan yn cofio bod yn stordy Rahul cyn y gofod. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae'r Doctor wedi bod ar llong ofod oedd yn crasio ar blaned o'r blaen. (TV: The Night of the Doctor) Y tro yma, nid yw neb yn marw.
- Mae'r Doctor wedi dod gweld rali ar ddraws y gofod o'r blaen (TV: Enlightenment)
- Mae Yaz yn sôn am sut llwyddodd y Doctor i achub Karl Wright, trechi Tzim-Sha, a neidiodd hi wrth graen. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae'r Doctor yn ailadrodd ei chasineb o ddrylliau. (TV: The Sontaran Stratagem, The Doctor's Daughter, The Impossible Astronaut, The Curse of the Black Spot, Into the Dalek, The Doctor Falls)
- Mae'r Doctor yn defnyddio Venusian aikido i barlysu Epzo am dro. (TV: Inferno, The Sea Devils, Robot of Sherwood, World Enough and Time, SAIN: Faith Stealer, Last of the Cybermen)
- Mae'r Doctor yn nodi bod y TARDIS wedi newid ei hystafell gonsol, ac mae hi'n hoffi'r dyluniad (TV: The Eleventh Hour)
- Mae ymgorfforiadau blaenorol y Doctor yn aml wedi beirniadu'r newidiadau wnaeth ymgorfforiadau dyfodol y Doctor i'r TARDIS, (TV: The Day of the Doctor) neu i fynegu nad oeddent yn hoff o'r newidiadau. (TV: The Three Doctors, Time Crash, Twice Upon a Time)
- Mae Ryan yn atgoffa'r Doctor nad yw'n hoff o ddringo ysgolion. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae Graham yn sôn am farwolaeth Grace. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae'r Doctor yn sôn am y Stenza. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae'r Doctor yn diffodd y robotiaid trwy ddefnyddio ergydiant electromagnetig. (TV: The Age of Steel, Voyage of the Damned)
- Mae Ryan yn parhau i wrthod galw Graham yn "tadcu". (TV: The Woman Who Fell to Earth)
- Mae'r TARDIS newydd yn dosbarthu bisgedi, yn debyg i'r beiriant fwyd. (TV: The Daleks, The Edge of Destruction, 'The Space Museum)
- Yn flaenorol, dynododd y Degfed Doctor mai bisgedi custard creams oedd "y gorau". (PRÔS: Code of the Krillitanes)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd yr episôd yma gyda gweddill Cyfres 11 ar 14 Ionawr 2019 (DU), ar 29 Ionawr 2019 (UDA), ac ar 30 Mehefin 2019.
Rhyddhadau digidol[]
- Mae'r episôd ar gael i ffrydio ar BBC iPlayer.
Troednodau[]
|