Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

The Gift oedd chweched stori, a stori olaf, Cyfres 3 The Sarah Jane Adventures. Dyma'r stori deledu gyntaf i gyflwyno teulu Racsacoricoffalapatoriad arall i'r Slitheen, sef eu gelynion, y Blathereen.

Crynodeb[]

Pan mae cynllyn diwedaraf y Slitheen i ddinistrio'r Ddaear am elw yn methu, mae teulu arall wrth blaned y Slitheen yn cyrraedd, y Blathereen. Er maent i'w weld yn gymwynasgar, a oes modd eu hymddiried? Fel arwydd heddwch, mae'r Blathereen yn rhoi anrheg i'r grŵp o blanhigyn o'r enw Rakweed, a fyddai'n gwaredu newyn byd-eang. Serch hynny, mae'r Rakweed yn gwylltio, yn llydanu imprithiau ar ddraws Llundain yn adwytho pobl, gan gynnwys Luke. Bydd rhaid i Sarah Jane ymladd yn unigol i achub nid y byd yn unig, ond ei mab hefyd. Yn y cyfamser, mae Clyde yn ysmyglu K9 i mewn i'w ysgol er mwyn twyllo prawf, cyn iddyn nhw, a Rani, cael eu trapio yn yr ysgol - wedi'u cylchu gan Rakweed. Bodd modd i'r tîm gweithio ar ddraws Ealing - a'r Antarctig - er mwyn rhwystro Rakwedd rhag orchuddio'r blaned gyfan?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cyfeiriadau[]

Planedau[]

Lleoliadau[]

  • Glaniodd long ofod y Blathereen yn yr Antarctig.
  • Mae nifer o'r pobl heintiodd y Rakweed yn mynd i Ysbyty Park Vale.
  • Mae Rakweed yn llydanu ar ddraws Southall, Ealing, Perivale, Acton a Chiswick.

Goddrychau[]

  • Mae Sarah Jane yn defnyddio chwiban ci i alw K9.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Blathereen yn siarad am y Rackateen.
  • Yn ôl y Blathereen, mae corgimychiaid tir yn ddanteithfwyd poblogaidd ar Clom, a mae'r Racsacoricoffalapatoriaid hefyd yn ei mwynhau.
  • Yr Abzorbalovians yn rhan o'r Cynghrair Raxas.
  • Mae Sarah Jane yn bygwth defnyddio finegr ar y Blathereen, sylwedd syth yn leithiog iddynt.

Technoleg[]

  • Mae'r Slitheen yn defnyddio eu cuddwisgoedd croen, ac mae un ohonynt yn dioddef nam clywadwy cyfnewidath nwy.

Cyfeiriau diwylliannol o'r byd go iawn[]

  • Wrth i Luke newid ei ddillad, mae modd clywed "Everybody in Love" gan JLS.
  • Mae Clyde yn meddwl dylai rhoi cynnig am Masterchef ar ôl i'r Blathereen mwynhau ei goginio.
  • Mae Rani yn cymharu Clyde i Jamie Oliver.

Nodiadau[]

  • Ymddangosodd y Blathereen a Slitheen yn PRÔS: The Monsters Inside. The Gift yw ymddangosodiad cyntaf y Blathereen mewn stori deledu.
  • Rhowd olfactory sensor i K9 yn y stori hon, yn ei wobrwyo gyda'r synnwyr arogleuo.
  • Yn rhan dau, mae Clyde yn gofyn wrth Rani beth byddai Sarah Jane yn gwneud. Mae Rani yn ateb gyda "She'd do what she always does: improvise." Mae hon yn adlewyrchiad o sut ddisgrifiodd y Trydydd Doctor ymagweddi ei hun i Sarah Jane yn The Five Doctors.
  • Dyma'r stori gyntaf i awgrymu'n glir teimladau Rani tuag at Clyde.
  • Dyma'r achos gyntaf o sylwedd ar wahân i finegr yn achosi digon o adweithiad mewn corff Racsacoffalapatoriad i ffrwydriad ddigwydd. Yn eironig, methan yw hon, nwy maent yn creu'n ddiamdlawd wrth gyfnewidaeth gwael eu cuddwisgoedd croen.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Rhan Un - 0.95 miliwn[1]
  • Rhan Dau - 0.89 miliwn[1]

Cysylltiadau[]

  • Mae K9 yn defnyddio "Hover Mode" i mynd o gar Sarah i'r palmant. Defnyddiodd yr un system i mynd i lawr y grisiau wrth ymateb i bresenoldeb Travast Prolong. (TV: The Wedding of Sarah Jane Smith)
  • Mae modd gweld perthynas pigog Mr Smith a K9 unwaith eto wrth i Mr Smith dangos ei fod o blaid Clyde yn mynd â K9 i ffwrdd o dŷ Sarah Jane. Yn yr un modd, mae K9 yn ymateb bod Mr Smith yn "ymyrryd yn ei gylchedau synaptig". (TV: The Mad Woman in the Attic, The Wedding of Sarah Jane Smith)
  • Mae Clyde yn atgoffa Rani crëwyd model y K9 gwreiddiol yn y flwyddyn 5000. (TV: The Invisible Enemy)
  • Ymwelodd Sarah Jane yr Antarctig gyda'r Pedwerydd Doctor, (TV: The Seeds of Doom) ac hefyd yn 2006. (SAIN: Snow Blind)
  • Pan mae'r Blathereen yn ffrwydro yn yr atig, mae Clyde yn dweud "Why does this always happen to me?". (TV: Revenge of the Slitheen, Enemy of the Bane)
  • Gall y tîm cydnabod y Slitheen trwy eu cuddwisg ddynol oherwydd eu torriadau gwynt a'r fflachiau o olau glas wrth eu pennau. (TV: Aliens of London/World War Three, Revenge of the Slitheen, From Raxacoricofallapatorius With Love)
  • Mae'r llinell Sarah Jane, "there should have been another way" yn adlewyrchu sylwad y Pumed Doctor yn dilyn dinistrio'r Silwriaid a Chythraul y Môr. (TV: Warriors of the Deep)
  • Mae cynllun y Slitheen o gywasgu'r Ddaear i ddeimwnt yn debyg i gynllun Baltazar. (TV: The Infinite Quest)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd y stori hon ynghyd â gweddill Cyfres 3 ar DVD ar 1 Tachwedd 2010.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd y stori ar y set bocs The Complete Collection Series 1-5 ar 6 Chwefror 2012.

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 DWMSE 28