Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Girl Who Died (Cy: Y Ferch bu Farw) oedd pumed episôd Cyfres 9 Doctor Who.

Dyma 100fed stori Doctor Who erd dychwelyd yn 2005. Cyflwynodd yr episôd Ashildr, cymeriad a fyddai, o dan enw Me, yn bwysig o ran arc stori'r gyfres.

Roedd y stori hefyd yn nodedig am ddatgelu tarddiad wyneb y Doctor a pham edrychodd yn debyg i Lobus Caecilius, dyn achubodd y Degfed Doctor. Dyma'r tro cyntaf i Doctor Who ceisio rhoi esboniad ar gyfer actor yn chwarae'r Doctor yn dilyn ymddangosiad blaenorol ar y sioe. Yn gynharach, chwaraeodd Colin Baker y gymeriad Maxil, cyn chwarae'r Chweched Doctor; er, yn yr achos yma, nid yw esboniad yn cael ei cynnig am y tebygolrwydd mewn edrychiad, neu os mai rhywbeth bwriadol eodd hyn.

Crynodeb[]

Yn dilyn antur a hanner yn y gofod,, mae'r Doctor a Clara yn cael eu herwgipio gan Lychlynwyr o'r 9fed ganrif. Ac yn waeth fyth, mae estronwyr cythrol wedi cyrraedd pentref y llychlynwyr; ac mae merch bengadarn wedi argyhoeddi rhyfel arnynt.

Erbyn diwedd yr antur, bydd y Doctor yn dysgu ble welodd ef ei wyneb o'r blaen, a'r rheswm fe ddewisodd.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Dwbl Clara:[1]
    • Natalia Alexeeva
  • Llychlynwyr:[1]
    • Wayne Allen
    • Mark Banfield
    • Julian Seager
    • Lewis Watling
    • Jason Trower-Rundle
    • Shelby Williams
    • Andrew Driscoll
    • Ben Bennett
  • Arweinydd y Llychlynwyr:[1]
    • Robert Parker-Munn
  • Gwarchod:[1]
    • Shaun Buswell
  • ZZ Top:[1]
    • Jonathan Colwill
  • Llychlynnwr ifanc:[1]
    • Liam Jones
  • Milwyr llychlynnaidd gwrywaidd:[1]
    • Dominic Kynaston
    • Dave Mann
    • Chris Lane
    • Darren Whiting
    • Alec James
  • Pentrefwyr benywaidd:[1]
    • Annette Lyons
    • Kitty Moran
    • Heather Lawson
    • Linda Nickson
  • Gwraig Lofty:
    • Amy Doubtfire
  • Pentrefwr newydd sydd yn dod yn filwr:[1]
    • Joe Bazalgette
  • Mire:[1]
    • Andrew Cross
    • Jon Davey
    • Matthew Doman
    • Ian Hilditch
    • Richard Highgate
  • Plant:[1]
    • Morgan Noakes
    • Keeley Evans
    • Iestyn Jones
    • Keogh Kiernan
  • Baban Lofty:[1]
    • Sonny Williams
    • Brody Williams
  • Cerddorion:[1]
    • James Bowman (Gitâr)
    • Francis George (Drymiau)
    • Samantha Hunt (Ffliwt
  • Pentrefwyr benywaidd newydd:[1]
    • Christie Witts Taylor
    • Catherine Guy
    • Sandra Russell
  • Dwbl Ashildr:[1]
    • Elena Duffy
  • Dwbl llaw pentrefwr:[1]
    • Chris Lane
  • Dwbl llaw y Doctor:[1]
    • Steffan Morris

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn gofyn i Clara os oes modd iddi gweld nifwl.
  • Dymuniad y Llychlynwyr yw i farw gydag urddas.
  • Pan holwyd i'r Doctor "beth digwyddodd", mae'n dechrau siarad am y Glec Fawr, deinosoriaid, a chreaduriaid deudroed.

Theorïau[]

  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at Ddeddf Clarke, sydd yn dynodi "nad oes modd gwahaniaethu technoleg tra safonol wrth hud".

Rhifau[]

  • Mae'r Doctor yn sôn am y rhif 9000000.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn darllen ei Ddyddiadur Dwy Fil Blwyddyn er mwyn atgoffa ei hun am y Mire.

Unigolion[]

  • Mae gan Heidi haemoffobia, ac yn hwyrach, mae'n "cynyddu" i ofni cyfeiriad at waed.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Llychlynwyr yn defnyddio wefrlysywennod er mwyn trechu'r Mire.
  • Mae'r Doctor wedi rhoi cymorth i Velosians mewn rhyfel.
  • Mae'r Mire yn bwydo ar adrenalin a thestosteron.

Technoleg[]

  • Mae Llychlynnwr yn torri sbectol haul sonig y Doctor. Yn dliyn hyn, maent yn parhau i weithio.
  • Mae gan longau ofod y Mire ystafelloedd alltynnu.
  • Mae Clara yn dysgu i bentrefwr sut i ddefnyddio ei iPhone er mwyn recordio'r Mire yn encilio wrth byped môr-neidr.
  • Mae gan iPhone Clara app sydd yn gadael iddi rhoi "The Benny Hill Theme" dros fideos.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio becyn trwsio Mire i "drwsio" Ashildr.
  • Mae'r Doctor yn bygwth uwchlwytho fideo Clara o "Odin" i'r Hwb Galaethol.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at ddylunwyr wê.

Diwylliant poblogaidd[]

  • Mae'r Doctor yn rhoi'r llysenw "ZZ Top" i Lychlynnydd â barf, mae rhywun arall yn derbyn y llysenw "Noggin the Nog", ac mae'r Doctor yn enwi llall ar ôl cymeriad llyfr plant, "Heidi".
  • Mae Clara yn rhoi "The Benny Hill Theme" dros fideo maeddiad y Mire.

Nodiadau[]

  • Mae'r cogiau ar ddechrau teitlau agoriadol bach yn dywyllach yn yr episôd hon.
  • Mae'r stori hon yn defnyddio golygfeydd wrth The Fires of Pompeii a Deep Breath pan mae'r Deuddgfed Doctor yn sylweddoli o le gafodd ef ei wyneb. Mae'r dilyniant yn cynnwys deialog gan Catherine Tate fel Donna Noble a David Tennant fel y Degfed Doctor.
  • Dyma'r trydydd episôd olynol i gynnwys glychau Cloister, dyma'r tro gyntaf i hyn ddigwydd ar y sioe.
  • Mae modd gweld siot o Clara yn hedfan yn y gofod yn y trelar "Amser Nesaf" ar ddiwedd Before the Flood; nid yw hyn wedi gorffen eto. Mae'r un olygfa yn yr episôd yma wedi gorffen ar y gwaith effeithiau weledol.
  • Roedd rhestriad Radio Times wedi'i cyfeilio gan lun fach o Ashildr gydag arfwisg yn ystod Brwydr Agincourt, o'r episôd olynol, The Woman Who Lived, gydag isdeitl o "Doctor Who / 8.20pm / Viking girl Ashildr (Maisie Williams) becomes the focus of the Doctor's Attention".
  • Dyma 100fed stori yng nghyfnod Doctor Who BBC Cymru.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.85 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.56 miliwn[2]

Lleoliadau ffilmio[]

  • FForest Fawr, Tongwynlais
  • Porth y Rhath (Stiwdio 1, 3 & 4)
  • Pentref Canoloesol Cosmeston, Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, Penarth
  • Gorsaf Bŵer Aberwysg, Casnewydd

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn ceisio "Reverse the polarity of the neutron flow", rhywbeth ddywedodd ei drydydd ymgorfforiad yn aml, ac ar adegau gan ymgorfforiadau olynol. (TV: The Sea Devils ayyb)
  • Mae modd i'r Doctor siarad Baban. (TV: A Good Man Goes to War, Closing Time)
  • Yn flaenorol, roedd y Doctor eisiau achub rhywun achos mi roedd yn hoff ohonynt. Ar yr adeg honno, fe'i stopiwyd gan Evelyn Smythe er mwyn peidio newid hanes. (SAIN: Arrangements for War)
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn ceisio honni mai duw yw ef; yn ei ymgorfforiad cyntaf, cafodd ei gamgymryd am Zeus gan ei gydymaith Katarina. (TV: The Myth Makers)
  • Mae'r Doctor yn darllen ei Ddyddiadur Dwy Fil Blwyddyn. Yn flaenorol, roedd ganddo Dyddiadur Pum Mil Blwyddyn, (TV: The Tomb of the Cybermen) a Dyddiadur Naw Mil Blwyddyn. (TV: Doctor Who)
  • Cyfeiriodd y Seithfed Doctor hefyd at Ddeddf Clarke. (TV: Battlefield)
  • Unwaith eto, mae Clara yn gwisgo un o siwtiau ofod oren y Doctor. (TV: Kill the Moon)
  • Mae'r Doctor yn honni nid yw e'n hoff o gwtsh, (TV: Deep Breath) cyn cynnig un i Clara. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Mae'r Doctor wedi ceisio gwybod tarddle ei wyneb o'r blaen, gan dybio ei fod yn ceisio dweud rhywbeth i'w hun. (TV: Deep Breath) O'r diwedd, mae eisioes yn deall bod ganddo wyneb Lobus Caecilius, a neges yr wyneb yw fe ddylai achub o leuaf un person os nad oes modd achub pawb, hyd yn oed os oes angen torri rheolau amser. (TV: The Fires of Pompeii)
  • Wrth fyfyrio dros sefyllfa Ashildr, gan mae eisioes yn anfarwol, mae'r Doctor yn dweud "Time will tell. It always does". Dywedodd ei seithfed ymgorfforiad hynny wrth Ace yn dilyn Digwyddiad Shoreditch ar ôl iddi ofyn os wnaethon nhw'r peth dda, gan wybod costiodd eu trechiad dros y Daleks nifer o fywydau. (TV: Remembrance of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn dweud bod Ashildr yn anfarwol "ar wahan i ddamweinion", adlewyrchiad o'i ddatganiad at hyd oes yr Arglwyddi Amser. (TV: The War Games)
  • Cwrddodd y Trydydd Doctor gyda'r Odin go iawn. (PRÔS: The Spear of Destiny)
  • Rhoddodd yr Wythfed Doctor anfarwoldeb i Katsura Sato wrth achub ei bywyd. (COMIG: The Road to Hell) Fe ddaeth Capten Jack Harkness yn anfarwol ar ôl i Rose Tyler ai atgyfodi. (TV: The Parting of the Ways)
  • Mae Odin yn cymharu ei hun a'r Llychlynwyr fe laddodd i ffarmwr a'i wartheg, yn union fel wnaeth Rosemary Kizlet gyda'r Deallusrwydd Mawr a meddyliau'r pobl fe ddaliodd. (TV: The Bells of Saint John)
  • Mae Clara yn dweud bod y Doctor yn hobi iddi. (TV: Into the Dalek)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 1 ar 2 Tachwedd 2015.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau[]

Advertisement