Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Halloween Apocalypse, gyda rhagarweiniad o Chapter One yn y Dilyniant agoriadol, oedd episôd gyntaf Cyfres 13 Doctor Who. Dyma pennod cyntaf y stori chwe rhan, Doctor Who: Flux.

Cyflwynodd y pennod yma'r Flux, grym trychinebol a oedd yn anelu am y Ddaear, a Swarm, ffigur wrth orffennol y Doctor, gyda fe yn dianc wrth ei garchar a rhyddhau ei chwaer Azure wrth ei chyfyngiad ddaearol. Yn ychwangol, dyma cyflwyniad Dan Lewis, a datgelodd y pennod roedd y Doctor yn mynd ar ôl Karvanista, aelod byw olaf Division, y sefydliad wnaeth dileu ei chofion o'r Plentyn Diamser.

Crynodeb[]

Calan Gaeaf 2021. Mae storm yn dod. Storm sydd yn torri trwy amser a'r gofod, yn dinistrio popeth mae'n cyffwrdd. Pwy yw'r dyn sydd wedi dianc ei garchar? Beth am Dan sydd wedi tynnu sylw ei efeiliad? Pam oes Angel yma? A beth yn union bydd ar ôl o'r Ddaear ar ddiwedd y nos hon?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Plant:
    • TBA
  • Dyn yn y tŷ bach:[1]
    • Lex Lamprey
  • Twrist Amguedffa Lerpwl:[1]
    • Richard Price
  • Styntiau:[2]
    • Berlinda McGinley
    • Anna Benton

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Cloch Cloister yn canu wrth i'r Flux agosáu.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at y Flux fel "diwedd y bydysawd".

Lleoliadau[]

  • Mae Karvanista wedi trapio'r Doctor a Yaz ar blaned gyda môr asid, sydd ar fin cael ei llyncu gan gawr coch.
  • Yaz a'r Doctor oedd disgyblion goreuau gweithdy syrcas disgyrchiant-uchel ar Drapesiwm 7.
  • Mae Dan yn darparu teithiau answyddogol yn Amgueddfa Lerpwl, lle mae ei ffrind Diane yn gweithio.
  • Mae gan yr amgueddfa arddangosfa ar Dwneli Williamson, a gafodd eu creu tua 1820 gan Joseph Williamson.
  • Mae Dan yn byw yn 37 Granger Street, Anfield, Lerpwl, yn agos i'r stadiwm pêl-droed.
  • Mae Dan yn trefnu i gwrdd â Diane ar gornel Lark Lane.
  • Yn ôl y Doctor, glaniodd hi a Yaz yn ystod cyfnod Klopp.
  • Mae Jón ac Anna yn byw mewn tŷ yn Nghylch yr Arctig.
  • Mae Inston-Vee Vinder wedi'i sefydlu ar Observation Outpost Rose er mwyn arsywli ar y gofod yn yr Adran Thoribws. Wrth oresgynnodd y Flux, fe sbïodd ar Drifecta Thoribws gan weld dinistriad Thoribws Bach.
  • Mae Yaz yn dweud wrth Dan roedd hi arfer gweithio fel heddwas ar gyfer Heddlu Hallamshire.
  • Mae Dan yn credu bod Sheffield yn "rhy agos" i Leeds.
  • Mae Yaz yn dweud wrth Dan i beidio cellweirio Swydd Efrog eto.
  • Mae Vinder wrth Kasto-Winfer-Foxfell.
  • Bwrodd llong ofod Karvanista ymyrraeth amser, ac o ganlyniad fe gyrraeddodd y Ddaear oriau yn gynharach na weddill ei rywogaeth.
  • Wrth wylio blaned yn cael ei dinistrio, mae'r Doctor yn honni bod modd iddi theimlo'r bydysawd yn torri.
  • Mae Azure yn gorfodi Diane i mewn i hen dŷ wyw ar Lark Lane.

Unigolion[]

  • Pan mae Diane yn dweud wrth Dan nad yw'n gweithio'n swyddogol yn yr Amgueddfa, mae'n enwi ei hun fel "Scouse Swyddogol".
  • Mae Diane yn rhybuddio Dan byddai Alan yn ei wahardd wrth yr amgueddfa os yw'n parhau i ddarparu teithiau answyddogol.
  • Mae Swarm yn defnyddio cysylltiad seicig i ddangos ei hun i'r Doctor ac yn dangos ei gyfaryddiad gyda En Sentac a K-Toscs ar midlan y Burnished Rage, sut mae'n dianc, ac wedyn yn gwynebu'r Doctor ei hun mewn tirddarlun ymenydd.
  • Yn ôl y chwedl, mae Swarm wedi'i garcharu ers "Gwawr y Bydysawd".
  • Mae Karvanista yn cyflwyno ei hun i Dan fel "Gorchfygwr y Mil Gwareiddiad".
  • Mae Karvanista yn ceisio ac yn methu defnyddio twyll ymenydd ar Dan.
  • Mae Karvanista yn mynd yn grac wrth i Dan sôn am ei fam.
  • Yn ôl y Doctor, mae wedi gwylio'r matsh Barcelona ac yn cynnig iddynt chwarae gêm. Mae hefyd yn honni gweithiodd hi fel bachgen pêl ar gyfer Trent unwaith.
  • Mae Dan a'i dîm pêl-droed mewn crysau wedi'u noddi gan Standard Chartered.
  • Vinder yw'r Cadlywydd a'r Swyddog Arsylwi yn Observation Outpost Rose.
  • Mae'r Doctor yn gofyn wrth Karvanista am The Division, gan mae ef yw'r unig gweithredydd sydd dal i fyw.

Rhywogaethau[]

  • Lupar yw Karvanista, ac yn warchod cydweddog rhwymedigaeth-rywogaethol i'w bod dynol, Dan Lewis.
  • Mae Claire Brown yn cael ei danfon nôl mewn amser gan Angel Wylo.
  • Mae'r Doctor yn dweud bod modd iddi teimlo'r bydysawd yn torri wrth wylio rhywogaeth cyfan yn cael eu dinistrio.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Dan yn gweithio mewn banc bwyd.
  • Mae Wilma yn cynnig cawl i Dan, gydag ef yn edifaru ei gwrthod wedyn.
  • Mae Kev (y dyn a geisiodd "trick-or-treat" ar Dan) yn dal carton o wyau.

Calan Gaeaf[]

  • Mae Calan Gaeaf ar 31 Hydref.
  • Mae "trick-or-treatwyr" yn ymweld â thŷ Dan.
  • Mae Dan yn credu bod Karvanista yn gwisgo gwisg Calan Gaeaf yn gwreiddiol.

Technoleg[]

  • Mae traed y Doctor a Yaz wedi'u clymu i far disgyrchiant.
  • Mae disgiau llofruddio yn cael eu gosod gan Karvanista er mwyn lladd y Doctor a Yaz os ydydnt yn llwyddo dianc y bar disgyrchiant.
  • Frwydrodd y Doctor gwarchodion droid Karvanista ar ddamwain gan ddefnyddio Nitro-9.
  • Mae'r Doctor a Yaz wedi'u handcuffio gydag arddynlysau wedi'u actifeiddio gan lais wedi'u gosod ar gyfer llais Albanaidd cynharach y Doctor. Mae'r Doctor yn ceisio defnyddio lleisiau ei deuddegfed ymgorfforiad a'i seithfed ymgorfforiad.
  • Mae gan Karvanista bladur arbennig sydd yn saethu egni.
  • Mae Karvanista yn defnyddio ciwb stynio i herwgipio Dan.
  • Defnyddiodd Karvanista gluniadur arbennig er mwyn gosod trap ar gyfer y Doctor. Wrth gael ei hactifadu, crebachodd y gluniadur ei dŷ.
  • Mae gan Karvanista gawell trydanol ar ei long.
  • Mae gweddillion amserol ar ddraws llong Karvanista.
  • Mae'r Doctor yn perfformio MOT ar ei meddwl.
  • Adeiladwyd lleng goroesi llongau Lupari er mwyn gorchfygu'r Flux.
  • Mae Jón ac Anna yn dod o hyd i dyfeis rhybuddio yn eu garej.
  • Mae Vinder yn cael ei rybuddio am y Flux trwy'r systemau ar Observation Outpost Rose.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio gweddillion y Feirws Hopper er mwyn diffodd systemau gwarchod llong Karvanista.
  • Mae Yaz yn cyfeirio at swigen aer gwarchod y TARDIS.
  • Mae cloch cloister y TARDIS yn canu wrth i'r Flux agosáu.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio ei morthwyl y Doctor i torri twll i mewn i gonsol rheolaeth y TARDIS er mwyn saethu egni'r fortecs ar y Flux.

Nodiadau[]

  • Dyma stori deledu cyntaf Doctor Who i'w osod ar Galan Gaeaf, a'r "episôd arbennig Calan Gaeaf" cyntaf, er yn un answyddogol.
    • Yn yr un modd, gosodwyd The Halloween Apocalypse ar yr un dydd cafodd ei darlledu: 31 Hydref 2021. Dyma'r pumed achos o hyn yn y gyfres newydd, yn dilyn The End of Time: Part One ar 25 Rhagfyr 2009, The Big Bang ar 26 Mehefin 2010, The Impossible Astronaut 22 Ebrill 2011, a Resolution ar 1 Ionawr 2019. Byddai'r un peth yn digwydd ar ddiwedd y gyfres gyda The Vanquishers ar 5 Rhagfyr 2021.
  • Cysegrwyd yr episôd yma i Julie Ankerson, cyn-artist foley Doctor Who; bu farw ar 28 Gorffennaf 2021.
  • Yn anarferol am Doctor Who, mae enw'r arc stori yma, Doctor Who: Flux, yn cael ei ddefnyddio yn lle logo arferol Doctor Who. Yn flaenorol, digwyddodd hon gyda chyfres 3 Torchwood, gyda theitl o Torchwood: Miracle Day, ond cynhwysodd hon enw'r pennod hefyd, megis "Day One".
  • Er rhowd enw'r episôd yma fel Chapter One: The Halloween Apocalypse gan y dilyniant thema, mae fynhonellau eraill yn rhoi rhagarweiniad arall o Flux: The Halloween Apocalypse yn lle.
  • Dyma'r achos gyntaf o ddefnydd logo BBC newydd ar sgrîn ers 2005.
  • Wrth geisio rhyddhau ei hun wrth yr handcuffs, mae'r Doctor yn honni methodd hi eu hagor gan roedd gan hi acen Albanaidd wrth eu dechrau, cyn ceisio dynwared acen Albanaidd. Yn ôl is-deitlau BBC America, yn gyntaf, dynwaredodd hi'r Deuddegfed Doctor (Peter Capaldi) a wedyn y Seithfed Doctor (Sylvester McCoy).
  • Mae cais Karvanista i hypnoteiddio Dan trwy ysgwyd ei law o flaen wyneb Dan yn debyg i'r "Jedi mind trick" wrth Star Wars.
  • Mae angoffter Dan Lewis am Leeds, a Sheffield, yn dod wrth gasineb hanesyddol rhwng Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.43 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.81 miliwn[4]

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud bod ganddi Nitro-9, tanwydd dyfeisiodd Ace. (TV: Dragonifire)
  • Mae gan En Sentac a K-Toscs yr un math o ddryll ag oedd gan Gat, aelod Division cwrddodd y Trydydd ar Ddegfed Doctor yn flaenorol. (TV: Fugitive of the Judoon)
  • Yn dilyn adfywio, mae'r Swarm Newydd yn dweud mae'n "renewed". (TV: The Power of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn sôn am fynd i sawl gêm pêl-droed Liverpool F.C.. (SAIN: Something Inside)
  • Mae Yaz wedi dysgu sut i weithio'r TARDIS. Dangosodd y Degfed Doctor i Donna Noble sut i hedfan y TARDIS, (TV: The Sontaran Stratagem) hefyd, fe dderbyniodd cymorth wrth Plant Amser i hedfan y dywys y Ddaear nôl i'r lle cywir. (TV: Journey's End) Roedd modd i'r Nardole hedfan y TARDIS. (TV: The Return of Doctor Mysterio) Cafodd sawl cydymaith arall eu dysgu ar sut i hedfan y TARDIS gan gynnwys Polly Wright a Ben Jackson, (SAIN: The Outliers) Zoe Heriot, (SAIN: Daughter of the Gods) Adric a Nyssa, (SAIN: The Star Men) ac Ace. (SAIN: You Are the Doctor) Ond, dysgodd Melanie Bush i'w hun sut i hedfan y TARDIS. (SAIN: The Quantum Possibility Engine)
  • Mae Yaz yn coethi'r Doctor am barhau i gadw cyfrinachau. (TV: Spyfall, Fugitive of the Judoon)
  • Mae'r Doctor yn crybwyll ymadawiad Ryan a Graham. (TV: Revolution of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn defnyddio feirws hopper i ddiactifadu llong Karvanista. (TV: Orphan 55)
  • Mae gan y Doctor diddordeb mewn Division. Mae eisioes yn gwybod am ei chyn-fywydau fel y Plentyn Diamser ar Galiffrei, a sut cymerodd y sefydliad ei chofion; sylweba Swarm ar hon. (TV: The Timeless Children)
  • Wrth gwrdd Dan, mae'r Doctor yn adlewyrchu geiriau cyntaf ei nawfed ymgorfforiad i Rose Tyler: "Nice to meet you, Dan. Run for your life." (TV: Rose)
  • Mae'r Doctor yn dinistrio yn dinistrio rhan o'r TARDIS i rhyddhau engi'r fortecs wrth galon y TARDIS. (TV: Boom Town, The Parting of the Ways)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhada DVD a Blu-ray[]

Rhyddhawyd The Halloween Apocalypse ar DVD a Blu-ray ar 24 Ionawr 2022, ynghyd pob episôd arall Doctor Who: Flux.

Rhyddhadau digidol[]

Mae'r episôd ar gael i ffrydio ar BBC iPlayer.

Troednodau[]