Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Highlanders - wedi cyflwyno'n gwreiddiol fel Doctor Who and the Highlanders yn y capsiwn "Episôd Nesaf" ar ddiwedd yr antur flaenorol, The Power of the Daleks- oedd pedwerydd stori Hen Gyfres 4 Doctor Who.

Dyma'r stori olaf "hanes pur" o'r fath yn storïau teledu Doctor Who, rhywbeth ag oedd yn nodwedd rheolaidd ers ddechrau'r sioe, nes Black Orchid yn 1982. Dyma hefyd ymddangosiad cyntaf Frazer Hines fel Jamie McCrimmon, cyn mynd ymlaen i fod y cydymaith mwyaf hir dymor i'r Ail Ddoctor.

Mae'r pedwar episôd cyfan ar goll wrth Archif y BBC.

Crynodeb[]

Mae'r teithwyr amser newydd cyrraedd yr Alban wedi Brwydr Culloden. Mae'r Ail Ddoctor yn ennill ymddiriaeth grŵp o Jacobiaid trwy gynnig trin eu harglwydd anafedig, Colin McLaren. Wrth i Polly a merch yr arglwydd, Kirsty, mynd i ôl dŵr, mae pawb arall yn cael eu dal gan filwyr Peisgoch o dan orchymyn y Cadraglaw Algernon Ffinch.

Wrth i Grey, atwrnai gas sydd yn gwerthu carcharorion i mewn i gaethiwed, gynllunio gwerthu'r grwp - gan gynnwys y Doctor a Ben - i mewn i gaethiwed, bydd modd i'r Doctor dianc a rhyddhau y carcharorion, ac oes modd i Polly a Kirsty cael Ffinch i'w helpu achub nhw?

Plot[]

Episôd 1[]

I'w hychwanegu.

Episôd 2[]

I'w hychwanegu.

Episôd 3[]

I'w hychwanegu.

Episôd 4[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Dr. Who - Patrick Troughton
  • Polly - Anneke Wills
  • Ben - Michael Craze
  • Atwrnai Grey - David Garth
  • Kirsty - Hannah Gordon
  • Alexander - William Dysart
  • Yr Arglwydd - Donald Bisset
  • Jamie - Frazer Hines
  • Cadraglaw Algernon Ffinch - Michael Elwyn
  • Rhingyll - Peter Welch
  • Perkins - Sydney Arnold
  • Sentri - Tom Bowman
  • Trask - Dallas Cavell
  • Mollie - Barbara Bruce
  • Willie Mackay - Andrew Downie
  • Morwr - Peter Diamond
  • Cyrnol Attwood - Guy Middleton

Cast di-glod[]

  • Milwyr Saesneg ac Albanwyr:[1]
    • John Doye
    • Derek Calder
    • Arthur Maguire
    • Jim Fitzgerald
  • Milwr Saesneg:[1]
    • Peter Diamond
  • Marchog Saesneg:[1]
    • Reg Dent
  • Ucheldirwr anafedig:[1]
    • Eric Mills
  • Drymiwr:[1]
    • Ken McGarvie
  • Milwyr Saesneg:[1]
    • John Doye
    • Leslie Bates
    • Vic Taylor
    • Jim Delaney
    • Derek Calder
    • Gordon Lang
    • Keith Goodman
    • David Waterman
    • Dennis Stanley
    • Donald Sinclair
    • James Holbrook
    • Peter Roy
    • Mike Britton
    • Dennis Plenty
    • John Knott
    • Barry Du Pre
  • Dwbl Kirsty:[1]
    • André Cameron
  • Ucheldirwyr yn y carchar:[1]
    • Jimmy Mahon
    • Leon Maybank
    • Michael Mulcaster
    • Bob Wilyman
    • Barry Ashton
    • Anthony Case
    • Ernest Jennings
  • Morwyr Saesneg:[1]
    • Patrick Gorman
    • Walter Henry
    • Alan Troy
    • Derek Martin
    • Emmett Hennessey
  • Dwbl stỳnt Ben/Corff (Jim Hughes):[1]
    • Peter Diamond
  • Ucheldirwyr:[1]
    • Derek Martin
    • Walter Henry
    • Patrick Scott
    • Paul Phillips
    • Eden Fox
    • Dennis Haywood
    • Tony Lang
    • Michael Owen
    • Pat Donohue
    • Gordon Craig
    • Jack Duggan
    • Gerry Alexander
    • Dennis Balcombe
    • Bill Beesley
    • Hein Viljoen
    • Harry Swift
    • Leslie Weeks
    • James Walsh
  • Menyw yn y tafarn:[1]
    • Nancy Gabriel

Criw[]

  • Rheolydd Llawr Cynorthwyol - Nicholas John
  • Gwisgoedd - Sandra Reid
  • Dylunydd - Geoffrey Kirkland
  • Trefnydd brwydrau - Peter Diamond
  • Colur - Gillian James
  • Cynhyrchydd - Innes Lloyd
  • Cynhyrchydd Cynorthwyol - Fiona Cumming
  • Golygydd Sgript - Gerry Davies
  • Sain Arbennig - Brian Hodgson
  • Goleuo Stiwdio - George Summers, Ken MacGregor
  • Sain Stiwdio - Larry Goodson
  • Trefniant Thema - Delia Derbyshire
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Awdur - Elwyn Jones a Gerry Davies

Cyfeiriadau[]

Bwydydd, diodydd a sylweddau[]

  • Mae Perkins a Grey yn yfed gwin.
  • Mae Kirsty yn cynnig bisged gwenith i Polly. Mae Polly yn camgymryd hon fel bisged ci.
  • Mae Ffinch yn ysmygu tobaco trwy piben.
  • Mae Polly a Kirsty yn dwyn iâr a bara wrth Ffinch.

Unigolion[]

  • Mae Polly yn sôn am Nell Gwyn wrth iddi hi a Kirsty esgus gwerthi orennau.
  • Mae Ben yn credydu Houdini am ddihangiad llwyddiannus.

Fynonellau Hanesyddol[]

  • Mae'r Doctor yn dweud i Kirsty byddai Albanwyr yn ddiogel ym Mhrydain ond saith mlynedd wedyn.

Gwrthrychiau[]

  • Mae Kirsty yn derbyn telesgop wrth fynd i chwilio am ddŵr clir.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio sbïendryll tra'n esgus bod yn ddoctor meddygol.
  • Mae Polly eisiau matsys pan mae hi yn yr ogof gyda Kirsty.

Cerddoriaeth[]

  • Mae'r Doctor yn chwarae cerddoriaeth Albanaidd traddodiadol ar ei recorder.

Lleoliadau a phobloedd[]

  • Mae Grey yn tybio ra ba bris fyddai ei gaethweision yn gwerthu am yn Jamaica neu Barbados.
  • Yn y pendraw, bydd llawer o'r gwrthryfelwyr yn mudo i Ffrainc.
  • Yn ôl y Doctor, byddai milwyr Saesneg yn gwerthu eu mamgu am hanner geiniog.

Argoelion cyffredin[]

  • Mae craffiniad yn cael ei awgrymu gan yr Ucheldirwyr i achub bywyd Laird, ond mae Ben yn cwestiynnu'r dull yma.
  • Mae'r Doctor yn esgus defnyddio Isis ac Osiris a chredydau astrolegol yn ei ymdriniaeth meddygol.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn esgus mae meddyg o'r Almaen yw ef, o'r enw Doktor Von Wer, sydd yn cyfieithu i "Doctor o Who".
  • Mae modd i'r Doctor dweud geiriau cyffredin Almaeneg.
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn dangos ffafrioldeb am sawl het.
  • Mae'r Doctor yn cuddio ei hun fel hen fenyw a fel milwr a gafodd ei anafu mewn brwydr.

Nodiadau[]

  • Roedd gan y stori yma teitl gweithredol o Culloden.
  • Nid oes unryw un o'r episodau yn bodoli yn Archif y BBC.
  • Nid oedd stori "hanes pur" arall nes Black Orchid yn 1982. Serch hynny, defnyddiodd The Highlanders ddigwyddiadau hanesyddol go iawn tra mae Orchid yn ffuglen cyfan.
  • Episôd 1 y stori yma yw'r cyntaf na all cael ei wylio'n "symud" mewn unryw fordd, naill ai trwy ffilm oroesedig neu animeiddiad, ers episôd 4 The Smugglers, gan fod ar gael trwy ailgrëad "telesnap" neu traic sain gydag adroddawd yn unig.
  • Er gafodd ei gomisiynnu i ysgrifennu'r stori, ni weithiodd Elwyn Jones ar y sgript o gwbl. Mewn gwirionedd ysgrifennodd golygydd stori Gerry Davis popeth. Yn wahanol i sefyllfaoedd eraill lle ysgrifenodd (neu ailysgrifennodd) golygydd stori rhan sylweddol o'r sgript, derbynodd David credyd ar sgrîn. Mae hwn wedi'i gefnogi gan y dogfennau sydd ar gael ar wefan y BBC, gan ddangos cafodd Jones a Davis eu credydu ynghyd.
  • Tra roedd ef yn actor yn cynnar yn yr 1960au, cafodd cyfarwyddwr y stori yma, Hugh David, ei ystyried am rôl y Doctor Cyntaf, ond gan roedd ef ond yn 38 mlwydd oed ar y pryd, teimlodd cynhyrchydd y gyfres, Verity Lambert, roedd ef yn rhy ifanc.
  • Nid oedd cynllyn o gwbl i gadw Jamie fel cydymaith. Dywedodd Frazer Hines sawl gwaith ar sywebaethau DVD ffilmiodd ef olygfa gyda Jamie yn gwylio'r TARDIS yn gadael hebddo, ond cyn diwedd cynhyrchiad y stori gofynodd Innes Lloyd iddo aros fel cydymaith amser llawn. O ganlyniad, dychwelodd y tîm cynhyrchu i'r lleoliad er mwyn ailsaethu'r olygfa olaf.
  • Dyma'r unig stori Doctor Who ysgrifennodd Gerry Davis i beidio cynnwys y Cybermen.
  • Atwrnai Grey yw'r unig person go iawn i ymddangos yn y stori yma.
  • Wrth ffilmio, rhiciodd dyn stỳnt Peter Diamond ael Frazer Hines ar ddamwain.
  • Yn gwreiddiol castiwyd yr actor Albanaidd Duncan Mcrae am rôl Willie Mackay, ond gafodd ei amnewid am Russell Hunter ar ôl mynd yn sâl yn dilyn pantomeim yn yr Alban. Yn y pendraw, cafodd Hunter ei amnewid am Andrew Downie.
  • Byddai The Laird of McCrimmon, stori na chafodd ei chynhyrchu yn Hen Gyfres 6, wedi gweld ymadawiad Jamie wrth y gyfres.
  • Enwodd Frazer Hines y stori yma fel ei hoff stori, achos dilynodd y stori yma at ei ymddangosiad rheolaidd yn Doctor Who.
  • Yn gwreiddiol byddai trac sain cyflawn y stori yma wedi cael ei rhyddhau fel ychwanegiad ar rhyddhad arbennig 2020 o The Power of the Daleks, ond yn y pendraw ni chafodd ei rhyddhau. Eisioes mae Amazon yn parhau i rhestru'r ychwanegiad fel rhan o'r rhyddhad.
  • Byrfyfyriodd Patrick Troughton ei ddefnydd o'r linell "Hoffaf i het fel honno", gyda bwriad o'i ddefnyddiad fel arwyddair ei Ddoctor ef.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Episôd 1 - 6.7 miliwn
  • Episôd 2 - 6.8 miliwn
  • Episôd 3 - 7.4 miliwn
  • Episôd 4 - 7.3 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mae Polly yn bles nad oes rhaid iddi gwisgo dillad "bechgyn", yn union fel roedd rhaid iddi yn ei hantur olaf yn y gorffennol. (TV: The Smugglers)
  • Yn hwyrach, bydd y Doctor, Jamie a'u cydymaith Zoe Heriot hwyrach ynn cwrdd tadcu a mamgu Bonnie Prince Charlie, y Brenin Iago II a'r Brenhines Maria o Modena, yn ystod y Chwyldro Hyfryd ym mis Tachwedd 1688. Pan gwrddon nhw'r olaf, roedd ganddi'r baban James Stuart, tad Bonnie Prince Charlie, yn ei breichiau. (SAIN: The Glorious Revolution)
  • Roedd Jamie yn 22 pan gwrddodd ef y Doctor. (SAIN: Shadow of Death)
  • Unwaith eto, mae'r Ail Ddoctor yn chwarae ei recorder ac yn gweld hetiau mae ef eisiau. (TV: The Power of the Doctor)
  • Yn dilyn cael ei ddychwelyd i'w amser brodorol gan yr Arglwyddi Amser gyda'i gofion o deithio gyda'r Doctor wedi eu echyngu, priododd Jamie gyda Kirsty a chafon nhw wyth plentyn gyda'i gilydd. Erbyn 1788, roedd ganddyn nhw sawl wyrion (SAIN: The Glorious Revolution) Un o'i disgynyddion pell yn y 21ain ganrif oedd disgybl hanes ym Mhrifysgol Caeredin o'r enw Heather McCrimmon, a daeth hi'n gydymaith i'r Degfed Doctor. (COMIG: The Chromosome Connection)
  • Brwydrodd poblogaeth Glasgow ar ochr y Brenin Siôr II yn ystod Brwydr Jacobaidd. (PRÔS: The Wheel of Ice)
  • Dilynodd Jared Khan y Doctor i Culloden yn 1746, ond cyrraeddodd ef yn rhy hwyr. (PRÔS: Birthright)
  • Dilynodd Quadrigger Stoyn y TARDIS i'r Alban yn 1746. (SAIN: The Dying Light)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Nid yw dim un episôd cyfan o'r stori yma yn bodoli. Mae clipiau "ateiliad" wrth episôd 1 yn bodoli a chafon nhw eu rhyddhau ar y set bocs Lost in Time.

Rhyddhadau Sain[]

  • Rhyddhawyd y stori gan y BBC Radio Collection ar 7 Awst 2000, gydag adroddawd Fazer Hines.
  • Ailrhyddhawyd y stori yn rhan o'r set bocs Adventures in History ar 4 Awst 2003 (gydag union yr un cynnwys).
  • Rhydhawyd y stori unwaith eto ar 4 Awst 2011 yn rhan o'r set bocs Doctor Who: The Lost TV Episodes - Collection Three.

Troednodau[]