The Hungry Earth oedd wythfed episôd Cyfres 5 Doctor Who.
Dyma rhan gyntaf stori dwy ran a gynhwysodd ymddangosiad teledu gyntaf y Silwriaid ers Warriors of the Deep yn 1984. Cyflwynodd y stori gangen newydd i rywogaeth y Silwriaid, gydan nhw yn wahanol yn eu hymddangosiad a'u diwylliant.
Crynodeb[]
Yn 2020, mae prosiect drilio mwyaf uchelgeisiol yn hanes dynol wedi cyrraedd dyfnder dyfnach nag yw dyn erioed wedi cyrraedd o'r blaen - ond mae'r tir ei hun eisioes yn dial. Mae'r Unarddegfed Doctor, Amy a Rory yn cyrraedd prentref mwyngloddiol bach, cyn cael eu gwthio i mewn i frwydr yn erbyn perygl marwol o gyfnod hynafol.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Matt Smith
- Amy Pond - Karen Gillan
- Rory - Neve McIntosh
- Alaya - Neve McIntosh
- Nasreen Chaudhry - Meera Syal
- Tony Mack - Robert Pugh
- Ambrose - Nia Roberts
- Mo - Alun Raglan
- Elliot - Samuel Davies
Cyfeiriadau[]
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae'r Doctor, a wedyn Ambrose yn dyfynu "every little helps", tra'n chwilio am bethau mewn fan, gan gyfeirio at arwyddair Tesco, un o Archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig.
Llenyddiaeth o'r byd go iawn[]
- Y llyfr mae Mo Northover yn darllen i Elliot yw The Gruffalo.
- Mae Elliot yn dyfynu Sherlock Holmes: "When you eliminate the impossible, whatever remains, no matter how improbable, must be the truth."
Technoleg[]
- Mae gan y Doctor bâr o sbectol haul sydd yn gweithio fel sganwyr lluniau thermal isgoch.
- Nid oes modd i'r sgriwdreifar sonig "gwneud pren".
Terminoleg[]
Mae'r Doctor yn cyfeirio at y Silwriaid fel "Eocenes", "Homo Reptilia" ac "Earth...lians".
Unigolion[]
- Mae'r Doctor yn defnyddio Leonardo da Vinci ac Albert Einstein fel enghreifftiau ar gyfer pobl gyda dyslexia.
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor yn cario slingshot yn ei boced.
- Nid oes modd i'r Doctor gwneud meringue go dda.
Nodiadau[]
- Teitl gweithredol y stori oedd The Ground Beneath Their Feet.
- Er dynododd y rhyddhad près byddai'r stori yma wedi'i osod yn 2015, gosodwyd y stori yn 2020. Mae'n debyg newidwyd y dyddiad achos digwyddodd rhannau o'r stori flaenorol yn (fersiwn breuddwydiol o) 2015.
- Mae moddau gwahanol sganio'r helmed yn debyg i helmedau'r estronwyr yn y ffilmiau Predator. Wrth i Matt Smith symud ei law pan edrychodd trwy'r sbectol, mae modd clywed yr un sain wrth Predator pan mae'n newid moddau sganio.
- Dathlodd Matt Smith ei seithfed ar hugain pen blwydd yn ystod recordiad y stori hon.
- Mae Amy a Rory yn gweld fersiwn o'u hun yn 2020 wrth bellter, i'w gweld yn ymweld â'u hun mewn hen antur. Ond, pan gaiff amser ei newid ar ddiwedd Cold Blood, ond Amy ar ei phen ei hun sydd yn cael ei gweld.
- Wrth i Amy fynd i weld ei hun o'r dyfodol, mae'r Doctor yn ei rhwystro, gan ddweud "mae modd i bethau mynd yn cymhleth iawn".
- Roedd gan yr episô gyflawn hyd o chwech deg munud, yn gofyn am dros un deg pump munud o ffilm cael eu dileu er mwyn iddi ffitio i mewn i'r bwlch darlledu. Roedd llawer o'r olygfeydd yma wedi ymwneud â sut roedd y prosiect o dan bwysau o'i gefnogwyr ariannol i gyrraedd dyfnderau dyfnach yn gloiach.
- Dyma'r stori deledu Silwryn gyntaf i gynnwys aelod benywaidd y rhywogaeth; yn flaenorol, cyhwysodd y stori SAIN: Bloodtide aelod benywaidd y rhywogaeth, Sh'vak.
- Yn gwreiddiol, byddai Mo ac Amy yn cael eu arnoethi, gan eu gadael yn eu hisddillad. Tynnwyd y dewisiad hon am fod yn "rhy aeddfed".
- Dyma episôd gyntaf y gyfres newydd i beidio credydu creawdwr hen rywogaeth o'r hen gyfres.
- Yn ystod cammau cynnar cynhyrchu, roedd bwriad cael mygydau newydd y Silwriaid bod yn debyg i'r gwreiddiol, ond yn werdd. Defnyddiwyd y dyluniad yma am Horlak yn COMIG: The Lost Dimension.
- Darlledwyd yr episôd yma ar yr un dydd darlledodd yr episôd K9, Mutant Copper ar Disney XD ym Mhrydain, ac ar yr un dydd darlledodd Jaws of Orthrus ar Network Ten yn Awstralia.
- Er i homo reptilia cael ei defnydd cyntaf ar deledu yma, cyflwynwyd y term i'r DWU yn nofeleiddiad stori teledu 1970, Doctor Who and the Cave-Monsters.
- Mae'r Silwriaid yn gwisgo dillad yn debyg i wisgoedd Cythreuliaid y Môr yn TV: Warriors of the Deep
- Cafodd Steven Moffat gwared o drydydd lygaid y Silwriaid, gan deimlodd roedd honna wedi'i gysylltu â Davros. Yn lle, feddyliodd Chris Chibnall am y tafod fel chwip a ddarparodd gwenwyn i elynion.
- Mae gan y Doctor adnabyddiaeth o'r tafod hon, yn awgrymu ei fod wedi cwrdd â llwyth debyg o'r blaen.
- Yn Doctor Who and the Silwriaid, mae llwyth o Silwriaid yn mynd i gysgu, gyda bwriad o gael eu dihuno 50 mlynedd wedyn (cyn cael eu dinistrio). Cafodd y stori ei cynhyrchu yn 1970 (gyda gosodiad aneglur o ganlyniad i ddadl dyddio UNIT) a gosodwyd yr episôd yma union 50 mlynedd wedyn yn 2020.
- Ar gyfer yr olygfa o Amy yn cael ei llusgo o dan y ddaear, sefyllodd Karen Gillan ar focsys cyn camu lawr i blwch carreg. Roedd dau ddarn o rwber ar agoriad y blwch, ac ymestynon wrth iddi gostyngu ei hun. Gwasgarwyd haen o bridd ar y rwber; rhowd dâp ar ddraws clustiau Gillam er mwyn sicrhau na fydd pridd yn mynd i mewn i'w chlustiau. Yn ofnus i berfformio'r olygfa, rhodd Gillan ei hofn a'i chlostroffobia i mewn i'r olygfa gan dybiodd hi byddai Amy yn teimlo'r un ffordd.
- Un elfen dileuwyd wrth y sgript oedd bwystfil newydd o'r enw yr Armasaurs, deinosoriaid ag edrychodd fel armadilos a fyddai yn herwgipio pobl. Oherwydd cyfyngiadau cyllid, dileuwyd hon wrth y sgript wedi'i cyfnweid gyda sugndraeth.
- Cafodd olygfa ei dileu a gynwysodd Amy yn trafod gyda'r Doctor sut gwelodd hi ei hun gyda Rory deg mlynedd yn y dyfodol, a os byddai hwnnw yn digwydd yn go iawn.
- Dewisodd Steven Moffat Chris Chibnall i ysgrifennu'r stori wedi seilio ar gryfder y storïau ysgrifennodd am Torchwood - "Adrift", "Fragments" ac "Exit Wounds".
- Wrth ymchwilio, darllennodd Chris Chibnall Doctor Who and the Cave Monsters a fe wyliodd y stori deledu gwrieddiol, gan nodi'r rhyddig cymerodd Malcolm Hulke yn y nofel am y pethau nad oedd modd gwneud ar deledu.
- Ystyriodd Chibnall dychweliad Cythreuliaid y Môr, ond fe benderfynodd byddai cael dau bwystfil yn rhy gymhleth, a roed y stori yma "yn glir am y Silwriaid a'u hewyllys".
- Roedd enwau dau o'r Silwriaid yn lurguniad o enwau awduron Doctor Who: Malokeh am Malcolm Hulke a Restac am Terrance Dicks.
Cyfartaledd gwylio[]
- BBC One dros nos: 4.5 miliwn (4.2 miliwn ar BBC One, 0.3 miliwn ar BBC HD)
- Cyfartaledd DU terfynol: 6.49 miliwn[1]
Cysylltiadau[]
Yn 2011, rhedodd BBC News stori am sut hawliodd y llywodraeth treialau ychwanegol am prosiect drilio Cwmtaf Discovery. (TV: The Man Who Never Was)
- Ar Frontios, llynciwyd pobl gan y ddaear yn ystod ymweliad y Pumed Doctor hefyd. (TV: Frontios)
- Mae'r Doctor wedi cwrdd â changhenau eraill y Silwriaid, gan gynnwys Cythreuliaid y Môr o'r blaen. (TV: Doctor Who and the Silwriaid, The Sea Devils, Warriors of the Deep; PRÔS: The Scales of Injustice)
- Mae ymateb y Doctor i'r cwestiwn "Wyt ti'n ofni bwystfilod?" o "Nac ydw, maen nhw'n ofni fi," yn adlewyrchu beth dywedodd y Degfed Doctor i Reinette, (TV: The Girl in the Fireplace) a beth dywedodd yr Wythfed Doctor i Destrii. (COMIG: Uroboros)
- Daeth y Trydydd Doctor ar ddraws prosiect tebyg. (TV: Inferno)
- Ynysodd y Meistr pentref wrth y byd eangach gan ddefnyddio baras egni. (TV: The Dæmons)
- Ymwelodd y Trydydd Doctor â phentref mwyngloddiol. (TV: The Green Death)
- Addweodd y Doctor i Amy i mynd â hi i draeth, ond cymerodd hi i fynwent ar ddamwain yn lle. Dyma'r pedwerydd tro i'r Doctor addo traeth ond glanio rhywle arall. Addodd y Degfed Doctor mynd â Donna Noble i draeth ond aethon nhw i'r Llyfrgell yn lle; (TV: Silence in the Library) Cynigodd y Trydydd Doctor mynd i'r traeth gyda Sarah Jane Smith cyn gorffen lan ar Exxilon; (TV: Death to the Daleks) er mai cyfesurennau hap oeddent, roedd y Degfed Doctor fod ymweld â thraeth Copacabana gyda Martha Jones ond cymerwyd ei TARDIS gan Caw i Pheros. (TV: The Infinite Quest)
- Mae'r Doctor yn nodi unwaith eto nid yw'r sgridreifar sonig yn gweithio ar bren. (TV: Silence in the Library)
- Dyma'r pumed tro i'r Doctor defnyddio eglwys i guddio ynddi. (TV: The Dæmons, The Curse of Fenric, Father's Day, Amy's Choice)
- Cyfeririodd y Doctor at Silwriaid fel "Eocenes" o'r blaen. (TV: The Sea Devils)
- Wrth derbyn anesthesia, mae Amy yn bloeddi, "Na, dim nwy!" Yn flaenorol, cafodd Amy ei bwrw'n anymwybodol gan Winder gyda modrwy llawn nwy. (TV: The Beast Below)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
- Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who Series 5: Volume 3 ar 2 Awst 2010 ar DVD a Blu-ray gyda Amy's Choice a Cold Blood.
- Rhyddhawyd yr epissôd yn rhan o Steelbook Cyfres 5 ar 10 Chwefror 2020.
- Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #77 ar 14 Rhagfyr 2011.
Troednodau[]
|