Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Husbands of River Song oedd Episôd Nadolig 2015 Doctor Who. Dyma unarddegfed Episôd Nadolig ers dychweliad y sioe a'r ail Episôd Nadolig i gynnwys Peter Capaldi fel y Deuddegfed Doctor.

Mae'r stori yn nodedig am gloi stori River Song, rhywbeth a ddechreuodd gyda'i chyflwyniad yn Silence in the Library yn 2008. Dangosodd y stori yma cyfarfyddiad cyntaf y Deuddegfed Doctor gyda River. O safbwynt River, dyma'i antur olaf gyda'r Doctor cyn ei marwolaeth yn Forest of the Dead. Dangosodd yr episôd yma'r Doctor yn ymddangos ar ddrws River wedi torri ei wallt ac yn gwisgo siwt, eu noswyl ar Darillium i weld y Tyrau Canu, a'r Doctor yn roi ei sgriwdreifar sonig i River, popeth crybwylliodd River at yn Forest of the Dead.

Cyflwynodd y stori yma hefyd gwas River, Nardole. Er ar ddiwedd yr episôd yma, ond pen yw ef, bydd y Doctor wedi ail-greu ei gorff erbyn The Return of the Doctor Mysterio a byddai'n dod yn gydymaith iddo.

Cyflwynodd y stori yma hefyd Haig Harmoni'r Gaeaf.

Crynodeb[]

Mae'r Deuddegfed Doctor ar y blaned Mendorax Dellora yn 5343, lle mae'n cael ei ofyn i ddilyn dyn o'r enw Nardole, o ddan y rhagdybiaeth mai llawfeddyg yw ef, o dan orchymyn River Song. Mae angen llawfeddyg i dynnu deiamwnt wrth ben y Brenin gormesol, Hydroflax. Daeth y deiamwnt yn sownd yno yn dilyn lladrata ag aeth yn chwithig, ac mae River eisiau'i adfer. Wedi syndodi nad yw River yn adnabod ei wyneb diweddaraf, mae'r Doctor yn straffaglu torri'r newyddion iddi wrth ddysgu sut yw River yn ymddwyn ar ei phen ei hun - a faint o cariadon eraill sydd ganddi. Ond, mae ef a River yn darganfod yn eithaf fuan bod amser yn cau ar eu anturau gyda'i gilydd wrth i ddyddiadur eu hanturau ynghyd llenwi bron yn gyfan...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Llawfeddyg:[1][2]
    • Derek Foord
  • Preswylydd:[1]
    • Kitty Moran
  • Mynachod rhyfelol:[1]
    • Shannon Brooks
    • Joanna Conney
    • Katie Griffiths
    • Samantha Jones
    • Tanya Ong
    • Kia Shah
    • Volente Lloyd
  • Dwbl y Doctor:[1]
    • Chris Wilkinson
  • Dwbl traed River Song:[1]
    • Dani Biernat
  • Dwbl traed y Doctor:[1]
    • Gareth Jones
  • Dwbl stỳnt y Doctor:[1]
    • Rob Jarman
  • Gwesteion gyda phrostetigau:[1]
    • Shazia Awan
    • Christine Grieves
    • Ying Qin
    • Paul West
    • Richard Michael
    • Isabelle Paige
  • Menyw crono-glo:[1]
    • Helen Whitney
  • Gwr y fenyw crono-glo:[1]
    • Frank Haschka
  • Menyw Habrian:[1]
    • Sophie Shandlinger
  • Dynion coch:[1]
    • Richard Highgate
    • Andreas Constantinou
  • Ffigwr gyda rhôbs:[1]
    • Daniel Lander
  • Cludwr:[1]
    • Simon Carew
  • Gwesteion:[1]
    • Clem So
    • Jo Ashley
    • Adrian Miles Rosser
  • Gwesteion model:[1]
    • Cat Wright
    • Andrew Phillips
    • India Carter
    • Kelsie Reardon
    • Timothy DePaul
    • Aneeta Boghal
    • Shiraz Yasin
    • Zoe Hodgekinson
    • Kouroush Namver
  • Ciniawyr estronaidd prostetig:[1]
    • Jon Davey
    • Andrew Cross
    • Juliet Rimmel
    • Claire Gutteridge
  • Ciniawyr estronaidd colur:[1]
    • Bradley Anthony
    • Stuart Boston
    • Linda Nickson
    • Elen Rees
  • Gweinyddesau:[1]
    • Rosie Douglas[2]
    • Tamina Ali
  • Gweinyddau:[1]
    • Luke Bailey
    • Joshua Davies
  • Gwarchodion:[1]
    • Jan Baker
    • Frank Baker
    • Chester Durrant
    • Ayaisha Griffith
    • George Ikamba
    • Narinda Metters
    • Tino Clarke
    • Anoushka Kellett
    • Samara Matthews
    • Katie Jones
    • Charlotte Williams
    • Jamie Mckenzie Diners
    • Amy Thomas
    • Tim Dane Reid
    • Rebecca Donovan-Morgan
    • Jason Efthimiadis
    • Jesse Roth
  • Estronwyr colur:[1]
    • Abigail Humphries
    • Linda Nickson
  • Dwbl stỳnt River Song:[1]
    • Belinda McGinley
  • Gwarchod stỳnt:[1]
    • Rob Jarman
  • Gwestai stỳnt:[1]
    • Belinda McGinley
  • Gweithwyr
    • Kurt James
    • Rhian Palmer
    • Steven Lathwell
    • Christos Gauci
    • Tina Stratford

Cyfeiriadau[]

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn sôn am ên fawr ei unarddegfed ymgorfforiad.
  • Mae River Song yn awgrymu na fyddai'r Doctor yn blês i weld alcohol ar long ei TARDIS, neu ni fyddai'n blês i weld hi'n cymryd yr alcohol wrth fenthyg y TARDIS.
  • Mae'r Doctor yn parhau i wneud sbri ar bennau archaeolegwyr, gan gyfeirio at raw sonig fel rhywbeth "cywilyddol".
  • Mae'r Doctor yn sôn am Geometreg Euclidaidd.
  • Mae'r Doctor yn sôn am frwydro pryfed wrth y Nawfed Dimensiwn a Physgod Robotig Enfawr.

River Song[]

  • Mae River Song yn hawlio sut mae'r Doctor o hyd yn cynllunio mynd â hi i Darillium, cyn canslo y funud olaf.
  • Mae River yn cyfeirio at ei thad, Rory Williams, trwy bwyntio at ei thrwyn a dweud "Pawd dweud wrth dad" tra'n cynnig Alcohol i'r Doctor.
  • Wrth chwilio yn ei bag ar ddechrau'r episôd, mae River yn tynnu fez coch allan. Roedd yr Unarddegfed Doctor yn hoff o feziau, gan feddwl roedden nhw'n "cŵl", er anghytunodd River yn glir gyda'i sylwad.
  • Mae River yn berchen ar y llyfr History's Finest Exploding Restaurants, gydag isdeitl o "y bwyd goreuaf yn rhad ac am ddim, gan sgipio'r coffi". Defnyddiodd hi'r llyfr fel ffynhonnell wrth gynllunio ei dihangfa wrth y streic meteor sydd yn bwrw'r Harmony and Redemption.
  • Mae gan River persawr unigryw sydd yn ei hawlio i newid ei dillad i beth bynnag mae eisiau.

Y TARDIS[]

  • Mae Rowndeli'r TARDIS yn cael eu defnyddio fel storfeydd unwaith eto. Yn yr achos yma, mae alcohol tu mewn i cwpwrdd y tu mewn i un ohonynt.
  • Mae modd i'r TARDIS cynhyrchu rheiddiau hologram ar gyfer y Doctor.

Technoleg[]

  • Mae gan corff Hydroflax gwirioneddolydd cwantwm holltog, ac felly mae'n tynnu eu pŵer wrth dwll du.

Offer sonig[]

  • Nid yw rhaw sonig River Song yn gyfeiriad at ei phroffesiwn yn unig, ond hefyd at ei thadcu, Brian Williams, person a gariodd rhaw i le bynnag aeth.
  • Mae'r Doctor yn rhoi sgriwdreifar sonig i River, rhywbeth mi fyddi hi'n dod â i ei hymchwiliad yn y Llyfrgell.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio ei sbectol haul sonig a'i sgriwdreifar sonig newydd.

Cerddoriaeth[]

  • Chwaraewyd "Clywch Llu'r Nef" ar Mendorax Dellora.
  • Wrth i River a'r Doctor fod yn neuadd ginio'r Harmony and Redemption, mae modd clywed Siegfried Idyll gan Richard Wagner.
  • Ym mwyty Darillium, mae cerddorfa llinynnol yn chwarae "The First Noel".

Lleoliadau[]

  • Bwriad y Harmony and Redemption yw i deithio i'r Galaeth Andromeda nesaf.
  • Mae Tyrau Canu Darillium yn "canu" o ganlyniad i'r gwynt yn chwythu trwy'r system ogofâu ac yn harmoneiddio gyda'r haen crisialau.
  • Poblogaeth Medorax Dellora yw 4 biliwn.
  • Yn union fel mae eu henw yn awgrymu, mae Haig Harmoni'r Gaeaf wrth Harmoni'r Gaeaf yn gwreiddiol.

Nodiadau[]

  • Mae gan dilyniant agoriadol y stori yma sawl newidiad. Mae gan y cogiau plu eira. Yn union fel TV: Last Christmas, mae'r twnel cloc wedi rhewi, mae enwau'r cast a theitl y sioe yn ymddangos ac yn diflannu trwy ddeilchion eira. Mae gan y cylchau patrwm plu eira, ac mae'r TARDIS wedi'i gorchuddio gan eira, ond y tro yma, nid yw'r eira yn diflannu hanner ffordd trwyddo. Yn ychwanegol mae'r planedau wedi'u hamnewid am baubles Nadolig.
  • Dyma episôd cyntaf Doctor Who ers The Angels Take Manhattan yng Nghyfres 7 yn 2012, a'r episôd cyntaf i gynnwys Peter Capaldi, i beidio cynnwys Jenna Coleman fel Clara Oswald.
  • Dyma'r episôd Nadolig cyntaf i beidio cynnwys unryw golygfeydd ar y Ddaear.
  • Dyma'r tro cyntaf i gynnwys enw Alex Kingston yn y dilyniant agoriadol.
  • Pan mae anrheg River yn cael ei datgan fel sgriwdreifar sonig, mae modd clywed rhan o trac sain Cyfres 4 "Silence in the Library", yn rhagarwyddo digwyddiadau antur olaf River.
  • Fel Mels, defnyddiodd River yr ymadrodd "ceiniog yn yr awyr" pan oedd rhywun yn ebryfygus i rywbeth pwysig, gan ei ddilyn gyda "a mae'r ceiniog yn cwmpo" pan sylweddolon nhw, fel gwelwyd yn TV: Let's Kill Hitler. Yn eironig, mae River yn ymuno'r pobl sydd yn cael eu disgrifio gan yr ymadrodd yma, wrth iddi bod yn anwybyddus o bresenoldeb y Doctor nes nid oes modd amau mai ef yno.
  • Dyma'r tro cyntaf y tu allan i episodau mini mae River wedi ymddangos mewn stori sydd dim yn cynnwys cydymaith wrth ochr y Doctor.
  • Mae amrywiant ar The Doctor's Theme yn cael ei chwarae wrth i River a Ramone trafod y "Damsel in distress".
  • Ni ymddangosodd unrhyw manylion cast ynghyd restriad Radio Times y stori. Ond, cynhwysodd yr ailadroddiad Gŵyl San Steffan rhestr cast.
  • Dyma'r episôd cyntaf i gael y Doctor a'i gydymaith wedi'u chwarae gan actorion yn hŷn na 50 blwydd oed.
  • Cymerwyd lluniau River o'r Doctor wrth Smugglers, The Two Doctors, Carnival of Monsters, The Hand of Fear, Resurrection of the Daleks, Mindwarp, Survival, Doctor Who, The Day of the Doctor, The Parting of the Ways, The Runaway Bride, a The Bells of Saint John.
  • Hyd 2017, dyma'r episôd Nadolig gyda'r nifer lleiaf o wylwyr.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 5.77 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 7.69 miliwn[4]

Cysylltiadau[]

  • Mae Nardole yn galw River yn "Doctor Song", (TV: The Time of Angels / Flesh and Stone, The Pandorica Opens, Closing Time, The Angels Take Manhattan) gan nodi mae hi weithiau yn defnyddio'r teitl "Proffesor". (TV: Silence in the Library / Forest of the Dead, The Angels Take Manhattan)
  • Mae River yn dweud wrth y Brenin Hydroflax ei fod wedi "dwyn cymaint wrth siwd gymaint o bobl". Wrth siarad â'r Unarddegfed Doctor am beth oedd ef yn golygu iddi hi a gweddill y bydysawd, rhodd i sylwad tebyg, gan nodi ei fod wedi "gwneud cymaint am siwt gymaint o bobl". (TV: The Wedding of River Song)
  • Mae River yn cyfeirio at ei hanes o ddianc. (TV: The Pandorica Opens, A Good Man Goes to War, The Wedding of River Song)
  • Mae gan River llun o bob un o 12 ymgorfforiad gyntaf y Doctor, gyda hi yn eu dangos fel tystiolaeth i ddangos eu bod hi'n gwybod sut mae ef yn edrych fel. Dywedodd hi unawith wrth y Doctor bod ganddi lluniau o bob un o'r Doctoriaid. (TV: The Time of Angels) Oherwydd mae ganddi llun ohono, mae hon hefyd yn cadarnhau ei bod hi'n adnabyddus o'r Doctor Rhyfel ar ôl i'r Doctor ceisio ei guddio. (TV: The Name of the Doctor)
  • Tra'n dadlau am eu perthnasoedd eraill, mae River yn sôn am briodasau'r Doctor i Elizabeth I (TV: The Day of the Doctor) a Marilyn Monroe. (TV: A Christmas Carol)
  • Mae River Song yn cyfeirio at geisiadau'r Doctor i dod â hi i Darillium. (FIDEO: Last Night) Yn hwyrach, bydd hi'n cyfeirio at y daith go iawn i'r Degfed Doctor. (TV: Forest of the Dead)
  • Mae dyddiadur River Song yn sôn am anturau cynharach gyda'r Doctor, megis "agoriad y Pandorica", (TV: The Pandorica Opens) picnic yn Asgard, (TV: Silence in the Library) crash y Byzantium, (TV: The Time of Angels) a "Manhattan". (TV: The Angels Take Manhattan) Mae eu hamser gyda "Jim y Pysgodyn" yn cael ei cydnabod. (TV: The Impossible Astronaut)
  • Mae'r Doctor yn sôn am y Nawfed Dimensiwn. (PRÔS: Only a Matter of Time)
  • Yn flaenorol, roedd modd i River ymdopi â thechnoleg dileu-cofion. (GÊM: The Eternity Clock)
  • Mae dyddiadur River bron yn llawn, ac mae hi yn cydnabod y Doctor yw'r fath o berson i wybod faint o dudalennau'n union sydd angen arni. (TV: Let's Kill Hitler)
  • Mae'r Deuddegfed Doctor yn rhoi sgriwdreifar sonig i River. Dyma'r un gwelwyd wrth iddi ymchwilio i'r Llyfrgell. Wrth ei rhoi iddi, mae'r Doctor yn ei scanio, fel byddai modd iddo ei hachub gan ddefnyddio hysbryd data yn hwyrach. (TV: Silence in the Library, Forest of the Dead)
  • Ar Darillium, mae River yn nodi bod y Doctor yn crïo. Bydd hi'n cofio hon wrth siarad â'r Degfed Doctor cyn ei momentau olaf. (TV: Forest of the Dead)
  • Credodd River mai'r Unarddegfed Doctor oedd ymgorfforiad olaf y Doctor gan roedd hi'n adnabyddus o rwystriad deuddeg ymgorfforiad cylch adfywio'r Doctor. (TV: The Deadly Assassin) Mae'r Doctor yn sôn yn fuan am sut daeth ef dros y rhwystriad yma. (TV: The Time of the Doctor)
  • Mae'r Doctor yn nodi ei fod wedi "torri ei wallt", mae yn ei "siwt gorau" ac mae'n ymddangos ar "ddrws" River. Yn hwyrach, mae'n gwisgo siwt go iawn ar Darillium, yn gyflawni popeth dywedodd River wrth y Degfed Doctor am y tro olaf gwelodd hi fe. (TV: Forest of the Dead)
  • Mae'r Doctor wedi bod yn osgoi Darillium am amser maith ac mae'n drist iawn ar gyflawni ei ddêt olaf gyda River. Mae'r Doctor wedi nodi yn flaenorol nad yw'n hoff o ddiweddion. (TV: The Angels Take Manhattan, The Name of the Doctor, The Time of the Doctor, Hell Bent)
  • Llysenw Hydroflax yw "bwtsiwr y Dolydd Asgwrn". Mae'r Doctor a River wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen. (TV: The Time of Angels)
  • Mae River yn crybwyll yr amser roedd dau fersiwn o'r Unarddegfed Doctor pan ganslodd y Doctor eu dêt i Darillium. Mae'r Doctor wedi bod yn addo am amser hir i fynd â River i Dyrau Canu Darillium. (FIDEO: First Night, Last Night)
  • MAe'r Doctor yn nodi "mae pob Nadolig yn Nadolig olaf", gan ailadrodd beth dywedodd fersiwn o Danny Pink yn ddychymyg Clara Oswald iddi. (TV: Last Christmas)
  • Mae'r Doctor yn gwrthod gorestyngu ei hun o flaen y Brenin Hydroflax, gan esgus bod ei gefn yn dost. Nid oedd modd i'r Doctor Cyntaf gorestyngu i Kublai Khan, gan honni fod ganddo gefn tost. (TV: Marco Polo)
  • Mae modd i'r Doctor archebu ford blynyddoedd yn gynt, cyn cyrraedd amser yr archebiad mewn eiliad. Yn flaenorol fe wnaeth y dull yma gyda Clara ar Calbaron III. (COMIG: Planet of the Diners)
  • Mae'r Doctor yn barhau ei dueddiad o gwneud sbri ar bennau archaeolegwyr, gan gyfeirio at rhaw sonig River fel "cywilyddol". (TV: Silence in the Library, The Impossible Astronaut)
  • Mae'r Doctor yn barhau i feddwl bod gwylio pobl yn cusanu fel diflastod i wylio. (TV: A Christmas Carol, Asylum of the Daleks)
  • Nid oes modd i'r TARDIS defateriolu pan mae rhywun tu mewn a thu allan i'r llong ar yr un pryd; yn flaenorol bu farw Feldwebel Kurtz pan roedd ef hanner ffordd i mewn i'r TARDIS. (SAIN: Colditz)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Troednodau[]