Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

The Innocent oedd stori gyntaf y flodeugerdd sain Only the Monstrous, a gaeth ei chynhyrchu gan Big Finish Productions. Ysgrifennodd Nicholas Briggs y stori, a chynhwysodd John Hurt fel y Doctor Rhyfel, Lucy Briggs-Owen fel Rejoice a Jacqueline Pearce fel Ollistra.

Roedd y stori yn nodedig am fod y stori gyntaf cynhyrchodd Big Finish yn uniongyrchol i ddefnyddio ymgorfforiad o'r Doctor wrth gyfres BBC Cymru. Er, wnaeth eu cydweithrediad gyda AudioGO ar Destiny of the Doctor eu hawlio i ddefnyddio'r Doctorau o'r gyfres 2005 yn gynharach, a chynhwyswyd cameo o'r Nawfed Doctor yn The Kingmaker yn 2006, gyda'r materion hawlfraint wedi'u datrys wrth gan gyfeirio ato'n unig fel "dyn gogleddol gyda chlustiau mawr".

Crynodeb cyhoeddwyr[]

Wrth i'r Daleks casglu eu llynges amser ar gyfer ymosodiad olaf ar Galiffrei, mae rhyweth yn eu haros amdanynt yn Omega One. Yn ychwanegol, bydd rhaid i aberth cael ei wneud.

Uwch-driniwr a strategydd Arglwydd Amser, mae Cardinal Ollistra yn derbyn newyddion sydyn am farwolaeth y Doctor.

Yn y cyfamser, ar y blaned Keska, mae rhyfel plwyfol wedi dychwelyd i effeithio gwareddiad heddychlon ar ôl degawdau o dawelwch. Ond sut allai'r rhyfel hwnnw cael eu cysylltu i'r Rhyfel Amser, rhyfel a gallai mewn unryw a phob eiliad bygwth i rwygo'r bydysawd i gyd?

Pe bai'r Doctor yn dal i fyw.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Doctor Rhyfel - John Hurt
  • Cardinal Ollistra - Jacqueline Pearce
  • Y Nyrs Plant - Lucy Briggs-Owen
  • Veklin - Beth Chalmers
  • Bennus - Kieran Hodgson
  • Arverton - Barnaby Edwards
  • Y Daleks - Nicholas Briggs
  • Seratrix - Alex Wyndham

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn achosi cwsg ar Keska am dros 150 dydd.
  • Mae'r Doctor yn dweud ei fod wedi cyfarfod â "nifer" o bobloedd hil-laddol.
  • Mae'r Llygad Cytgord ("Eye of Harmony") yn cael ei grybwyllio.
  • Y Keskan Collective yw corff rheoli'r Keskans.
  • Mae gan longau ymosod y Taalyen deflynnau balistig.

Nodiadau[]

  • Recordiwyd y stori yn The Moat Studios ar 27 Medi 2015.
  • Mae'r stori yn defnyddio cerddoriaeth thema newydd gan Howard Carter, yn adlewyrchu Doctor mwy milwrol.
  • Mae effaith sain materialeiddio'r TARDIS wedi'i ystumio, o achos llong y Doctor Rhyfel a gafodd ei threilio gan ryfel.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Daleks yn defnyddio llongau amser (TV: The Chase et al) a llongau llechwraidd. (PRÔS: Engines of War)
  • Mae'r Ollistra yn awgrymu'r unig ffordd i waredu'r bydysawd rhag y Daleks yw i ddileu nhw rhag hanes gyfan. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn baio ei hun am achosi'r Rhyfel Amser, gan gofio'r ffaith ei roedd ar genhadaeth i'r Arglwyddi Amser i osgoi genedigaeth y Daleks. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Mae'r Daleks yn adnabod y Dinistriwr Amser wrth ei darddiad ar Kembel, lle defnyddiodd y Doctor Cyntaf e i drechu'r Daleks. (TV: The Daleks' Master Plan)
  • Mae'r Daleks yn paratoi ar gyfer goresgyn Galiffrei. (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae'r Doctor wedi ymwadu ei enw. (TV: The Night of the Doctor)
  • Creda'r Doctor bod rhai Arglwyddi Amser mor wael â'r Daleks. (TV: The Night of the Doctor)
  • Mae gas gan y Doctor i wasgu botymau mawr coch. (TV: The Day of the Doctor
  • Dydy'r Doctor ddim yn teithio gyda cymdeithion rhagor. (PRÔS: Engines of War)
  • Mae'r Doctor yn dynodi taw gwneud yr annychmygol a'r angenrheidiol yw ei achos. (TV: The Night of the Doctor)
  • Mae Ollistra a Veklin yn ceisio echdynnu'r Doctor yn yr un modd a'r Arglwyddi Amser gyn ei dreial gyntaf. (TV: The War Games)

Dolenni allanol[]