The Keys of Marinus oedd pumed stori Hen Gyfres 1 Doctor Who.
Mae'r stori yn nodedig am fod un o sawl stori "teithio". Yn debyg i Marco Polo yn flaenorol, a The Chase, The Daleks' Master Plan a The Infinite Quest canlynol, mae The Keys of Marinus yn defnyddio gosodiad newydd mewn bron pob un o'i hepisodau. Hefyd, y stori hon yw'r cyntaf o 35 stori chwe rhan yn Doctor Who (gan gynnwys stori chwe ran y gyfres newydd, Flux)
Cyflwynodd y stori hefyd y Voord, cais cyntaf mewn llinell hir, bwriadol, ac yn aml heb lwyddiant, i greu gelyn mor poblogaidd â'r Daleks.
Y drydydd episôd, "The Screaming Jungle", oedd achos difrifol cyntaf y rhaglen gyda llên-ladrad. Cwynodd Robert Gould i Donald Wilson bod bywyd planhigion mewn safle esblygiad dominyddol ar blaned yn stori fe amlinellodd i olygydd sgript, David Whitaker. Ar 26 Mawrth 1964, roedd rhaid i Whitaker ysgrifennu at Wilson er mwyn cyflwyno amddiffyniad manwl yn erbyn cyhuddiad Gould. Wnaeth amddiffyniad Whitaker dibynnu ar y gosodiad bod Terry Nation wedi defnyddio llysdyfiant gelaethus yn annibynnol o waith Gould, a fodd bynnag, roedd syniad Gould yn ddeilliad o Day of the Triffids (CYF: Doctor Who: The Handbook: The First Doctor)
Yn debyg i storïau eraill y cyfnod, roedd rhaid i The Keys of Marinus cynnwys fordd i analluogi'r TARDIS er mwyn datrys y problem "pam ddim gadael?". Er, creodd Terry Nation y deialau teithio, ac felly roedd rhaid gwahanu'r prif gymeriadau wrthynt hefyd ar mwyn datrys yr un problem.
Crynodeb[]
Mae'r TARDIS yn cyrraedd y blaned Marinus ar ynys o wydr o fewn môr o asid. Yno, gorfodwyd y tîm i chwilio am bedair allan o'r pump allwedd gan Arbitan er mwyn gweithio peiriant ag enwyd y Cydwybod Marinus - peiriant a gall dylanwadu pob ymenydd ar y blaned. Mae'r allweddi wedi'u cuddio ar ddraws y blaned i osgoi gadael Yartek a'r Voord drygionus, achos maent eisiau cael y peiriant i ddefnyddio'r pŵer am bwrpas sinistrach.
Plot[]
The Sea Devils (1)[]
I'w hychwanegu.
The Velvet Web (2)[]
I'w hychwanegu.
The Screaming Jungle (3)[]
I'w hychwanegu.
The Snows of Terror (4)[]
I'w hychwanegu.
Sentence of Death (5)[]
I'w hychwanegu.
The Keys of Marinus (6)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Susan Foreman - Carole Ann Ford
- Arbitan - George Coulouris
- Voords - Martin Cort, Peter Stenson, Gordon Wales
- Altos - Robin Phillips
- Sabetha - Katherine Schofield
- Llais Morpho - Heron Carvic
- Rhyfelwr - Martin Cort
- Darrius - Edmund Warwick
- Vasor - Francis De Wolff
- Milwyr rhew - Michael Allaby, Alan James, Peter Stenson, Anthony Verner
- Tarron - Henley Thomas
- Larn - Michael Allaby
- Prif-farnwr - Raf De La Torre
- Barnwr cyntaf - Alan James
- Ail farnwr - Peter Stenson
- Kala - Fiona Walker
- Aydan - Martin Cort
- Eyesen - Donald Pickering
- Gwarchodwr - Alan James
- Yartek - Stephen Dartnell
Criw[]
- Cynhyrchydd Cyswllt - Mervyn Pinfield
- Dillad - Daphne Dare
- Dylunydd - Raymond P. Cusick
- Cyfarwyddwr - John Gorrie
- Cerddoriaeth Achlysurol - Norman Kay
- Colur - Jill Summers
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Golygydd Stori - David Whitaker
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
- Awdur - Terry Nation
Criw di-glod[]
- Trefniant Thema - Delia Derbyshire
- Goleuo Stiwdio - Peter Murray
- Sain Stiwdio - Jack Brummit, Tony Milton
Cyfeiriadau[]
- Yn ôl y Doctor, mae wedi cyfarfod â Pyrrho, sefydlydd amheuaeth.
- Mae Doctor yn bwyta rhywbeth sydd yn ymddangos i fod yn trwffwl, ac yn ffroeni pomgranad.
- Bwyta Barbara grawnwin.
Nodiadau[]
- Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiau 16mm.
- Teitl cynhyrchu'r stori oedd Planet Marinus.
- Adennillwyd y printiau negyddol gan BBC Enterprises yn 1978.
- Mae print Arabig am The Sea of Death gan y BBC.
- Ysgrifennodd Terry Nation y stori fel amnewidiad ar gyfer The Red Fort, stori a oedd wedi'i bwriadu i'w osod o fewn Gwrthryfeliad India, 1957.
- Hon yw'r stori gyntaf i gael ei hysgrifennu gan awdur yn dychwelyd i'r sioe.
- Datblygodd Terry Nation mwy o gefndir o fewn y sgript nag oedd yn amlwg yn y cynhyrchiad terfynnol. Roedd y Voord yn goresgynwyr estronaidd a wnaeth cymryd mantais o natur heddychlon pobl marinus, wedi'u achosi gan yr ymwybyddiaeth. Er mwyn i bobl marinus ymladd y Voord, cafodd yr ymwybyddiaeth ei droi bant. O ganlyniad i'r canrifoedd treuliodd y Voord ar Farinus, roeddent nawr yn gallu cael eu heffeithio gan yr ymwybyddiaeth, felly, danfonodd Arbitan gweithredwyr i adfer yr allweddi a fyddai'n ailgychwyn yr ymwybydiaeth er mwyn iddo, o'r diwedd, trechu'r goresgynwyr.
- Nid yw William Hartnell yn ymddangos yn "The Screaming Jungle" na "The Snows of Terror". Roedd yr actor ar ei wyliau yn ystod recordiad yr episodau, gan roedd Hartnell wedi bod yn gweithio di-baid o Hydref nes Ebrill ar episodau Doctor Who. Wedyn, mae Hartnell yn dychwelyd yn fwy egnïol. Hon oedd y tro cynaf wnaeth y brif actor cymryd egwyl. Derbynodd Hartnell credyd am yr episodau hon. Cymrodd ei gyd-actorion rheolaidd gwyliau dros cynhyrchiad storiau canlynol.
- Mae'r stori yn cynnwys golygfa dadleuol lle mae Vasor yn ymedrych i geisio i dreisio Barbara - dilyniant wnaeth ddim, yn rhyfeddol, atal rhyddhad 1999 y BBC rhag derbyn cyfraddiad o "U".
- Nid yw enw Darrius wedi'i ddweud ar sgrîn o fewn deialog "The Screaming Jungle"; mae ei enw yn ymddangos yn y credydau yn unig. Does dim enw gyda'r cymeriad yn nofeleiddiad Phillip Hinchcliffe chwaith, gyda phawb yn ei grybwyll fel "yr hen ddyn" yn unig.
- Yn gwreiddiol, fe'u gobeithiwyd byddai'r Voord yn cyrraedd yr un poblogrwydd gyda gwylwyr iau â'r Daleks; gan roedd y Daleks wedi ysbrydoli Dalekmania, gyda theganau, llyfrau, a nwyddau eraill yn cael eu rhyddhau. Ni ddigwyddodd hyn.
- Mae "The Sea of Death" (episôd cyntaf y stori) yn cychwyn yr adran hiraf o Doctor Who "gwyliedig" (ar wahan i "gwrandedig" yn unig) o'r 60au, gyda 44 episôd nes "The Lion" (episôd cyntaf The Crusade) gan gynnwys pob episôd goroesedig ac episodau sydd wedi'u animeiddio.
- Er taw'r Voord yw prif gelynion y stori, maent ond yn ymddangos o fewn episodau cyntaf ac olaf y stori, "The Sea of Death" a "The Keys of Marinus". O ganlyniad, byddai'r Voord yn parhau i fod gelynion cryn dirgelach y gyfres, gan mae ond ychydig wedi datgelu am y Voord o fewn y stori. Fodd bynnag, byddai'r stori gomig The World Shapers a'r stori sain Domain of the Voord yn ehangu ar eu tarddiad, eu diwylliant presennol, a'u tynged posib yn fawr iawn.
- Hon yw'r stori gyntaf i gynnwys materoliad TARDIS gan ddefnyddio model.
- Roedd mân rhannau ffilm negyddol y stori wedi'u difrodi. Am rhyddhad y DVD yn 2009, defnyddiwyd cyfrifiadur i adfer y golygion. Er enghraifft, yn yr ail episôd, "The Velvet Web", tra mae Barbara yn gweld Altos yn y "byd go iawn" (0:12:24 yn y DVD), yn ôl yr is-deitlau, roedd rhaid i eiliadau cyntaf y golygfa cael eu hailgreu gan gyfrifiadur.
- Rhwng trydydd a phedwerydd episôd y stori, "The Velvet Web" a "The Screaming Jungle", dechreuodd y BBC eu hail sianel, BBC Two, o ganlyniad, "The Screaming Jungle" oedd yr episôd cyntaf a gafodd ei ddarlledu o dan frandio BBC1.
- Mae ail episôd y stori, "The Velvet Web", yn dynodi'r tro cyntaf mae teitl yr episôd wedi'u rhoi o fewn y teitlau agoriadol, rhywbeth a fyddai'n ddigwydd yn anghyson am weddil y cyfnod du a gwyn, yn enwedig yn ystod cyfnod Troughton. Unwaith newidodd y sioe i gynhyrchu mewn lliw yn yr 1970au, byddai hyn yn newid i fod yn ymarfer rheolaidd.
- Cafodd fformat sylfaenol y stori hon - chwe naratif gwahanol wedi'u cysylltu trwy gais i ôl gyfres o eitemau - ei hailddefnyddio ar gyfer y stori hyd Hen Gyfres 16, yr Allwedd Amser.
- Yn y pumed episôd, "Sentence of Death", mae modd clywed y Doctor baglu dros ei eiriau wrth ddweud "I can't prove at this very moment", gan ddweud "I can't improve at this very moment" i ddechrau. Er roedd William Hartnell yn enwog am faglu dros ei eiriau (gyda diffyg amser a chyllid yn rhwystro hawliad ail tro, felly yn aml arhoson nhw yn yr episodau swyddogol), nid hon yw un o'r achosion hwnnw. Yn ôl y DVD, bwriad Terry Nation oedd cael y Doctor i faglu dros ei eiriau, gyda'r sgript yn cynnwys ei fwriad. Perfformiodd Hartnell ei linell yn fanwl gywir.
- Hon yw un o'r storïau a ddarlledwyd fel rhan o benwythnos Doctor Who y BSB ym mis Medi 1990.
- Y stori hon yw'r cyntaf o ddau stori gan Terry Nation i beidio cynnwys y Daleks. Y llall yw The Android Invasion a'i ddarlledwyd dros degawd yn ddiweddarach.
- Er mae'r stori erioed yn dynodi gosodiad amserol, mae'r comig Doctor Who Magazine, The World Shapers, yn ymddangos i osod y stori yn 5000000 CC.
- Datgelodd y sgript gwreiddiol roedd y Doctor a Susan ar y Ddaear yn 1963 ar ddechrau An Unearthly Child achos roedd y Doctor yn ymweld â'r BBC er mwyn cael cymorth i drwsio scanner lliw y TARDIS, a oedd yn dangos lluniau du a gwyn yn unig. Pan ddychwelodd y Doctor i'r TARDIS roedd ef mewn hwyl uffernol gan roedd y BBC wedi bod yn "ofnadwy o gyfrinachol"!
- Yn gwreiddiol, ymunodd y Doctor gyda Susan a Sabetha yn ystod eu cwest, a byddai ei fodrwy yng nghwt Vasor ynghyd y deiliau teithio ac allweddi'r ymwybyddiaeth.
- Er yn swyddogol roedd John Gorrie yn aelod o adran Dramâu'r BBC, fe'i logwyd gan Verity Lambert tra ar fenthyciad i'r adran Serialau. Yn amheuol i gymryd y gwaith gan ni deallodd ac nad oedd Gorrie yn hoff o ffuglen wyddonol, mynnodd Lambert iddo wneud y swydd.
- Yn ôl Jonathan Sothcott ar slwebaeth DVD Dr. Who and the Daleks, ystyriodd Milton Subotsky addasu'r stori hon i mewn i ffilm.
- Cofiodd John Gorrie castio Fiona Walker yn y stori ar ôl iddi danfon llythyr ato yn ddweud "I am an actress, I am a good actress, I am too good an actress not to be working so I hope you can do something about this". Meddyliodd Gorrie bod y llythyr yn doniol ac o ganlyniad rhoddodd e'r rôl Kala iddi.
- Defnyddiodd Terry Nation sawl gair a oedd eisioes yn bodoli ar gyfer enwau lleioliadau a chymeriadau'r stori: Marinus yw gair Lladin sydd yn olygu "o'r môr"; seiliwyd Morphoton ar Morpheus, duw breuddwydiau Groegaidd; daw Millennius o'r term Millenium, sef mil flwyddyn; a daw Arbitan o'r gair lladin Arbiter, sef barnwr.
- Er roedd John Gorrie yn anhapus gydag ansawdd y sgriptiau, fe gytunodd i gyfarwyddo'r stori er mwyn datblygu ei yrfa.
- Annedwyddodd y sgript Carole Ann Ford gyda'r portread o Susan gan deimlodd hi cafodd ei hysgrifennu'n debyg i blentyn, a roedd ei chymeriad yn "warthus".
- Wrth ddarllen y sgript, meddyliodd John Gorrie am George Coulouris ar gyfer Arbitan, a bu Gorrie wrth ei fodd pan dderbyniodd Coulouris y rhan, gan ei ddigrifio fel ei "arwr".
- Castiodd John Gorrie Henley Thomas yn rôl Tarron gan roedd y ddau'n hen ffrindau a oedd wedi gweithio gyda'i gilydd o'r blaen.
- Teimlodd John Gorrie bod golwg golygus Robin Phillips, ei ffrind, yn gweddu Altos yn berffaith.
- Dewisodd John Gorrie i gastio Katharine Schofield, cyn fyfyriwr drama, yn rôl Sabetha er mwyn iddi cael erychiad tywysogesol.
- Recordiodd Brian Hodgson o'r BBC Radiophonic Workshop un deg naw effaith sain newydd ar gyfer y stori, gan gynnwys seiniau Cydwybod Marinus a chlociau Millennius.
- Seiliodd y dylunudd, Daphne Dare, dyluniad y Voord ar wisg wlyb rwber, gyda'r pen wedi'u creu gan Jack a John Lovell, adeiladwyr propiau, wrth ddefnyddio rwber caled.
- Dyluniwyd y propiau tanddwr a'r peiriant ymwybyddol gan Shawcraft Models.
- Defnyddiodd Raymond Cusick gwydr ffibr dros ben i orffen model y pritiant ymwybyddol o achos diffyg cyllid.
- Adeiladodd Design and Display Ltd. y planigion symudol o'r drydydd episôd, "The Screaming Jungle".
- Er mwyn creu rhith o eira yn y drydydd a'r pedwerydd episôd, "The Screaming Jungle" a "The Snows of Terror", defnyddiwyd polystyren jablite.
- Gweodd mam Carole Ann Ford y crys-heb-lawesau mae Susan yn gwisgo am y stori.
- Am y golygfeydd a gynhwysodd bleidd yn y bedwerydd episôd, "The Snows of Terror", prynnodd y BBC 14 troedfedd o ffilm o'r ffilm Rwsiaidd Серый разбойник (Serii Razboynic, Y Lleidr Llwyd) wrth ddosbarthwr Sovexport.
- Feindiodd John Gorrie'r dyddiau recordio'n annodd iawn o ganlyniad i gymhlethtod sioe a maint bach y stiwdio.
- Cofiodd Carole Ann Ford roedd modd i'r cast cael sbri ar y set, gan roedd tuedd William Hartnell o anghofio'i linellau yn cymryd amser.
Cyfartaledd gwylio[]
- "The Sea of Death" - 9.9 miliwn
- "The Velvet Web" - 9.4 miliwn
- "The Screaming Jungle" - 9.9 miliwn
- "The Snows of Terror" - 10.4 miliwn
- "Sentence of Death" - 7.9 miliwn
- "The Keys of Marinus" - 6.9 miliwn
Chwedlau[]
- Mae hil Yartek wedi'u hadnabod fel Voord yn unig. (Er mae sawl rhan o'r deialog yn cyfeirio atyn nhw fel "Voord", caiff "Voords" ei ddefnyddio y mwyaf aml ac mae'n ymddangos yn y credydau)
- Cynhwysodd y diweddglo gwreiddiol Ian yn rhoi'r allwedd go iawn i Yartek, ond trodd y peiriant Yartek a'r Voord yn dda. (Does dim tystiolaeth i gefnogi hyn")
Gwallau cynhyrchu[]
- Pan mae Voord yn cwympo trwy'r wal pyramid yn "The Sea of Death", mae modd gweld llaw llwyfan ar yr ochr arall.
- Ar ôl i'r Doctor mynd i mewn i'r pyramid, cyn diwedd yr olygfa, mae modd gweld coes rhywun yn ymddangos ar waelod chwith y sgrîn.
- Yn "The Sea of Death" wrth i Ian a Barbara trafod i le aeth y Doctor, mae modd gweld cysgod meicroffon.
- Mae llun y Voord a ddefnyddiwyd i arddangos Voord yn cwympo i mewn i asid yn troi wrth cwympo gan ddatgelu taw llun 2D yw hyn.
- Pan mae Ian o fewn y pyramid yn gyntaf, mae rhywyn yn baglu trwy'r cefndir.
- Yn "The Velvet Web", mae camera yn taflu cysgod ar Susan wrth iddi cysgu.
Cysylltiadau[]
- Mae Ian yn parhau i wisgo'r wisg rhodd Marco Polo iddo yn Cathay, 1289. (TV: Marco Polo)
- Bydd y Doctor, Ian, Barbara a Susan yn cyfarfod â'r Voord unwaith eto ar y blaned Hydra mwy na chanrif yn hwyrach. (SAIN: Domain of the Voord)
- Mae'r Doctor hefyd wedi cyfarfod â'r Voord ar Kandalinga sawl miliwn flwyddyn cynt. (PRÔS: Fishmen of Kandalinga)
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar 21 Medi 2009 yn y DU ac yn Ionawr 2010 yng Nghogledd America. Gan mae'r tair stori gyntaf ar gael yn unig o fewn set bocs The Beginning, ac mae Marco Polo yn parhau i fod yn stori coll, The Keys of Marinus yw'r stori gyntaf i fod ar gael yn unigol.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan actorau William Russell (Ian) a Carole Ann Ford (Susan), cyfarwyddwr John Gorrie a dylunydd Raymond Cusick, wedi'u cymedroli gan Clayton Hickman
- The Sets of Marinus
- Oriel
- Isdeitlau nodiadau cynhyrchu
- Deunydd PDF
- rhestrau Radio Times
- Fideo 8mm yn y cefn o Patrick Heigham a Jack Brummit
Credydau'r cefn:
- Yn cynnwys William Hartnell gyda William Russell, Jacqueline Hill a Carole Ann Ford
- Wedi'i hysgrifennu gan Terry Nation
- Wedi'i chyfarwyddo gan John Gorrie
- Wedi'i chynhyrchu gan Verity Lambert
- Cerddoriaeth achlysurol gan Norman Kay
Nodiadau:
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygiad y DVD.
- Mae gan glawr rhanbarth 2 y DVD gwall sillafu a ddynodir "contains orginal black and white footage".
Argaeledd BritBox[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau VHS[]
- Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Keys of Marinus ym Mis Mawrth 1999 (DU) a Mis Gorffennaf 1999.
|