The Magician's Apprentice oedd episôd gyntaf cyfres 9 Doctor Who.
Gwelodd y stori dychweliad Davros am y tro cyntaf ers TV: Journey's End yn 2008, yn darlunio Davros cyn cael ei anffurfeiddiad am y tro gyntaf ar deledu. Ond, nid hon oedd y stori gyntaf i gynnwys Davros fel plentyn. Dangosodd y gyfres Big Finish Productions, I, Davros, taith Davros i ddod i arwain yr uwch wyddonwyr, gan ddechrau yn ei harddegau. Nid yw'r episôd yn rhoi esboniad ar sut llwyddodd Davros i oroesi digwyddiadau Journey's End, na phryd ddarganfyddodd y Doctor y gwybodaeth hwnnw; ond mae'n debyg gan fod Davros yn oroesi pobeth heblaw Plentyn yr Hunllef, mae'r Doctor yn disgwyl cwrdd â fe eto yn y pendraw.
Gwelodd yr episôd hefyd y Doctor yn gwynebu her moesau, yr union un fe wynebodd amser maith yn ôl yn ei bedwerydd ymgorfforiad yn TV: Genesis of the Daleks: "os bwynith person ag oedd yn gwybod y dyfodol blentyn iddi di, gan ddweud byddai'r plentyn hwnnw yn tyfu i fod yn hynod o afrasus, yn unbennaeth a fyddai'n lladd miliynnau, byddai modd iddi di ladd y blentyn hwnww?", gyda'r Doctor yn dod wyneb wrth wyneb â Davros yn y presennol, a fel plentyn yn y gorffennol.
Crynodeb[]
Mae'r Colony Sarff neidrus wedi chwilio'r bydysawd gyfan yn ceisio dod o hyd i'r Doctor er mwyn rhoi iddo neges olaf Davros; ond nid yw'r Doctor yn unman.
Mae hon yn difrifol iawn, gan nid oes modd i hyd yn oed ei ffrind agosaf, Missy, dod o hyd iddo. Yn ychwanegol, mae Missy wedi derbyn deial cyffes y Doctor, sef ei ewyllys diwethaf...
Plot[]
I'w hychwanegu
Cast[]
- Y Doctor - Peter Capaldi
- Clara - Jenna Coleman
- Missy - Michelle Gomez
- Davros - Julian Bleach
- Colony Sarff - Jami Reid-Quarrell
- Kate - Jemma Redgrave
- Jac - Jaye Griffiths
- Mike - Harki Bhambra
- Bors - Daniel Hoffmann-Gill
- Bachgen - Joey Price
- Kanzo - Benjamin Cawley
- Mr Dunlop - Aaron Neil
- Ohila - Clare Higgins
- Llais y Daleks - Nicholas Briggs
- Pensaer Cysgod - Kelly Hunter
- Alison - India Ria Amarteifio
- Ryan - Dasharn Anderson
- Newyddiadurwr - Stefan Adegbola
- Newyddiadurwr - Shin-Fei Chen
- Newyddiadurwr- Lucy Newman-Williams
- Daleks - Barnaby Edwards, Nicholas Pegg
- Milwr - Jonathan Ojinnaka
Cast di-glod[]
|
|
|
Cyfeiriadau[]
- Mae Missy yn cyfeirio at y Rhyfeloedd Cloister, y Doctor yn dwyn y Lleuad, a Gwraig yr Arlywydd.
Technoleg[]
- Mae Missy yn defnyddio atalydd amser er mwyn stopio awerynnau'r Ddaear yn yr awyr.
- Mae Missy yn dangos y deial cyffes y Doctor i Clara gan esbonio beth yw ei bwrpas
Rhywogaethau[]
- Mae Ŵd, Hath, Sicoracs, Ŵd arall, Khaler, a Chwythbysgod yn y Maldovarium.
- Mae Jydŵn ar ochr y Pensaer Cysgod wrth i Colony Sarff ymweld â'r Cyhoeddiad Cysgod.
- Mae Missy yn honni byddai tri bwled i bob un o galonau Arglwydd Amser a dau fwled i'w hymenydd yn ddigon i rwystro adfywiad.
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae modd gweld lun o Edgar Allan Poe yn nosbarth Clara.
- Mae Clara yn gorchymyn ei disgyblion i ddefnyddio eu ffonau i chwilio'r newyddion, gwefannau, a Thrydar, ac i chwilio am hashnodau megis #ThePlanesHaveStopped.
- Wrth fygwrth lladd gwarchod, mae Missy yn sôn am hunluniau.
- Mae'r Doctor yn gallu chwarae'r gitâr. Mae'n chwarae bariau cyntaf "Pretty Woman".
- Mae'r Doctor yn llwyddo cael y torf i gwblhau teitl "All the Young Dudes".
Unigolion[]
- Mae Mr Dunlop yn crybwyll y Prif Weinidog, a mae Kate Stewart yn sôn am Arlywydd.
- Mae'r Doctor yn hawlio rhoi farblis i Bors a dywedodd iddo i beideio eu llyncu.
- Mae Missy yn galw Clara yn "nano-ymenydd".
Rhifau[]
- Mae Jac yn dweud y rhifau 4165 a 439.
UNIT[]
- Mae gan UNIT "Sianel Doctor".
Lleoliadau[]
- Mae Jac yn sôn am San Marino, Caerdroea, Efrog Newydd, ac Atlantis
Y TARDIS[]
- Mae Roundeli ychwanegol wedi cael ei rhoi ar hanner gwaelod ystafell consol y TARDIS.
Nodiadau[]
- I gadw gyfrinach dychweliad Davros, aeth Julian Bleach yn ddi-glod cyn y rhyddhad yr episod. Roedd Davros ifanc, wedi'i chwarae gan Joey Price, ond wedi derbyn y credyd o "Fachgen".
- Dyma episôd agoriadol cyfres BBC Cymru, a'r stori Dalek cyntaf i gael ei chyfarwyddo gan fenyw.
- Dyma'r stori deledu gyntaf i'w osod ar Sgaro nes Destiny of the Daleks.
- Defnyddiodd Moffat y gair Cymraeg "sarff" ar gyfer enw Colony Sarff.
- Roedd rhestriad Radio Times wedi'i cyfeilio gan lun o Missy yn defnyddio dyfeis, gydag isdeitl o "Doctor Who / 7.40 p.m. / Missy is one of many searching for the missing Time Lord ar the series returns".
- Ar 27 Medi, y dydd olynol i ddarllediad The Witch's Familiar, darlledwyd ddau ran y stori ar BBC One a BBC One HD fel un episôd hir.
- Newidwyd teitlau agoriadol y gyfres yn fach o'r episôd yma: mae'r cogiau, nwy a'r cloc eisioes yn defnyddio lliw porffor.
- Mae credydau'r episôd yn rhestri creadwyr Kahler, Skullions, Hath, Chwythbysgod, Ŵd, a'r Sicoracs, y rhywogaethau a wnaeth i gyd ymddangos pan oedd Colony Sarff yn chwilio am y Doctor. Dyma ymddangosiad cyntaf y Skullions mewn episôd Doctor Who, wedi ymddangos yn gyntaf yn The Sarah Jane Adventures. Dyma'r tro gyntaf i creadwyr derbyn credyd am greuadur a gafodd eu cyflwyno yn ystod amser Steven Moffat fel prif gynhyrchydd, ac am greuadur a gafodd eu cyflwyno mewn cyfres deilliedig.
- Dyma'r tro gyntaf i Dalek Arfau Arbennig siarad ar-sgrîn ac felly mae modd gweld y ffenestri aur o amgylch y gromen goleuo. Ers cyflwyniad y Dalek yma yn TV: Remembrance of the Daleks, mae'r nodweddion yma wedi cael eu trafod, gan doedd y Dalek Arfau Arbennig erioed wedi siarad yn y stori honno, na Asylum of the Daleks. Yn y stori yma, cafodd model newydd ei ddefnyddio, ac felly trwy ganolbwyntio yn manwl ar y model, mae modd gweld ei fod yn wahanol mewn ardaloedd.
- Ymysg y Daleks ar Sgaro, mae Clara a Missy yn cwrdd â'r Dalek gwreiddiol arian a glas wrth TV: The Daleks nes TV: The Space Museum; yr ail fodel arian a glas wrth TV: The Space Museum nes TV: The War Games; gwarchod personol Ymerawdwr y Daleks wrth TV: The Evil of the Daleks; y model du a llwyd wrth TV: Day of the Daleks nes TV: Remembrance of the Daleks; y Dalek Arfau Arbennig wrth TV: Remembrance of the Daleks; Dalek du ag edrychodd fel Dalek Sec; model yr Dalek Goruchafol wrth TV: The Stolen Earth a TV: Journey's End; a'r model efydd cyfredol wrth sydd wedi cael ei ddefnyddio ers TV: Dalek.
- Mae Peter Capaldi yn chwarae gitâr yn y stori yma, a thrwy gydol gweddill y gyfres. Mae Capaldi yn chwarae offerynnau mewn bywyd go iawn.
- Cadarnhaodd Michelle Gomez ar Trydar taw byrfyfyriad oedd Missy yn ticlo'r Dalek agosaf wrth gyfeirio at y TARDIS fel "the dog's unmentionables".[3]
- Dyma'r tro gyntaf i Ohila ymddangos mewn episôd hyd-lawn yn lle episôd-mini.
- Mae dyluniad dinas y Daleks a'r drysau awtomatig yn adlewyrchu dyluniad y ddinas yn y stori TV: The Daleks.
- Nid teitl yr episôd yma yw'r tro gyntaf i gydymaith Doctor cael ei gymmharu i "aprentis dewin", gan ddigwyddodd rhywbeth debyg yn y nofel Vampire Science rhwng yr Wythfed Doctor a Sam Jones.
- Yn ei gyfweliad "Showrunner Showdown" yn DWM 551, cyfaddodd Steven Moffet yn gwreiddiol roedd ef eisiau i gyn-brif gynhyrchydd Russell T Davies ysgrifennu'r episôd, ac o ganlyniad fe ddanfonodd draft cynnar o'r sgript iddo. Roedd stori gwreiddiol y sgript "bron yn anadnabyddadwy" i'r episôd terfynnol. Canolbwyntiodd y drafft cynnar ar Davros ar dreial unwaith eto, fel yn TV: War of the Daleks. Byddai plot y stori yn hawlio'r Doctor a Davros i siarad o flaen cynulleidfa, gyda'r Doctor yn y pendraw yn ennill ffafr y cynulleidfa, ond trwy'r trafodau yn cydymdeimlo â'i hen elyn. Yn y pendraw, nid oedd gan Davies ddiddordeb, ac fellly ysgrifennodd Moffat yr episôd ei hunan.
- Mae Missy yn dweud wrth Clara bod un o'i storïau am y Doctor yn gelwydd; ymysg ei storïau roedd un a ddywedodd roedd y Doctor unwith yn ferch. Yn diweddarach, byddai'n cael ei datgelu roedd gwir ymgorfforiad gyntaf y Doctor yn fenywaidd; y Plentyn Di-amser
- Mae'n bosib gwithiodd Missy'r ffaith allan wrth DNA y plentyn, sydd ym mhob Arglwydd Amser.
Cyfartaleddau gwylio[]
Cysylltiadau[]
- Yn ôl Clara, mae "achau" wedi bod ers ei chyfarfod diweddaraf gyda Missy. (TV: Death in Heaven)
- Mae Clara yn dweud os nad oes gan UNIT rheswm am alw'r Doctor, mi fydd ef yn mynd yn "Albanaidd". (TV: Deep Breath)
- Mae Missy yn defnyddio'r gân "Hey Missy" i gyflwyniad ei hun ar gyfrifiaduron UNIT. (TV: Death in Heaven)
- Yn ôl Missy, nid yw ei marwolaeth yn beth sylweddol, yn dilyn cael ei saethu gan Cyberman o flaen Clara a'r Doctor ar y Ddaear. (TV: Death in Heaven) Ar sawl achos, llwyddodd y Meistr i ddianc wrth farwolaeth heb esboniad am sut oroesodd. (TV: Castrovalva, Planet of Fire, Survival)
- Mae Clara yn credu taw hi yw ffrind gorau'r Doctor. (TV: Death in Heaven)
- Mae Jac yn dweud wrth Kate maent yn chwilio am y geiriau "Doctor" a "blwch las"; defnyddiwyd yr un geiriau i chwilio am y Nawfed Doctor. (TV: Rose, Aliens of London, The Christmas Invasion)
- Yn ôl Missy, mae Arglwydd Amser yn marw wedyn myfyrdod, gan mae rhaid iddynt ddangos dderbyniaeth am eu marwolaeth. (WC: Prologue, TV: The Doctor's Meditation)
- Mae'r Doctor yn atgoffa Clara ei bod wedi nabod Missy am amser maith. (TV: Utopia, PRÔS: The Dark Path)
- Mae Missy yn disgrifio teithio gan driniwr Fortecs fel "rhad a chas". (TV: The Big Bang)
- Mae Missy yn gofyn i Clara os yw Danny Pink dal wedi marw. (TV: Dark Water, Death in Heaven)
- Mae Clara yn cael syndod wrth gwtsh y Doctor, gan mae'n gwybod nad yw e'n ei hoffi. (TV: Deep Breath, Listen) Mae'n ei hatgoffa mai ond ffordd i guddio gwyneb rhywun. (TV: Death in Heaven)
- Mae'r Doctor yn sôn am helpu Bors a'i ddynion i adeiladu ffynnon. (TV: The Doctor's Meditation)
- Mae Bors yn galw'r Doctor yn ddewin. (TV: Time Heist, Last Christmas, The Doctor's Meditation)
- Mae'r Doctor yn honni mae wedi treulio diwrnod yn Essex, mae Bors yn ei atgoffa ei fod wedi bod yno ers tair wythnos. (TV: The Doctor's Meditation)
- Mae Colony Sarff yn ymweld â'r Maldovarium. (TV: The Pandorica Opens, A Good Man Goes to War)
- Mae'r Doctor yn dweud nid yw ef yn defnyddio'r sgriwdreifar sonig rhagor. Fe stopiodd ddefnyddio sgriwdreifar sonig yn ei bumed ymgorfforiad, ar ôl iddo cael ei ddinistrio gan y Terileptils, (TV: The Visitation) a na fyddai'n defnyddio un arall nes ei seithfed ymgorfforiad. (TV: Doctor Who)
- Mae Bors yn ddod yn byped Dalek. (TV: Asylum of the Daleks, The Time of the Doctor)
- Mae'r Doctor yn hawlio bod Davros yn blentyn y Rhyfel Mil Flwyddyn. (TV: Genesis of the Daleks, SAIN: Innocence)
- Mae Davros yn chwarae ffilmiau i'r Doctor wrth eu hen frwydrau. (TV: Genesis of the Daleks, Resurrection of the Daleks, Revelation of the Daleks, Remembrance of the Daleks, The Stolen Earth)
- Mae Clara yn dysgu ddosbarth am Jane Austen. (TV: The Caretaker)
- Yn flaenorol, myfyriodd y Doctor ar ei farwolaeth mewn brwydr, ar Trenzalore. (TV: The Time of the Doctor)
- Wrth i UNIT archwilio i leoliadau ymwelodd y Doctor i geisio darganfod i fle mae wedi mynd, mae Jac yn nodi San Martino, (TV: The Masque of Mandragora) Caerdroea, (TV: The Myth Makers) sawl ymweliad ag Efrog Newydd (TV: The Chase, Daleks in Manhattan, The Angels Take Manhattan, Nikola Tesla's Night of Terror) a thri fersiwn posib o Atlantis. (TV: The Underwater Menace, The Dæmons, The Time Monster)
- Mae'r Doctor yn tybio bod y rhyfel wedi cael ei frwydro am amser maith, o achos y cymysgedd o dechnoleg ar gael. Roedd gan y Pedwerydd Doctor yr un tybiad am y rhyfel wrth gyrraedd am grëad y Daleks
- Mae Missy yn cynnig dysgu'r Daleks sut i yrru TARDIS er mwyn cadw'n fyw. Cynnigodd y Doctor Cyntaf yr un bargen wrth gwrdd â'r Daleks ar Sgaro, ond fe cynhwysodd fywyd Susan Foreman hefyd. (TV: The Daleks)
- Mae Davros yn hawlio mai gwendid fwyaf y Doctor yw ei drugaredd. Mae'r Daleks wedi gwneud yr un sylwad o'r blaen. (TV: Victory of the Daleks)
- Mae cyndeidiau'r Daleks yn ddynolffurf. (TV: The Daleks, Genesis of the Daleks)
- Mae'r Meistr a'r Daleks wedi gweithio gyda'i gilydd o'r blaen. (TV: Frontier in Space)
- Mae Clara yn cyfuno ei sgiliau cyfrifiadurol a'i abl am ddeall ymddygiad i ddod o hyd i'r Doctor. Yn flaenorol, wnaeth hi'r un peth er mwyn dod o hyd i aberthau Rosemary Kizlet. (TV: The Bells of Saint John)
- Mae'r Doctor yn defnyddio chwyddleisydd Magpie Electricals gyda'i gitâr. (TV: The Idiot's Lantern)
- Wrth i Clara cyfaddau ei bod hi'n grac achos danfonodd y Doctor ei ddeial cyffes i Missy, mae'n honni fe ddanfonodd ef y deial wrth obeithio bod hi dal yn fyw gan welodd y ddau ei "marwolaeth". (TV: Death in Heaven) Pan cyfaddodd y Doctor ei wir rheswm am ymweld â'r Orient Express, fe ymatebodd i gyhuddiadau Clara wnaeth ef gwybod bod rhywbeth o'i le trwy ddweud fe obeithiodd oedd rhywbeth o'i le. (TV: Mummy on the Orient Express)
- Mae'r Daleks wedi gweld planedau sydd wedi cael eu cuddio gan y preswylwyr o'r blaen. (COMIG: The Archives of Phryne) Yn hwyrach, wnaeth y Daleks yr un peth i Skaeo er mwyn cuddio wrth y Casglwr. (PRÔS: Heart of the TARDIS)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 1 ar 2 Tachwedd 2015.
- Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.
Troednodau[]
- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 1.15 1.16 1.17 1.18 1.19 1.20 1.21 1.22 1.23 1.24 1.25 1.26 1.27 1.28 1.29 1.30 1.31 1.32 1.33 TCH 80
- ↑ Dim yn yr episôd gorffenedig, wedi'i chredydu yn Radio Times
- ↑ https://twitter.com/bbcdoctorwho/status/648186904089919489
- ↑ Cyfartaleddau gwylio Doctor Who
|
|