Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Man Who Never Was oedd trydydd stori a stori olaf Cyfres 5 The Sarah Jane Adventures. Ysgrifennodd Gareth Roberts y stori a Joss Agnew cyfarwyddodd y stori. O ganlyniad i farwolaeth Elisabeth Sladen, dyma stori olaf The Sarah Jane Adventures, gan dyma'r stori olaf i gael safon cwblhad digonol. Yn ychwanegol, mae'r stori yn nodedig am gynnwys y cyfarfyddiad cyntaf rhwng blant maeth Sarah Jane, Luke a Sky, a hefyd ychwanegodd y stori y term "Clani" i mewn i naratif y sioe.

Crynodeb[]

Mae Joseph Serf wedi lawnsio ei SerfBoard newydd, y cyfrifiadur ni all neb gwrthod cael. Mae pawb eisiau'r dyfais newydd - a pham dim? Beth all fod yn beryglus am gyfrifiaduron?

Plot[]

Rhan 1[]

I'w hychwanegu.

Rhan 2[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Clyde Langer - Daniel Anthony
  • Rani Chandra - Anjli Mohindra
  • Sky - Sinead Michael
  • Mr Smith - Alexander Armstrong
  • John Harrison - James Dreyfus
  • Joseph Serf - Mark Aiken
  • Adriana Petrescu - Edyta Budnik
  • Lionel Carson - Peter Bowles
  • Plark - Dan Starkey

Cyfeiriadau[]

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Wrth i Sky rhoi bersonoliaeth Americaidd gorliwedig i Joseph Serf, mae Luke yn ei chyhuddo o wylio Toy Story unwaith eto.

Unigolion[]

  • Mae Luke wedi gadael K9 yn Rhydychen, i uwchlwytho Llyfrgell Bodleian Prifysgol Rhydychen cyfan ar gyfrifiadur. Er mwyn ei alw, mae Luke wedi creu chwiban ci.
  • Mae Rani a Clyde yn esgus bod yn Janet a Trevor Sharp wrth Twilight Years.
  • Mae Adam Jenkins yn ffrind i Clyde a Rani.

Gwrthrychau[]

  • Mae Luke yn defnyddio ei chwiban ci i ddanfon neges côd Morse i Mr Smith.

Lleoliadau[]

  • Mae'r Janet a Trevor Sharp go iawn yn sownd yn Orly Airport.
  • Prynodd John Harrison grŵp o Skullions a grasiodd yng Nghanol Asia; cafon nhw eu tywys ar ddraws Ewrop a'r Môr Udd i weithio amdano.

Eraill[]

  • Mae Clyde yn honni bod Pot Noodle yn rhan enfawr o ddeiet Luke.
  • Mae Sarah Jane yn awgrymu swydd UNIT i Adriana.

Nodiadau[]

  • Dyma perfformiad teledu olaf Elisabeth Sladen fel Sarah Jane Smith cyn eu marwolaeth ar 19 Ebrill 2011. Ei llinell olaf yn y rôl, wedi'i rhoi fel adroddawd a'i creu trwy recordiau archif, oedd: "yn y bydysawd cyfan, disgwyliais i ddim darganfod teulu". Dyma hefyd llinell olaf y gyfres.
  • Golygwyd ymadawiad y Skullionau i ddileu llinell plark a rybuddiodd Sky am rywbeth sydd yn cuddio i mewn iddi, yn ceisio didorri wrthi. Byddai hon wedi rhagagweiddio'r dagleiad ar diwedd y gyfres a fyddai'n argyhoeddi roedd Sky yn ferch hen gelyn Sarah Jane, y Twyllwr, ond roedd hon eisioes yn anangenrheidiol gan na fyddai gweddill y gyfres byth yn cael eu recordio.
  • Enwyd y cymeriad o Joseph Serf fel cyfeiriad at yr actor Patrick McGoohan, gan ddefnyddiodd ef yr enw yma fel ffugenw wrth gyfarwyddodd episodau The Prisoner i guddio'r ffaith roedd ef wedi ymgysylltu mewn mwy o episodau na ddisgwyliwyd wrtho. Mewn cyd ddigwyddiad, roedd yr actor gwadd Peter Bowles wedi ymddangos yn episôd The Prisoner, "A, B and C".

Ymddeoliad y gyfres[]

The Man Who Never Was oedd yr episôd olaf o The Sarah Jane Adventures a gafodd ei gynhyrchu ynghyd Cyfres 4 ym mloc cynhyrchu 2010. Cynlluniwyd cynhyrchiad gweddill y gyfres am wanwyn 2011, ond roedd marwolaeth Sladen wrth gancr ar 19 Ebrill 2011 wedi gorfodi'r BBC i ganslo unryw cynhyrchu bellach i'r gyfres. I fod yn barchus, dewisodd Russell T Davies gorffen The Sarah Jane Adventures yn gyfan gwbl, yn lle dod o hyd i rywun arall i bortreadu'r cymeriad, gan deimlodd ef nad oedd hon yn opsiwn dilys i ddechrau.

Rhowd diweddglo i ddiwedd yr episôd yn dilyn marwolaeth Elisabeth Sladen. Roedd hyn yn cynnwys clipiau wrth y gyfres, a clipiau wrth TV: Journey's End a The End of Time gyda David Tennant.

Achos cafodd hanner gyntaf Cyfres 5 ei chynhyrchu'n unig, newidwyd yr episôd er mwyn rhoi rhywfaint o gload i'r gyfres, yn yr un modd i sut rhowd monolog i'r stori Doctor Who, Survival, fel rhagdybiad am ddiddymiad yr hen gyfres.

Mae'r episôd yma a The Sarah Jane Adventures cyfan yn gorffen gyda montage ffarwelio. Mae'r episôd olaf yn cloi gydag adroddawd gan Sarah Jane (wedi cymryd wrth The Lost Boy), dros clipiau o'i hanturau ar Bannerman Road, a'i hanturau gyda'r Degfed a'r Unarddegfed Doctor. Mae'n dweud: "I've seem amazing things out there in space. But strange things can happen wherever you are. I have learned that life on Earth can be an adventure, too. In all the universe, I never expected to find a family."

Yn ymateb i farwolaeth Elisabeth Sladen, rhodd carden cysegru ati ar ddechrau episôd gyntaf Cyfres 6 Doctor Who, The Impossible Astronaut. Bu farw Sladen pedair dydd cyn ddarlledwyd y stori, ac felly ychwanegiad munud olaf i'r episôd oedd hon.

Er The Man Who Never Was oedd episôd teledu olaf SJA, yn hwyrach byddai Farewell, Sarah Jane yn cael ei chreu yn 2020 fel teyrnged i Sladen ac er mwyn gorffen ewyllysroddion y sioe, yn cael ei galw'r pennod trefynnol.

Creodd ymddeoliad sydyn y gyfres bwlch cynhyrchu, ac felly arweiniodd at cread y gyfres CBBC Wizards vs Aliens. Er nad oedd gan y gyfres unryw gysylltiad â bydysawd Doctor Who, rhannodd y gyfres y rhan fwyaf o'r criw cynhyrchu, gan gynnwys Russell T Davies a Phil Ford fel cyd-greawdwyr.

Cyfarteleddau gwylio[]

  • Rhan un - 0.71 miliwn[1]
  • Rhan dau - 0.60 miliwn[1]

Cysylltiadau[]

  • Mae Clyde yn sôn am sut galwodd Mr Smith y Rakweed yn ddiberyg. (TV: The Gift)
  • Mae Clyde yn cofio ei deimladau am Ellie. (TV: The Curse of Clyde Langer)
  • Mae BBC News yn rhedeg ddarn am y llywodraeth yn hawlio profion pellach am y prosiect Cwmtaff Discovery. (TV: The Hungry Earth)
  • Yn dilyn dinistriad ffôn Sky gan y gwarchod, mae Luke yn sylwadu "croeso i'r clwb", gan ddefnyddiodd ef saith ffôn ar ddraws y ddwy flynedd diwethaf. (TV: Prisoner of the Judoon)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd y stori yma gyda gweddill Cyfres 5 ar DVD a Blu-ray ar 6 Chwefror 2012.
  • Rhyddhawyd y stori ar set bocs The Complete Collection Series 1-5 ar 6 Chwefror 2012.

Troednodau[]