The Parting of the Ways oedd trydydd ar ddegfed episôd ac episôd olaf Cyfres 1 Doctor Who.
Dyma ymddangosiad olaf cronolegol Christopher Eccleston fel y Nawfed Doctor, a chyflwynodd y stori David Tennant fel y Degfed Doctor yn ei momentau olaf.
Clodd y stori yma arc Bad Wolf. Clodd y stori hefyd mân arc am hunaniaeth y Doctor, tra'n cyflwyno'r ffaith bod modd i Arglwyddi Amser adfywio, gan weld ymadawiad rheolaidd yr actorion Eccleston a Barrowman (nes Utopia), cyfarwyddwr Joe Ahearne, a chynhyrchydd gweithredol Mal Young. Sefydlodd y stori yma edrychiad gweledol ar gyfer adfywio a fyddai'n parhau i fod yn eithaf gyson i'r presennol hyd at The Power of the Doctor (byddai pob adfywiad ar wahân i adfywiad y Meistr yn Utopia yn edrych fel yr un yma o hyn ymlaen), gan hefyd hawlio gwylwyr i gael cipolwg ar Degfed Doctor David Tennant.
O safbwynt effeithiau gweledol, cynhwysodd y stori llynges enfawr o Daleks a'u llongau gofod. Ar amser darlledu, hon oedd y golwg fwyaf cafodd gwylwyr o fyddin Dalek a gafodd ei portreadu ar sgrîn erioed, gan dynnu'r record wrth Planet of the Daleks.
Er roedd cyfnod y Nawfed Doctor yn byr iawn ar sgrîn, byddai nofelau, llyfrau comig, a storïau sain yn pahau ei anturau am dros degawd a thu hwnt, yn llenwi ei linell amser gyda anturau nad oedd yn adnabyddus i wylwyr yn gynt.
Crynodeb[]
Wrth i'r Daleks ymosod ar yr Orsaf Gemau o dan orchymyn eu Ymerawdwr, mae'r Nawfed Doctor yn credu nad oes unryw obaith ar ôl. Mae'n gwybod bod rhaid iddo gwneud aberthiad enfawr os yw ef eisiau goroesi. Ond a fydd hon yn golygu colli ei annwyl Rose Tyler?
Tra mae Jack Harkness yn creu byddin, mae'r Doctor yn di-bŵer yn erbyn Ymerawdwr y Daleks; ac mae rhwyd marwol yn ymgau o amgylch y bydysawd cyfan. Mae un peth yn bentant, ni fydd pawb yn oroesi'r brwydr angheuol uma. Ond pwy neu beth yn union yw'r Bad Wolf? Mae'r amser wedi dod i'r Doctor a Rose darganfod.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Christopher Eccleston
- Rose Tyler - Billie Piper
- Capten Jack - John Barrowman
- Rhaglenwr - Jo Stone-Fewings
- Lynda - Jo Joyner
- Rodrick - Paterson Joseph
- Rhaglenwraig - Nisha Nayar
- Mickey - Noel Clarke
- Jackie - Camille Coduri
- Llais Anne Droid - Anne Robinson
- Llais y Daleks - Nicholas Briggs
- Gweithredwyr Dalek - Barnaby Edwards, Nicholas Pegg, David Hankinson
- Android - Alan Ruscoe
ac yn cyflwyno David Tennant fel Doctor Who
Cast di-glod[]
|
|
Cyfeiriadau[]
Bwyd[]
- Ar ôl dychwely i'w chartref, mae Rose yn bwyta sglodion mewn caffi gyda Jackie a Mickey.
- Mae Jackie yn sylwadu ar wellhad y caffi gan maent eisioes yn gweini tybiau bach o golslo.
- Mae Mickey yn dweud wrth Jackie am le pitsa newydd ar Heol Minto.
Unigolion[]
- Mae'r Doctor yn nodi ei enw yn hen chwedlau planed cartref y Daleks, sef y Storm Dyfodedig.
- Mae Jackie yn benthyg y tryc wrth Rodrigo.
- Mae Jack Harkness yn cael ei ladd gan dri Dalek, cyn cael ei atgyfodi gan y Bad Wolf. Yn hwyrach, mae'n cael ei ddatgel newidodd hon cemeg gwaed Jack fel ei fod eisioes yn anfarwol, ac mae ef yn dod yn bwynt sefydlog amser.
Y Doctor[]
- Mae'r Nawfed Doctor yn adfywio i mewn i'r Degfed Doctor.
- Ar ôl iddo danfon Rose i ffwrdd yn y TARDIS, mae hologram o'r Doctor a gafodd ei recordio yn gynt yn chwarae.
- Mae'r Doctor yn adlewyrchu ar ddigwyddiadau'r Rhyfel Amser a'r Arglwyddi Amser yn dilyn achub Rose.
Technoleg[]
- Mae gan drylliau'r Orsaf Gemau fwledi bastig.
- Mae |ton delta yn dinistrio pob ymennydd byw.
- Mae'r Doctor a Jack yn defnyddio'r allosodwr macro-cinetig tonffurf triboffisegol i greu tarian o amgylch y TARDIS.
- Mae modd i bodau byw amsugno Calon y TARDIS, ond mi fydd arnoethiad hir i'r egni yn llosgu'r corff wrth i egni'r fortecs amser eu dirywio.
- Mae Dalek Ymosodol yn defnyddio chwythlamp yn lle braich rhyngweithiol i dorri trwy ddrws Cyfuniad Hydra.
Planedau[]
- Mae Daear y dyfodol yn cael i ymosod arni gan Dalek gyda digonedd o rym i newid ffurf y cyfandiroedd.
- Mae'r Doctor eisiau mynd â Rose i'r blaned Barcelona.
Lleoliadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Rose mae modd iddyn nhw mynd i Marbella yn 1989 i osgoi ymosodiad y Daleks.
Rhywogaethau[]
- Nid oes gan Cŵn Barcelona ynryw trwynau.
Nodiadau[]
- Yn ôl ei lyfr, The Writer's Tale, cynlluniodd Russell T Davies cadw ymadawiad Christopher Eccleston yn gyfrinach nes yr adfywiad. Ond, yn fuan yn dilyn darllediad The Unquied Dead, trydydd episôd y gyfres, cyhoeddodd swyddfa près y BBC ymadawiad Eccleston yn gynnar, gan ddilyn y cyhoeddiad rhai wythnosau pellach i gadarnhau mai David Tennant oedd y Doctor newydd, ac o ganlyniad tynnodd hon y ddau elfen syndod wrth yr episôd.
- Heckler and Koch G36Ks yw'r drylliau mae Jack a phobl yr Orsaf Gemau yn defnyddio.
- Er iddo dod nôl yn fyw yn fuan wedyn, mae marwolaeth Jack yn yr episôd yn golygu mai ef yw'r cydymaith gyntaf i farw ers Kamelion yn Planet of Fire.
- Mae ffarweliad y Doctor i Rose yn ei recordiad - "Have a good life..." - yn cael ei dyfynu yng ngeiriau "Song for Ten", cân sydd yn rhan o'r episôd llawn nesaf, The Christmas Invasion.
- Mae Jack yn cusanu'r Doctor ar ei wefus cyn mynd i frwydro'r Daleks. Dyma'r cusan cyfunrywiol gyntaf yn hanes y fasnachfraint. Yn hwyrach, byddai Jack yn Graham O'Brien gan feddwl mai'r Doctor yw ef yn TV: Fugitive of the Judoon.
- Dyma'r episôd olaf i gredydu prif gymeriad y sioe fel "Doctor Who" nes TV: The Next Doctor. Gan ddechrau gyda The Christmas Invasion byddai'r credyd yn newid i "The Doctor", yn union fel ddigwyddodd am naw mlynedd olaf y gyfres gwreiddiol. Dyma'r unig achos o David Tennant yn derbyn y credyd o "Doctor Who" nes The Next Doctor.
- Dyma'r tro cyntaf i'r Doctor, neu unryw arglwydd amser, cael eu gweld yn adfywio wrth sefyll, gan gwmpodd pob Doctor flaenorol cyn adfywio. Yn dilyn hon, byddai'r Doctor fel arfer yn adfywio wrth sefyll.
- Dinistriwyd elfennau trydanol pyped y Dalek ar ôl cael ei roi yn nhanc dŵr yr Ymerawdwr. O ganlyniad, ni ddefnyddiwyd y pyped eto nes TV: The Stolen Earth / Journey's End. Crëwyd fersiwn CGI o'r mwtan ar gyfer TV: Daleks in Manhattan.
- Dyma'r drydedd achos o episôd adfywiad yn credydu'r ddau actor sydd yn chwarae'r Doctor, y ddwy achos gynaf oedd TV: Logopolis a The Caves of Androzani. O hyn ymlaen, byddai pob epiôd adfywiad yn credydu'r dau actor yn y modd yma; gan gredydu actor y Doctor newydd gyda chredyd o "ac yn cyflwyno [...] fel y Doctor" - wedi newid wrth "Doctor Who" yma. Yn wahanol i'r dau stori flaenorol, actor y Doctor newydd yw'r actor olaf i gael eu credydu; tueddiad na fyddai'n cael ei torri nes TV: The Power of the Doctor. Credydodd TV: Doctor Who hefyd y ddau actor i chwarae'r Doctor, ond digwyddodd hon yn y teitlau agoriadol, heb restru eu rolau'n fwy fanwl.
- O ganlyniad i adfywiad y Trydydd ar Ddegfed Doctor i mewn i'r Pedwerydd ar Ddegfed Doctor yn TV: The Power of the Doctor, David Tennant yw'r unig actor i dderbyn credyd y Doctor newydd dwywaith ar sgrîn.
- Yn 1993, cynhyrchodd y BBC rhaglen dogfen arbennig o'r enw 30 Years in the TARDIS, gyda diweddglo yn cynnwys sawl olygfa yn arddangos sut allai effeithiau arbennig modern cael eu defnyddio ar gynhyrchiad Doctor Who "newydd". Dangosodd un o'r sefylfaoedd yma sawl Dalek yn hofran yn fygythiol. Nid yw'n hysbys os mai ar bwrpas neu gyd-ddigwyddiad yw hon, ond mae gan yr episôd yma sawl olygfa sydd yn edrych fel y sefyllfa yn y rhaglen dogfen.
- O ganlyniad i fod episôd olaf y gyfres, nid oes trelar "Amser Nesaf" ar ddiwedd yr episôd; yn lle, mae neges yn dynodi "bydd Doctor Who yn dychwelyd gyda The Christmas Invasion".
- Dewiswyd y stori yma gan BBC America i gynrychiolu cyfnod Christopher Eccleston yn ystod eu rhaglenni 50fed pen blwydd. Wedi golygu i mewn i fformat omnibws gyda Bad Wolf, darlledodd yr episôd yma ar BBCA ar 29 Medi 2013, yn dilyn eu rhaglen arbennig The Doctors Revisited - The Ninth Doctor. Darlledwyd hefyd yn y Deyrnas Unedig yn hwyrach ar 9 Tachwedd, ynghyd y rhaglen arbennig, ar y sianel Watch.
- Rose, Jackie a Mickey, i gyd yn brif gymeriadau neu gymeriadau cylchol, yw'r unig gymeriadau sydd dim yn marw yn yr episôd yma. Bu farw pob cymeriad gwadd, ynghyd y Nawfed Doctor a Jack, er i'r olaf cael ei atgyfodi yn fuan wedyn. O ganlyniad, dyma'r episôd gyntaf i ladd y cast gwadd cyfan ers Horror of Fang Rock, 28 mlynedd yn gynharach, rhywbeth na fyddai'n cael ei hailadrodd nes The Doctor's Wife, 6 mlynedd hwyrach.
- Yn ddiddorol, chwaraeodd David Tennant Barty Crouch Jr. yn addasiad ffilm Harry Potter and the Goblet of Fire, ac ymddangosodd y cymeriad yn gyntaf mewn pennod o'r enw The Parting of the Ways. Mae dau gymeriad Tennant yn ymddangos ar ôl i berson mae gweddill y cymeriadau yn gyfarwydd â newid eu hymddangosiad, gan orffen gyda Tennant yn gwisgo hen siaced lledr a siwmper du ac yn ymddwyn yn wyllt.
- Dyma'r stori gyntaf yn y gyfres yma i beidio cael arddangosiad cynnar ar gyfer y près cyn darllediad. Nododd Radio Times, "Nid oedd rhagolwg ar gael ar gyfer yr episôd yma." Ond, cafodd yr episôd ei ddarlledu ar gyfer BAFTA ar 15 Mehefin 2005.
- Yn ôl Russell T Davies yn Doctor Who Magazine, gadawon nhw Jack achos roedden nhw eisiau archwilio i effeithiau'r adfywiad ar Rose (gan nodi fyddai Jack wedi cymryd yr adfywiad heb ofid).
- Ysgrifennwyd a recordiwyd diweddglo arall ar gyfer yr episôd, gyda bwriad o ddangos y diweddglo hwnnw i'r près er mwyn cadw cyfrinach yr adfywiad. Roedd gan yr olygfa "anghywir" deialog tebyg i'r rhai yn yr episôd gorffenedig, ond byddai'r TARDIS wedi sganio Rose a byddai'r gwylwyr yn gweld y TARDIS yn dangos "BYWIAD YN MARW". Ystyriodd Russell T Davies y fersiwn yma yn wan o'i gymharu â'r gwir diweddglo ond fe awgrymodd allai fod yn addas ar gyfer ychwanegiad DVD rhywbryd. Ar sylwebaeth sain y DVD, trafododd Julie Gardner a Billie Piper y diweddglo yma, gyda Gardner yn ei disgrifio fel marwolaeth Rose; yn wahanol i Davies, ni gredodd Gardner byddai'r olygfa yma byth yn cael ei rhyddhau (ni chafodd ei cynnwys ar DVD Cyfres 1).
- Ffilmiwyd rhan David Tennant o'r adfywiad llawer hwyrach na rhan Christopher Eccleston a heb bresenoldeb Billie Piper. Recordiodd Tennant yr olygfa yma gyda darn o dâp i gynrychiolu linell llygaid Piper.
- I ddechrau, goroesodd y Rheolydd nes yr episôd yma fel byddai rhywun i'r Doctor i siarad i, ond dewisodd Russell T Davies byddai mwy effeithiol i gael trafodaeth rhwng y Doctor a Ymerawdwr y Daleks yn lle.
- Dyma'r ail tro i Christopher Eccleston a David Tennant ymddangos yn yr un cynhyrchiad. Yn flaenorol, roedd y ddau yn y ffilm Jude, gydag Eccleston yn chwarae'r brif rôl, a David Tennant mewn rôl bach.
- Enwodd Joe Ahearne golygfa marwolaeth Lynda fel ei hoff un yn y gyfres.
- Gyda rhyddhad Terror Firma yn fuan yn dilyn The Parting of the Ways, dechreuodd theori ag awgrymodd daeth Davros yr Ymerawdwr gwelwyd yn y stori yma. Gwrthodd Big Finish y syniad yma yn swyddogol. Cadarnhaodd dychweliad Davros yn The Stolen Earth mai unigolion gwahanol oedd Davros a'r Ymerawdwr Rhyfel ac erbyn y Rhyfel Mawr Olaf Amser, nid Davros oedd yr Ymerawdwr rhagor.
Cyfartaleddau gwylio[]
Cysylltiadau[]
- Bydd Rose yn dweud wrth Sarah Jane Smith (TV: School Reunion) a Chwlt Sgaro (TV: Doomsday) am ei chyfarfyddiad gyda Ymerawdwr y Daleks.
- Sylwadodd y Degfed Doctor (TV: Utopia) a'r Meistr Saxon (TV: Last of the Time Lords) ar sut amsugnodd Rose y Fortecs Amser.
- Cwrddodd yr Ail Ddoctor ag Ymerawdwr Dalek enfawr a Daleks Gwarchodol cromen du. (TV: The Evil of the Daleks)
- Mae Jackie yn mynd i mewn i'r TARDIS unwaith eto. (TV: Aliens of London)
- Mae Rose yn dod â Jack nôl yn fyw, rhywbeth sydd â chanlyniadau eang ar ei gyfer, gan mae'n dod yn anfarwol, (TV: Utopia, Everything Changes ayyb) ac efaillai yn ei gysylltu i Wyneb Boe. (TV: Last of the Time Lords)
- Mae'r Nawfed Doctor yn gadael Jack wrth iddo rhedeg am y TARDIS. Bydd y Degfed Doctor yn esbonio'n hwrach mai ar bwrpas oedd hon, gan roedd anfarwoldeb Jack, a'i fodoliaeth fel pwynt sefydlog amser yn "anghywir" iddo fel Arglwydd Amser. (TV: Utopia) Byddai Jack yn treulio blwyddyn ychwanegol ar y Ddaear cyn teithio nôl i ddod o hyd i'r Doctor. (SAIN: The Year After I Died)
- Cafodd bodau dynol eu troi i Ddaleks o'r blaen ar Necros gan creawdwr y Daleks, Davros, (TV: Revelation of the Daleks) ar Red Rocket Rising gan Broffesor Martez. (SAIN: Blood of the Daleks) a gan Lynges y Daleks ar gyfer abwyd arfau yn y Rhyfel Amser. (PRÔS: Engines of War) Yn hwyrach, bydd Oswin Oswald yn cael ei throi hefyd. (TV: Asylum of the Daleks)
- Bydd ceisiadau eraill i atgyfodi hil y Daleks yn digwydd yn TV: Doomsday, Daleks in Manhattan / Evolution of the Daleks a Victory of the Daleks.
- Bydd cais gan y Daleks i greu fath arall o gymysgiad Dalek/Bod dynol. (TV: Daleks in Manhattan / Evolution of the Daleks)
- Mae'r Daleks yn casáu feddyliad o fod yn "amhur", (TV: Dalek) syniad a fyddai'n ymddangos unwaith eto yn TV: Victory of the Daleks a TV: Revolution of the Daleks.
- Mae gan un o'r Daleks offeryn torri yn lle braich rhyngweithiol. (TV: The Daleks, Planet of the Daleks)
- Mae'r Daleks wedi dod dros eu gwendid i fwledi bastig. (TV: Revelation of the Daleks)
- Yn fuan yn dilyn eu chweched adfywiad, recordiodd y Seithfed Doctor hologram di-rhyngweithiol ar gyfer cydymaith arall, Melanie Bush. (SAIN: Unregenerate!) byddai fersiwn holograffig o'r Degfed Doctor yn ymddangos yn y TARDIS i Sally Sparrow a Larry Nightingale (TV: Blink) a fersiwn holograffig o'i olynydd yn y TARDIS i'r Doctor ei hun, wrth iddo farw yn dilyn cael ei wenynu gan River Song. (TV: Let's Kill Hitler)
- Mae Rose yn defnyddio calon y TARDIS. (TV: Boom Town)
- Mae Rose yn sôn am y Doctor yn mynd â hi i weld ei thad. (TV: Father's Day)
- Yn hwyrach, mae Mickey yn crybwyll yr amser safiodd ef y bydysawd trwy ddefnyddio tryc melyn. (TV: The Age of Steel)
- Mae'r Daleks wedi goresgyn y Ddaear o'r blaen, (TV: The Dalek Invasion of Earth, Day of the Daleks; SAIN: Lucie Miller) a byddent yn gwneud eto. (TV: Doomsday, The Stolen Earth / Journey's End, Revolution of the Daleks)
- Dyma'r achos gyntaf adnabyddus o gusan y Doctor yn cael effaith ar fodau dynol y tu hwnt i'r gweithrediad ei hun. Yn yr achos yma, mae'r Doctor yn tynnu egni'r Fortecs Amser wrth Rose trwy ei chusanu. Wedyn, byddai ef yn rhoi mân-niferau o'i DNA estronaidd i Martha Jones. (TV: Smith and Jones) Yn hwyrach, byddai Donna Noble yn cusanu'r Doctor, ond yn yr achos hynny, y Doctor yw'r un sydd yn cael ei effeithio, gan gusanodd Donna'r Doctor er mwyn rhoi syndod iddo fel catalyst i wrthwenwyn. (TV: The Unicorn and the Wasp)
- Ymddangosodd y Fortecs Amser hefyd fel "coch am y dyfodol, glas am hanes" pan deithiodd Ace nôl o 2001 i 1887. (PRÔS: Lungbarrow)
- Edrychodd yr Wythfed Doctor i mewn i'r fortecs yn COMIG: The Flood.
- Edrychodd y Nawfed Doctor at ei law chwith cyn adfywio. Bydd ei ymgorfforiad nesaf yn gwyneud union yr un peth dwywaith cyn adfywio, ond mae'n edrych at ei law dde. (TV: The Stolen Earth, The End of Time)
- Mae'r Doctor yn osgoi ei adfywiad i esbonio'r sefyllfa i Rose. Yn flaenorol, osgodd y Pumed Doctor ei adfywiad i achub Peri Brown. (TV: The Caves of Androzani) Byddai'r Degfed Doctor a'r Deuddegfed Doctor yn gwneud yr un peth. (TV: The End of Time, The Doctor Falls, Twice Upon a Time)
- Mae sylwad cyn-adfywio'r Nawfed Doctor, "Mae'r proses yma bach yn betrus, dydych chi dim yn gwybod beth ydych chi'n mynd i gael", yn adlewyrchu sylwad ôl-adfywio'r Pumed Doctor, "dyna'r problem gydag adfywio, dydych chi ddim yn gwybod beth ydych chi'n mynd i gael". (TV: Castrovalva)
- Bydd Lynda ymysg y rhai cofiodd y Doctor pan gofiodd Davros fain bu farw yn ei enw. (TV: Journey's End)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
- Cafodd The Parting of the Ways, ynghyd Boom Town a Bad Wolf, eu rhyddhau ar DVD ar 5 Medi 2005 (DU) ac ar 7 Tachwedd 2006 (UDA).
- Yn hwyrach, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 yn rhan o DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
- Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #7.
- Rhyddhawyd yr episôd ar Doctor Who: Series 1-4 ym mis Hydref 2009, ac wedyn ar blu-ray yn rhan o Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
- Ar 20 Mawrth 2017 cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 mewn Steelbook.
Troednodau[]
|
|