The Power of the Doctor oedd Episôd Canrifol 2022 Doctor Who, wedi'i darlledu yn rhan o ddathliadau BBC 100. Dynododd y stori terfyn cyfnod Jodie Whittaker fel y Trydydd ar Ddegfed Doctor, a'r stori olaf i gael ei hysgrifennu gan Chris Chibnall fel pennaeth y sioe. Gwelodd y stori dychweliad y Meistr Ysbïennol ac Ashad yn dilyn eu diddymiad gweledig ar ddiwedd The Timeless Children, a dynododd y stori'r tro gyntaf i'r Meistr, y Cybermen, a'r Daleks i gyd gweithio gyda'i gilydd ar sgrîn.
Dychwelodd sawl un o gyn-gymdeithion Doctor Who ar gyfer y stori, yn bennaf Janet Fielding fel Tegan Jovanka, Sophie Aldred fel Ace, a Bradley Walsh fel Graham O'Brien. Hefyd yn ymddangos trwy gameos oedd Bonnie Langford fel Melanie Bush a Katy Manning fel Jo Jones, gyda Langford yn dychwelyd i'r gyfres deledu am y tro cyntaf ers ei hymddangosiad olaf yn Dragonfire, a Manning yn dychwelyd am y tro cyntaf ers ei hymddangosiad yn y stori The Sarah Jane Adventures, Death of the Doctor.
Yn nodadwy, ymunwyd Langford a Manning am gameo gan William Russell fel Ian Chesterton, yn dynodi ymddangosiad cyntaf y cymeriad yn y gyfres deledu ers The Chase yn 1965, gyda Recordiau Byd Guinness yn nodi hon fel y bwlch hiraf rhwng ymddangosiadau teledu gan yr un actor yn chwarae'r un cymeriad.[1] Y rôl yma oedd ymddangosiad ar sgrîn olaf Ian Chesterton a gwaith actio olaf William Russell, gan fu farw yn 99 oed yn 2024, blwyddyn a hanner yn dilyn darllediad y stori yma.
Hefyd yn dychwelyd trwy ymrithiadau meddwl o ymwybyddiaeth y Doctor oedd David Bradley, Peter Davison, Colin Baker, Sylvester McCoy, a Paul McGann i gyd yn ailymgymryd yn eu rolau fel eu unigol, gyda Davison a McCoy hefyd yn ailymgymryd yn eu rolau trwy fersiwn A.I o'r Doctor - rhywbeth ag ymddangosodd yn gyntaf yn y nofel 1995, Infinite Requirem - gyda Jo Martin hefyd yn dychwelyd fel y Doctor Ffoadurol yn yr un modd.
Yn nodedig oedd cynhwysiad y dadadfywiad teledu cyntaf erioed, a'r adfywiad gorfodedig cyntaf ers The War Games. Gydag adfywiad gorfodedig y Trydydd ar Ddegfed Doctor a defnydd y Meistr o enw'r Doctor, daeth Sacha Dhawan yr actor cyntaf i bortreadu'r Meistr a'r Doctor ar sgrîn yn yr un stori. Dynododd y stori hefyd y trydydd tro gwelwyd y Doctor yn adfywio mwy nac unwaith yn yr un stori, yn dilyn Twice Upon a Time a The Timeless Children, a'r tro cyntaf mae un ymgorfforiad yn cael eu gweld i adfywdio dwywaith o fewn yr un stori, a'r ail tro mae ymgorfforiad yn cael eu gweld i adfywio dwywaith yn eu cyfnod eu hyn yn dilyn adfywiad y Degfed Doctor yn Journey's End a The End of Time.
Yn dilyn y patrwm ers y pedwerydd Doctor, mae'r Meistr wedi achosi adfywiad pob trydydd ymgorfforiad; yn uniongyrchol neu beidio. Roedd adfywiad y Pedwerydd Doctor a'r Trydydd ar Ddegfed Doctor ar bwrpas, ond bu farw'r Seithfed a'r Degfed o ganlyniad i sefyllfaoedd achosodd y Meistr yn lle wrth ddwylo'r Meistr yn uniongyrchol.
Yn union fel yn The Deadly Assassin a'r ffilm 1996, dyma'r trydydd achos o'r Meistr yn ceisio dwyn adfywiau'r Doctor, a'r ail gwaith maent wedi cymryd corff y Doctor. Serch hynny, roedd y tro yma'n wahanol gan nad oedd y Meistr ar ddiwedd ei gylch adfywiau eto, a fe lwyddodd mewn meddiannu corff y Doctor dros dro, yn lle dwyn adfywiau'r Doctor er mwyn achub ei hun. Ond y tro yma, mae'r Meistr eisiau dinistrio enw da'r Doctor trwy achosi trychinebau gan ddefnyddio enw'r Doctor.
Fel syndod, ailgyflwynodd y stori actor y Degfed Doctor, David Tennant, fel y Pedwerydd ar Ddegfed Doctor yn ei eiliadau cau, yn dynodi'r tro cyntaf ar sgrîn adfywiodd y Doctor i mewn i ymgorfforiad gwahanol ag oedd gyda'r un ymddangosiad ag un blaenorol, yn dilyn argoeliad gan y Curadur yn The Day of the Doctor, wedi'i chwarae eu hun gan actor y Pedwerydd Doctor, Tom Baker.
Crynodeb[]
Mae arluniadau enwog ar ddraws y byd wedi cael eu difrodi, mae seismolegwyr yn mynd ar goll, mae digwyddiadau rhyfeddol yn digwydd yn llosgfynyddoedd, ac ar ddraws y sêr mae trên bwled yn cael ei hela gan CyberMeistri. Nid yw'r Doctor yn deall sut yw popeth yn cysylltu eto. Gyd sydd ganddi yw neges wrth hen elyn - "dyma'r dydd rwyt ti'n marw"...
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Jodie Whittaker, David Bradley, Colin Baker, Peter Davison, Paul McGann, Sylvester McCoy, Jo Martin
Ac yn cyflwyno David Tennant fel Y Doctor
- Yaz - Mandip Gill
- Y Meistr - Sacha Dhawan
- Dan - John Bishop
- Ace - Sophie Aldred
- Tegan - Janet Fielding
- Kate Stewart - Jemma Redgrave
- Vinder - Jacob Anderson
- Graham - Bradley Walsh
- Ashad - Patrick O'Kane
- Diprwy Marsial Arnhost - Joe Sims
- Marsial Trên Halaz - Serchia McCormack
- Curadur - Danielle Bjelic
- Alexandra Fydorovna - Anna Andresen
- Nicholas II - Richard Dempsey
- Negeswr - Jos Slovick
- Llais y Daleks & Cybermen - Nicholas Briggs
- Gweithredwyr y Daleks - Barnaby Edwards, Nicholas Pegg
- Cybermen - Simon Carew, Jon Davey, Chester Durrant, Mickey Lewis, Felix Young, Richard Price, Andrew Cross, Matt Doman
- Melanie Bush - Bonnie Langford
- Jo Jones - Katy Manning
- Ian Chesterton - William Russell
Cast di-glod[]
- Qurunx - Neo-Rae Gardener[2]
- Holo-Doctor - Jodie Whittaker, Peter Davison, Sylvester McCoy a Jo Martin
Cyfeiriadau[]
Dillad y Doctor[]
- Yn dilyn dwyn corff y Doctor, mae'r Meistr yn gwisgo sgarff amryliw y Pedwerydd Doctor, siwmper y Seithfed Doctor, trwser y Deuddegfed Doctor, ac mae'n gludo seleri i'w labed yn union fel wnaeth y Pumed Doctor. Yn ychwanegol mae'n gwisgo un o deis y Degfed Doctor ac mae'n cario recordr yr Ail Ddoctor.
TARDISau[]
- Math 75 yw TARDIS y Meistr Ysbïol
Diwylliant[]
- Ymysg y pymptheg darn mae'r Mesitr yn dinisto, mae'r Mona Lisa, Y Swper Olaf, The Hay Wain, Y Sgrech, y Girl with a Pearl Earring, ac American Gothic.
- Wrth ddal ei bat, mae Ace yn honni dwynodd Beyoncé'r syniad oddi hi.
- Mae'r Meistr yn chwarae ac yn dawnsio i'r gân "Rasputin" tra'n cuddio fel Grigori Rasputin.
- Mae'r Meistr yn chwarae dechrau'r gân "The Skye Boat Song" ar recordr yr Ail Ddoctor. Chwaraeodd yr Ail Ddoctor y gân ei hun yn The Web of Fear.
Lleoliadau[]
- Wrth guddio fel Grigori Rasputin, mae'r Meistr yn byw mewn tŷ yn Siberia, ac mae'n defnyddio'r Palas Gaeaf fel ei bencadlys.
- Roedd Tegan Jovanka yn Rwmania, rhywle yn agos i'r mynyddoedd Carpathia, pan dderbyniodd hi'r Cyberman mini.
- Mae gan UNIT bencadlys yn Llundain.
- Mae'r Meistr yn cynnal yr International Seismology Memorial Conference mewn hotel 3.2 kilometr i ffwrdd o Fynydd Feswfiws.
- Mae Pencadlys UNIT yn agos i Napoli.
- Mae Dalek yn trefnu cyfarfod gyda'r Doctor mewn llosgfynydd ym Molifia.
- Mae'r Daleks yn actifadu pob llosgfynydd ar y Ddaear, gan gynnwys rhai yn Ecwador, Indonesia, a Gwlad yr Iâ.
Nodiadau[]
- Crëwyd y stori ar gyfer dathliad 100fed Pen blwydd y BBC, ac roedd ganddi teitl gweithredol o The Centenary Special[3]
- Yn ôl Chris Chibnall, cafodd y stori ei ffilmio gyda'r feddwl taw stori olaf Doctor Who oedd hi, gan nad oedd Chibnall yn ymwybodol o pwy fyddai'n dilyn ef am reoli'r sioe. Ni chyhoeddwyd nes ar ôl gorffen ffilmio bydd Russell T Davies yn dychwelyd fel Rheolydd y sioe.
- Mae hon yn esbonio pan mae Yaz yn dewis atal ei theithiau: byddai hi'n derbyn diweddglo cyflawn felly, yn wahanol i Ace.
- Roedd Jodie Whittaker yn feichiog wrth ffilmio The Power of the Doctor.
- Mae'r stori yma yn rhannu lleoliadau ffilmio gyda stori'r Pedwerydd Doctor, The Pirate Planet, a stori'r Seithfed Doctor, The Curse of Fenric. Ar gyfer yr olaf, bygythiodd Ystâd Lulworth eithrio'r BBC rhag ffilmio yno byth eto yn dilyn cyhuddo'r BBC o fod yn 'anonest a chyfrinachol' wrth ddisgrifio beth byddai'r olygfa yn ddarlunio, ac felly'n annog aelodau'r cyhoedd i rhoi eu hun i mewn i sefyllfa peryglus, serch ni ffilmion nhw ar y clogwyn ei hun.
- Heb gyfri'r adfywiau anghronolegol yn The Night of the Doctor a The Day of the Doctor, dyma'r stori adfywiol cyntaf ers The Parting of the Ways na ddarlledodd fel episôd arbennig gaeafol; a'r stori adfywiol cyntaf ers Journey's End i beidio cynnwys "Time" yn y teitl.
- O ganlyniad i'r episôd yma, llwyddodd cyfnod y Trydydd ar Ddegfed Doctor para'n hirach nag arlywiaeth tair o Brif Gweinidogion y Deyrnas Unedig (Teresa May, Boris Johnson a Liz Truss), ac felly, hi yw'r Doctor cyntaf i para'n hirach na tair Prif Weinidog, yn trechu record Tom Baker o orfucheddu dwy Brif Weinidog (Harold Wilson a James Callaghan) a methu gorfucheddu trydydd (Margaret Thatcher) yn ystod ei gyfnod fel y Pedwerydd Doctor.
- Dyma'r episôd gyntaf i'w darlledu yn ystod teyrnas Brenin Charles III, ac felly'n golygu bod cyfnod y Tryddydd ar Ddegfed Doctor yw'r cyntaf i treulio trwy deyrnas dau fonarc, gyda Brenhines Elisabeth II yn marw ar 8 Medi 2022, dros mis cyn ddarllediad yr episôd yma.
- Dyma'r trydydd episôd i'w ddarlledu yn UHD, yn dilyn Revolution of the Daleks a Twice Upon a Time.
- Dychwelodd logo'r BBC i'r dilyniant agoriadol, yn dilyn absenoldeb ers Eve of the Daleks.
- Mae'r dilyniant agoriadol yn cynnwys ar ail achos o enwau dau actor yn ymddangos ar yr un pryd, yn yr achos yma Sophie Aldred a Janet Fielding. Digwyddodd yr achos gyntaf yn y ffilm teledu gyda John Novak a Michael David Simms.
- Mae'r stori yma'n dynodi'r ymddangosiad cyntaf ac unig o Ddaleks gyda braich â chwpan sugno yng nghyfnod teledu'r Trydydd ar Ddegfed Doctor n dilyn modelau'r Dalek Rhagarchwiliol, Drôn Amddiffynnol, Dalek Sgwad Dienyddol, Dalek Dienyddol, gan berchennodd pob un ohonynt ar grafangau rhyngweithiol, er welwyd model CGI o Dalek gyda chrafang.
- Tra ddangoswyd y tu mewn i arfwisg Dalek ar sgrîn ac i ffwrdd sawl gwaith, mae mwtant Dalek y Dalek bradwrol ar waelod yr adran ganol yn lle'r lleoliad arferol o fewn adran y gwddf fel welwyd yn The Five Doctors, Resurrection of the Daleks, Dalek, The Parting of the Ways, Dalek in Manhattan, a The Stolen Earth / Journey's End.
- Mae'r mwtant ei hun yn edrych fel un y Dalek Archwiliol a'r fyddin glôn wrth Resolution a Revolution of the Daleks yn eu tro, yn lle'r ffurf mwtant gyflwynwyd yn Dalek yn y Metaltron.
- Heb esboniad, mae pelydrau lasers ddryllfraich y Daleks yn newid rhwng y lliwiau oren a glas.
- Mae'r Meistr yn gyfeirio at ei gynllun fel "the Master's Dalek Plan". Cyfeiriad at deitl y stori 1965, The Daleks' Master Plan yw hon. Yn flaenorol, defnyddiwyd y teitl ar gyfer y stori sain Big Finish Productions a gynhwysodd Meistr Rhyfel Derek Jacobi, The Master's Dalek Plan.
- Gwahoddwyd Tom Baker i gymryd rhan yn yr episôd fel rhan o Warchodwyr y Ffin, ond nid oedd ef ar gael. Esboniodd Chris Chibnall, "We asked Tom, but sadly he could not do it. He was not available. Such a shame."
- Yn wreiddiol, cymerodd Gwarchodwyr y Ffin ffurf y Degfed, Unarddegfed a Deuddegfed Doctor, gyda chameos wrth David Tennant, Matt Smith a Peter Capaldi. Ond, nid oedd Chris Chibnall eisiau "camu ar unrywbeth a fyddai'n digwydd yn y dyfodol" ac felly fe ddewisodd bortreadu'r Doctorau Clasurol yn lle, "it was as much a celebration of the past as of the future" a "they felt like the right ones."
- Cafodd y gân Rasputin gan Boney M ei chwarae yn ystod yr olygfa lle mae'r Meistr, yn cuddio fel Rasputin, yn dawnsio. Nid yr achos cyntaf o'r Meistr yn dawnsio yw hon: yn flaenorol, fe ddawnsiodd i Voodoo Child gan Rogue Traders yn The Sound of Drums ac I Can't Decide gan The Scissor Sisters yn Last of the Time Lords.
- Byrfyfyriodd Sacha Dhawan ddawns y Meistr yn ystod golygfa cân Rasputin, gan nodi roedd ganddo ond "un neu ddau gyfle" ar gyfer yr olygfa ac "nad oedd gennym ni llawer o amser i saethi'r olygfa."
- Gwahoddwyd Anneke Wills i ddychwelyd fel Polly Wright yn rhan o'r Grŵp Cymorth Cymdeithion, ond nad oedd hi ar gael, gan nodi "I heard it was quite brief so I'm glad I stayed and did my brambles instead."
- Dyma ymddangosiad cyntaf William Russell fel Ian Chesterton ers 1965 yn The Chase; yn flaenorol, fe ymddangosodd fel Ian Chesterton: An Introduction yn 1999. Gyda'i bresenoldeb yn yr episôd yma daeth Russell, 96 oed pan recordiwyd yr episôd, yr actor hynaf i weithio ar y Doctor Who newydd. Cyn Russell, y berson hynaf oedd Ysanne Churchman, yn 92 oed am ei hymddangosiad fel Alpha Centuri yn Empress of Mars.
- Yn ychwanegol, gyda'i ymddangosiad yn yr episôd yma, torrodd Russell y Record Byd Guinness ar gyfer y bwlch hiraf rhwng ymddangosiadau teledu am ur yn cymeriad gan yr un actor; gyda GWR yn cadarnhau: "The longest gap between TV appearances is 57 years 120 days, and was achieved by William Russell (UK) as the Doctor Who character Ian Chesterton in The Power of the Doctor episode, which aired on 23rd October 2022." Yn flaenorol, roedd gan actores Philip Lowrei wrth Coronation Street y record trwy Dennis Tanner dros 43 blynedd.
- Mae llinellau olaf y Trydydd ar Ddegfed Doctor yn cynnwys y geiriau "blossomiest blossom", yn adlewyrchu'r ymadrodd "blossomiest blossom" wrth gyfweliad 1994 gyda Dennis Potter, a "daisiest daisy", wrth y Trydydd Doctor yn ei araith am yr Ermidwr yn The Time Monster.
- David Tennant yw'r actor cyntaf i bortreadu dau ymgorfforiad rhifedig y Doctor mewn stori Doctor Who, gan eithrio llenwi rôl yr actor yn chwarae'r ymgorfforiad newydd, megis Sylvester McCoy'n chwarae'r Chweched Doctor yn ystod ei adfywiad yn Time and the Rani yn ychwanegol i'w rôl fel y Seithfed Doctor, Paul McGann yn actio fel dwbl ar gyfer Doctor Rhyfel John Hurt yn agoriadau cau The Night of the Doctor yn dilyn ei adfywiad, Tom Baker a Colin Baker yn portreadu'r Curadur ynghyd eu hymgorfforiadau gwreiddiol, a Richard E Grant yn chwarae'r Degfed Doctor yn The Curse of Fatal Death a'r Nawfed Doctor yn Scream of the Shalka.
- Gan mae'n chwarae ymgorfforiad newydd yn lle dychwelyd fel y Degfed Doctor, mae David Tennant yn derbyn credyd cyflwynol am yr ail waith ers The Parting of the Ways.
- Ar 24 Awst 2023, derbyniodd y dilyniant adfywio y gwobr "TV Moment of the Year" yn yr Edinburgh TV Festival.
- Mae'r credydau cau wedi'u newid i rwpiau yn lle sgrolio. Cafodd y fformat ei ddefnyddio'n olaf yn Revolution of the Daleks. Yn ychwanegol, newidwyd enwau'r cymeriadau a swyddi'r criw i ysgrifau bras, gwelwyd olaf am The Woman Who Fell to Earth.
- Mae credyd Mel yn darllen "Melanie Bush", yn dynodi'r tro cyntaf mae ei chyfenw yn cael ei defnyddio ar deledu, gan gael ei sefydlu yn storïau prôs a sain yn unig yn flaenorol. Yn yr un modd, mae Jo yn derbyn y credyd "Jo Jones", y tro cyntaf mae'n cael ei chyfeirio ati mewn credydau Doctor Who, yn dilyn ei credyd cyntaf yn y modd hwnnw yn stori The Sarah Jane Adventures, Death of the Doctor.
- Yn ddiolch i'r stori yma, mae pob un o actorau'r Doctorau o'r gyfres clasurol sydd dal i fyw wedi cael ymddangosiad yn y gyfres newydd.
- Mae'r stori yma'n cynnwys y nifer mwyaf o actorion y Doctor mewn episod unigol, sef wyth. Mae'r rhif yn esgyn i naw os gyfrir bortread Sacha Dhawan o'r Meistr yng nghorff y Doctor.
- Yn swyddogol, dyma ymddangosiad cyntaf Paul McGann mewn cynhyrchiad teledu parhaol Doctor Who - roedd ei ymddangosiad cyntaf fel yr Wythfed Doctor mewn ffilm ar gyfer teledu, tra episȏd-mini oedd The Night of the Doctor. Heb gyfri ffilm archif a gafodd eu defnyddio mewn episodau megis The Next Doctor a The Eleventh Hour, nid oedd McGann wedi ymddangos mewn episôd o'r gyfres llawn.
- Dyma'r stori olaf cyfansoddodd Segun Akinola, a ddechreuodd cyfansoddi ar gyfer y sioe gyda The Woman Who Fell to Earth yn 2018, yn dilyn ymadawiad Murray Gold wrth y sioe gyda Twice Upon a Time yn 2017 ar ôl 12 blynedd. Dychwelodd Gold am yr episôd arbennig nesaf.
- O achos cytundeb trwyddedau rhwng y BBC a Disney er mwyn cael storïau Doctor Who'r dyfodol i ffrydio ar Disney+, dyma'r episôd olaf a ddarlledodd ar BBC America.
- Yn Doctor Who Magazine #584, datgelodd Russell T Davies roedd ef yn "very certain that [he] didn't want David to appear in Jodie's costume," gan esbonio ei rheswm am newid dillad y Doctor yn ystod yr adfywiad oedd i osgoi'r stereoteip "notion of men dressing in "women's clothes", the notion of drag." gan ddisgrifio'r pwnc fel "very delicate", yn mynegu "it has to be done with immense thought and respect" a rhesymu byddai'r cyfryngau yn gwneud dillad y Trydydd ar Ddegfed Doctor edrych fel bod David Tennant yn dynwared y diwylliant oherwydd mae'n dalach na Jodie Whittaker.
- Ffilmiwyd hanner Jodie Whittaker o'r adfywiad yn Roath Lock Studios ar 13 Hydref 2021, wedi'i olygu gan Rebecca Trotman. Ffilmiwyd hanner David Tennant fel y Pedwerydd ar Ddegfed Doctor ar wahân yn Wolf Studios yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2022, wedi'i gyfarwyddo gan Rachel Talalay, a wedi'i olygu gan Adam Green a wedi'i gyd-ysgrifennu gan David Tennant a Russell T Davies.
- Sgriptiodd David Tennant y linell "I know these teeth" yn yr olygfa ei hun.
- Ar gyfer Red Nose Day ar 17 Mawrth 2023, ymddangosodd Tennant fel y Pedwerydd ar Ddegfed Doctor mewn sgets Comic Relief. Mae'r sgets yn dynwared yr olygfa adfywiol trwy Lenny Henry yn paratoi ar gyfer cyflwyno'r sioe-fyw, cyn dweud ei fod yn teimlo'n sâl ac yna adfywio i mewn i Tennant.
- Yn ôl Chris Chibnall ar y sylwebaeth DVD a Blu-ray, daeth y syniad ddaeth Tegan ac Ace yn ffrindiau wrth Janet Fielding a Sophie Aldred.
- Ymddangosodd David Tennant a David Bradley yn Broadchurch gan Chris Chibnall yn flaenorol, ynghyd Jodie Whittaker hefyd.
- Ymddangosodd y ddau hefyd yn Blackpool a Harry Potter and the Goblet of Fire.
- Tra roedd ymglymiad Tennant gyda'r episodau 60fed penblwydd yn hysbys cyn darllediad y stori yma, ni chadarnhawyd nes ddiwedd y stori yma fyddai Tennant yn dychwelyd fel ymgorfforiad gwahanol i'r Degfed Doctor, gyda Russell T Davies yn cadarnhau taw'r Pedwerydd ar Ddegfed Doctor oedd hwn; serch hynny, llydaenodd straeon a chwestiynnau dros ddychweliad Tennant, yn enwedig am os taw'r Doctor nesaf oedd ef, ar lein am fisoedd cyn ddarllediad The Power of the Doctor.
- Detholwyd yr episôd yma fel hoff stori Trydydd ar Ddegfed Doctor ddarllenwyr Doctor Who Magazine am eu pôl 60fed pen blwydd 2023.
- Yn ogystal â fod yr achos gyntaf o'r Doctor yn adfywio y tu allan i'r TARDIS mewn episôd teledu yn dilyn dychweliad Doctor Who yn 2005, dyma'r pumed achos yn gyfan gwbl, a'r ail lle nad oes unryw cymorth allanol gan y Doctor.
- Datgelodd Sophie Aldred mewn seswin cwestiwn ac ateb roedd William Hartnell yn dioddef o ddementia ar y pryd ac felly roedd wedi'u ddrysu, o ganlyniad, treuliodd John Bishop y dydd yn edrych ar ei ôl.
Cyferbyniadau gyda'r cyfryngau ehangach[]
- Mae'r stori yn cyfeirio at amgylchiadau ymadawiad Ace o gwmni'r Seithfed Doctor, digwyddiad na welwyd ar sgrîn, ond cafodd ei darlunio'n diweddarach yn y nofel At Childhood's End, wedi cael ei ysgrifennu gan Sophie Aldred ei hun. Er, mae The Power of the Doctor yn cyferbynnu gyda At Childhood's End trwy gael Ace i gwrdd â'r Trydydd ar Ddegfed Doctor, Yasmin Khan, a Graham O'Brien am y tro cyntaf, serch mae At Childhood's End yn sefydlu bod gan linell amser Ace sawl dyfodol posibl.
- Mae honiad Tegan o beidio gweld y Doctor ers 1984 yn cyferbynnu gyda stori sain Big Finish, The Gathering, lle mae'r Doctor yn ymweld hi yn 2006 am ei 46fed penblwydd. Mae hefyd yn cyferbynnu'r dyddiad rhowd yn y stori sydyn Fixing a Hole, sydd yn dynodi cafodd hi antur gyda'r Chweched Doctor ar 23 Chwefror 1985, fel gwelwyd yn A Fix with Sontarans.
- Dywedodd Clyde Langer yn Farewell, Sarah Jane roedd Tegan a Nyssa yn gariadon. Yma, mae Tegan yn cyfeirio at gael ddau cyn-ŵr, ond ni chyfeiriodd at Nyssa o gwbl.
- Pan gwrddodd y Trydydd ar Ddegfed Doctor â'r Dalek gwrthryfelol y tu mewn i'r TARDIS, honodd y Doctor na chwrddodd hi â Dalek fyddai'n troi yn erbyn eu hil erioed o'r blaen, ac felly mae'n ebychu: "Well, this is new." Serch hynny, cwrdodd hi â Rusty yn ei hymgorfforiad blaenorol yn Into the Dalek a Twice Upon a Time.
- Mae Ace yn honni taw'r tro olaf gwelodd hi'r Meistr, roedd e'n "hanner-cath", gan gyfeirio at Survival, ond felly'n anwybyddu'r stori Virgin New Adventures, First Frontier, y stori sain Big Finish, Dust Breeding, a'r stori Titan Comics, Crossing the Rubicon.
- Mae modd anwybyddu The Light at the End gan mae wedi'i gosod mewn llinell amser eiledol, ac felly newidodd côf Ace o'i phrofiadau a chwrdd y Meistr. Yn ychwanegol mae'n tebygol gosodwyd y stori cyn Survival wrth berspectif y Seithfed Doctor ac Ace, gan honodd Ace nad oedd hi'n ymwybodol o bwy oedd y Meistr.
Manylion o'r rhyddhad sgript[]
- Mae gan ddilyniant cyn-gredydau y trên bwled sawl newidiad:
- Mynedodd y CyberMeistrau trwy'r cerbyd anghywir, oherwydd newidodd Marsial Trên Halaz trefn y cerbydau.
- Ar y trên, mae Dan a Yaz yn atgoffa'r Doctor anghofiodd hi i ddweud wrthynt y cynllun.
- Pan fwrwyd helmed Dan, cafodd ei wyneb ei sugno tuag at y twll, gyda'i trwyn yn llenwi'r twll.
- Roedd araeth ymadael Dan yn hollol wahanol, gyda'r Doctor yn ymateb hefyd.
- Yn ystod ei gyfarfyddiad cyntaf gyda'r Doctor, datgelodd y Dalek bradwrol mwy am ei gefndir, megis cydnabod ei hun fel peiriannydd ymladd biolegol safonol gyda briff i dyfeisio strategaethau er mwyn gwella ynrhyw trechiad dros Dalek mewn brwydr. Canlyniad ei waith oedd i greu côd genynnol a fyddai'n actifadu i hunan-ddienyddu'r creadur Dalek mewn achos oedd yn bygwth goruchafiaeth y Daleks mewn brwydr, a fyddai'n achosi ei arfwysgiau i llifogu gydag ymbelydredd gwenwynnig cyn ffrwydro, gan anafu pob elyn o'i gwmpas mewn radiws eang.
- Er mwyn dechrau'r gân Rasputin, roedd gan yr olygfa gwreiddiol y CyberMeistrau yn actifadu paneli ar eu breichiau tra ddefnyddiodd y Meistr iPod i chwarae cerddoriaeth yn lle'r GCC.
- Yn gwreiddiol, roedd tair planed yn rhyfela yn lle'r dau a gwelir y dinistriaeth o safbwynt y blanedau eu hun.
- Gwelwyd Gwarchod yr Wythfed Doctor fel ffigwr ar wahân yn lle rhan o'r un ffigwr fel yn y fersiwn terfynnol.
- Yn gwreiddiol, roedd y Meistr wedi cyrraedd coedwig Tunguska yn Rwssia ar 30 Mehefin 1908.
- Roedd anafau Tegan yn mwy difrifol yn y sgript yn dilyn ei chwymp, gyda anaf i'w phigwrn a'i harddwrn yn lle'r limp oedd ganddi hi yn y fersiwn terfynnol.
- Yn ystod golygfa'r Grŵp Cymorth Cymdeithion, cynnigwyd taw ar sgrîn y gluniadur byddai Martha Jones, Ryan Sinclair, neu rhywsut, Jackie Tyler.
- Roedd golygfa olaf y Drydydd ar Ddegfed Doctor yn wahanol, gyda hi'n eistedd yn lle sefyll, a roedd ei llinellau olaf wedi'u cyfnewid. Ei llinell olaf oedd "I bet it's going to be brilliant", yn adlewyrchu ei llinell cyntaf yn Twice Upon a Time.
- Achos ni wybodd Chris Chibnall dim am ddyfodol Doctor Who wrth ysgrifennu'r episôd, cadwyd yr adfywiad fel diwedd agored, gyda golwg olaf yr episôd o'r Doctor yn nghangol eu hadfywiad.
Cyfartaleddau gwylio[]
- BBC One dros nos: 3.71 miliwn[4]
- Adfywiad: 4.04 miliwn[4]
- Cyfartaledd DU terfynol: 5.30 miliwn[5][6]
Cysylltiadau[]
- Mae Dan yn paratoi ar gyfer dêt arall gyda Diane, (TV: The Halloween Apocalypse) yn dilyn ailddechrau cysylltu ar ôl ei antur gyda Madam Ching. (TV: Legend of the Sea Devils)
- Gwelodd Tegan y Ddoctor "tri deg wyth mlynedd yn ôl" yn 1984. (TV: Resurrection of the Daleks)
- Nid yw tŷ Dan wedi gwella eto yn dilyn cael ei crebachu gan Karvanista. (TV: The Halloween Apocalypse)
- Mae'r Dalek bradwrol yn nodi adeiladwyd arfwisg Dalek yn gwreiddiol er mwyn sicrhau goroesiad yr hil Kaled cyn newidwyd eu bwriad ar gyfer oresgyniad yn dilyn dienyddiad y Kaleds. (TV: Genesis of the Daleks)
- Mae Alexandra yn sylwadu bod haemoffilia ei mab, Alexei, wedi gwaethygu ers gyrrhaeddodd yr "ail lleuad" yn yr awyr. Meddyliodd y Degfed Doctor a Rose Tyler datblygodd Fictoria haemoffilia, efallai fel ffurf o lycanthropi, yn dilyn cael ei chnoi gan yr Haemofariffurf Tonfedd Bleiddgar. Alexei yw un o'i heisillydd. (TV: Tooth and Claw)
- Mae'r Doctor yn cofio'r Meistr yn creu'r CyberMeistrau ar Aliffrei. (TV: The Timeless Children)
- Mae Kate yn ailadeiladu UNIT yn dilyn trechu'r Grand Serpent, (TV: The Vanquishers) gan fe ddinistriodd yr organeiddiad fel rhan o'i gytundeb gyda'r Sontarans yn ystod y Flux. (TV: Survivors of the Flux)
- Mae'r Doctor yn gofyn i'r Meistr sut lwyddodd ef ddianc wrth Aliffrei, (TV: The Timeless Children) gyda fe'n nodi fe "drechodd" y lle. (TV: Spyfall)
- Mae dal gan y Meistr y Cyberium y tu fewn iddo. (TV: The Timeless Children)
- Mae'r Meistr yn gwawdio Tegan trwy gyfeirio at ei Modryb Vanessa, achos cafodd hi ei lladd gan y Meistr Tremas y tro cyntaf iddyn nhw cwrdd. (TV: Logopolis) tra cofiodd Ace roedd y Meistr yn "hanner-cath" y tro olaf cwrddon nhw. (TV: Survival)
- Mae'r Meistr yn nodi fe laddodd Ashad. (TV: The Timeless Children)
- Mae Ace yn cofio gwendid y Cybermen i aur, (TV: Silver Nemesis) ac mae gan UNIT drulliau gyda bwledi aur, (TV: Battlefield) ond mae Ashad yn datgelu bod y Cybermen eisioes wedi goroesi'r gwendid yma. (TV: Nightmare in Silver)
- Mae gan Yaz post-it notes ar sut i hedfan y TARDIS, (TV: Revolution of the Daleks) gydag un yn cyfeirio at egni Huon. (TV: The Runaway Bride)
- Gweithiodd y Meistr gyda'r Daleks a'r Cybermen o'r blaen, ond cafodd ei trechu gan Romana II. (PRÔS: Special Occasions: 1. The Not-So-Sinister Sponge)
- Dywedodd y Meistr ei fod wedi "gwisgo am yr achos" yn dilyn dwyn corff y Doctor. (TV: Doctor Who)
- Mae'r Meistr yn ymwybodol o orfodiad yr Arglwyddi Amser o achosi adfywiad yr Ail Ddoctor, (TV: The War Games; COMIG: The Night Walkers) ac mae'n tybio os ddigwyddodd yr un peth i'r Plentyn Di-amser. (TV: The Timeless Children)
- Mae Vinder yn defnyddiodd y dyfeis cyfathrebu rhoddodd y Trydydd ar Ddegfed Doctor iddo. (TV: Once, Upon Time)
- Ceisiodd y Meistr dwyn corff y Doctor o'r blaen. (TV: The Keeper of Traken, Doctor Who)
- Mae'r Meistr yn dweud, "I would hate to bring you down to size", i Yaz wrth iddo mynedu'r TARDIS yng nghorff y Doctor, yn debyg i beth roedd ef eisiau dweud pan fe laddodd Ashad gyda'r Gwaredwr Cywasgiad Cnodwe. (TV: The Timeless Children)
- Yn dilyn ei hadfywiad gorfodol, mae'r Doctor yn gweld ei hymgorfforiadau blaenorol fel Gwarchodwyr y Ffîn yn ei hymenydd, yn union fel gwelodd yr Wythfed Doctor rithiau o'i dri rhagflaenydd o fewn ei ymenydd ar ôl i Charley Pollard ei drywanu gyda chleddyf gwrth-amser gan bron achosi iddo i adfywio. (SAIN: Zagreus)
- Mae'r Doctor yn defnyddio'r Holo-Doctor ddefnyddiodd y Seithfed Doctor i Bernice Summerfield. (PRÔS: Infinite Requiem)
- Mae Tegan yn cyfaddef i'r Pumed Doctor bod gweld y Cybermen yn ei hatgoffa o Adric. (TV: Earthshock)
- Mae dal gan Graham ei bapur seicig. (TV: Revolution of the Daleks)
- Mae Ace yn cofio brwydro Daleks yn 1963. (TV: Remembrance of the Daleks)
- Mae Yaz yn adnabod y Doctor Foadurol fel Ruth Clayton, arweinydd teithiau cerdded yn Nghaerloyw. (TV: Fugitive of the Judoon)
- Mae'r Holo-Doctor yn galw'r Meistr yn "disgybl afiach", a gytunodd gyda'r Seithfed Doctor yn cofio cael graddau gwell na fe yn ysgol, (PRÔS: Survival) a sylwadau'r Wythfed Doctor ar sgiliau academaidd y Meistr. (SAIN: Masterplan)
- Mae cynllun Ace o ddallu Dalek Efydd cyn i Graham ddefnyddio un o'i ffrwydrau Nitro-9 yn adlewyrchu dull tebyg defnyddiodd y Chweched Doctor a Peri Brown yn Tranquil Repose ar Necros. (TV: Revelation of the Daleks)
- Mae'r ffordd mae'r Doctor yn rhoi Yaz, Ace, Tegan, Kate, Vinder a Graham i weithio sawl teclun o amglych gonsol y TARDIS er mwyn helpu achub y dydd yn adlewyrchu'r ffordd gyfarwyddodd y Degfed Doctor Blant Amser ar sut i reoli rhan o'r TARDIS er mwyn tywys y Ddaear nôl i'r lleoliad dylai fod. (TV: Journey's End)
- Mae Yaz yn nodi ceisiodd hi tywys pawb gartref, ond llwyddodd hi eu gadael yng Nghroydon yn unig yn lle. Wrth geisio ddychwelyd Sarah Jane Smith cartref, gadawyd hi yn Aberdeen yn lle Croydon gan y Pedwerydd Doctor. (TV: The Hand of Fear) Yn dilyn ddysgu am ei gamgymeriad, gofynodd y Degfed Doctor os oedd y ddau lleoliad yn agos. (TV: School Reunion)
- Mae'r Cloch Cloyster unwaith eto'n canu am ddechrau adfywiad y Doctor. (TV: Twice Upon a Time)
- Mae Graham yn trefnu cyfarfod grŵp cymorth cymdeithion ar gyfer rhai o hen gymdeithion y Doctor, yn union fel wnaeth Alice Obiefune ar un tro. (COMIG: The Meeting)
- Mae'r Doctor yn sylwi ar y "blossomiest blossom", yn union i gofion y Trydydd Doctor o'r "daisiest daisy". (TV: The Time Monster)
- Mae dillad y Doctor yn newid wrth iddynt adfywio am y tro cyntaf ers i'r Ail Ddoctor ymddangos wrth adfywiad y Doctor Cyntaf. (TV: The Power of the Daleks)
- Mae tynged y Curadur i'r Unarddegfed Doctor o ddychwelyd i hen wynebau yn y dyfodol yn dod yn wir pan mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn adfywio i mewn i ymgorfforiad sydd yn edrych yn debyg i fersiwn hŷn o'r Degfed Doctor. (TV: The Day of the Doctor)
- Mae'r Pedwerydd ar Ddegfed Doctor yn nodi ei ddanedd cyfarwydd, (TV: The Parting of the Ways) cyn ailadrodd y gair "beth" tair gwaith. (TV: Doomsday, The Shakespeare Code, The Last of the Time Lords, Time Crash, Music of the Spheres)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd The Power of the Doctor ar DVD a Blu-ray ar 7 Tachwedd 2022.
- Rhyddhawyd yr episôd gyda gweddill episodau arbennig cyfres 13 ar Steelbook ar 7 Tachwedd 2022.
Troednodau[]
- ↑ https://www.radiotimes.com/tv/sci-fi/doctor-who-william-russell-ian-chesterton-return-newsupdate/
- ↑ https://www.bristolpost.co.uk/news/celebs-tv/latest-doctor-who-episode-starred-7744832
- ↑ https://www.radiotimes.com/tv/sci-fi/doctor-who-2022-specials-chris-chibnall-newsupdate/
- ↑ 4.0 4.1 https://www.doctorwhonews.net/2022/10/the_power_of_the_doctor_overnight_viewing_figures.html
- ↑ Doctor Who Guide
- ↑ Barb
|
|