Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Rescue oedd trydydd stori'r hen ail gyfres Doctor Who. Ail episôd y stori, "Desperate Measures", oedd yr episôd cyntaf yn hanes Doctor Who i mynd i mewn i siart y deg rhaglen ag wyliwyd fwyaf yr wythnos hwnnw - rhywbeth na fyddai'n digwydd yn aml nes y gyfres newydd gan BBC Cymru. Mae'r episôd yn parhau i fod yn un o'r episodau a siartodd yn uchelach mewn hanes y rhaglen, gan gynnwys episodau'r gyfres newydd.

Hon oedd y stori gyntaf mewn bloc cynhyrchiad newydd Doctor Who, gyda'r bloc cynhyrchu cyntaf yn treulio 52 wythnos wrth ffrilmio un episôd yr wythnos. Er, cafodd dwy stori olaf y bloc, Planet of Giants a The Dalek Invasion of Earth, eu gohirio i'r ail gyfres, gyda'r gyfres gyntaf yn gorffen yn gynharach. O ganlyniad, roedd egwyl o chwech wythnos i'r cast rheolaidd nes ddechreuodd gwaith ar The Rescue.

Yn ychwanegol, hon oedd y stori gyntaf gyda Dennis Spooner fel golygydd sgript, er ni credydwyd achos doedd e braidd wedi gweithio ar y stori gan roedd ei ragflaenydd, David Whitaker wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

Yn arbennig i The Rescue, hon yw'r stori gyntaf i ddangos y Doctor yn cyrraedd planed, ar wahan i'r Ddaear, ac honni ei fod wedi ymweld â'r blaned yn gynharach.

Crynodeb[]

Mae'r Doctor, Ian a Barbara yn cyrraedd y blaned Dido. Yna, maent yn dod o hyd i long ofod sydd wedi cael damwain. Mae unig oroeswyr y llong wedi'u brawychu gan Koquillion. Ond pwy yw Koquillion?

Plot[]

The Powerful Enemy (1)[]

I'w hychwanegu.

Desperate Measures (2)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Pobl Dido:[2]
    • John Stuart
    • Colin Hughes
  • Bwystfil y Tywod:[2]
    • Tom Sheridan

Criw[]

  • Awdur - David Whitaker
  • Cerddoriaeth thema - Ron Grainer gyda'r BBC Radiophonic Workshop
  • Cerddoriaeth achlysurol - Tristam Cary
  • Dylunydd - Raymond P. Cusick
  • Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwr - Christopher Barry
  • Gwisgoedd goruchwyliwyd gan Daphne Dee
  • Colur goruchwyliwyd gan Sonia Markham

Criw di-glod[]

  • Trefniant thema - Delia Derbyshire
  • Golygydd sgript - Dennis Spooner[3]
  • Rheolwr llawr cynorthwyol - Valerie Wilkins[3]
  • Dyn camera - Dick Bush[3]
  • Golygydd ffilm - Jim Latham[3]
  • Cynorthwyydd cynhyrchu - David Maloney[3]
  • Sain arbennig - Brian Hodgson[3]
  • Golau stiwdio - Howard King[3]
  • Sain stiwdio - Richard Chubb[3]

Cyfeiriadau[]

Planedau[]

  • Gadawodd Vicki'r Ddaear i fynd i'r blaned Astra yn 2493.

Rhywogaethau[]

  • Dywedodd Ian byddai well ganddo wynebu Daleks na Koquillion pob dydd.

TARDIS[]

  • Mae'r Doctor yn hyfforddi Barbara i ddefnyddio Switsh Rhif 4 i agor y drysau.

Nodiadau[]

  • Gofynnodd y Doctor i Vicki iddi dod gyda fe, o ganlyniad, hi yw'r cydymaith cyntaf mae'n eglur bod y Doctor wedi gwahodd i deithio yn y TARDIS. Byddai cael eu gwahodd i deithio gyda'r Doctor yn dod yn nodnod arwyddocaol yng nghymdeithion y Doctor.
  • Mae'r ddau episôd yn fodoli ar delerecordiau 16mm.
  • Adenillodd y BBC printiau ffilm negyddol am y ddau episôd yn 1978.
  • Mae gan gasglwyr breifat Telesnaps o'r stori hon.
  • Mae amryw o wahaniaethau rhwng y fersiwn darlledwyd, a drafft gweiddiol David Whittaker, enwyd Doctor Who and Tanni ar ôl un o enwau cynnar Vicki. Roedd Bennett yn gasach i Vicki. Yn enwedig, roedd gan Koquillion "torch" a ddefnyddiodd e i baralysu Ian er mwyn holi fe a Barbara pan cwrddon nhw yn yr episôd cyntaf. Fe hypnoteiddiodd Ian a Barbara er mwyn cael nhw i annog y Doctor allan o'r TARDIS, er roedd modd i'r Doctor eu gweld trwy sgrîn y TARDIS ac felly mae'n mynnu bod Koquillion yn rhyddhau'r athrawon. Mewn ysgarmes, mae trance Ian yn torri wrth iddo syrthio wrth ochr y TARDIS a thorrwyd un Barbara pan taflwyd hi i'r llawr. Hefyd, roedd dechrau'r episôd cyntaf yn cynnwys Ian yn rhannu i Barbara ei fod n pryderu am amser byddai'r Doctor yn eu gadael heb ddewis, yn debyg i Susan. Oherwydd clywodd y Doctor, fe ymetebodd byddai rhybudd os byddent ar fin gwahanu.
  • Roedd y cynhyrchwyr eisiau i Maureen O'Brien lliwio ei gwallt i ddu er mwyn ymdebygu Susan yn well. Gwrthodd Maureen, gan awgrymu i'r cynhyrchwyr cael Carole Ann Ford nôl yn lle.
  • Yn ystod cynhyrchiad y stori, ymwelodd Carole Ann Ford â'r set i gefnogi ei holynydd, Maureen O'Brien.
  • Gwelwyd Ian yn gwisgo tei llydan gyda gwaelod triongl. Mae hyn yn dynodi'r amser cyntaf nad yw'n gwisgo ei dei arwyddocaol; tei tenau gyda gwaelod sgwâr.
  • Roedd Christopher Barry eisiau castio Bernard Archard am rôl Bennett/Koquillion yn gwreiddiol, ond ni llwyddodd i'w gael. Byddai Barry hwyrach yn castio Archard yn The Power of the Daleks
  • Chwaraewyd Bennet gan Ray Barret fel "dyn arferol, o ddifri" er mwyn osgoi datgelu'r diwedd.
  • Adnabuwyd y stori yn gwreiddiol wrth yr enw Doctor Who and Tanni. Y bwriad gwreiddiol oedd i enw'r cydymaith newydd i fod yn Tanni, enwau eraill ystyriwyd oedd Valerie, Millie a Lukki. Roedd yr enw Tanni dal mewn defnydd pan ysgrifennwyd y stori dilynnol, The Romans. O ganlyniad, cafodd hyn ei rhoi i mewn i naratif Doctor Who: yn y nofel Byzantium!, mae Vicki yn datgelu bod ei mam wedi ystyried ei galw'n Tanni, cyn dewis Vicki.
  • Darparodd Tom Sheridan ei lais am y Capten Gofod a chwaraeodd Bwystfil y Tywod. Yn gwreiddiol, fe'i osodwyd i chwarae unn o'r Didoans ar ddiwedd y stori, er am resymau anhysbys, cafon nhw eu chwarae gan ddau actor ddi-glod, John Stuart a Colin Hughes.
  • Nid yw cyfenw Vicki yn cael ei ddatgelu at unryw bwynt yn y stori hon, na mewn unryw stori dilynnol. Mae hon yn rhoi Vicki mewn grŵp cyfyngedig o Polly, Mel ac Ace, cymdeithion daearol na ddatgelwyd eu cyfenwau ar sgrîn. Mae'r cyfryngau estynedig wedi rhoi'r cyfenw Pallister i Vicki.
  • Credydwyd actor Koquillion yn gwreiddiol fel Sydney Wilson (cyfuniad o enw cyntaf Sydney Newman a chyfenw Donald Wilson) er mwyn cadw elfen dirgel y stori. Mae hon yn dynodi'r tro cyntaf mae llysenw wedi'i ddefnyddio er mwyn osgoi ddatgelu syndod hwyrach yn y plot.
  • Seiliwyd dyluniad Koquillion ar agoslun o gleren.
  • Goleuwyd set enfawr y teml Didoan er mwyn creu awyrgylch arswydus; defnyddiwyd lleni tywyll a mwg hefyd.
  • Mae sain Bwystfil y Tywod wedi'i seilio ar y "sain erchyll" gwnaeth Dalek wrth farw yn The Daleks.
  • Er mwyn arbed arian, mae'r sgôr wedi'i hailgylchu wrth The Daleks. Gyda Christopher Barry yn barod wedi cyfarwyddio rhan o'r stori, fe ddefnyddiodd cerddorioaeth penododl wrth episodau un a phedwar nes saith o'r stori.
  • Mae Radio Times yn credydu Sydney Wilson fel "Koquillion" am y ddau episôd ac maent ond yn credydu Ray Barrett am "Bennett". Ar sgrîn, mae "The Powerful Enemy" yn credydu Ray Barrett am "Bennett" a Sydney Wilson am "Koquillion", tra mae "Desperate Measures" yn credydu Ray Barret am "Bennett & Koquillion".
  • Mae'r stori hon yn union rhagflaenu The Romans.
  • "Desparate Measure" oedd episôd erioed Doctor Who i gael rheng ar rhestr y 10 rhaglen gwyliwyd mwyaf yn y DU.
  • Yn 1973, enwyd y stori fel "The Powerful Enemy" gan argraffiad degfed penblwydd Radio Times, gan enwyd yr holl storïau cynnar wrth enw eu hepisôd cyntaf yn y cylchgrawn. Byddai rhai rhestrau hwyrach yn ailadrodd hyn, gan gynnwys ddarllediadau Americanaidd ar sianeli PBS.
  • Bu Jacqueline Hill yn dioddef anaf wrth danio'r drill fflêr at anifail anwes Vicki. Digwyddodd hon achos ffrwydrodd y ffrwydriad ar y prop yn gryfach nag oedd wedi'i ddisgwyl.
  • "The Rescue" yw hefyd enw seithfed episôd The Daleks.
  • Mae Tom Sheridan, a chwaraeodd y Capten Gofod a glywir ond ni welir, hefyd tu mewn i wisg Sandy. (DWM 325)
  • Mae "The Powerful Enemy" yn dangos defnydd cyntaf o sain yn cael ei rhoi wrth i'r TARDIS materoli. Yn gynharach, roedd golygfeydd allanol yn awgrymu bod y TARDIS yn ymddangos heb sain mewn lleoliad newydd. Er fyddai'r sain - gyda'r "cnoc" olaf - yn parhau i newid nes The Three Doctors, hyn byddai dechrau cydran hanfodol i'r TARDIS; mae modd i bobl y tu allan i'r TARDIS clywed e'n gadael a dychwelyd. Heb y newyddbeth hon, ni fyddai dechreuad The Christmas Invasion, er enghraifft, yn bosib - gyda Jackie a Mickey yn ymateb i sain y TARDIS yn unig.
  • Dydy ymddangosiad y ddau Didoan ar ddechrau "Desperate Measures" erioed wedi cael esbioniad.
  • Gwelodd Christopher Barry Ray Barrett ar deledu gan nodi ei enw o achos ei wyneb flêr.
  • Dyluniwyd fodeli'r llong ofod - wrth hedfan ac ar ôl difetha - gan Raymond Cusick a chreuodd Shawcraft Models y modeli mewn deg dydd. Roedd Cusick wedi dod o hyd i ddeunydd rhad,, a gafodd ei liwio'n arian i ddefnyddio fel y tu allan i'r llong.
  • Roedd awyrgylch y cast yn siriol, gan gynnwys cael picnic yn ystafell gwisgo William Hartnell, wnaeth y cast diffodd y golau a gadael y stiwdio ar ôl i Ray Barrett syrthio i gysgu er mwyn ei dricio i feddwl fod e wedi cysgu trwy'r nôs.

Cyfartaledd gwylio[]

  • The Powerful Enemy - 12.0 miliwn
  • Desperate Measures - 13.0 miliwn

Chwedlau[]

  • Adnabwyd pobl Dido fel "Didonians". (Does dim unrhyw tystiolaeth yn yr episôd i gefnogi hyn. Mae'r Doctor yn eu galw'n "Pobl Dido" yn unig.)
  • Mae Vicki o'r planed Dido. (Mae'r stori hon yn amlygu taw'r Ddaear yw ei chartref.)
  • Yn gwreiddiol, stori pedwar rhan oedd hyn. (Mae'r sgriptiau cyntaf yn dau ran.)
  • Mae'r stori hon yn bodoli'n unig er mwyn cyflwyno Vicki. (Yn wir ac yn ffug, rhodd y stori i mewn i'r amserlen er mwyn cyflwyno Vicki, ond roedd David Whitaker eisiau ysgrifennu stori gyda estronwr a, mewn gwirionedd, oedd llofrudd, ac yn cynnwys llong ofod wedi'i crashio a oedd yn aros am arbediad.)

Gwallau cynhyrchu[]

  • Yn "Desparate Measures", mae modd gweld gweithiwr llwyfan tu ôl i anifail anwes Vicki.
  • Pan mae Barbara yn saethu anifail anwes Vicki, mae tân gwyllt i'w weld yn cwympo wrth ochr y drill.
  • Yn ystod "The Powerful Enemy", mae un o ffenestri ar flaen y TARDIS yn cwympo nôl ac, o ganlyniad, mae'n pwyso nôl am weddill y stori.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r grŵp yn crybwyll ymadawiad Susan (TV: The Dalek Invasion of Earth). Ar un adeg, mae'r Doctor yn galw am Susan ar ddamwaith, gan anghofio bod hi wedi gadel. Hyn yw'r tro cyntaf, ond nid y tro olaf byddai'r Doctor yn galw am hen gydymaith ar ddamwain. (TV: Castrovalva, Heaven Sent)
  • Mae'r Doctor, Ian a Barbara yn siarad am eu cyfarfyddiad cyntaf. (TV: An Unearthly Child)
  • Mae'r criw yn trafod am eu problemau gydag ogofâu. (TV: An Unearthly Child, The Daleks, Marco Polo, The Keys of Marinus)
  • Yn hwyrach, byddai Astra yn cael ei sôn am yn COMIG: The Amaryll Challenge, a fe ymddangosodd yn COMIG: President Offers Peace.
  • Yn ystod ei seithfed ymgorfforiad, dychwelodd y Doctor i Dido gyda'i gydymaith newydd, Melanie Bush. (SAIN: Maker of Demons)

Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori ar DVD ynghyd â The Romans ar 23 Chwefror 2009 (DU) ac ar 7 Gorffennaf 2009 (Gogledd America). Ar gyfer y rhyddhad, mae'r episodau wedi'u prosesu gan gyfrifiadur er mwyn ailgreu edrychiad tâp fideo gwreiddiol y cynhyrchiad. Hefyd, mae'r pennawd "Episôd Nesaf" wedi'i ailgreu ar gyfer "Desparate Measures".

Cynnwys:

  • Mounting the Rescue - hanes cynhyrchu
  • Oriel
  • Nodiadau cynhyrchu
  • Cynnwys PDF: dyluniau gwreiddiol Raymond Cusick, rhestrau Radio Times.
  • Sylwebaeth sain gyda actor William Russell (Ian Chesterton), cyfarwyddwr Christopher Barry, a dylunydd Raymond Cusick.
Am ychwanegion eraill y set DVD hon, gwelir The Romans.

Credydau'r cefn:

Rhyddhadau Blu-ray[]

Rhyddhadau digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i ffrydio ar BritBox yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori hon fel Doctor Who: The Rescue / The Romans ar Fedi 1994 (DU) a Mawrth 1996 (UDA). Tynnwyd y pennawd "Episôd Nesaf" a'r rhagarweiniad i The Romans wrth "Desparate Measures"

Troednodau[]

  1. Yn ôl y nofeleiddiad.
  2. 2.0 2.1 DWM 325
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 TCH 4