The Romans oedd pedwerydd stori'r hen ail gyfres Doctor Who. Dyma'r stori gyntaf i gael elfennau plot comedi ynghyd ag elfennau dramatig. Cafodd y stori ei ffilmio yn yr un bloc â The Rescue, gyda'r un tîm cynhyrchu yn gweithio ar y dau stori.
Gwelodd y stori yma'r defnydd cyntaf o ffilm stoc ar gyfer cliffhanger, yn yr achos yma, defnyddiwyd llew. Cafodd y trydydd episôd ei ddarlledu yr un dydd ag angladd Winston Churchill, ac o ganlyniad, gwyliodd llai o bobl yr episôd.
Erbyn hyn, roedd David Whitaker yn gweld storïau hanesyddol fel gwendid. Serch hynnny, cynlluniwyd The Romans fel un o dair stori hanesyddol, a fyddai yn dilyn Armada Sbaen a Rhyfel Cartref America. I bob olwg, Verity Lambert a berswadiodd ef ac awdur Dennis Spooner i sgriptio'r yma fel comedi. (CYF: About Time 1)
Dyma'r achos gyntaf i actor enwog gofyn i gael ei gynnwys yn Doctor Who. Yma, rhowd rôl Nero i Derek Francis.
Crynodeb[]
Yn glanio yn Rhufain yn 64, mae'r teithwyr yn cymryd gwyliau. Wrth fod Ian a Barbara yn hapus i ymlacio, mae'r Doctor a Vicki yn ceisio darganfod antur.
Ond, yn fuan mae antur yn dod o hyd i Ian a Barbara hefyd wrth maent yn cael eu herwgipio gan fasnachydd caethweision, ac mae dynwaredaeth y Doctor o Maximus Pettulian yn achosi iddo gael ei dywys i senedd Ymerawdwr Nero lle mae'n chwarae rôl pwysig yng nghwrs hanes...
Plot[]
The Slave Traders (1)[]
I'w hychwanegu.
All Roads Lead to Rome (2)[]
I'w hycheanegu.
Conspiracy (3)[]
I'w hychwanegu.
Inferno (4)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Vicki - Maureen O'Brien
- Sevcheria - Derek Sydney
- Didius - Nicholas Evans
- Canwriad - Dennis Edwards
- Masnachydd - Margot Thomas
- Prynwr caethweision - Edward Kelsey
- Maximus Pettulian - Bart Allison
- Ascaris - Barry Johnson
- Delos - Peter Diamond
- Tavius - Michael Peake
- Caethwas benywaidd - Dorothy-Rose Gribble
- Meistr y gegin - Gertan Klauber
- Dyn 1af yn y farchnad - Ernest Jennings
- 2il ddyn yn y farchnad - John Caesar
- Negeswas y senedd - Tony Lambden
- Nero - Derek Francis
- Tigilinus - Brian Proudfoot
- Poppaea - Kay Patrick
- Locusta - Anne Tirard
Cast di-glod[]
|
|
|
Criw[]
- Awdur - Dennis Spooner
- Cerddoriaeth - Ron Grainer gyda'r BBC Radiophonic Workshop
- Cerddoriaeth achlusurol - Raymond James
- Dylunydd - Raymond P Cusick
- Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Cyfarwyddwr - Christopher Barry
- Trefnydd Brwydrau - Peter Diamond
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Colur - Sonia Markham
- Goleuo - Howard King
- Sain - Richard Chubb
Criw di-glod[]
- Trefniant Thema - Delia Derbyshire
- Golygydd sgript - Dennis Spooner
- Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Valerie Wilkins
- Dyn camera ffilm - Dick Bush
- Golygydd ffilm - Jim Latham
- Cynorthwyydd cynhyrchu - David Maloney
- Sain arbennig - Brian Hodgson
Cyfeiriadau[]
- Mae Ian yn bwyta Grawnwyn.
- Unwaith dysgodd y Doctor i Llarpiwr Mynyddoedd Montana sut i reslo.
Nodiadau[]
- Dyma'r stori gyntaf i gynnwys elfennau comedi ynghyd â'r drama arferol.
- Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiad 16mm.
- Adenillodd y BBC printiau negyddol o bob episôd yn 1978.
- Mae telesnaps y stori yma mewn casgliadau preifat.
- Yn gwreiddiol, credydwyd byddai Richard Martin yn cyfarwyddo'r stori yma. Ond, roedd cytundeb a ddywedodd byddai The Rescue a The Romans yn defnyddio'r un tîm cynhyrchu, gan weithredu fel un stori chwe rhan arferol. O ganlyniad, aeth y swydd i Christopher Barry awnaeth hefyd cyfarwyddo The Rescue.
- Syniad gwreiddiol Dennis Spooner oedd i ddynwared y ffilm Quo Vadis, ond achosodd rhyddhad Carry On Cleo ar yr un pryd i Spooner dewis adeg y Tân Mawr yn lle.
- Cafodd cymeriadau Tigilinus a Sevcheria eu ehangu yn ystod ailddrafftio'r sgript.
- Yn y sgipt gwreiddiol, Servcheria a bwrodd Ian yn anymwybodol yn lle Barbara.
- Dyma'r stori olaf gweithiodd Mervyn Pinfield ar fel cynhyrchydd cynorthwyyol, ond byddai'n dychwelyd i'r gyfres yn The Space Museum.
- Mae'r stori yn dechrau gyda'r TARDIS wedi bod yn Rhufain am sbel - tua mis, fel mae'r deialog yn awgrymu.
- Mae The Rescue yn dilyn yn union i mewn i'r stori yma.
- Dyma'r ail stori olynol sydd yn gweld y Doctor cymryd rhan mewn olygfa ffisegol iawn. Mae brwydr y Doctor ag Ascaris yn adlewyrchu brwydrau tebyg yn cynnwys y Trydydd Doctor, megis y Doctor yn fflipio ei erbyniwr.
- Cafodd teitl pedwerydd episôd y stori yma - "Inferno" - ei defnyddio yn hwyrach ar gyfer teitl stori'r Trydydd Doctor, Inferno.
- Mae llinell y Doctor am Llarpiwr Mynyddoedd Montana yn byrfyfyriad gan William Hartnell.
- Roedd crëad cymeriad Tigilinus yn ychwanegiad hwyr i'r sgript. Yn gwreiddiol, achubwyd Nero gan y Doctor trwy fwrw cwpan Caesar ar ddamwain.
- Goergydiodd cyfarwyddwr Christopher Barry roedd gormodedd o gomedi yn y stori, gyda William Hartnell a Verity Lambert yn meddwl yr un peth, gyda Lambert yn honni nad oedd y gynulleidfa yn hoff o gomedi.
- Ysbrodolwyd Dennis Spooner i ysgrifennu'r stori oherwydd ar y pryd roedd ef yn byw ar bwys Jim Dale, actor a oedd yn serennu yn Carry On Cleo a fe aeth i rhai o ffilmio'r ffilm.
- Meddyliodd Dennis Spooner am actor arall ar gyfer Nero; ystyriodd Christopher Barry pobl fel Paul Whitsun-Jones, George A. Cooper, a Dick Emery.
- Roedd William Hartnell yn hoff o'r stori oherwydd rhodd y stori siawns iddo, gan ei hawlio i berfformio comedi; yn yr un modd roedd Rilliam Russell yn hoff o'r stori.
- Roedd Derek Francis yn ffrindiau â Jacqueline Hill a'i gŵr Alvin Rakoff; addwyd rôl iddo yn y gyfres ers ei dechreuad.
- Roedd Edward Kelsey, actor y prynwr caelthweision, yn hen ffrind i Christopher Barry gan dechreuodd y ddau i weithio yn niwydiant teledu ar yr un pryd.
- Defnyddiwyd model un-pumed ar gyfer y model yn cwympo, a model un-trydydd ar gyfer y TARDIS yn y gegin; Shawcraft Models creodd y propiau.
- Defnyddiwyd model hefyd gan Shawcraft ar gyfer Rhufain yn llosgu; rhuthrwyd adeilad y model, a nid oed Raymond Cusick yn hapus gyda uchder y tân.
- Roedd Kay Patrick yn anfodlon wrth fwrw Michael Peake gan nad oedd hi eisiau ei anafu, ond mynnodd Peake, gan ei hannog trwy ddweud i ddychmygu nad oedd y dau yn nabod ei gilydd.
- Cafodd William Russell cwt fach ar ei arddwrn wrth ymarfer frwydr.
- Collodd Jacqueline Hill ymarferion ar 6-7 Ionawr er mwyn ffilmio golygfeydd ar gyfer y stori nesaf, The Web Planet.
- Ymwelodd Miss M. Vetta, ymwelydd wrth Amsterdam, ag ymarfer camera yn rhan o hysbysiadau Ewropeaidd y sioe.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "The Slave Traders" - 13 miliwn
- "All Roads Lead to Rome" - 11.5 miliwn
- "Conspiracy" - 10 miliwn
- "Inferno" - 12 miliwn
Lleoliadau ffilmio[]
- Ealing Television Film Studio
Cysylltiadau[]
- Yn dilyn gadael Rhufain, teithiodd y Doctor a'i gymdeithion i Lundain yn y 20fed ganrif. Ni ystyriodd Vicki y lle i fod llawer mwy safonol o ran technoleg na Rhyfain Nero. Roedd Barbara wedi'i sarhau gan y sylwad hon. (SAIN: Starborn)
- Yn hwyrach, dywedodd y Degfed Doctor wrth Donna Noble nad oedd ef yn gyfrifol ar gyfer llosgiad Rhufain. (TV: The Fires of Pompeii)
- Mae dwy stori wedi'u gosod yn y bwlch mis o hyd rhwng cyrhaeddiad y teithwyr a dechreuad y stori: PRÔS: Romans Cutaway a Byzantium!.
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar DVD ynghyd â The Rescue ar 23 Chwefror 2009 (DU) ac ar 7 Gorffennaf 2009 (Gogledd America). Ar gyfer y rhyddhad, mae'r episodau wedi'u prosesu gan gyfrifiadur er mwyn ailgreu edrychiad tâp fideo gwreiddiol y cynhyrchiad.
Cynnwys:
- What has "The Romans" ever done for us? - Rhaglen dogfennol ag edrychodd ar bortread Nero ar deledu dros y flynyddoedd.
- Roma Parva - edrychiad at y model gwreiddiol defnyddiwyd i ddylunio'r set.
- Dennis Spooner: Wanna Write a Television Series? - proffeil am awdur The Romans a storïau eraill.
- Girls! Girls! Girls!: The 1960s - edrychiad ar gymdeithion benywaidd Doctor Who o 1963 nes 1969.
- Segment Blue Peter ar wledd Rhufeinig.
- Oriel
- Nodiadau cynhyrchu
- Cynnwys PDF: dyluniau gwreiddiol Raymond Cusick, rhestrau Radio Times.
- Sylwebaeth sain gyda actor William Russell (Ian Chesterton), Nick Evans (Didus), Barry Jackson (Ascaris) a chyfarwyddwr Christopher Barry, wedi'i cymedroli gan Toby Hadoke.
- Am ychwanegion eraill y set DVD hon, gwelir The Rescue.
Credydau'r cefn:
- Yn cynnwys William Hartnell gyda William Russell, Jacqueline Hill a Maureen O'Brien
- Ysgrifennwyd gan Dennis Spooner
- Cynhyrchwyd gan Verity Lambert
- Cyfarwyddwyd gan Christopher Barry
- Cerddoriaeth gan Raymond Jones
Rhyddhadau Blu-ray[]
- Rhyddhawyd y stori yma ar Blu-ray ar 5 Rhagfyr 2022, yn rhan o'r set bocs The Collection: Season 2.
Rhyddhadau digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio ar BritBox yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori hon fel Doctor Who: The Rescue / The Romans ar Fedi 1994 (DU) a Mawrth 1996 (UDA).
Rhyddhadau sain[]
- Rhyddhawyd y stori yma ar CD gan BBC Audio ar 8 Mai 2008 gydag adroddawd cysylltiadol gan a chyfweliad ychwanegol gyda William Russell.
- Ail-rhyddhawyd y stori yma ar 5 Medi 2013 yn rhan o The TV Episodes - Collection Six.
Troednodau[]
|