Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Satan Pit oedd nawfed episôd Cyfres 2 Doctor Who.

Cyflwynodd y stori y Bwystfil, cythraul a honnodd mai'r drygni eithafol oedd ef: y Diafol. Byddai gan y bwystfil effaith ar y gyfres deilliedig Torchwood. Yn ychwanegol, crybwyllodd y bwystfil at dynged argoeliog Rose Tyler.

Datgelodd rhagarweiniad yr episôd yma, Tardisode 9, roedd mwy o dafodruddion wedi'u lladd o ganlyniad i ddylanwad y Bwystfil, gan godi'r nifer o bobl lladdwyd o ganlyniad i'r stori.

Crynodeb[]

Mae'r Degfed Doctor yn gwynebu gelyn sydd yn gwrthdaro â phob un o'i gredydau, tra mae Rose a goroeswyr criw Sylfaen Warchod 6 yn ceisio dinac rhag llynges meiddiannol Ŵd y Bwystfil. A fydd modd i'r Doctor rhwystro gelyn amhosib rhag dianc ei garchar, ac achub y Bydysawd?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Criw[]

Cast di-glod[]

  • Gwarchod benywaidd:[1]
    • Lianna Stewart
  • Gwarchod gwrywaidd:[1]
    • Kristian Aurthur
  • Llais y cyfrifiadur:[1]
    • Ceres Doyle
  • Ŵd:[1]
    • Ruari Mears
    • Karl Greenwood
    • Joe White
    • Adam Sweet
    • Mark Llewellyn-Thompson
    • Lewis Drew
    • Stephen Reynolds
    • Scott Baker
    • Andy Jones
    • Claudio Laurini
    • Richard Tunesi

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r bwystfil yn cyfeirio at obsesiwn.
  • Wrth abseilio i mewn i'r ceuffos, mae'r Doctor yn rhestru rhai planedau a rhywogaethau gyda chwedloneg yn cynnwys cythreuliaid corniog megig Draconia a Dæmos. Mae hefyd yn sôn am dduw rhyfel y Kaleds.
  • Mae'r TARDIS yn defnyddio pelydr tractor i dynnu'r llong ofod.
  • Mae Zack yn dynodi bod y catgyrch yn cynrychiou Archif Torchwood.
  • Mae'r Doctor yn sôn am sawl crefydd, gan gynnwys Christnogaeth, Iddewiaeth Newydd, Pash Pash, San Klah, yr Arkiphets, Quoldonity ac Eglwys y Mudwr Tun.
  • Yn dilyn y capten yn ailgyfeirio pŵer wrth y roced i droi arno'r goleuadau, mae Jerfferson yn dweud "Let there be Light!", yn dyfynnu'r Beibl.

Nodiadau[]

  • Yn ystod Tardisode yr episôd yma, mae'r llythrennau "SB6" (mae'n debyg am Sanctuary Base 6) i'w gweld yn newid i'r rhifau "666".
  • Golygfa olaf y stori, lle mae'r Doctor yn disgrifio ef a Rose yn "chwedlau", yw'r golygfa olaf gweithiodd Billie Piper ar fel aelod rheolaidd o'r cast; cafodd ei hepisôd terfynnol, Doomsday, ei recordio sawl mis yn gynharach.
  • Yn ôl DWM 401, pan nad oedd y tîm cynhyrchu yn siwr ar beth fyddai ar waelod y ceuffos, ystyrion nhw Davros neu'r Meistr.
  • Ar wahân i'r golygfa olaf (a chlipiau wrth The Impossible Planet a Love & Monsters), nid yw'r Degfed Doctor yn cael ei weld yn ei wisg arferol o gwbl.
  • Bron bu'r episôd yma yn methu'r dyddiad rhyddhau. Yn ôl David Tennant ar sylwebaeth sain The Impossible Planet, cafodd y stori ei gwblhau ar Ddydd Gwener, fell ni dderbyniodd adolygwyr gopi cynnar.
  • Fel cyd-ddigwyddiad, darlledwyd yr episôd yr un wythnos â 6/6/06. Dilynodd yr episôd sawl darn yn cynnwys y Diafol, gan gynnwys rhyddhad The Omen.
  • Dywedodd Russell T Davies fe ddanfonodd peintiadau Simon Bisley i The Mill fel ysbrodoliaeth ar gyfer dyluniad y Bwystfil.
  • Yn sylwebaeth sain y stori yma, dywedodd Russell T Davies roedd gan drafft cynnar y sgript Slitheen yn lle'r Ŵd. Byddai'r rhywogaeth wedi'u caethiwo, a byddent yn croesawi dihuniad y Bwystfil gan gredu mai hen dduw yn dod i'w rhyddhau oedd ef. Hawliodd Davies mae ef wnaeth enwi'r Ŵd, yn tarddu o'r gair Saesneg "odd".
  • Nododd Russell T Davies byddai un o'r creuaduriad na chafodd eu defnyddio yn yr episôd yma yn cael eu defnyddio yng nghyfres 3; sef y Toclafane, gyda Russell T Davies yn nodi hon yn Doctor Who Magazine: Series Three Companion.
  • Pan ddysgodd Russell T Davies efallai na fyddai digonedd o gyllid i hawlio cawr CG ac felly awgrymodd defnyddio plentyn i gyndrychiolu'r Bwystfil. Cafodd yr arian ei ffeindio trwy dorri golygfa wrth Doomsday a gynhwysodd Jathaa sunglider.
  • Roedd gan y tîm cynhyrchu ond 15 munud yn unig i orffen yr olygfa rhwng y Doctor a'r Bwystfil. Llwyddodd David Tennant yn ei gais gyntaf, yn atal pryderu'r criw.
  • Dyma'r episôd gyda'r nifer lleiaf o wylwyr yng Ngyfres 2. Ni fyddai llai o wylwyr i episôd o Doctor Who nes The Witch's Familiar gyda 5.7 miliwn yn 2015.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 5.5 miliwn[2]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.08 miliwn[3]

Cysylltiadau[]

  • Yn flaenorol, ymwelodd y Trydydd Doctor â Draconia wrth baratodd yr ymerodraeth am ryfel yn erbyn y Ddaear. (TV: Frontier in Space)
  • Daemos yw planed cartrefol Azal. (TV: The Dæmons)
  • Cwrddodd y Pedwerydd Doctor â'r Kaleds. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Defnyddiwyd pelydr tractor y TARDIS o'r blaen. (TV: The Creature From the Pit, Delta and the Bannermen)
  • Mae'r Doctor yn honni mai ei rhywogaeth ef dyfeisiodd ei dyllau duon. (TV: The Three Doctors, The Deadly Assassin, Remembrance of the Daleks, ayyb)
  • Mae'r Bwystfil yn dweud bydd "y plentyn calonnog yn marw mewn brwydr yn fuan iawn". Mae hon yn cyfeirio at "farwolaeth" Rose, lle mi fydd hi'n cael ei cyhoeddi marwodd hi ym mrwydr Canary Wharf yn ei bydysawd hi, ond mewn gwirionedd, roedd hi'n byw ym myd Pete. (TV: Doomsday)
  • Mae Jefferson yn dweud wrth Zack roedd ef "bach yn araf" wrth gyrraedd drws y fent aer, yn adlewyrchu gerirau Rose yn Dalek.
  • Yn hwyrach, bydd y Degfed Doctor yn dweud wrth Donna am sut gwrddodd ef Ŵd a oedd wedi'u rheoli gan y Diafol. Bydd eu cysylltiad seicig yn cael ei archwilio arno'n fwy hefyd. (TV: Planet of the Ood)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth y bwystfil ei fod yn rhydd i farw. (TV: The Three Doctors)
  • Abaddon, creuadur yn debyg mewn golwg, yw mab y Bwystfil. (TV: End of Days)
  • Yn flaenorol, ni gredodd Rose mewn siwt peth â'r Diafol. (SAIN: Sword of the Chevalier)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

DVD[]

Cyfres 2 Cyfrol 4
  • Rhyddhawyd yr episôd gyda The Impossible Planet a Love & Monsters yn rhan o Doctor Who: Series 2, Volume 4 ar 7 Awst 2006.
  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o'r set bocs Doctor Who: The Complete Second Series ar 20 Tachwedd 2006 yn y DU ac 16 Ionawr 2007 yn yr UDA.
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #12 ar 17 Mehefin 2009.

Troednodau[]