The Sea Devils oedd trydydd stori Hen Gyfres 9 Doctor Who. Dynododd hon ymddangosiad cyntaf Cythreuliaid y Môr ac ailgyflwyniad Y Meistr, eisioes yn cynllunio dianc wrth garchar diogelwch eithafol.
Dewisodd Barry Letts a Terrance Dick roeddent eisiau stori wedi gosod ar lannau'r môr a gofynnon nhw i Malcolm Hulke ysgrifennu'r stori. Yn lle dod nôl â'r Silwriaid, dyfeisiodd Hulke eu cyfatebwyr dyfrol o'r enw Silwriaid y Môr. Yn wahanol i'w rhagflaenydd, rhow dillad i "Gythreuliaid y Môr", wedi'u dylunio gan Maggie Fletcher.
Er mwyn ateb mynnu gwylwyr y sioe nad oedd modd i'r cyfnod Silwriaidd cynnal bywyd maint dyn, ychwanegodd Hulke linell i ddynodi dylai'r rhywogaeth cael eu galw'r Eocenes; ond, mae'r cyfnod yma hefyd yn rhy gynnar am fywyd dynol.
Yn dilyn ymddangosiad y Meistr ym mhob stori Hen Gyfres 8, dewisodd Letts cyfyngu'r cymeriad i ond llond llaw o ymddangosiadau pob blwyddyn. Mae'r stori yma'n cyflwyno'r cymeriad yn yr un sefyllfa ag adawodd ef yn The Dæmons, mewn carchar. Cyhwysodd y stori yma hefyd y cyfeiriad cyntaf at yr hen gyfeillgarwch rhwng y Doctor a'r Meistr.
Yn dilyn sicrhau ymglymiad yr Awyrlu Brenhinol ar gyfer The Mind of Evil, cesiodd letts cael yr un peth wrth y Llynges Frenhinol. Fe ddarganfododd roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn awyddus i gymryd ran. Roedd llawer o extras y stori yn filwyr go iawn. Yn dilyn darllediad y stori, derbynnodd y BBC ymweliad wrth swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gredon nhw caffodd long danfor cyfrinachol ei defnyddio yn y sioe. Mewn gwirionedd, model oedd hon, wedi'i addasu i adlweryrchu'r newidiadau roeddent yn arbrofi.
Roedd y ffilmio lleoliad drud wedi achosi problemau cyllid am y stori yma. Datrysiad cyfarwyddwr Michael Briant oedd i beidio cyflogi'r cyfansoddwr cerddoriaeth achlysurol arferol, Dudley Simpson, ac yn lle cael y BBC Radiophonic Workshop i greu gerddoriaeth am y stori. Roedd sgôr Malcolm Clarke yn arwyddocaol o'r stori. Roedd ei bwysigrwydd wedi dangos trwy ei cynhwysiad yn Doctor Who and the Proms, 2013, lle chwaraewyd darn o'r stori yma ynghyd pum darn arall yn arddangos rhediad gwreiddiol y sioe.
Dyma'r unig stori i ddefnyddio'r arwyddair "reverse the polarity of the neutron flow" yn ystod cyfnod Pertwee. Cafodd yr ymadrodd yma ei chysylltu gyda'r Trydydd Doctor, ac felly fe ddefnyddiodd yr un ymadrodd yn The Five Doctors rhyw unarddeg mlynedd diweddarach, ond trwy gydol hen gyfresi 7 i 11 defnyddiodd Pertwee crebachiad o'r ymadrodd, sef "reverse the polarity" sawl gwaith.
Yn union fel sawl un o storïau Hulke, roedd ganddi agwedd moesol. Mae Cythreuliaid y Môr wedi'u dal rhwng y Meistr, y Doctor a bodau dynol. Yn y pendraw, cafon nhw eu bradu gan y tri; yn union fel eu cefndred tirol, y pobl wnaeth eu niweidio yn fwyaf.
Crynodeb[]
Wrth i'r Doctor a Jo ymweld â'r Meistr yn ei garchar diogelwch eithafol ar ynys oddi ar arfordir Lloegr, mae'r gofernor, Cyrnol Trenchard, yn cyfaddau bod llongau wedi bod yn diflannu yn y môr. Mae'r Doctor yn darganfod bod Trenchard a'r Meistr yn ceisio cael cysylltiad â Chythreuliaid y Môr, hil ymlusgiad yn cysgu mewn sefydliad o dan y môr, sydd wedi cael eu dihuno gan y gwaith sydd yn digwydd ar y bŵr lleol. Mae'r Meistr yn bwriadu defnyddio ei ffrindiau newydd i oresgynu'r byd.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Jon Pertwee
- Y Meistr - Roger Delgado
- Jo Grant - Katy Manning
- Capten Hart - Edwin Richfield
- George Trenchard - Clive Morton
- Robbins - Royston Tickner
- Gweithredwr Radio - Neil Seiler
- Clark - Declan Mulholland
- Hickman - Hugh Futcher
- 3ydd swyddog Jane Blythe - June Murphy
- Telegraffydd arweiniol Bowman - Alec Wallis
- Gwarchod Castell Wilson - Brian Justice
- Gwarchod Castell Barclay - Terry Walsh
- Cythraul y Môr - Pat Gorman
- Prif is-swyddog Smedley - Eric Mason
- Cadlywydd Ridgeway - Donald Sumpter
- Cadraglaw Mitchell - David Griffin
- Prif Forwr Lovell - Christopher Wray
- Gwarchod Castell Drew - Stanley McGeagh
- Prif is-swyddog Summers - Colin Bell
- Cadraglaw Watts - Brian Vaughan
- Morwr Girton - Rex Rowland
- Walker - Martin Boddey
- Ôl-lyngesydd - Norman Atkyns
- Prif Cythraul y Môr - Peter Forbes-Robertson
- Prif is-swyddog Myers - John Caesar
Cast di-glod[]
Criw[]
- Awdur - Malcolm Hulke
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer a'r BBC Radiophonic Workshop
- Cerddoriaeth achlysurol - Malcolm Clarke, BBC Radiophonic Workshop
- Sain arbennig - Brian Hodgson
- Dyn camera ffilm - Peter Sargent
- Golygydd ffilm - Martyn Day
- Effeithiau gweledol - Peter Day
- Gwisgoedd - Maggie Fletcher
- Colur - Sylvia James
- Goleuo stiwdio - Mike Jeffries
- Sain - Tony Millier, Colin Dixon
- Golygydd sgript - Terrance Dicks
- Dylunydd - Tony Snoaden
- Cynhyrchydd - Barry Letts
- Cyfarwyddwr - Michael Briant
- Mae'r BBC eisiau cydwybod cymorth y Llynges Frenhinol yng nghynhyrchiad y rhaglen hon.
Cyfeiriadau[]
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Yn y carchar, mae'r Meistr yn gwylio'r Clangers.
Bwydydd a diodydd[]
- Mae'r Doctor yn bwyta sawl brechdan yn sefydliad y llynges.
- Gwelwyd Hickman yn yfed âl ysgafn hen dderwen.
- Mae Walker yn parhau i ofyn wrth Swyddog Bryce i ddod â bwyd a thê. Fe fwytodd samwn hefyd.
Rhywogaethau[]
- Daeth rhai Silwriaid wrth ogofâu yn Swydd Derby.
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor wedi'i hyfforddi mewn plymio, ac yn golffiwr rhagorol.
- Mae'r Doctor yn nodi ei fod yn ffrind bersonol i Horatio Nelson.
- Mae'r Doctor yn honni cafodd ei anafu yn Rhyfel y Crimea, Gallipoli, ac El Alamein.
Cerbydau[]
- Caiff y llong marchnata SS Pevensey Castle ei ymosod ar gan Gythreuliaid y Môr.
- Gyrrodd y Llynges Frenhinol cerbydau Land Rover.
Nodiadau[]
- Teitl gweithredol y stori oedd The Sea Silurians.
- Dyma un o dwy stori lle mae'r Trydydd Doctor yn dweud y linell, "I reversed the polarity of the neutron flow" (yn episôd chwech). Y llall yw The Five Doctors.
- Roedd y golygfa o'r Meistr yn gwylio The Clangers ar deledu wedi'u hychwanegu yn hwyr iawn gan roedd episôd un yn 90 eilliad rhy fer.
- Darparodd Michael Briant, cyfarwyddwr y stori, lais DJ y radio yn episôd dau.
- Dyma'r stori olaf i gynnwys y Trydydd Doctor yn gwisgo ei wisg gwreiddiol yn ei gyfnod ef. Ni fyddai'n cael ei weld eto nes The Day of the Doctor.
- Dyma'r stori olaf gweithiodd HAVOC arni.
- Yn gwreiddiol, byddai episôd un wedi cynnwys y Doctor yn sgio dŵr, a fyddai'n cael ei ddefnyddio fel esgus am bam oedd y Doctor a Jo yn hwyr i garchar y Meistr. Roedd saethu'r olygfa yn amhosib o ganlyniad i'r tywydd.
- Yn gwreiddiol roedd gan y sgript cychau modur, ond awgrymodd Jon Pertwee sgïau jet.
- Roedd rhestriad Radio Times ar gyfer y crynhoad 90 munud ar Ddydd Mercher 27 Rhagfyr 1972, gyda theitl o Dr. Who and the Sea Devils, wedi'i gyfeilio gan darlun du a gwyn gan Frank Bellamy o Gythraul y Môr, y Meistr a'r Doctor. Darlledwyd y crynhoad eto am 11:25 y.b. ar Ddydd Llun 27 Mai 1974 i lenwi bwlch gêm criced Swydd Efrog yn erbyn Swydd Gaerhirfryn, a gafodd ei ymyrru arno gan streiciau.
- Cafodd ailgynhyrchiad tudalennau'r sgript, ynghyd nodiadau cynhyrchu estyniedig am y stori yma, eu cynnwys yn y llyfr The Making of Doctor Who
- Dyma un o unarddeg stori deledu yn hanes Doctor Who i beidio cynnwys y TARDIS o gwbl, ynghyd Mission to the Unknown, Doctor Who and the Silurians, The Mind of Evil, The Dæmons, The Sontaran Experiment, Genesis of the Daleks, Midnight, The Lie of the Land, The Woman Who Fell to Earth ac Ascension of the Cybermen.
- Yn dilyn darllediad y stori, daeth MI5 i'r stiwdio yn gofyn sut dylunion nhw dyluniad model y llong danfor. Esboniodd y cyfarwyddwr a'r dylunydd effeithiau gweledol defnyddion nhw model arferol o siop, ond amnewidon nhw'r propelor gyda rhan hwfer gan ni edrychodd propelor gwreiddiol yn iawn am y môr. Mewn cyd-ddigwyddiad, roedd gan y rhan yr un nifer o freichiau â llong danfor niwclear go iawn, ac o ganlyniad datgelodd y sioe gwybodaeth cyfrinachol am rhywbeth a fyddai'n adnabod llongau tanfor Prydeinig.
- Cyfaddodd y cyfarwyddwr Michael E. Briant roedd cerddoriaeth Malcolm Clarke yn camgymeriad. Cyfaddodd Clark ei hun nad oedd ef yn gwybod beth oedd Barry Letts eisiau, gan eisiau newid ei waith.
- Yn ystod ffilmio, bron bu perfformiwr stỳnt Stuart Fell boddi yn ei wisg ar ôl iddo cwmpo yn y môr a llenwodd ei wisg rwber â dŵr.
- Newidwyd y gosodiad i fŵr yn hwyr; ysgrifennodd Malcolm Hulke y stori yn gwreiddiol am lwyfan olew, ond ni llwyddodd Michael E. Briant cael cantiatâd i ffilmio ar un.
- Ychwanegwyd linell y DOctor am y Silwriaid yn dod o epoc yr Eosen gan Malcolm Hulke ar ôl i gwylwyr amlycu nad oedd modd i'r cyfnod Silwriaidd cynhyrchu bywyd maint dyn.
- Anafodd Jon Pertwee ei rib ar ôl cwympo ar ei sgriwdreifar sonig ag oedd yn poced ei frest.
- Roedd Nicholas Courtney ar ei wyliau yn ystod cynhyrchiad y stori yma, felly nid oedd yddangosiad gan y Brigadydd na UNIT.
- Cofiodd Michael E. Briant sgwrs ar leoliad am sut nad oedd modd i Gythreuliaud y Môr bod yn noeth, ac felly roedd rhaid i'r dylunydd gwisgoedd Maggie Fletcher rhuthro i brynu pum cant llath o rhwydiau pysgota.
- Seiliwyd mygyda Cythreuliaid y Môr ar grwbanod.
- Yn yr episôd cyntaf, roedd y sgript yn galw am Jo Grant a'r Doctor dringo ysgol i gael mynediad i'r bŵr. Roedd yr ysgol yn rhy lluthrug i Katy Manning, ac felly gwisgodd dyn stỳnt Stuart Fell fel Manning a wnaeth ef yr olygfa iddi.
- Yn ôl Katy Manning, dioddefodd pron yr holl criw salwch môr yn ystod cynhurchu. Roed Jon Pertwee yn eithriad, yn diolch i'w brofiad fel morwr.
- Cofiodd Manning perfformiodd hi a Pertwee y stỳnt abseilio eu hun, er nad oedd gan Manning unryw brofiad o'r blaen. O ganlyniad, crafodd hi ei chroen wrth ei dwylo.
- Yn gwreiddiol, roedd John Baker fod cyfansoddi cerddoriaeth am y stori, ond ar ôl iddo mynd yn sâl, aeth y swydd i Malcolm Clarke.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Episôd one - 6.4 miliwn
- Episôd dau - 9.7 miliwn
- Episôd tri - 8.3 miliwn
- Episôd pedwar - 7.8 miliwn
- Episôd pump - 8.3 miliwn
- Episôd chwech - 8.5 miliwn
Cysylltiadau[]
- Daliwyd y Meistr yn Devil's End. (TV: The Dæmons)
- Ymddangosodd y Silwriaid yn gyntaf yn TV: Doctor Who and the Silurians)
- Yn hwyrach, bydd y Pumed Doctor yn cwrdd â'r Silwriaid a Chythreuliaid y Môr gyda'i gilydd. (TV: Warriors of the Deep)
- Byddai'r Unarddegfed Doctor yn cwrdd â changen eraill o'r Silwriaid. (TV: The Hungry Earth)
- Byddai'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn cwrdd â Chythreuliaid y Môr. (TV: Legend of the Sea Devils)
- Bydd y Silwriaid a Chythreuliaid y Môr yn ymddangos yn PRÔS: Blood Heat
- Mae'r Meistr yn gwylio The Clangers; yn yr un modd, byddai ei ymgorfforiad hwyrach yn gwylio Teletubbies. (TV: The Sound of Drums)
- Mae'r Doctor yn ceisio baio camgymeriad enwi'r Silwriaid i'r person a ddarganfodon nhw. Darganfododd Dr. Quinn y Silwriaid mewn ogofâu yn TV: Doctor Who and the Silurians.
- Bydd y Meistr Saxon yn hwyrach yn crybwyllio eu cyfarfyddiad gyda Chythreuliaid y Môr i'r Degfed Doctor. (TV: Last of the Time Lords)
- Brwydrodd y Meistr a'r Doctor gyda chleddfau yn hwyrach ar 4 Mawrth 1215. (TV: The King's Demon)
- Mae dihangiad y Meistr yn sgandal enfawr yn y system carchar. (PRÔS: Who Killed Kennedy)
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar DVD yn rhan o Beneath the Surface, ynghyd Doctor Who and the Silurians a Warriors of the Deep ar 14 Ionawr 2008.
Rhyddhadau digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Hen Gyfres 9 Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori yma mewn ffurf episodig.
Rhyddhadau sain[]
Rhyddhawyd CD o'r trac sain teledu ym mis Ionawr 2008, gydag adroddawd cysylltiadol gan Katy Manning. Cynhwyswyd y stori yma hefyd ar set bocs Monsters on Earth, ynghyd Doctor Who and the Silurians a Warriors of the Deep.
Troednodau[]
|