The Sensorites oedd seithfed stori Hen Gyfres 1 Doctor Who.
Er mae The Daleks a The Keys of Marinus yn esiamplau eglir o anturau ffuglen gwyddonol Doctor Who, nid oedd y ddau wedi cael ei dynodi i'w gosod yn y dyfodol (ond mae The Edge of Destruction a The Dalek Invasion of Earth yn dyddio The Daleks i'r dyfodol). Ar y llaw arall, dyma'r stori gyntaf i gael gosodiad wedi'i dynodi i fod yn nyfodol y gwylwyr.
Y trydydd episôd, "Hidden Danger", oedd episôd cyntaf Doctor Who a gafodd ei gohirio achos rhaglenni adran arall y BBC. Yn union debyg i sut gafodd Cyfres 3 a 4 bwlch o wythnos ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision, cafodd The Sensorites ei gohirio achos estyniad i Summer Grandstand ar 4 Gorffennaf 1964. (CYF: The First Doctor Handbook)
Byddai elfenau o The Sensorites yn parhau i'r gyfres newydd. Byddai'r Degfed Doctor yn dyfynnu disgrifiad Susan bron yn uniongyrchol o'r stori hon yn Gridlock, gan wrthweithio'r disgrifiad am Galiffrei. Hefyd, mae Planet of the Ood yn awgrymu cytrasedd rhwng yr Ŵd a'r Sensorites telepathig.
Crynodeb[]
Wrth gyrraedd llong ofod trwy'r TARDIS, mae pryder cyntaf y Doctor, Ian, Barabara, a Susan am griw dynol y llong ofod, gan maent yn dioddef wrth ymyrraeth telepathig o'r Sensorites. Ond, pan mae Susan yn cyfathrebu gyda'r Sensorites, mae'n gweld eu nod yn ofni ymosodiad gan yr estronwyr ac maent ond yn amddiffyn eu hun. Yn teithio i'r Sffêr Synnwyr, mae'r Doctor yn caeisio curo salwch sydd yn effeithio y Sensorites ac Ian ac mae'n datgelu mai gwenwyn pwrpasol yw'r achosiad. Mae cad-drefnu Gweinidogaethydd Dinas y Sensorites yn bygwth criw'r TARDIS wrth iddo ceisio eu cyhuddo.
Plot[]
Strangers in Space (1)[]
I'w hychwanegu.
The Unwilling Warriors (2)[]
I'w hychwanegu.
Hidden Danger (3)[]
I'w hychwanegu.
A Race Against Death (4)[]
I'w hychwanegu.
Kidnap (5)[]
I'w hychwanegu.
A Desperate Venture (6)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill[1]
- Susan Foreman - Carole Ann Ford
- John - Stephen Dartnell
- Carol - Ilona Rodgers
- Capten Maitland - Lorne Cossette
- Comander - John Bailey
- Dyn cyntaf - Martyn Huntley
- Ail ddyn - Giles Phibbs
Sensorites
Criw[]
- Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield[3]
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Colur - Jill Summers
- Dylunydd - Raymond P. Cusick
- Cyfarwyddwr - Mervyn Pinfield (episodau 1-4), Frank Cox (episodau 5-6)
- Cerddoriaeth achlysurol - Norman Kay
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Golygydd stori - David Whitaker
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Awdur - Peter R. Newman
Cyfeiriadau[]
- Mae gan Susan gallu telepathig mwy nag yw'r Doctor yn ymwybodol ohonynt.
- Daeth y Doctor a Susan o hyd i blanhigion telepathig ar y blaned Esto.
- Mae'r Doctor yn siarad am Beau Brummell.
- Unwaith, dadleuodd y Doctor gyda Harri VIII er mwyn cael ei ddedfrydu i Dŵr Llundain, lle oedd y TARDIS.
Nodiadau[]
- Mae pob episod yn bodoli fel telerecordiad 16mm.
- Teitl gweithredol y stori oedd Mind Control.
- Adfeiliwyd printiau negyddol o bob episôd wrth BBC Enterprises yn 1978.
- Nid yw Jacqueline Hill yn ymddangos yn "A Race of Death" na "Kidnap" gan roedd hi ar ei gwyliau pan recordiwyd yr episodau, er derbyniodd credyd am yr episodau ar sgrîn a mewn Radio Times.
- Bron bu canslwyd y stori hon o ganlyniad i dadl yn y stiwdio.
- "Strangers in Space" yw un o lond llaw o episodau'r hen gyfres i gynnwys saethiad o criw y TARDIS yn gadael y TARDIS trwy'r drysau mewnol gyda'r camera yn eu dilyn mewn un saethiad cyflawn. Mae saethiad tebyg yn TV: Twice Upon a Time.
- Er wedi'i trefnu i ddarlledu am 5.15 ar 27 Mehefin 1964, darlledwyd "The Unwilling Warriors" tua 25 munud yn hwyr achos estyniad i Grandstand, rhaglen chwaraeon y BBC, i adrodd Campwriaeth Tenis Wimbledon. Yr wythnos ganlynol, gohiriwyd "Hidden Danger" o 4 Gorffennaf 1964 i 11 Gorffennaf oherwydd Grandstand eto; y tro hwn am Feinal Unigol Menywod Wimbledon a gêm criced Lloegr-Awstralia.
- Credydwyd Ken Tyllsen a Joe Grieg fel "Sensorite 1af" a "Sensorite 2il" am "The Unwilling Warriors", a fel "Cyntaf" ac "Ail" o dan y teitl "Sensorites" am "Hidden Danger".
- Credydwyd Peter Glaze (Trydydd) ac Arthur Newall (Pedwerydd) fel "Gwyddonwyr" ar ddamwain yn lle "Sensorites" yn Radio Times am "A Race Against Death". A Credydwyd Ken Tyllsen (Gwyddonydd cyntaf) a Joe Grieg (Ail Gwyddonydd) fel "Cyntaf" ac "Ail" o dan y teitl "Gwyddonwyr"
- Cyfeiliodd llun du a gwyn o Carole Ann Ford rhestriad Radio Times am "Kidnap", crybwyllodd yr isdeitl ymdangosiad Ford ar y sioe gêm cerddoriaeth Juke Box Jury y noson honno: "Carole Ann Ford joins Dr. Who at 5.15, and takes time out of her journeys in space to do Juke Box Jury service at 5.40".
- Defnyddiodd dylunydd Raymond Cusick llinellau grom yn unig - gan gael gwared o onglau sgwâr - am ei ddyluniadau setiau Dinas y Sensorites, gan deimlo byddai hyn yn creu edrychiad estronaidd. Cafodd Cusick ei ysbrydoli wrth yr artist Sbaeneg Antoni Gaudi, artist na ddefnyddiodd onglau sgwâr yn aml yn ei waith.
- Mae Russell T Davies wedi datgelu roedd y Sensorites wedi dylanwadu cysyniad yr Ŵd. Datgelodd cyfrifiadur (a sylwebaeth gan Davies) bod Sffêr yr Ŵd a Sffêr Synnwyr yn rhan o'r un cysawd.
- Am ddegawdau, nid oedd modd i gefnogwyr Doctor Who dod o hyd i lawer o wybodaeth am awdur y stori, Peter R. Newman. Ond yn 2012 gyda chynhyrchiad ychwanegion i'r rhyddhad DVD daeth ffeithiau fel ei ddyddiad geni a marw yn hysbys am y tro cyntaf. (DOC: Looking for Peter)
- Seiliodd Newman y stori ar yr amser treuliodd mewn camp POW Siapanieg yn yr Ail Rhyfel Byd. Fe ysbrydolwyd hefyd gan ffilmiau'r 1950au gosodwyd yn yr Ail Rhyfel Byd, yn archwilio'r syniad o milwyr sydd yn parhau i frwydro ar ôl diwedd y rhyfel.
- Dyma'r arluniad cyntaf o'r TARDIS yn materioli ar gerbyd o bob math, er cludiwyd y TARDIS ar gart ar ôl materioli yn Marco Polo.
- Mae cot gwreiddiol y Doctor yn cael ei thorri wrth iddo cael ei ymosod ar yn y ddyfrbont ar ddechrau "Kidnap", ac yn ei amnewid gyda clogyn - dyma'r tro cyntaf i'r Doctor newid ei wisg yn barhaol.
- Dyma'r tro cyntaf i'r Doctor ynganu ei atgasedd tuag at arfau.
- Cymharodd Frank Cox y Comander i Ben Gunn wrth Treasure Island, a fe gastiodd John Bailey yn dilyn ei weil yn Pygmalion yn Ebrill 1962.
- Roedd Martyn Huntley a Giles Phibbs yn ffrindiau wrth ysgol drama a wybodai ysgrifenydd y cyfarwyddwr, ac reddent wedi'u trefnu cyfweliad.
- Seiliodd Raymond Cusick dyluniau'r llong ofod ar awyrenau milwrol Dakota o'r 1940au.
- Dyluniwyd masgiau'r Sensorites, gan dylunydd gwisgoedd Daphne Dare ac artist colur Jill Summers, am actorion byr. Dyluniodd Dare yr estronwyr i edrych fel hen ddynion. Roedd twll o dan farfau'r creuaduriaid er mwyn gadael yr actorion i siarad. Crëwyd traed y Sensorites trwy ymestyn diwedd y wisg dros ddarn o gerdyn, yn ei wneud yn anodd i'r actorion i gerdded.
- Dyluniwyd offer y creuaduriaid gan Shawcraft Models.
- Er mwyn cael yr effaith o'r llong ofod yn rolio, siglwyd y camera yn dyrfol.
- Crëwyd mofeli o'r Sensorites gan Fine Art Casings yn 1985, Harlequin Miniatures in 1999, a gan Eaglemoss yn Rhagfyr 2015. Rhyddhaodd B&M set o ddwy Sensorite gyda'r Doctor Cyntaf yn Awst 2021.
- Recordiwyd seithiad olaf y llong gan Henric Hirsch, cyfarwyddwr yr episôd canlynol.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "Strangers in Space" - 7.9 miliwn
- "The Unwilling Warriors" - 6.9 miliwn
- "Hidden Danger" - 7.4 miliwn
- "A Race Against Death" - 5.5 miliwn
- "Kidnap" - 6.9 miliwn
- "A Desperate Venture" - 6.9 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor a'i gymdeithion yn siarad am sut trodd un taith syml i mewn i antur enfawr, gan dweud "ddechreuodd fel gwan chwilfrydedd am sothach". Maent yn cofio mynd i amseroedd cynhanesol (TV: An Unearthly Child) a Marinus, (TV: The Keys of Marinus) a chyfarfod gyda'r Daleks, (TV: The Daleks) Marco Polo, (TV: Marco Polo) a'r Asteciaid. (TV: The Aztecs)
- Bydd y Degfed Doctor yn ymweld â'r Sffêr yr Ŵd, wedi'i lleoli yn yr un cysawd a'r Sffêr Synnwyr. (TV: Planet of the Ood)
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at ei atgasedd tuag at arfau, rhywbeth byddai yn cadw i wneud yn fwy amlwg ymhellach yn ei fywyd. (TV: The Sontaran Stratagem, The Doctor's Daughter, The End of Time, ayyb)
- Cyfarfodd Lucie Miller, cydymaith i'r Wythfed Doctor, y Sensorites yn ystod ei theithiau gyda'r Mynach. Meddylodd Lucie nad oeddent yn "llawer o sbri" o'u cymharu a'r Caligula "boncyrs iawn".
- Cyfarfodd y Doctor Cyntaf y Sensorites yn flaenorol, pan geision nhw ei ladd. Gyda chymorth Amy a Tony Barker, roedd modd iddo eu dychryn a'u hosgoi. (PRÔS: The Monsters from Earth)
- Mae planed gartrefol y Doctor a Susan yn debyg iawn i'r Ddaear, ond mae awyr y nos yn oren dywyll a mae dail y coed yn arian. Bydd y Degfed Doctor yn defnyddio disgrifiad Susan gair-am-air i ddisgrifio'i blaned i Martha Jones. (TV: Gridlock)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar DVD ar 23 Ionawr 2012 (DU), ac ar 14 Chwefror 2012 (UDA).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan actorion William Russell, Carole Ann Ford, Joe Greig, Martin Huntley, Giles Gibbs, cyfwrwyddwr Frank Cox, dylunydd Raymond Cusick, ac artist colur Sonia Markham, wedi'i cymedroli gan Toby Hadoke.
- Looking for Peter - rhaglen dogfennol am yr awdur Peter R. Newman.
- Vision On - Clive Doig yn trafod rôl y cymysgydd golwg mewn creu Doctor Who cynnar.
- Secret Voices of the Sense-Sphere - Clive Doig yn esbonio tarddiad llais yn adrodd rhifau yng nghefndir un golygfa.
- Deunyddiau PDF
- Oriel
- Isdeitlau cynhyrchu
- Trelar y set bocs Revisitations 3 (Tomb of the Cyberman, The Three Doctors, The Robots of Death)
Rhyddhadau digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio ar BritBox yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau sain[]
- Rhyddhawyd y stori ar CD gan BBC Audio yng Nghorffennaf 2008 gydag adroddawd cysylltiadol a chyfweliad gyda William Russell.
- Rhyddhawyd y stori ym Medi 2013 fel rhan o'r set bocs The TV Episodes - Collection Six.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Sensorites yn Nhachwedd 2002 (DU), ac yn Hydref 2003.
Rhyddhawyd hefyd yn rhan o The First Doctor Collection yn y DU, ac yn rhan o The End of the Universe Collection yn yr UDA.
Troednodau[]
- ↑ Derbynodd credyd am bob episôd er ni ymddangosodd yn episôd 4 na 5.
- ↑ 2.0 2.1 Ar "The Unwilling Warriors, cafodd Ken Tyllsen a Joe Greig eu credydu fel "gwyddonydd 1af" a "gwyddonydd 2il" yn lle "Cyntaf" ac "Ail".
- ↑ Heb ei gredydu ar episodau 1-4 oherwydd yr ymarfer o osgoi credydu person mwy nag unwaith.
|