The Sontaran Experiment oedd trydydd stori Hen Gyfres 12 Doctor Who. Gyda dwy episôd yn unig, dyma stori byrraf yr 1970au. Cafodd y stori gyfan ei ffilmio ar leoliad, a chafodd pob olygfa ei ffilmio ar dâp-fideo yn lle ffilm.
Nid oedd Robert Holmes, golygydd sgript y gyfres, yn hoff o storïau chwe ran, gan deimlo roedden nhw'n llawn golygfeydd anangenrheidiol; felly ar gyfer hen gyfres 12, fe ddewisodd cael un stori pedair rhan a stori arall dwy ran. Gyda stori Christopher Langley, "Space Station", yn cael ei ysgrifennu'n barod, trodd Holmes at Bob Baker a Dave Martin i lenwi'r bwlch. Fel briff, nododd Holmes dylai'r stori cael ei gosod ar y Ddaear ac i gynnwys dychweliad y Sontarans. Byddai hon yn hawlio iddynt manteisio ar gostau'r wisg Sontaran a phrop tu mewn i'r llong wrth The Time Warriors.
Yn ystod cynhyrchu'r stori, torrodd Tom Baker ei asgwrn cynghalon. Gan gredu mai anaf difrifol oedd ganddo, gorchmynnodd cynhyrchydd Philip Hinchcliffe i'r dylunydd Roger Murray-Leach gyrru Baker i'r ysbyty agosaf. Gan bryderu bydd rhaid iddo ailgastio ei brif actor eto, roedd Hinchcliffe yn ddiolchgar i glywed nad oedd yr anaf mor wael a'r golwg gyntaf, gan roedd modd i Baker parhau ffilmio y dydd nesaf yn fodlon.
Dechreuodd y stori yma mân-arc stori o'r Doctor, Sarah a Harry yn ceisio dychwelyd i'r TARDIS, ond yn cadw cael eu hatal. Arc na ffyddai'n cael ei datrys nes Revenge of the Cybermen, lle byddent yn dychwelyd i'r TARDIS er cannoedd o flynyddoedd yng nghynt i le gyrraeddon nhw yn gyntaf.
Crynodeb[]
Wedi cyrraedd y Ddaear gweddw, nid yw'n hir nes bod y Doctor, Sarah a Harry yn dod ar ddraws grŵp o astronotiaid wedi'u hynysu wrth wladfa ddynol bell i ffwrdd. Wedi'u denu gan alwad argyfwng ffug, mae'r astronotiaid eisioes yn cael eu harbrofi ar gan y Sontarans wrth baratoi am ymosodiad ar y blaned gyfan. A oes modd i'r Doctor trechu Uwch-Gapten Styre ac achub y byd.
Plot[]
Rhan 1[]
I'w hychwanegu.
Rhan 2[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Tom Baker
- Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
- Harry Sullivan - Ian Marter
- Vural - Donald Douglas
- Krans - Glyn Jones
- Erak - Peter Walshe
- Styre a'r Marsial - Kevin Lindsay
- Roth - Peter Rutherford
- Zake - Terry Walsh
- Carcharwr - Brian Ellis
Cast di-glod[]
|
Criw[]
- Awduron - Bob Baker a Dave Martin
- Cynorthwyyd cynhyrchu - Marion McDougall
- Rheolwr uned cynhyrchu - George Gallaccio
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Dilyniant teitl - Bernard Lodge
- Cerddoriaeth achlysurol - Dudley Simpson
- Sain arbennig - Dick Mills
- Dylunwyr effeithiau gweledol - John Friedlander, Tony Oxley
- Gwisgoedd - Barbara Kidd
- Colur - Sylvia James
- Goleuo - Tommy Thomas
- Sain - Vic Godrich
- Golygydd sgript Robert Holmes
- Dylunydd - Roger Murray-Leach
- Cynhyrchydd - Philip Hinchliffe
- Cyfarwyddwr - Rodney Bennett
- Trefnydd brwdron - Terry Walsh
Cyfeiriadau[]
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae Harry'n dweud ei fod yn teimlo "bach fel neges Morse" ar ôl ddefnyddio telegludwr torredig Nerva.
- Mae Styre yn galw'r Doctor yn "fwydyn".
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor yn dweud bod ganddo diddordeb gan amser a phob math o gloc, megis clociau atomig, clociau cwarts, a chlociau wyth niwrnod, gan alw ei hun yn horolegydd a chronometregydd.
- Mae'r Doctor yn sôn am ei Dyddiadur Pum Can Mlynedd.
Lleoliadau[]
- Mae'r Doctor yn crybwyll Waterloo.
Sontarans[]
- Gorchmynnwyd arbrofion Styre gan y Uwch Gyngor Strategu.
Arbrofion Styre[]
- Mae arbrawf 4 yn darganfod bod trochu gan H2O yn cynhyrchu mygdod.
- Mae arbrawf 7 yn ymwneud â hirddaliaeth yn erbyn ofn: Cafodd Sarah ei gorfodi i freuddwydio am neidr, cerrig yn cwympo arni, a llwtra yn dringo lan ei choesau.
- Mae arbrawf 8 yn gweld Krans ac Erak yn ceisio cadw bar disgyrchiant rhag gwasgu Vural.
Technoleg[]
- Mae'r darn o fetel sydd yn achub bywyd y Doctor wrth Nerva - cloeon sinestig fe gymerodd a rhodd yn ei boced tra ar Nerva.
Nodiadau[]
- Mae'r stori yma yn dilyn yn union wrth ddigwyddiadau'r stori flaenorol, The Ark in Space.
- Teitl gweithredol y stori oedd "The Destructors". (CYF: Doctor Who The Handbook: The Fourth Doctor)
- Er dyma'r trydydd stori darlledwyd i gynnwyd Baker, mewn gwirionedd ffilmiwyd y stori yma'n ail, o ganlyniad mae gandd y stori côd cynhyrchu trefn wahanol i'r trefn darlledu.
- Dyma'r ail stori yn hanes Doctor Who (y gyntaf oedd Spearhead from Space yn 1970) i gael ei saethu ar leoliad yn gyfan, yn yr achos yma i gyd yn Dartmoor. Serch hynny, yn wahanol i Spearhead from Space a'r deunydd lleoliad wrth storïau eraill, ffilmiwyd y stori gyfan ar dâp-fideo gan ddefnyddio uned darlledu allanol, yn lle ar ffilm - rhywbeth a oedd yn debygol yr adeg honno.
- Yn ystod ffilmio'r stori, torrodd Tom Baker ei asgwrn cynghalon. Ond, achos roedd sgarff enfawr yn rhan o'i wisg, roedd modd iddo cuddio'r dalyn gwddf roedd rhaid iddo wisgo yn dilyn ei anaf. Ar gyfer yr olygfeydd corfforol, chwaraewyd y cymeriad gan Terry Walsh, wedi'i ffilmio trwy onglau ag oedd yn cuddio ei wyneb.
- Dyma oedd unig stori dwy ran yr 1970au, gyda'r stori dwy ran olaf yn 1965 gyda The Rescue, a ni fydd stori dwy ran arall nes 1982 gyda Black Orchid.
- Credydwyd Kevin Lindsay fel "Styre" yn rhan un. Ar gyfer rhan dau, mae'n derbyn "Styre and the Marshall" ar-sgrîn a fel "Styre/The Marshall" yn Radio Times.
- Dyma'r stori gyntaf i beidio gynnwys golygfeydd mewnol (e.e. mewn stiwdio).
- Glyn Jones, y person a chwaraeodd yr astronot Krans, ysgrifenodd stori'r Doctor Cyntaf, The Space Museum, o ganlyniad fe yw un o bump unigolyn i ysgrifennu stori am ac actio yng nghyfres deledu Doctor Who (y lleill oedd Victor Pemberton, Derrick Sherwin, Mark Gatiss, a Toby Whithouse)
- Dyma ymddangosiad olaf Kevin Lindsay yn Doctor Who, yn chwarae Styre a'i uwchraddiwr, y Marsial - sydd yn ymddangos ar sgrîn bachyn unig. Bu farw'r actor yn fuan wedyn o ganlyniad i hen gyflwr galon.
- Chwaraewyd astronotiaid GalSec yn bennaf gan actorion De Affricaidd yn defnyddio'u acenion naturiol. Roedd gan Bob Baker a Dave Martin diddordeb mewn esblygiad ieithoedd a thraws-beilliad diwylliannol, gan gredu roedd y croes diwylliannol a hiliol De Affrica yn awgrym o beth all iaith swnio fel yn y dyfodol.
- Dyma un o ond unarddeg stori deledu yn hanes Doctor Who i beidio cynnwys y TARDIS o gwbl, ynghyd Mission to the Unknown, Doctor Who and the Silurians, The Mind of Evil, The Dæmons, The Sea Devils, Genesis of the Daleks, Midnight, The Lie of the Land, The Woman Who Fell to Earth ac Ascension of the Cybermen.
- Roedd Bob Baker a Dave Martin eisiau cynnwys artefactau hynafol dynoliaeth er mwyn awgrymu roedd y stori wedi'i gosod lle roedd Llundain amser maith yn ôl - megis cael pen colofn Neslon yn dod allan o'r ddaear mewn gwarogaeth i Planet of the Apes. Gosodwyd llawer o olygfeydd mewn olion hen abaty, ac felly roedd llawer o'i ddyfeisiau tosturio yn ganoloesol mewn natur.
- Ailysgrifennodd Robert Holmes llawer o ail episôd y stori, ac yn y broses fe ddileuodd isblot a ffyddai'n datgelu roedd Styre yn rheoli ymenydd Vural.
- Nid oedd Bob Baker a Dave Martin yn hapus gyda'r teitl, gan wnaeth y teitl datgelu hunaniaeth y gelyn.
- Darparodd Robert Holmes darlith tair awr i Bob Baker a Dave Martin ar diwylliant y Sontarans, gan gynnwys eu bywydau rhywiol. Popeth roedden nhw eisiau gwybod am y Sontarans oedd "roeddent yn bethau byr, yn debyg i froga".
- Hawliodd Rodney Bennett mai ef awgrymodd roedd o hyd gan y Doctor pethau yn ei bocedi, gan gynnwys y io-io.
- Roedd glaw barhaol Dartmoor yn drafferth ar y criw ffilmio yn enwedig achos roedd rhaid iddynt lisgo camerâu trwm o gwmpas.
- Sarah yw'r unig cymeriad benywaidd yn y stori yma.
- Cafodd Bob Baker a Dave Martin ysbrydoliaeth wrth straeon o wyddonwyr Natsi yn defnyddio carcharorion gwersylloedd crynhoi mewn arbrofion yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, a dynwaredodd rhai o arbrofion Styre yr arbrofion yn straeon yma.
- Yn gwreiddiol, datblygwyd robot Styre ar gyfer stori arall bosib. Ar un adeg, meddyliodd yr ysgrifennwyr am y robot yn symyd mor gyflym na fyddai modd weld ef.
- Yn gwreiddiol, gweithredodd astronotiaid GalSec wrth gysgodfa byrfyfyrol, tra gweithredodd Styre wrth olion abaty, gyda charcharbwll. Yn lle, gosodwyd y stori gyfan mewn gosodiadau naturiol. O ganlyniad, gwaredwyd rhai o agweddau canoloesol wrth arbrofion Styre.
- Awgrymodd rheolwr uned cynhyrchu George Gallaccio recordio'r stori gyfan ar dâp-fideo yn lle ffilm er mwyn cyflymu'r broses golygu.
- Yn gwreiddiol, cynlluniwyd robot Styre fel crëad chroma key. O ganlyniad i'r stori'n cael ei ffilmio ar dâp-fideo, roedd rhaid defnyddio prop corfforol.
- Ymunodd Barry Letts â'r cynhyrchiad yn Dartmoor. Er roedd ef eisioes wedi gadael y gyfres yn swyddogol, roedd dal i newid i brosiectau newydd, felly fe ddewisodd gwneud ei hun ar gael i gynhoru'r tîm cynhyrchu.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Rhan un - 11 miliwn
- Rhan dau - 10.5 miliwn
Lleoliadau ffilmio[]
- Hound Tor, Manaton, Dartmoor
Cysylltiadau[]
- Mae'r stori yma yn rhan o gyfres o anturiau barhaol am criw y TARDIS, gan ddechrau yn Robot ac yn parhau nes Terror of the Zygons, er mae PRÔS: A Device of Death yn cymryd lle mewn bwlch posib rhwng Genesis of the Daleks a Revenge of the Cybermen, a PRÔS: Wolfsbane mewn bwlch posib rhwng Revenge of the Cybermen a Terror of the Zygons.
- Mae'r Sontarans yn cael eu sefydlu'n bendant fel hil unfath, wrth i Sarah credu bod Styre yn Linx. (TV: The Time Warrior)
- Degawdau yn hwyrach o'i safbwynt hi, bydd Sarah yn cofio cwrdd â'r Sontarans yn y dyfodol pell wrth gwrdd Kaagh yn ei phresennol, yn cadarnhau iddo byddai'r rhyfel rhwng Ymerodraeth y Sontarans a'r Rutans yn barhau am o leiaf deg mil blwyddyn. (TV: The Last Sontaran)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori ar 9 Hydref 2006 (DU), ar 7 Rhagfyr 2006 (Awstralia), ac ar 6 Mawrth 2007 (UDA) fel Doctor Who: The Sontaran Experiment - un o'r unig achosion o stori dwy ran yn derbyn rhyddhad unigol.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Elisabeth Sladen, Philip Hinchcliffe a Bob Baker
- Built for War - Genedigaeth a datblygiad hil y Sontarans trwy gydol hanes y gyfres, wedi'i dweud trwy'r actorion a'r tîm cynhyrchu. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfraniaeth wrth Terrance Dicks, Elisabeth Sladen, Anthony Read, Colin Baker, Nicola Bryant, Bob Baker, Eric Saward a Stuart Fell.
- Oriel
- Isdeitlau cynhyrchu
- Lluniau a sain wedi'i meistrolu'n digidol
Nodiadau:
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygu am y DVD.
Rhyddhadau set bocs[]
Rhyddhawyd y stori yma yn y set bocs DVD Bred for War ar 5 Mai (DU) ac ar 8 Gorffennaf (Awstralia) ynghyd pob stori Sontaran o'r gyfres clasurol. Mae'r DVD yma yn unfath i'r un gwerthwyd yn unigol.
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori gyda gweddil Hen Gyfres 12 yn rhan o Doctor Who: The Collection - Season 12 ar 2 Gorffennaf 2018 (DU), 19 Mehefin 2018 (UDA), ac ar 1 Awst 2018 (Awstralia).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gyda Elisabeth Sladen, Philip Hinchcliffe a Bob Baker.
- Isdeitlau gwybodaeth cynhyrchu
- Rhaglen dogfennol cynhyrchu: Like Nothing on Earth - yn cynnwys Tom Baker, Elisaneth Sladen, Donald Douglas (Vural), Peter Walshe (Erak), ysgrifennydd Bob Baker ynghyd aelodau'r criw Philip Hinchcliffe, Roger Murray-Leach a Toby Hadoke
- Behind the Sofa
- Location Report - Darn BBC Radio 4 yn ymwneud a ffilmio lleoliad yn Dartmoor a ddarlledwyd ym mis Medi 1974.
- On Target - Edrychiad ar gyfraniadau Ian Marter at gyfres Target Books
- Built for War
- Oriel
- Archif PDF
- The Tom Baker Years - rhan 1 a 2
Rhyddhadau Digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio ar Amazon (DU) fel cyfres 77 o gyfres clasurol Doctor Who.
- i ffrydio ar yn yr UDA ar Hulu Plus.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori yma yn Hydref 1991 ynghyd â Genesis of the Daleks.
Troednodau[]
|
|